Dr. Kelly Ashford

Uwch Ddarlithydd mewn Seicoleg Chwaraeon ac Ymarfer Corff

Rhif ffôn: 029 2020 5291
Cyfeiriad e-bost: kashford@ cardiffmet.ac.uk

Mae Kelly’n ddarlithydd mewn Seicoleg Chwaraeon yn Ysgol Chwaraeon Caerdydd. Ymunodd â'r Ysgol yn 2014 wedi iddi hi fod am naw mlynedd ym Mhrifysgol Brunel. Mae'n cyfrannu at ddarparu Seicoleg Chwaraeon a Dulliau Ymchwil ar draws y rhaglenni israddedig ac ôl-raddedig. Mae ganddi broffil ymchwil sy'n dod yn fwyfwy amlwg sy'n canolbwyntio ar y mecanweithiau arfaethedig sy'n sail i aflonyddu perfformiad yn enwedig mewn sefyllfaoedd o bwysau uchel.

​​

Ymchwil / Cyhoeddiadau

Mae diddordebau ymchwil Kelly yn ymwneud yn fras â meysydd straen a pherfformiad. Yn benodol, mae ganddi ddiddordeb mewn archwilio'r prosesau sy’n effeithio ar sylw, sy'n sail i aflonyddu sgiliau o dan bwysau. Yn fwy diweddar, mae hyn wedi'i ymestyn i ymchwilio i rôl ail-fuddsoddi wrth wneud penderfyniadau mewn chwaraeon.

 

Erthyglau Cyfnodolion Academaidd wedi’u Hadolygu

Kinrade, N., Jackson, R., & Ashford, K. J., (2015). Reinvestment, task complexity and

decision making under pressure in basketball. Psychology of Sport and Exercise, 20, 11-19.

Adams, D., Ashford, K. J., & Jackson, R. (2014). Priming to promote fluent skill execution:

Exploring attentional demands. Journal of Sport and Exercise Psychology, 36, 366-374.

Ashford, K. J., & Jackson, R. C. (2010). Priming as a means of preventing skill failure

under pressure. Journal of Sport and Exercise Psychology, 32, 518-536.

Kinrade, N., Jackson, R. C., Ashford, K. J. & Bishop, D. T. (2010). Development and validation of the decision-specific reinvestment scale. Journal of Sport Sciences, 28, 1127-1135.

Kinrade, N., Jackson, R. C., & Ashford, K. J. (2010). Dispositional reinvestment and skill

failure cognitive and motor tasks. Psychology of Sport and Exercise, 11, 312-319.

 

Penodau mewn llyfrau

Ashford, K. J. (2014). Priming. In R.C. Eklund & Tenenbaum, G. (Eds), Encyclopedia of

Sport and Exercise Psychology. London, UK: Sage

Ashford, K. J., & Capel, S. (2004). Working as part of a team. In S. Capel, M. Leask, &

T.Turner (Eds.), Starting to Teach in the Secondary School (pp. 30-41). London, UK: Routledge.

 

Cyflwyniadau mewn cynadleddau

Mae Kelly wedi cyflwyno mewn dros 20 o gynadleddau cenedlaethol a rhyngwladaol.


Addysgu a Goruchwylio

Ar hyn o bryd mae Kelly’n cyflwyno nifer o fodiwlau Seicoleg Chwaraeon a Dulliau Ymchwil ar lefel israddedig ac ôl-raddedig ac mae'n arweinydd y modiwl Seicoleg Chwaraeon ac Ymarfer Cymhwysol Lefel 5 a Phroses Ymchwil Lefel 5. Mae hi hefyd yn diwtor personol ac yn goruchwylio ystod o brosiectau myfyrwyr ar bob lefel.

Cymwysterau a Gwobrau


      • PhD, Prifysgol Brunel
      • BSc (Anrh) Gwyddorau Chwaraeon, Prifysgol Brunel
      • Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysgu mewn Addysg Uwch, Prifysgol Brunel
      • Cymrawd yr Academi Addysg Uwch (FHEA)

Cysylltiadau Allanol

Arholi Allanol
Prifysgol Loughborough (2014-presennol)
Prifysgol Roehampton (2013-presennol)
 
Arholiadau PhD

Eleri Jones, University of South Wales (2013). Title: Performance Anxiety: Mechanisms and Measurement.

Megan Rendall, Victoria University, Australia (2011).  Title: Cognitive effort in contextual interference and implicit motor learning

Georgios Loizou, Brunel University (2008). Title: Psychophysiological effects of video, priming and music on emotions, motivation, and motor performance

Adolygu
Mae Kelly’n adolygu ar gyfer ystod o gyfnodolion academaidd (e.e. Journal of Sport and Exercise Psychology, Psychology of Sport and Exercise) a chyrff dyfarnu grantiau (e.e. ESRC).

 

Aelodaeth o Sefydliadau

Aelod o Gymdeithas Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Prydain (BASES)      

Aelod o Ffederasiwn Seicoleg Chwaraeon Ewrop (FEPSAC)

Aelod o Academi Addysg Uwch (AAU)