Apwyntiadau asesu anghenion

I drefnu Asesiad Anghenion ffoniwch 02920 205547 neu e-bostiwch   ssta@cardiffmet.ac.uk, ymweld â'r Ganolfan Asesu​.

Mae'r Ganolfan ar ail lawr Bloc A, campws Llandaf.

Cyn i chi fynd i'ch apwyntiad asesu anghenion, mae'n rhaid bod gennych y dogfennau canlynol:

  • Tystiolaeth feddygol berthnasol
  • Llythyr cymeradwyo gan y corff cyllido
  • Holiadur cyn-asesu.

Mae'n rhaid i ni dderbyn y dogfennau o leiaf bum niwrnod cyn eich apwyntiad.

Byddai copi o'ch adroddiad Seicolegydd Addysg ôl-16 llythyr gan eich meddyg/ymgynghorydd yn cadarnhau eich cyflwr neu ffurflen dystiolaeth Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA) wedi'i chwblhau yn dystiolaeth ddigonol ar gyfer Anhawster Dysgu Penodol ac ar gyfer unrhyw anabledd arall.

Ein nod yw cynnig apwyntiad i chi ar gyfer Asesiad Anghenion o fewn dim mwy na 15 diwrnod, er bod gennym apwyntiadau cynharach yn aml.

Amseroedd asesu

Mae apwyntiadau ar gael fel arfer o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9.30am a 3pm, ond cysylltwch â ni i drafod apwyntiad sy’n addas i chi.

Sut i ddod o hyd i ni

Mae'r Ganolfan ar ail lawr Bloc A, Campws Llandaf. Gallwch fynd i mewn trwy'r brif dderbynfa, a byddan yn gallu eich cyfeirio at y Gwasanaethau Myfyrwyr. Sut i gyrraedd Campws Llandaf.

Lawrlwytho map o gampws Llandaf

Os hoffech drafod pryderon hygyrchedd, ffoniwch 02920 205547 neu anfonwch e-bost atom yn ssta@cardiffmet.ac.uk cyn eich apwyntiad. 

Ceisiwch gyrraedd o leiaf ddeg munud cyn eich apwyntiad. Os na allwch ddod, cysylltwch â ni ar y cyfle cyntaf er mwyn i ni allu trefnu dyddiad arall.