Ar ôl i chi Wneud Cais

​​Mae'r adran hon yn cynnwys gwybodaeth am sut y byddwn yn ystyried eich cais ar gyfer ein rhaglenni TAR a bydd hefyd yn rhoi syniad i chi o'r hyn a ddisgwylir gennych drwy'r broses.

Byddwn yn anfon gwybodaeth bwysig atoch dros e-bost drwy gydol y flwyddyn i'ch hysbysu am hynt eich cais. Gwnewch yn siŵr mai'r cyfeiriad e-bost a nodir ar eich cais UCAS yw eich cyfeiriad cyfredol o hyd. Os byddwch chi'n newid eich manylion cyswllt, mae'n bwysig eich bod chi'n diweddaru'r rhain gydag UCAS fel nad ydych chi'n methu unrhyw wybodaeth bwysig ac yn cadw llygad am yr e-byst hynny. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio'ch ffolderau 'junk' ac yn ein nodi fel anfonwr hysbys.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen unrhyw wybodaeth bellach arnoch ar unrhyw adeg, cysylltwch â Derbyniadau ar 029 2041 6010, drwy ebostio askadmissions@cardiffmet.ac.uk​ neu drwy Twitter @CMetAdmissions​.

Sut yr Ystyrir eich Cais

Ar ôl i chi gyflwyno'ch cais, byddwn yn ei asesu yn yr adran Derbyniadau ac yn sicrhau eich bod yn cwrdd â'r gofynion academaidd. Yna anfonir eich cais at y Cyfarwyddwr Rhaglen perthnasol ar gyfer y pwnc rydych chi'n gwneud cais amdano, fel y gallant adolygu eich cais gan gynnwys eich profiad gwaith a'ch datganiad personol.

Os ydych chi'n cwrdd â'r gofynion, bydd angen i chi ddod i gyfweliad i gael eich ystyried ar gyfer cynnig ar y rhaglen. Mae llawer o ddarparwyr yn derbyn nifer fawr o geisiadau ac felly ni allant gyfweld â phawb sy'n cwrdd â'r gofynion hanfodol. Yn yr achos hwn, rydym yn dewis ymgeiswyr ar gyfer cyfweliad gan ddefnyddio'r meini prawf academaidd ac anacademaidd. 

Gallech gael eich gwahodd i gyfweliad gan bob un o’ch darparwyr hyfforddiant dewisol.  Os cewch eich gwahodd i fwy nag un cyfweliad ar yr un diwrnod, cysylltwch â'r ail ddarparwr hyfforddiant i ofyn a ellir aildrefnu eich cyfweliad. 

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ar sut i baratoi ar gyfer eich cyfweliad a pha sgiliau y mae angen i chi eu dangos ar dudalennau UCAS - Sut i Baratoi ar gyfer Cyfweliad..


Y Broses Gyfweld

Proses Cyfweld Cynradd TAR:

  • Fe'ch hysbysir drwy UCAS o'r dyddiad y cawsoch eich galw am gyfweliad. Bydd Met Caerdydd hefyd yn anfon e-bost atoch i’ch hysbysu o fanylion diwrnod y cyfweliad.

  • Bydd eich cyfweliad yn cael ei gynnal trwy Dimau MS

  • Fech hysbysir trwy UCAS a Met Caerdydd o ganlyniad eich cyfweliad.

Cynigion

Yn dilyn eich cyfweliad, cewch eich hysbysu o benderfyniad trwy Hyfforddiant Athrawon UCAS a bydd Met Caerdydd hefyd yn anfon llythyr atoch.

Cynnig Amodol
Bydd pob cynnig a wneir ar gyfer rhaglenni TAR yn Amodol ac yn seiliedig ar brawf o gymwysterau a restrir yn ogystal â gwiriad DBS 

Os ydych chi'n dal i astudio ar gyfer eich gradd gyntaf, bydd y cynnig yn amodol ar i chi ennill y dosbarthiad Anrhydedd gofynnol. Os ydych chi'n ailsefyll unrhyw un o'r TGAU gofynnol, bydd rhain hefyd yn cael eu nodi fel amod i'r cynnig. O’u cwblhau, bydd angen i chi anfon prawf o'r cymwysterau hyn at Derbyniadau.

Os yw eich cynnig yn amodol ar y prawf cymwysterau yn unig, mae angen i chi ddangos y cymwysterau a nodir yn eich cais i derbyniadau. Gallwch wneud hyn trwy sganio'ch tystysgrifau a'u hanfon dros e-bost at newstudent_qualifications@cardiffmet.ac.uk. Fel arall, gallwch alw heibio i'r i-Zone sydd wedi'i leoli yn y brif dderbynfa ar gampws Llandaf CF5 2YB neu gampws Cyncoed CF23 6XD. Er ein bod yn derbyn llungopïau o dystysgrifau, gallwn ofyn am y rhai gwreiddiol os nad yw'r rhain yn cael eu hystyried yn ddigonol.

Mae angen Tystysgrif DBS Uwch, a fydd hefyd yn amod o'ch cynnig, ar gyfer rhaglenni TAR Cynradd ac Uwchradd. Anfonir gwybodaeth am sut i gwblhau'r broses hon atoch dros e-bost. Syler y bydd y broses hon bellach yn broses electronig ar-lein ac na fydd angen llenwi ffurflenni papur. Am wybodaeth a chanllawiau pellach ar broses ymgeisio datgelu DBS, cyfeiriwch at http://www.cardiffmet.ac.uk/dbs.

Dim ond ar ôl i chi fodloni holl amodau eich cynnig y bydd eich lle yn cael ei gadarnhau, yn ddiamod.

Derbyn eich Cynnig

Ar ôl i chi glywed oddi wrth eich holl ddewisiadau, bydd gennych 14 diwrnod gwaith i ymateb i'ch cynigion. Dim ond un cynnig y gallwch ei dderbyn felly os oes gennych fwy nag un cynnig, bydd angen i chi wrthod y gweddill. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n ymateb o fewn y 14 diwrnod neu bydd eich cynigion yn cael eu Dileu gan UCAS.

Yn anffodus, oherwydd niferoedd cyfyngedig, mae'n bosibl na fydd ymgeiswyr sy'n dewis y brifysgol fel eu dewis yswiriant yn sicr o gael lle.

Os derbyniwch eich cynnig ym Met Caerdydd, byddwn yn anfon gwybodaeth atoch yn ymwneud ag ymuno â'ch rhaglen ym mis Mai. Bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth a ffurflenni i'w llenwi ar gyfer eich lleoliad cynradd. 

Arholiadau Cywerthedd TGAU

​Am ragor o wybodaeth a dyddiadau arholiadau cyfeiriwch at ein tudalen Arholiadau Cywerthedd.

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd hefyd yn derbyn cymwysterau cywerthedd TGAU a enillwyd drwy arholiadau cywerthedd a gynhelir gan Brifysgol De Cymru. Ewch i wefan Prifysgol De Cymru​ i gael mwy o wybodaeth.

Ymgeisio am Gyllid Myfyrwyr

  • Os ydych chi'n fyfyriwr o Gymru sydd am wneud cais am gyllid myfyrwyr, bydd angen i chi gofrestru gyda Chyllid Myfyrwyr Cymru - http://www.studentfinancewales.co.uk/. Argymhellir eich bod yn gwneud cais erbyn dechrau mis Mai i sicrhau eich bod yn derbyn eich rhandaliad cyntaf yn barod ar gyfer dechrau'r tymor.
  • Os ydych chi'n fyfyriwr o Loegr sydd am wneud cais am gyllid myfyrwyr, cyfeiriwch at y wybodaeth ar wefan gov.uk ar y ddolen www.gov.uk/student-finance.
  • Os ydych chi'n fyfyriwr o'r UE sydd am wneud cais am gyllid myfyrwyr i astudio ym Met Caerdydd, bydd angen i chi gofrestru gyda Chyllid Myfyrwyr ar wefan gov.uk - https://www.gov.uk/student-finance/ eu-students. Argymhellir eich bod yn gwneud cais erbyn dechrau mis Mai i sicrhau eich bod yn derbyn eich rhandaliad cyntaf yn barod ar gyfer dechrau'r tymor.
  • Os ydych chi'n ymgeisydd o Ogledd Iwerddon sydd am wneud cais am gyllid myfyrwyr, cyfeiriwch at y wybodaeth ar http://www.studentfinanceni.co.uk/.
  • Os ydych chi'n ymgeisydd o'r Alban sydd am wneud cais am gyllid myfyrwyr, cyfeiriwch at y wybodaeth ar http://www.saas.gov.uk/. · I gael gwybodaeth am gymhellion ariannol a allai fod ar gael i chi, cyfeiriwch at http://www.education.gov.uk/.

Newidiadau a Dirwyn Rhaglenni i ben

Gwna’r Brifysgol bob ymdrech resymol i sicrhau bod y wybodaeth a ddarperir i ymgeiswyr am y rhaglenni a gynigir mor gywir a chyfredol â phosibl. Fodd bynnag, caiff rhaglenni astudio eu hadolygu'n barhaus ac mae'n ddigon posibl y bydd rhai newidiadau’n digwydd rhwng yr amser cyhoeddi a'r amser y bydd y myfyriwr yn cychwyn y rhaglen. Mae rhedeg rhaglenni Prifysgol hefyd yn ddibynnol ar niferoedd, h.y. mae angen i nifer penodol o fyfyrwyr ymgymryd â'r rhaglen er mwyn iddi fod yn hyfyw./p>

Pan wneir newidiadau neu pan fydd rhaglen yn dirwyn i ben, hysbysir ymgeiswyr o hyn cyn gynted â phosibl, cyn derbyn y cynnig o le, fel bod cyfle i ystyried rhaglen arall ym Met Caerdydd neu rywle arall. Os penderfynir dirwyn rhaglen i ben ar ôl i ymgeiswyr gael cynnig lle, bydd Derbyniadau yn gwneud pob ymdrech i gynnig dewisiadau eraill perthnasol a darparu cymorth i ymgeiswyr ddod o hyd i'r dewis arall hwnnw.

Os cynigir lle iddynt ar raglen y mae'r hyfywedd yn ansicr, ni fydd ymgeiswyr â chynigion diamod yn gallu cofrestru nes bod hyfywedd y cyfnod astudio a gynigir yn cael ei gadarnhau. Bydd ymgeiswyr yr effeithir arnynt yn derbyn diweddariadau a chadarnhad ynghylch pryd y gallant hunan-gofrestru.

I gael rhagor o wybodaeth am newidiadau i raglenni, cyfeiriwch at yr ymwadiad a gynhwysir yn y Llawlyfr Myfyrwyr (www.cardiffmet.ac.uk/studenthandbook) y byddwch yn ei dderbyn fel rhan o'ch cyfarwyddiadau ymuno yn yr Haf.

Telerau ac Amodau

​Ewch i'n tudalen Telerau ac Amodau i gael gwybodaeth lawn.