Rydym yn deall y gallech wynebu heriau unigryw yn ystod eich cyfnod yn y brifysgol, ac rydym yma i ddarparu'r gefnogaeth a'r adnoddau y mae arnoch eu hangen er mwyn ffynnu.
Drwy dderbyn niwroamrywiaeth a meithrin amgylchedd cynhwysol, ein nod yw grymuso pob myfyriwr i gyflawni ei botensial yn llawn.
Ein tîm
Gall bywyd prifysgol fod yn heriol, yn enwedig i unigolion sydd â Chyflwr Sbectrwm Awtistig (ASC). Dyma pam y mae gennym nifer o wasanaethau cefnogi pwrpasol i sicrhau bod myfyrwyr sydd â chyflwr sbectrwm awtistig yn teimlo'n gyfforddus, yn cael eu grymuso, ac yn cael cyfleoedd cyfartal i lwyddo.
Mae ein tîm o Gynghorwyr Ymwybyddiaeth o Awtistiaeth ar gael i roi cefnogaeth bersonol i fyfyrwyr sydd â chyflwr sbectrwm awtistig.
Mae gan gynghorwyr ddealltwriaeth drylwyr o gyflyrau sbectrwm awtistig a'u heriau, ac maent wedi eu hyfforddi i gynnig arweiniad a chymorth drwy gydol eich cyfnod yn y brifysgol. Bydd y cynghorwyr hyn yn brif bwynt cyswllt i chi, a byddant yn gweithio mewn cysylltiad agos â chi i fynd i'r afael ag unrhyw bryderon neu anawsterau rydych yn eu hwynebu, ac yn eich helpu i bontio'n llwyddiannus i fywyd prifysgol.
Sut i gael cefnogaeth
Y cam cyntaf yw cysylltu â ni cyn gynted ag y gallwch er mwyn i ni gael trafodaeth gychwynnol gyda chi am unrhyw gefnogaeth y mae arnoch ei hangen.
Yna gellir trefnu cefnogaeth ac addasiadau rhesymol pan fydd ein tîm wedi cael tystiolaeth ddiagnostig o'ch anabledd.
Gallwch ddatgan anabledd ar eich cais UCAS a phan fyddwch yn cofrestru. Mae datgelu eich anabledd yn gynnar yn caniatáu i chi a'r brifysgol gynllunio ar gyfer unrhyw addasiadau sydd eu hangen. Mae hyn yn helpu i sicrhau cyfnod pontio dirwystr i fywyd prifysgol, gan leihau unrhyw heriau posibl a'ch galluogi i ddilyn eich astudiaethau yn llawn o'r dechrau.
Ar ôl i chi gofrestru, rydym yn eich annog i drefnu apwyntiad gyda ni er mwyn i ni allu gwirio eich trefniadau a rhannu'r trefniadau hyn gyda chi a thîm eich cwrs.
Os ydych wedi rhannu gwybodaeth ar eich ffurflen UCAS, bydd ein tîm yn cysylltu â chi cyn i chi gychwyn eich cwrs.
Os hoffech drefnu apwyntiad i drafod eich gofynion, gallwch gysylltu â ni ar wellbeingsupport@cardiffmet.ac.uk
Ein gwasanaethau
Mae cefnogaeth Academaidd ac Emosiynol yn elfen hollbwysig o lwyddiant pob myfyriwr, ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod myfyrwyr sydd â chyflwr sbectrwm awtistig yn cael yr adnoddau y mae arnynt eu hangen.
Mae ein gwasanaethau cefnogi yn cynnwys:
- cymorth i gael cefnogaeth academaidd, e.e. gweithdai sgiliau academaidd
- cymorth i'ch helpu i gyfathrebu ag academyddion
- mynediad at fannau gweithio tawel
- meddalwedd cynorthwyol a all wella eich profiad o ddysgu a'ch helpu i oresgyn unrhyw rwystrau y gallech eu hwynebu
- Gweithdai Llesiant – sesiynau addysgol ar iechyd meddwl a materion sy'n gysylltiedig â llesiant i helpu i ddatblygu strategaethau hunanofal.
Rydym hefyd yn cynnig offer ac adnoddau ar-lein i'ch helpu i ddatblygu strategaethau ymdopi cadarnhaol a rheoli'r heriau sy'n gysylltiedig ag awtistiaeth.
Rydym yn annog deialog agored, ac mae ein gwasanaethau cefnogi wedi'u cynllunio i greu man diogel lle gallwch drafod eich profiadau a'ch pryderon yn ddirwystr.
Diagnosis ffurfiol
Ar gyfer myfyrwyr sy'n ystyried cael diagnosis ffurfiol o awtistiaeth, gall ein cynghorwyr gynnig gwybodaeth am wasanaethau diagnostig, prosesau atgyfeirio, a'r gefnogaeth sydd ar gael yn y brifysgol ac yn y gymuned leol.
Eich Cynllun Cefnogi Unigol
Er mwyn sicrhau bod eich anghenion penodol yn cael eu diwallu, bydd cynghorwyr yn gweithio gyda chi i ddatblygu Cynllun Cefnogi Unigol.
Mae'r cynllun hwn yn rhestru addasiadau rhesymol a phethau y gellir eu gwneud i gefnogi eich datblygiad academaidd a phersonol. Drwy weithio gyda'n gilydd, gallwn deilwra ein cefnogaeth ar gyfer eich cryfderau a'ch heriau unigryw chi, gan sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau posibl ym Met Caerdydd.
Lwfans i Fyfyrwyr Anabl (DSA)
Rydym yn cynnig arweiniad a chymorth i gael cefnogaeth arbenigol 1:1 drwy'r Lwfans i Fyfyrwyr Anabl (DSA).
Mae'r DSA yn darparu cyllid ar gyfer cyfarpar, meddalwedd, a gweithwyr cymorth personol, os yw'n briodol, i'ch helpu i oresgyn unrhyw heriau penodol sy'n gysylltiedig â'ch awtistiaeth.
Bydd ein cynghorwyr yn eich helpu i ddilyn y broses ymgeisio ac yn sicrhau eich bod yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen er mwyn rhagori yn academaidd.
Cysylltiadau cymdeithasol
Yn ogystal â chyrhaeddiad academaidd, rydym yn cydnabod pwysigrwydd cysylltiadau cymdeithasol, ac rydym yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr sydd â chyflwr sbectrwm awtistig fod yn rhan o grŵp cymdeithasol cefnogol.
Mae'r grŵp hwn yn darparu man lle gallwch gyfarfod myfyrwyr eraill sydd â phrofiadau tebyg, creu cyfeillgarwch, a rhannu cefnogaeth.
Credwn fod ymdeimlad o berthyn yn hanfodol i bob myfyriwr, ac rydym yn annog awyrgylch cynhwysol a chroesawus lle gallwch deimlo'n ddigon cyfforddus i drafod eich awtistiaeth yn agored.
Mae pob myfyriwr yn haeddu teimlo ei fod yn cael ei gynnwys, a'i gefnogi, a bod yn ddigon cyfforddus i drafod ei awtistiaeth. Mae ein prifysgol yn meithrin amgylchedd lle mae niwrowahaniaeth yn cael ei ddathlu, ac rydym yn hybu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o gyflyrau sbectrwm awtistig ymhlith staff a myfyrwyr.
Cysylltwch â ni
Os hoffech drefnu apwyntiad i drafod eich gofynion, gallwch gysylltu â ni ar wellbeingsupport@cardiffmet.ac.uk