Anafiadau ac Adsefydlu Chwaraeon
Mae gan staff anafiadau ac adsefydlu chwaraeon ystod o ddiddordebau ymchwil sy'n ymwneud ag ymarfer corff, cyfergyd chwaraeon ac atal ac adfer anafiadau rhannau isaf y corff. Mae aelodau staff yn cymryd rhan weithredol mewn prosiectau rhyngddisgyblaethol ac wedi sefydlu cysylltiadau rhyngwladol â diwydiant a Phrifysgolion, sy'n cynnwys gweithio'n agos gyda chyrff llywodraethu Cenedlaethol, sefydliadau chwaraeon, ymarferwyr meddygol a hyfforddwyr. Mae prosiectau gweithredol cyfredol yn cynnwys pennu'r strategaeth dysgu echddygol fwyaf effeithiol i ailhyfforddi symudiad, rhagfynegiad anafiadau o safbwynt ystadegol a system straen a nodi ffactorau risg anaf mewn pêl-droed elitaidd.
Mae'r Prif Feysydd Ymchwil yn cynnwys:
• Ailhyfforddi patrymau symud
• Anafiadau gor-ddefnyddio sy'n gysylltiedig â rhedeg
• Strategaethau dysgu echddygol ar gyfer adsefydlu
• Cyfergyd mewn chwaraeon
• Dadansoddiad ystadegol o batrymau anafiadau
• Sytemau straen ar gyfer rhagfynegi anafiadau
• Seicoleg anafiadau chwaraeon
• Straen a pherfformiad
• Gwyliadwriaeth ac atal anafiadau chwaraeon
• Atal anafiadau llinyn y gar mewn chwaraeon rhedeg
• Atal a rheoli anafiadau mewn lleoliadau milwrol
• Perygl anaf mewn pêl-droed ieuenctid
• Anaf ACL a dychwelyd i chwaraeon
• Addasiad ystumiol rhagweladwy a chydadferol
Staff Ymchwil
Dr Kelly Ashford
Dr Lynne Evans
Dr Marianne Gittoes
Dr Luca Laudani
Dr Isable Moore
Matthew Attwood
Jason Pedley
Adeline Philips