Hafan>Prosesau Caffael Prifysgol Metropolitan Caerdydd>Rhestr contractau a Chyfleoedd Contract yn y Dyfodol

Rhestr contractau a Chyfleoedd Contract yn y Dyfodol

 

​​

Mae'r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth am y nwyddau a'r gwasanaethau hynny y mae'r Brifysgol yn tendro ar eu cyfer dro ar ôl tro ac mae hefyd yn rhestru cyfleoedd contract cyfredol a rhai sydd ar ddod a fydd yn destun tendrau cystadleuol.

Cyfleoedd Contract yn y Dyfodol

PWYSIG: Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn defnyddio e-gyrchu ar gyfer mwyafrif ei chyfleoedd tendro. 

Mae'r Brifysgol yn defnyddio porth pwrpasol tendrau Prifysgol Metropolitan Caerdydd - gellir gweld cyflwyniad a chanllaw defnyddiwr i'r porth hwn yma​.​

Sylwch fod Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn defnyddio gwefan GwerthwchiGymru ar gyfer postio cyhoeddiadau contract - os nad yw'ch cwmni wedi'i gofrestru ar GwerthwchiGymru, rydym yn awgrymu'n gryf eich bod yn gwneud hynny - nid oes cost cofrestru.

Os ydych chi wedi cofrestru neu’n dymuno cofrestru ar GwerthwchiGymru, rydym ni'n argymell yn gryf bod y prif gyfeiriad e-bost cyswllt yn gyfeiriad 'cyffredinol', fel gwerthiant@ neu gwybodaeth@ - rydym ni wedi gweld llawer o enghreifftiau lle collwyd cyfathrebu ynghylch cyfleoedd oherwydd bod y prif gyfeiriad e-bost cofrestredig yn perthyn i aelod o staff oedd ar wyliau, absenoldeb mamolaeth neu ddim yn gweithio i'r darpar gyflenwr mwyach.

Weithiau gall busnesau bach neu ficro ystyried bod graddfa contractau'r sector cyhoeddus yn rhy fawr iddynt eu trin. Un opsiwn mewn sefyllfa o'r fath yw i ddau fusnes neu fwy uno i gynnig ar y cyd. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau defnyddiol ar gyflwyno cynnig ar y cyd.

Os ydych chi am gysylltu â ni ynglŷn â chyflenwi inni yn y dyfodol ar gyfer unrhyw nwyddau neu gyfle na restrir uchod, gweler y canllawiau 'ein hysbysu ni o'ch diddordeb' yn yr adran Sut i gyflenwi i ni.​​