Cynnwys y Cwrs
Dyluniwyd modiwlau i ganolbwyntio ar ystod o faterion, cyd-destunau ac ymagweddau at
archwilio materion cyfredol mewn chwaraeon a diwylliant corfforol. Mae'r rhain yn cynnwys
dod / bod yn anabl, rhyngwyneb dynol â thechnoleg, diwylliant athletwyr (jock culture),
rhywioldeb mewn chwaraeon, cyrff benywaidd mewn chwaraeon fel bocsio, mentro a
thwyllo mewn chwaraeon.
Modiwlau Craidd:
- Materion Cymdeithasol a Phrofiad Chwaraeon
- Dulliau Ymchwil ar gyfer Chwaraeon (Llwybr ansoddol)
- Newid Arfer mewn Chwaraeon a Diwylliant Corfforol
- Chwaraeon a Moesoldeb
- Cydraddoldeb a Chyfiawnder mewn Chwaraeon
- Astudiaeth Annibynnol
- Traethawd Hir
Er mwyn cymhwyso ar gyfer yr MA, mae'n ofynnol i fyfyrwyr gwblhau prosiect traethawd
hir 15,000 o eiriau.
Mae pob modiwl, ac eithrio modiwl y prosiect ymchwil annibynnol (traethawd hir) yn 20
credyd. Mae’r addysgu a ddyrannwyd (amser cyswllt) fel arfer yn cyfateb i isafswm o 30
awr o amser ynghyd â hyd at 60 awr o amser astudio dan gyfarwyddyd a 60 awr o amser
astudio annibynnol. Mae amser cyswllt fel arfer yn cynnwys darlithoedd, seminarau,
tiwtorialau unigol a grŵp. Mae dulliau addysgu penodol yn cynnwys trafodaeth grŵp,
myfyrio unigol, dadansoddi fideo, darllen adolygiadau a thasgau gwaith maes, llunio'r tasgau seminar ac arwain cynnwys y darlithoedd. Cefnogir dysgu’r myfyrwyr trwy ddefnyddio amgylchedd dysgu rhithwir, Moodle, sy'n darparu adnoddau ychwanegol i ategu'r rhestrau darllen. Mae gan bob myfyriwr fynediad at diwtor personol (cyfarwyddwr y rhaglen fel arfer).
Asesiad
Y prif ddulliau asesu yw aseiniadau a chyflwyniadau gwaith cwrs amrywiol 5000 gair (neu gyfwerth).
Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd
Mae galw cynyddol am ymwybyddiaeth a gwybodaeth am faterion cymdeithasol gan arbenigwyr ym maes chwaraeon lle mae diddordeb mewn pobl. Gofynnir am gymdeithasegwyr a moesegwyr chwaraeon mewn ystod o alwedigaethau sy'n gysylltiedig â chwaraeon sy'n cynnwys; rhaglenni datblygu chwaraeon cymunedol, rheoli cyfleusterau chwaraeon /hamdden yn y sector preifat, rolau gweinyddu chwaraeon a chyfryngau chwaraeon.
Ymhellach, mae'r rhaglen hon yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sydd â dyheadau am yrfa ymchwil neu barhau i astudio ar lefel PhD ac mae'n meithrin ystod o sgiliau trosglwyddadwy
Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais
Fel rheol, dylai fod gan ymgeiswyr un o'r canlynol:
- Gradd anrhydedd (2.1 neu uwch) mewn maes chwaraeon neu hamdden sy'n briodol i'r llwybr
- Bydd ymgeiswyr sydd â phrofiad gwaith eithriadol a helaeth ym maes addysg, hyfforddi, rheoli hamdden neu weithgareddau hamdden hefyd yn cael eu hystyried ar gyfer mynediad i'r llwybr.
- Gradd anrhydedd (2.1 neu uwch) mewn maes disgyblaeth amgen sy'n dderbyniol i arweinydd y rhaglen.
Y Broses Ddethol:
Fel rheol, dewisir myfyrwyr ar sail eu cais ffurfiol, CV a chyfweliad.
Ymgeiswyr Rhyngwladol
Bydd angen i fyfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddarparu tystiolaeth o ruglder i safon IELTS 6.5 neu gyfwerth o leiaf. I gael manylion llawn am sut i wneud cais a chymwysterau Saesneg Iaith ewch i'r tudalennau Rhyngwladol ar y wefan.
Sut i wneud cais:
Dylid gwneud ceisiadau ar gyfer y cwrs hwn yn uniongyrchol i'r brifysgol trwy ein cyfleuster hunanwasanaeth. Am wybodaeth bellach ewch i'n tudalennau Sut i Wneud Cais yn www.cardiffmet.ac.uk/howtoapply.
Os oes gennych ddiddordeb mewn defnyddio credyd o sefydliad arall, neu os ydych wedi ennill cymwysterau a /neu brofiad i astudio am gwrs ym Met Caerdydd, gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am hyn ynghyd â gwybodaeth am sut i wneud cais ar y dudalen RPL.
Gwybodaeth Ychwanegol
Ffioedd Dysgu a Chefnogaeth Ariannol:
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd dysgu a'r gefnogaeth ariannol a allai fod ar gael cyfeiriwch at www.cardiffmet.ac.uk/fees.
Ffioedd rhan-amser:
Codir y taliadau fesul Modiwl Sengl oni nodir yn benodol:
Israddedig = 10 Credyd; Ôl-raddedig = 20 Credyd
Yn gyffredinol, gwelwn y bydd y mwyafrif o fyfyrwyr yn cwblhau 60 credyd y flwyddyn; i gael y gwir gost, cysylltwch â Chyfarwyddwr y Rhaglen yn uniongyrchol. Gall myfyrwyr rhan amser gymryd hyd at bedair blynedd i gwblhau'r rhaglen radd a gallai myfyrwyr ddewis modiwlau a addysgir mewn unrhyw ddilyniant. Yr unig amod yw bod yr holl fodiwlau a addysgir gan gynnwys SSP7101 Dulliau Ymchwil ar gyfer Astudiaethau Chwaraeon yn cael eu cwblhau cyn dechrau'r traethawd hir.
Cysylltwch â Ni
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â'r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044, neu e-bostiwch
askadmissions@cardiffmet.ac.uk.
Os oes gennych ymholiadau penodol am gyrsiau, cysylltwch ag arweinydd y rhaglen, Dr David Brown:
E-bost: dbrown@cardiffmet.ac.uk
Ffôn: 029 2020 1156