Egwyddorion Busnes Caffael

​​

​Bwriad yr Egwyddorion hyn yw darparu trosolwg o'r safonau moesegol a'r gofynion gweithdrefnol y mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn ceisio eu defnyddio yn ei holl drafodion busnes caffael, yn ogystal â darparu gwybodaeth gefndirol i rai o'n harferion busnes.

Egwyddorion cyffredinol

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn ymdrechu i gynnal yr holl weithgareddau busnes mewn modd proffesiynol a moesegol; sicrhau cyfleoedd a thriniaeth deg a chyfartal yn ein cadwyni cyflenwi uniongyrchol ac anuniongyrchol; sicrhau bod penderfyniadau busnes yn cael eu gwneud heb ragfarn na gwahaniaethu; bod gofal yn cael ei gymryd o'r amgylchedd; ein bod yn gweithredu ein busnes gan roi sylw llawn i iechyd a diogelwch; a bod egwyddorion gwerth cymdeithasol yn cael eu darparu drwy ein gweithgarwch tendro a chontractau. 

Mae'r brifysgol wedi'i hachredu gan y Sefydliad Cyflog Byw ac mae'r holl staff yn cael eu talu'r cyflog byw gwirioneddol fel lleiafswm. 

Rydym yn annog ein cyflenwyr a'n contractwyr yn gryf i wneud ymrwymiad i'r Sefydliad Cyflog Byw ac i gymeradwyo'r egwyddorion a nodir yn isod. 

Manylion Pellach

Mae'r dudalen hon yn darparu gwybodaeth am gyflenwi nwyddau a gwasanaethau i Brifysgol Metropolitan Caerdydd.

Moesegol

Cod Moeseg Proffesiynol Caffael

Mae'r brifysgol yn ceisio cynnal safonau moesegol cryf ym mhob agwedd ar fusnes. Fel safon ar gyfer yr adran Gaffael ei hun, rydym yn dilyn Cod Moeseg Proffesiynol y Sefydliad Siartredig Prynu a Chyflenwi.

Deddf Rhyddid Gwybodaeth​

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn berthnasol i holl weithgareddau'r brifysgol.

Fel cyflenwr/tendrwr/partner/cwsmer/asiantaeth sy'n darparu gwasanaethau i'r brifysgol, dylech fod yn ymwybodol o rwymedigaethau'r brifysgol a'i chyfrifoldebau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 i ddarparu mynediad ar gais i wybodaeth sydd gennym wedi'i chofnodi. Un o ganlyniadau'r cyfrifoldebau statudol hynny yw y gallai'r wybodaeth honno sydd gan y brifysgol am eich sefydliad fod yn destun datgeliad, mewn ymateb i gais, oni bai bod y brifysgol yn penderfynu bod un o'r eithriadau statudol amrywiol yn berthnasol.

Os byddwch, ar unrhyw gam o'r broses gontractio, yn darparu gwybodaeth i'r brifysgol gan ddisgwyl y bydd yn cael ei chadw'n gyfrinachol, yna mae'n rhaid i chi ei gwneud yn glir yn eich dogfennaeth pa elfennau o'r wybodaeth yr ydych chi'n ystyried bod dyletswydd cyfrinachedd yn berthnasol iddi. Ni fydd defnyddio marciau amddiffynnol cyffredinol fel "cyfrinachol yn fasnachol" yn briodol mwyach ac bydd angen nodi’n glir pa ddeunydd sydd i'w ystyried yn gyfrinachol a pham. Er y bydd y brifysgol yn gwneud pob ymdrech resymol i gadw'n gyfrinachol a pheidio â datgelu unrhyw wybodaeth a gyflenwir a'i marcio fel 'cyfrinachol yn fasnachol', ni allwn ond cynnal y cyfrinachedd hwnnw i'r terfyn a ganiateir gan y ddeddfwriaeth.

Ni all y brifysgol dderbyn y dylai gwybodaeth ddibwys neu wybodaeth na ellir ei hystyried yn gyfrinachol oherwydd ei natur fod yn ddarostyngedig i unrhyw rwymedigaeth o gyfrinachedd. 

Mewn rhai amgylchiadau, ac yn unol â'r Cod Ymarfer a gyhoeddwyd o dan adran 45 o'r Ddeddf, gall y brifysgol ystyried ei bod yn briodol gofyn am eich barn ynghylch rhyddhau unrhyw wybodaeth cyn i'r brifysgol wneud ei phenderfyniad ar sut i ymateb i gais. Wrth ddelio â cheisiadau am wybodaeth o dan y Ddeddf, mae'n rhaid i'r brifysgol gydymffurfio ag amserlen gaeth ac felly byddai'n disgwyl ymateb yn amserol i unrhyw ymgynghoriad o'r fath cyn pen pum diwrnod gwaith.

Mewn rhai amgylchiadau lle na ddarparwyd gwybodaeth yn gyfrinachol, efallai y bydd y brifysgol yn dal i fod eisiau ymgynghori â chi ynghylch cymhwyso unrhyw eithriad arall fel yr un sy'n ymwneud â datgelu a fydd yn rhagfarnu buddiannau masnachol unrhyw barti. Fodd bynnag, bydd y penderfyniad ynghylch pa wybodaeth a ddatgelir yn cael ei wneud gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd. 

Buddion Cymunedol

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn ceisio ymgorffori Buddion Cymunedol yn yr holl drefniadau caffael perthnasol.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, Cyflogaeth Foesegol a Chaethwasiaeth Fodern

Mae'r brifysgol yn cynnal egwyddorion cydraddoldeb ac amrywiaeth ym mhob agwedd ar ei gweithrediad, ei chadwyni cyflenwi uniongyrchol ac anuniongyrchol ac rydym yn disgwyl i'n cyflenwyr a'n contractwyr ddefnyddio dull tebyg wrth ymdrin â’r mater hwn a gwneud hynny mewn modd sy'n gyson â Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015 a chod ymaefer 'Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi' Llywodraeth Cymru.

Adlewyrchir yr egwyddorion a'r ymrwymiadau hyn ym Mholisi Cadwyn Cyflenwi Moesegol y Brifysgol.

Mae crynodeb gweithredol dogfen polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth y brifysgol yn nodi:

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd dysgu sy'n rhydd o unrhyw fath o aflonyddu, bygwth, erledigaeth neu wahaniaethu ar sail cenedligrwydd, rhyw, hil, lliw, tarddiad ethnig neu genedlaethol, anabledd, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol, oedran neu statws priodasol, iaith, tarddiad cymdeithasol, barn wleidyddol, eiddo a genedigaeth neu statws. Bydd pob unigolyn yn cael ei drin ag urddas, parch a'i werthfawrogi am ei gyfraniad. 

Os oes unrhyw berson wedi sylwi ar unrhyw arferion cyflogaeth yng nghadwyni cyflenwi'r Brifysgol y gellir eu hystyried yn anghyfreithlon neu'n anfoesegol, e-bostiwch eich arsylwadau at whistleblowing@cardiffmet.ac.uk  

Mae'r brifysgol yn gyflogwr Cyflog Byw achrededig ac felly mae wedi addo sicrhau bod staff y brifysgol yn cael o leiaf y Cyflog Byw. Er mwyn sicrhau triniaeth gyfartal, yn ei chontractau allanol allweddol, mae'r brifysgol yn ei gwneud yn ofynnol i staff allanol sy'n gweithio'n uniongyrchol ar ein contractau hefyd i gael y Cyflog Byw a chael y codiad cyflog bob blwyddyn, lle rydym yn gyfreithiol yn abl i wneud hynny. 

Ymgysylltu â busnesau bach a chanolig, busnesau a gefnogir a busnesau lleol.

Siarter Agor Drysau

Mae'r Brifysgol wedi ymuno â siarter "Agor Drysau", Llywodraeth Cymru , sy'n cydnabod y buddion economaidd a chynaliadwyedd a all ddeillio o fasnachu gyda busnesau yn eich ardal leol a sicrhau ei bod yn haws i gyflenwr llai gymryd rhan yng nghynigion caffael y sector cyhoeddus.

Dylid nodi NAD yw'r siarter hon yn hyrwyddo unrhyw senario sy'n cyflwyno unrhyw wahaniaethu neu ffafriaeth tuag at gyflenwyr lleol.

Datganiad Polisi Caffael Cymru ('WPPS')

Mae'r Brifysgol yn cymeradwyo egwyddorion yr WPPS. Yng nghyd-destun busnesau bach, lleol a gefnogir, mae'r Brifysgol yn croesawu egwyddorion 3 a 5.

Yn ymarferol, mae hyn yn golygu bod y Brifysgol:

  1. yn cynnwys defnyddio 'strategaethau lotio' priodol ym mhob caffaeliad perthnasol
  2. yn defnyddio'r holidaur dethol y DU
  3. yn defnyddio teclyn tendro electronig i helpu gwneud yr holl gyfleoedd yn agored ac yn hygyrch
  4. yn derbyn ceisiadau consortiwm neu ar y cyd
  5. yn cymhwyso telerau talu teg
  6. dim ond pan fo'n briodol y mae'n cymhwyso 'trothwyon trosiant ariannol'
  7. yn cyhoeddi hysbysiadau cyfle contract a dyfarnu contract ar GwerthwchiGymru

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am yr egwyddorion uchod yn adran cyflenwyr gwefan GwerthwchiGymru a gellir cael cefnogaeth i fusnesau gan Lywodraeth Cymru drwy Busnes Cymru.

Cynaliadwyedd

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn cydnabod diffiniad eang o werth cymdeithasol, sy'n cynnwys cynaliadwyedd. Mae cynaliaddwyedd yn seiliedig ar ymgysylltu â datblygiad sy'n diwallu anghenion y presennol, heb gyfaddawdu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain. Mae caffael Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn mynd ati i geisio ymgorffori cynaliadwyedd ym mhob agwedd ar ei gweithgaredd caffael. Mae Polisi Caffael Cynaliadwy Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn cael ei gymeradwyo gan Fwrdd Llywodraethwyr Prifysgol Metropolitan Caerdydd, ac mae'n gyson â Pholisi Cynaliadwyedd sefydliadau Prifysgol Metropolitan Caerdydd. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am ymgysylltiad Prifysgol Metropolitan Caerdydd â phob agwedd ar gynaliadwyedd yma. ​

​​

Gweithdrefn

Telerau talu

Mae telerau talu safonol Prifysgol Metropolitan Caerdydd 30 diwrnod ar ôl derbyn yr anfoneb. 

Mae'r Brifysgol yn ymwybodol iawn o effaith fuddiol talu anfonebau credydwyr ar amser.

Fodd bynnag, mae ein hymrwymiad talu yn seiliedig ar dderbyn anfonebau a gyflwynwyd yn gywir. Rhaid nodi bod ein telerau busnes yn mynnu y bydd unrhyw anfonebau a dderbynnir heb rif Archeb Pwrcas dilys yn cael eu gwrthod a'u dychwelyd i'r cyflenwr i'w cywiro a'u hailgyflwyno.

Nwyddau Digymell

Nid yw Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn derbyn atebolrwydd na chyfrifoldeb mewn unrhyw ffordd o gwbl am unrhyw nwyddau neu wasanaethau digymell. Ystyr 'nwyddau digymell' yw unrhyw nwyddau a dderbynnir neu wasanaethau a berfformir lle nad yw'r cyflenwr yn derbyn cyfarwyddyd dilys i ddosbarthu nwyddau neu fwrw ymlaen â darparu gwasanaethau. Yn y mwyafrif llethol o achosion, yr unig ddull o gyfleu 'cyfarwyddyd dilys' yw i’r cyflenwr fod wedi derbyn Archeb Pwrcas ddilys gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd. Mewn nifer gyfyngedig o achosion, defnyddir dulliau eraill o gyfarwyddyd i symud ymlaen, ond dim ond os cytunir hynny gan y ddau barti yn ysgrifenedig, ac ymlaen llaw, y mae'r dulliau hyn yn ddilys.

O ganlyniad, oni chytunir yn ysgrifenedig ar amrywiad nad yw’r Archeb Pwrcas, rhaid i'r holl ddogfennaeth dosbarthu ac anfonebu arddangos rhif Archeb Pwrcas Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn glir.

Bydd unrhyw anfonebau a gyflwynir sy'n anghywir neu'n anghyflawn yn cael eu dychwelyd yn awtomatig heb eu talu i'w cywiro a'u hailgyflwyno. Gwrthodir unrhyw anfonebau a gyflwynir lle na dderbyniwyd Archeb Pwrcas neu gyfarwyddyd dilys i symud ymlaen.