Rydym yn darparu cefnogaeth gynhwysfawr i fyfyrwyr anabl, gan hybu cynwysoldeb, a sicrhau cyfle cyfartal i bawb. Os oes gennych anabledd, neu gyflwr meddygol hirdymor gallwch gael cefnogaeth.
Mae cyngor a chefnogaeth yn ddi-dâl, ac mae ar gael o'r adeg y byddwch yn gwneud cais nes byddwch yn graddio, felly peidiwch â phetruso cyn cysylltu â ni.
Cychwyn
Myfyrwyr newydd a'r myfyrwyr presennol
I ddechrau, llenwch ein ffurflen Anabledd, Llesiant a Chwnsela.
Ar ôl i chi gofrestru, byddwch yn cael gwybodaeth ynglŷn â sut i drefnu apwyntiad.
Cefnogaeth Anabledd, Llesiant a Chwnsela
Darpar Fyfyrwyr
Rydym yn annog darpar fyfyrwyr i rannu gwybodaeth am anabledd cyn gynted ag y bo modd.
Gallwch ddatgan anabledd ar eich cais UCAS a hefyd wrth gofrestru. Os byddwch yn rhannu gwybodaeth ar eich ffurflen UCAS, bydd ein tîm yn cysylltu â chi cyn i chi gychwyn eich cwrs.
Llenwch ein ffurflen Brysbennu ar gyfer Darpar Fyfyrwyr ac fe wnawn ni drefnu cyfarfod gydag aelod o'r tîm i chi:
Brysbennu ar gyfer Darpar Fyfyrwyr
Cefnogaeth sydd ar gael
Caiff pob cefnogaeth a chyngor ei deilwra ar gyfer eich anghenion penodol chi.
Trefniadau Arholiadau Unigol
Ar sail tystiolaeth a ffyrdd arferol o weithio, gallwn ystyried amser ychwanegol, trafodaethau ynglŷn ag asesiad amgen a defnyddio technoleg.
Bydd angen i chi optio i mewn i gael y gefnogaeth hon cyn gynted ag y byddwch yn cyrraedd y Brifysgol er mwyn sicrhau bod trefniadau'n cael eu gwneud ar gyfer y cyfnod arholiadau nesaf a phob cyfnod arholiadau dilynol.
Cefnogaeth arall
Gallai cefnogaeth arall gynnwys:
- addasiadau rhesymol – amser ychwanegol, recordio darlithoedd, ac yn y blaen
- cefnogaeth llyfrgell
- mynediad at ddeunydd sesiynau o leiaf 24 awr ymlaen llaw
- cymorth ag ysgrifennu academaidd, cynllunio aseiniadau a sgiliau cymhelliant
- benthyg cyfarpar, gan gynnwys recordydd llais digidol, gliniaduron a chyngor ynglŷn â Thechnoleg Gynorthwyol
Mae'r Lwfans i Fyfyrwyr Anabl (DSA) yn darparu cyllid ar gyfer cyfarpar, meddalwedd, a gweithwyr cymorth personol, os yw'n briodol, i'ch helpu i oresgyn unrhyw heriau penodol sy'n gysylltiedig â'ch anabledd.
Bydd ein cynghorwyr yn eich helpu i ddilyn y broses ymgeisio ac yn sicrhau eich bod yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen er mwyn rhagori yn academaidd.