Rheoli a Datblygu Chwaraeon

​Mae'r grŵp Rheoli a Datblygu Chwaraeon yn canolbwyntio ar ymchwil gymhwysol sy'n ceisio cael effaith a dylanwadu ar y tirlun chwaraeon – yn rhyngwladol, yn genedlaethol ac yn lleol.  Mae gan y grŵp gysylltiadau sefydledig â'r diwydiant ac mae'n gweithio'n agos gyda llawer o sefydliadau perthnasol ar draws pob sector sydd, ymhlith eraill, yn cynnwys: llywodraeth; cyrff llywodraethu cenedlaethol; sefydliadau chwaraeon; awdurdodau lleol; ac ymddiriedolaethau hamdden.  Mae academyddion yn defnyddio ystod o ddulliau a fframweithiau ymchwil, ac mae ganddynt ddiddordeb mewn dilyn partneriaethau ymchwil cydweithredol. 

Mae'r prif feysydd ymchwil yn cynnwys:

• Gwaith datblygu cymunedol
• Mentergarwch
• Llywodraethu
• Iechyd a lles
• Arweinyddiaeth
• Marchnata
• Rheoli gweithredol
• Gweithgarwch corfforol a chyfranogi
• Partneriaeth a chydweithio
• Perfformiad a rhagoriaeth mewn chwaraeon
• Rheoli perfformiad
• Polisi a pholisi cyhoeddus
• Sicrhau ansawdd
• Chwaraeon ysgol
• Menter gymdeithasol
• Gwaharddiad cymdeithasol
• Strategaeth
• Timau
• Datblygu gwirfoddol / dielw

Staff Ymchwil: