Gwasanaethau Myfyrwyr>Anabledd, Iechyd Meddwl a Dyslecsia>Cefnogaeth Iechyd Meddwl a Llesiant

Cefnogaeth Iechyd Meddwl a Llesiant

Rydym yn cynnig cefnogaeth gyfrinachol ar gyfer iechyd meddwl a llesiant, yn ddi-dâl.

Ein hethos yw gweithio gyda chi i'ch helpu i ddeall a bod yn ymwybodol o'ch iechyd meddwl a'ch llesiant, a dysgu sgiliau a strategaethau er mwyn gallu rheoli'r profiadau da a'r profiadau ddim cystal sy'n dod i ran myfyrwyr.

Nid ydym yn wasanaeth argyfwng neu achosion brys. 

Pa gefnogaeth sydd ar gael?

  • hunangymorth
  • cefnogaeth iechyd meddwl a llesiant ar-lein
  • gweithdai llesiant
  • therapi gwybyddol ymddygiadol (CBT) dwysedd isel
  • cwnsela
  • cyngor ynglŷn â llesiant – cefnogaeth â'ch cwrs
  • Ymarferydd Iechyd Meddwl
  • partneriaeth â'r GIG – Gwasanaeth Cyswllt Iechyd Meddwl y Brifysgol

Sut fydd hyn yn fy helpu i?

  • cyngor ynglŷn â throsglwyddo triniaeth/gofal i'r GIG yng Nghaerdydd  
  • cyngor ynglŷn â chofrestru â meddyg teulu
  • cefnogaeth i gael diagnosis 
  • cefnogaeth yn y Brifysgol i'ch helpu i reoli eich iechyd meddwl
  • addasiadau rhesymol – amser ychwanegol, recordio darlithoedd, cefnogaeth ar gyfer lleoliad, ac yn y blaen
  • Cynghorydd Llesiant a fydd yn helpu i gydlynu eich cefnogaeth 

Myfyrwyr Presennol

Os hoffech gael cefnogaeth ar gyfer eich iechyd meddwl, neu os hoffech drafod sut mae cefnogaeth yn gweithio yn gyffredinol, llenwch ein ffurflen Brysbennu Llesiant ac fe wnawn ni drefnu cyfarfod gydag aelod o'r tîm i chi:

Cefnogaeth Anabledd, Llesiant a Chwnsela

Myfyrwyr Newydd

Os hoffech gael cefnogaeth ar gyfer eich iechyd meddwl, neu os hoffech drafod sut mae cefnogaeth yn gweithio yn gyffredinol, gan gynnwys sut y gallai eich helpu chi neu sut y gallech gael diagnosis, llenwch ein ffurflen Brysbennu ar gyfer Darpar Fyfyrwyr ac fe wnawn ni drefnu cyfarfod gydag aelod o'r tîm i chi: 

Brysbennu ar gyfer Darpar Fyfyrwyr

Cysylltu

Os hoffech gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â ni:

Ebost: wellbeingsupport@cardiffmet.ac.uk​​​

Dolenni cysylltiedig