Mae ein canolfan asesu yn cynnig asesiadau anghenion proffesiynol i unrhyw fyfyriwr sy'n derbyn DSA.
Mae ein canolfan wedi'i chyfarparu'n llawn gyda thechnoleg gynorthwyol (caledwedd a meddalwedd fel ei gilydd) ac offer ergonomig i sicrhau bod unrhyw un sy'n cael ei asesu yma yn cael yr union gefnogaeth i'w anghenion.
Ein haseswyr
Mae ein haseswyr yn gymwys a phrofiadol o gefndiroedd proffesiynol amrywiol. Maent yn ymwneud yn barhaus ag ymchwilio i ddatblygiadau newydd mewn caledwedd a meddalwedd gynorthwyol.
Mae gan yr aseswyr ddealltwriaeth drylwyr o faterion mewn addysgu a dysgu mewn addysg uwch ac maent yn defnyddio'r wybodaeth hon i argymell y pecyn cymorth mwyaf effeithiol a phriodol i'r unigolyn.
Rydym yn aelodau o
Rwydwaith Cenedlaethol Canolfannau Asesu.