Ynglŷn ag Ysgol Dechnolegau Caerdydd Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi
sefydlu Ysgol Dechnolegau Caerdydd fel rhan o'i strategaeth i amrywio’r hyn y mae’n ei gynnig.
Bydd yr Ysgol yn gweithio'n agos gyda chyflogwyr ar draws y diwydiant technoleg i fod ar flaen y gad o ran ateb galwadau myfyrwyr a diwallu angen cyflogwyr mewn sector, gyda nifer gynyddol o yrfaoedd ar lefel gradd â chyflog uchel.
Gan adeiladu ar dîm o ddarlithwyr ac ymchwilwyr sydd wedi hen ennill eu plwyf mewn cyfrifiadureg, peirianneg meddalwedd a dylunio a datblygu gemau, mae'r ysgol yn bwriadu tyfu i fwy na 2000 o fyfyrwyr erbyn 2022.
O 2019 ymlaen, bydd yr Ysgol yn adeiladu ar bortffolio cyfredol o raglenni sy’n canolbwyntio ar ddiwydiant ar lefel
israddedig ac ôl-raddedig i gynnig cyrsiau newydd mewn gwyddor data, diogelwch gwybodaeth, roboteg, electroneg a pheirianneg systemau. Bydd ein rhaglenni yn cynnig profiad dysgu ysgogol ac arloesol i fyfyrwyr sy'n paratoi ein graddedigion yn dda ar gyfer gyrfa wobrwyol mewn cyfrifiadureg a pheirianneg.
Bydd ein Hysgol uchelgeisiol yn adeiladu ar enw da byd-eang Prifysgol Metropolitan Caerdydd am arloesedd a chreadigrwydd o fewn y diwydiant technoleg ac yn creu amgylchedd dysgu unigryw.
Edrychwn ymlaen at eich croesawu ar y campws.
Yr Athro Jon Platts,
BEng MSc PhD CEng FIET MInstMC MINCOS
Deon, Ysgol Dechnolegau Caerdydd.