Ymweld â Ni

Mae'r adran Gaffael wedi ei lleoli yn yr adeilad Rheoli Canolog ar gampws Llandaf Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Rhodfa'r Gorllewin, Caerdydd.

Dylai'r canlynol helpu i'ch cyfeirio. Gellir dod o hyd i fap o'r ardal leol yma, neu defnyddiwch y cod post CF5 2YB ar offer mapio ar y we neu SatNav. Bydd y cyfarwyddiadau isod yn helpu i'ch cyfeirio i Rodfa'r Gorllewin.

Mae'n ddrwg gennym nad ydym yn gallu cwrdd ag ymwelwyr nad ydynt wedi gwneud apwyntiad ymlaen llaw.

Teithio o ddwyrain Cymru neu Loegr

Dewch oddi ar yr M4 ar Gyffordd 29 (A48M). Arhoswch ar y ffordd hon - ar ôl oddeutu 5 milltir, mae'r A48M yn pasio o dan gyfnewidfa tair lefel ac yn newid i fod yn Rodfa'r Gorllewin. (Gweler isod am fanylion parhad).

O ogledd neu orllewin Cymru

Dilynwch yr A470 tua'r de tuag at ganol dinas Caerdydd (o orllewin Cymru, dewch oddi ar yr M4 ar Gyffordd 32 i'r A470 gan ddilyn yr arwyddion am Gaerdydd). Tua dwy filltir i'r de o gyffordd yr M4 ac ar ôl rhyw 5 set o oleuadau traffig, byddwch yn cyrraedd 6ed set o oleuadau ar ddechrau cyffordd fawr gyda bar Wetherspoons o frics coch, "The Aneurin Bevan", wedi'i leoli yn union o’ch blaen chi ar 'ynys' traffig.

Cadwch i'r dde o amgylch yr 'ynys' hon ac yna gwnewch yn siŵr eich bod yn un o'r lonydd chwith wrth i chi agosáu at drosffordd tair lefel (peidiwch â chymryd y lonydd ar y dde sy'n arwain dros y drosffordd). O'r gylchfan o dan y drosffordd, cymerwch y 4edd allanfa, ag arwydd y Barri a Maes Awyr Caerdydd. Dyma Rodfa'r Gorllewin.

Unwaith rydych chi ar Rodfa'r Gorllewin

Mae campws Llandaf lai na milltir ymhellach ar hyd y ffordd hon ar y dde (ychydig ar ôl pasio parc manwerthu mawr ar eich chwith a chroesi afon Taf) ac mae ganddo droad pwrpasol i'r dde wrth y goleuadau traffig ger pont droed wen. Cymerwch y tro hwn i'r campws.

Ar y campws

Os cawsoch eich cynghori bod parcio wedi'i gadw ar eich cyfer, bydd y lle parcio yn y man parcio i ymwelwyr o flaen y campws ger Rhodfa'r Gorllewin. Gellir gweld cynllun o'r lleoliadau parcio neilltuedig i ymwelwyr yma​. 

Dylech adrodd i'r brif dderbynfa sy'n edrych dros ardal y maes parcio i ymwelwyr - byddwn yn eich casglu o'r dderbynfa honno.

Sylwch fod gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd bolisi parcio ceir wedi'i reoli - os ydym wedi llwyddo i gadw lle parcio i chi, nid oes angen i chi dalu ac arddangos. Os nad ydym wedi gallu cadw lle, bydd angen i chi dalu ac arddangos - mae peiriannau tocynnau a byrddau tariff ar hyd a lled ein meysydd parcio.