A. Dylai unrhyw fyfyrwyr y mae’r gwasanaethau myfyrwyr wedi cymeradwyo darpariaeth ychwanegol ar eu cyfer oherwydd anabledd ac ati ddefnyddio'r ffurflen ar-lein sydd ar gael trwy glicio ar y ddolen ar hafan yr arholiadau. Byddwch yn cael e-bost i gadarnhau wrth gyflwyno'r ffurflen ar-lein, a bydd eich Swyddog Arholiadau perthnasol yn cysylltu â chi. Ar ôl y dyddiad cau, tynnir y ffurflen oddi ar y we ac ni fydd darpariaeth arholiad ychwanegol ar gael mwyach.
A. Mae dyddiad cau ar gyfer y ffurflen anghenion dros dro arbennig er mwyn sicrhau bod pob myfyriwr yn cael ei drin yn deg, ac i alluogi swyddogion arholiadau i roi'r gwasanaeth gorau posibl i bob myfyriwr sydd angen darpariaeth ychwanegol.
A. Os ydych wedi methu'r dyddiad cau, dim ond amser ychwanegol a ganiateir i chi ar gyfer eich arholiadau.
A. Dylech geisio cyrraedd pob arholiad ddim llai na 15 munud cyn yr amser cychwyn a ddangosir ar yr amserlen. Mae hyn er mwyn sicrhau eich bod yn eistedd wrth yr arholiad cywir a bod gennych ddigon o amser i lenwi unrhyw waith papur sy'n ofynnol cyn i'r arholiad ddechrau.
A. Anogir myfyrwyr i ddod ag eitemau hanfodol yn unig, fel cas pensiliau neu feddyginiaeth. Bydd myfyrwyr yn gallu rhoi eu ffôn symudol neu waledi/pyrsiau bach yn y bag â chlo sip a ddarperir. Gellir gadael cotiau ar gefn eich cadair. Rhaid i fyfyrwyr beidio â chasglu unrhyw beth o bocedi eu cotiau ar unrhyw adeg yn ystod yr arholiad.
A. Mae angen Cardiau Adnabod Met Caerdydd ar gyfer pob arholiad a rhaid eu gosod ar gornel uchaf eich desg ar ddechrau pob arholiad. Os nad ydych wedi dod â'ch cerdyn adnabod Met Caerdydd yna mae mathau eraill yn dderbyniol yn cynnwys Pasbort neu Drwydded Yrru gyda llun. Os nad oes gennych unrhyw fath o ID derbyniol gyda chi ar ddiwrnod yr arholiad yna rhoddir marc yng nghornel uchaf eich slip presenoldeb a byddwn yn cysylltu â'r bwrdd arholi perthnasol.
A. Weithiau mae nifer yr ymgeiswyr ar gyfer rhai arholiadau yn fwy na'r nifer o leoedd sydd ar gael yn ystafelloedd arholiadau’r campws. Yn yr amgylchiadau hyn rhaid inni symud yr ymgeiswyr i gampws gyda mwy o le. Mae hyn yn sicrhau bod pob myfyriwr yn y garfan honno yn gwneud yr arholiad o dan yr un amodau.
A. Fel uchod, weithiau mae nifer yr ymgeiswyr yn fwy na’r lle sydd mewn rhai lleoliadau arholiad ac felly mae angen cynnal un arholiad mewn dwy ystafell neu ragor. Bydd yr ystafelloedd hyn yn cael eu dyrannu a'u dangos yn glir ar eich amserlen. Bydd pob arholiad yn cychwyn ar yr amser a nodir ar yr amserlen hyd yn oed os cânt eu rhannu rhwng ystafelloedd. Os na chewch wybod yn wahanol, gall myfyrwyr fynd i unrhyw ystafell a ddangosir ar yr amserlen ac os yw'r ystafell hon yn llawn fe'u cyfeirir i'r ystafell nesaf sydd ar gael. Efallai y cewch eich cyfarwyddo i fynd i fwy nag un ystafell arall ond mae cydweithredu â’r staff yn bwysig er mwyn sicrhau bod pob arholiad yn cychwyn ar yr adeg benodol.
A. Heblaw egwyl i fynd i’r toiled ac argyfyngau/amgylchiadau arbennig, rhaid i bob ymgeisydd aros yn yr ystafell arholiadau am 45 munud cyntaf arholiad. Chewch chi ddim gadael lleoliad yr arholiad yn ystod y 15 munud olaf. Cyn i chi adael rhaid i chi sicrhau eich bod wedi cyflwyno pob darn o waith.
A. Yn y lle cyntaf, dylech drafod y mater gyda'ch ysgol. Bydd yn rhoi ffurflen amgylchiadau arbennig i chi y bydd angen i chi ei llenwi cyn gynted â phosibl. Bydd angen i chi ddangos tystiolaeth o'ch amgylchiadau arbennig. Er enghraifft, os ydych wedi methu arholiad am resymau meddygol, rhaid cael nodyn meddyg neu debyg. Rhaid cyflwyno'r dystiolaeth hon i'r ysgol ynghyd â'ch Ffurflen Amgylchiadau Arbennig.