Trefnwch apwyntiad
Rydym yn cefnogi myfyrwyr sy'n profi ystod o anableddau gan gynnwys anawsterau dysgu penodol, cyflyrau iechyd meddwl, a chyflyrau meddygol.
Rydym hefyd yn cynnig gwasanaethau i helpu myfyrwyr i reoli straen tymor byr neu achos un-tro o straen.
Cwblhewch ein ffurflen Anabledd, Lles a Chynghori er mwyn dechrau cael cymorth.
Adnoddau ar-lein
Together all
Mae'r Togetheralll yn cynnig cefnogaeth iechyd meddwl a llesiant ar-lein 24/7.
Togetherall
Bod yn Iach Byw’n Iach
Modiwl rhyngweithiol ar-lein yw 'Bod yn Iach Byw’n Iach'.
Gall eich helpu i ddatblygu strategaethau i gynnal eich iechyd meddwl, eich lles a'ch cyllid.
Cwnsela
Gwasanaeth rhad ac am ddim ar gael yn ystod y tymor i'n holl fyfyrwyr. Mae cwnsela yn cynnig amgylchedd ddiogel, cefnogol a chyfrinachol, lle gallwch chi siarad am unrhyw faterion rydych chi'n eu profi.
Cwnsela
Cefnogaeth anabledd
Rydym yn helpu i drefnu cefnogaeth trwy gydol eich astudiaethau fel bod gennych fynediad cyfartal i'r holl gyfleoedd dysgu.
Cefnogaeth anabledd
Iechyd a llesiant
Rydym yn cynnig gwasanaeth cyfrinachol gydag ymgynghorwyr profiadol i gefnogi'ch anghenion.
Iechyd Meddwl a Llesiant
Eich iechyd corfforol
Canolfan Asesu
Yn cynnal Asesiadau Sgiliau Astudio a Thechnoleg (asesiadau anghenion) ar gyfer myfyrwyr sy'n derbyn Lwfans Myfyriwr Anabl (DSA) gan eu corff cyllido.
Y Ganolfan Asesu