Mae gofalu amdanoch eich hun a chael cefnogaeth gan feddyg teulu/y GIG pan fyddwch yn dod i’r brifysgol yn bwysig. Rydym wedi cynnwys ychydig o wybodaeth isod i’ch helpu i gadw’n iach, gan gynnwys y camau y mae angen i chi eu cymryd er mwyn cael gofal a thriniaeth pan fydd angen, neu os bydd angen.
Mae’n bwysig cofrestru â meddyg teulu lleol cyn dod i Gaerdydd, neu cyn gynted ag y byddwch wedi cyrraedd. Bydd angen i chi gael cyfeiriad yng Nghaerdydd i gofrestru â meddyg teulu yn yr ardal.
Pa gefnogaeth sydd ar gael?
Gall pob myfyriwr ym Met Caerdydd gael cyngor a chefnogaeth gyfrinachol yn ddi-dâl gan y Gwasanaethau Myfyrwyr ar gyfer y cyflyrau a ganlyn:
- anableddau
- cyflyrau meddygol
- cyflyrau niwroamrywiol – dyslecsia, anawsterau dysgu penodol eraill, ADHD
- Cyflyrau Sbectrwm Awtistig
- cyflyrau iechyd meddwl
- cefnogaeth llesiant
Adnoddau iechyd corfforol
- Bod yn Iach, Byw’n Iach – rhaglen ar-lein sydd ar gael i fyfyrwyr Met Caerdydd
Cwrs: Modiwl Gwybodaeth i Fyfyrwyr, Adran: Bod yn Iach, Byw’n Iach
Myfyrwyr Presennol
Os hoffech drafod unrhyw gyflyrau meddygol neu gyflyrau cysylltiedig ag iechyd sy’n effeithio ar eich bywyd o ddydd i ddydd, ac a allai hefyd effeithio ar eich gallu i astudio, byddem yn eich cynghori i gyfarfod aelod o’r Gwasanaeth Llesiant i drafod eich anghenion a’r gefnogaeth sydd ar gael.
Gall gwybod bod cefnogaeth ar gael wneud byd o wahaniaeth, o ran eich astudiaethau.
Llenwch ein ffurflen Brysbennu Llesiant ac fe wnawn ni drefnu cyfarfod gydag aelod o’r tîm i chi:
Cefnogaeth Anabledd, Llesiant a Chwnsela
Myfyrwyr Newydd

Llenwch ein ffurflen Brysbennu ar gyfer Darpar Fyfyrwyr ac fe wnawn ni drefnu cyfarfod gydag aelod o’r tîm i chi:
Brysbennu ar gyfer Darpar Fyfyrwyr
Myfyrwyr Rhyngwladol
Myfyrwyr Rhyngwladol presennol
Os hoffech drafod unrhyw gyflyrau meddygol neu gyflyrau cysylltiedig ag iechyd sy’n effeithio ar eich bywyd o ddydd i ddydd, ac a allai hefyd effeithio ar eich gallu i astudio, byddem yn eich cynghori i gyfarfod aelod o’r Gwasanaeth Llesiant i drafod eich anghenion a’r gefnogaeth sydd ar gael.
Gall gwybod bod cefnogaeth ar gael wneud byd o wahaniaeth, o ran eich astudiaethau.
Llenwch ein ffurflen Brysbennu Llesiant ac fe wnawn ni drefnu cyfarfod gydag aelod o’r tîm i chi:
Cefnogaeth Anabledd, Llesiant a Chwnsela
Myfyrwyr Rhyngwladol newydd
Yn y lle cyntaf, dylech ddatgelu unrhyw anghenion cefnogaeth ychwanegol wrth y Gwasanaeth Cynghori Myfyrwyr Rhyngwladol (intstudentadvice@cardiffmet.ac.uk) cyn gynted ag y bo modd yn y broses ymgeisio. Bydd y Gwasanaeth Llesiant yn cysylltu â chi wedyn i drafod unrhyw anghenion cefnogaeth sydd gennych.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â chefnogaeth ychwanegol, cysylltwch â wellbeingsupport@cardiffmet.ac.uk