Hafan>Newyddion>Mae Ysgol Gelf a Dylunio Met Caerdydd yn gwahodd y cyhoedd i Ddiwrnod Cymunedol blynyddol

Mae Ysgol Gelf a Dylunio Met Caerdydd yn gwahodd y cyhoedd i Ddiwrnod Cymunedol blynyddol

​​​​Newyddion | 29 Mai 2024 ​

Participants show their artistic creations during the Cardiff School of Art and Design Community Day 2024

Bydd Ysgol Gelf a Dylunio Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn agor ei drysau i'r cyhoedd ar gyfer ei Diwrnod Cymunedol blynyddol ddydd Sul 9 Mehefin 2024.

Bydd amrywiaeth o weithgareddau ar gael a fydd yn galluogi'r cyhoedd i roi cynnig ar rai o'r sgiliau a ddysgir yn Ysgol Gelf a Dylunio Met Caerdydd, gan gynnwys y cyfle i fod yn flêr yn y stiwdio beintio, dylunio a thorri laser yn y gweithdy technoleg ddigidol, FabLab, dysgu brodwaith llaw newydd neu dechnegau pwyth digidol gydag arbenigwyr tecstilau'r ysgol.

Mae'r Diwrnod Cymunedol ar agor rhwng 12pm a 4pm ar gampws Llandaf Met Caerdydd, gyda gweithdai am ddim yn rhedeg tan 3.30pm. Nid oes angen archebu lle ymlaen llaw.

Mae'r gweithgareddau'n addas ar gyfer oedolion a phlant 8 oed a hŷn, rhaid i bob plentyn fod yng nghwmni oedolyn. Mae'r gweithdai rhad ac am ddim sydd ar gael yn cynnwys:​

  • Taflwch bot ar yr olwyn grochenwaith – paratowch glai, dysgwch reoli cyflymder yr olwyn, canolwch y clai a rhowch gynnig ar “daflu".
  • Dylunio bathodyn a'i dorri â laser - dyluniwch fathodyn, dysgwch sut mae torrwr laser yn gweithio, a'i ddefnyddio i gynhyrchu eich bathodyn eich hun.
  • Celf Japaneaidd Sashiko (刺し子, 'trywanu bach') - darganfyddwch gelfyddyd Japaneaidd hardd ac ystyriol Sashiko (刺し子, 'trywanu bach') - ffurf fanwl iawn o bwytho brodwaith traddodiadol a ddefnyddir i addurno neu atgyfnerthu brethyn/dillad.
  • Gweithdy Animeiddio Stop Motion - cyflwyniad i feddalwedd stop-symud Dragon Frame ac egwyddorion animeiddio amseru a symud. Byddwn yn defnyddio popeth o Lego a phlasin i wrthrychau sydd wedi eu darganfod, i greu animeiddiad.
  • Pwyth Digidol - Defnyddiwch ein meddalwedd brodwaith digidol arbenigol i greu dyluniad math blodyn neu fandala syml ac yna ei wylio'n dod yn fyw o'ch blaen. 
  • Llif Creadigol – dyfrlliw, gwrthydd cwyr a chollage cyfrwng cymysg – mwynhewch synnwyr o ddarganfod trwy greu eich gwaith celf Llif Creadigol eich hun o amrywiaeth o gyfryngau.


Bydd dangosiadau yn cael eu darlledu o stiwdio ffotograffiaeth yr Ysgol drwy'r dydd, fel y gall y cyhoedd wylio dangosiad o animeiddiadau, fideos a gweithiau celf amlgyfrwng gwreiddiol o garfan graddio celf a dylunio'r Brifysgol.

Bydd teithiau o amgylch cyfleusterau'r Ysgol hefyd yn rhedeg drwy gydol y dydd – gan roi cipolwg tu ôl i'r llenni ar sut mae myfyrwyr yn cynhyrchu eu gwaith a thaith gerdded trwy arddangosfa Sioe'r Haf i weld y cynnyrch gorffenedig.

Dywedodd Dr Bethan Gordon, Deon Ysgol Gelf a Dylunio Met Caerdydd: “Mae ein Diwrnod Cymunedol blynyddol yn rhan o Sioe Haf Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd, sy'n arddangos ac yn dathlu'r gwaith eithriadol a gynhyrchir gan ein myfyrwyr, wrth iddynt baratoi i gychwyn ar gam nesaf eu gyrfaoedd.

“Mae'r Sioe Haf yn uchafbwynt blynyddol i'r Ysgol lle rydym yn dathlu gwaith y myfyriwr.  Mae hefyd yn gyfle gwych i gyflwyno a chroesawu'r gymuned leol i'r campws i ddathlu gyda ni drwy'r ystod eang o weithgareddau sydd ar gael yn ystod y Diwrnod Cymunedol. Nid oes angen i'r rhai sy'n mynychu fod â chefndir creadigol, mae hwn yn gyfle i roi cynnig ar rywbeth newydd a defnyddio rhai o'r cyfleusterau gwych sydd ar gael."

Bydd myfyrwyr hefyd yn arddangos eu gwaith yn Sioe Haf Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd rhwng dydd Gwener 7 Mehefin a dydd Iau 13 Mehefin 2024. Mae croeso i'r cyhoedd fynychu yn ystod yr oriau agor canlynol:

  • Dyddiau'r wythnos: 10.00yb – 6.00yp
  • Penwythnosau: 12.00yp – 4.00yp

Am ragor o wybodaeth, ewch i: Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd Sioe Haf CSAD (cardiffmet.ac.uk)