Hafan>Newyddion>Met Caerdydd ym Mharis 2024

Croeso i dudalen bwrpasol Prifysgol Metropolitan Caerdydd ar gyfer Gemau Olympaidd a Pharalympaidd yr Haf 2024 ym Mharis.

Yma, byddwn yn dathlu’r athletwyr a’r gweithwyr chwaraeon proffesiynol o safon fyd-eang sydd wedi’u meithrin ym Met Caerdydd – y rhai sydd wedi bod ar y llwyfan Olympaidd yn flaenorol a’r rhai sy’n barod i wneud eu marc ym Mharis.

Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi wrth i dimau ac unigolion gael eu dewis a, phan fydd y Gemau’n cychwyn, byddwn yn rhannu straeon am y myfyrwyr, staff a chyn-fyfyrwyr sy’n chwarae eu rhan ar y llwyfan chwaraeon byd-eang hwn.

Etifeddiaeth o Ragoriaeth: Treftadaeth Olympaidd Met Caerdydd

Mae gan Met Caerdydd draddodiad balch o ddatblygu talent Olympaidd a Pharalympaidd. Mae ein cyn-fyfyrwyr yn cynnwys enwau nodedig fel:

Lynn Davies – Graddiodd Lynn o Goleg Hyfforddi Caerdydd yr un flwyddyn ag enillodd fedal aur yn y Naid Hir yng Ngemau Tokyo 1964.

Aled Siôn Davies OBE – Enillydd medal aur tair gwaith mewn Discus a Shot Putt yn y Gemau Paralympaidd 2012, 2016 a 2020 a astudiodd Rheoli Chwaraeon yn y Brifysgol.

Helen Glover MBE – Enillydd dwy fedal aur Olympaidd Prydain Fawr mewn Rhwyfo a astudiodd Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff ym Met Caerdydd.

Dan Bibby – Cyn-chwaraewr Clwb Rygbi Met Caerdydd a myfyriwr Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff a ddaeth i’r Brifysgol yn 2009, ac enillydd medal arian Rygbi 7 Prydain Fawr yng Ngemau Olympaidd Rio 2016.


Ymunwch â’r Sgwrs

Rydym yn eich gwahodd i ymuno â ni i gefnogi ein hathletwyr trwy rannu eich negeseuon o anogaeth ar gyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #MetCaerdyddParis2024. Gyda’n gilydd, gadewch i ni ddangos ein balchder a’n llawenydd dros ein Olympiaid wrth iddynt ymdrechu am fawredd.

I gael y newyddion a’r straeon diweddaraf, rhowch nod tudalen ar y dudalen hon a chadwch mewn cysylltiad â thaith Met Caerdydd yng Ngemau Paris 2024.

Archwiliwch fwy am dreftadaeth chwaraeon cyfoethog Met Caerdydd a’n mentrau presennol trwy ymweld â’n tudalen Chwaraeon Met Caerdydd a dilyn @MetCaerdydd ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol.