Hafan>Newyddion>Rhaglen ArcHER am addysgu ar gorff benywaidd i wella llwyddiant mewn chwaraeon

Rhaglen ArcHER am addysgu ar gorff benywaidd i wella llwyddiant mewn chwaraeon

​​Newyddion | 8 Tachwedd 2023

​​​Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi lansio rhaglen newydd sy’n anelu at greu amgylchedd cyfartal i ferched chwarae chwaraeon drwy roi ‘dealltwriaeth ddyfnach’ o’r corff benywaidd i’w myfyrwyr a’i gweithlu.

Myfyrwyr o Met Caerdydd yn gwrando ar sgyrsiau yn nigwyddiad ArcHER


Bydd ArcHER – sy’n chwarae ar eiriau o dimau chwaraeon ‘Archers’ Met Caerdydd – yn gweld y Brifysgol yn buddsoddi mewn partneriaethau, digwyddiadau a gweithdai addysgol i helpu athletwyr benywaidd i berfformio hyd eithaf eu gallu, tra’n addysgu ar y ffactorau a all effeithio ar berfformiad. Bydd Met Caerdydd nawr yn gweithio mewn partneriaeth â Well HQ, sy’n rhannu data ac ymchwil hanfodol o sut mae’r corff benywaidd yn gweithio ac yn gweithredu, sydd ar goll ar hyn o bryd o ddisgyblaethau iechyd a ffitrwydd, gan gynnwys gwybodaeth am y cylchred mislif, glasoed, cymorth y fron a’r menopos, i gyflwyno’r rhaglen ArcHER i staff, myfyrwyr a’r gymuned leol.

​Un myfyriwr a fydd yn elwa’n uniongyrchol o’r rhaglen yw Abigail Yunker, 25, myfyriwr MSc mewn Hyfforddi Chwaraeon​ ym Met Caerdydd. Mae Abigail yn chwarae pêl-fasged i BUCS Met Caerdydd a Chynghrair Pêl-fasged Prydain i Ferched. Dywedodd hi: “Rwy’n meddwl ei bod yn bwysig iawn cael addysg am y gwahanol rwystrau y mae merched yn benodol yn eu profi a sut i gael y wybodaeth a’r adnoddau i bontio’r bwlch hwnnw mewn chwaraeon. Dydw i ddim yn meddwl bod merched wedi cael digon o addysg am y rhwystrau hyn. Er enghraifft, nid oedd y rhan fwyaf o’m tîm erioed wedi cael bra wedi’i osod yn iawn, sy’n rhywbeth y dylai pob merch gael mynediad ato, er mwyn gwella eu perfformiad fel athletwr.

“Mae’r rhaglen wedi dod â goleuni newydd i rai o’r materion cyfoes y mae merched yn eu hwynebu mewn chwaraeon gan ganiatáu i mi wneud cysylltiadau fel chwaraewr a hyfforddwr chwaraeon iau merched. Rwyf bob amser wedi ei weld fel brwydr dros gydraddoldeb gyda dynion, ond dysgais ei fod yn fwy o frwydr i gofleidio ein gwahaniaethau a chael y gefnogaeth i allu llwyddo.”

Dywedodd Laura Williams, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Chwaraeon, Gweithgaredd Corfforol ac Iechyd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd: “Ganed ArcHER gyda’r bwriad o ysbrydoli ein myfyrwyr benywaidd a’n gweithlu i wir ddeall y corff benywaidd a chyflawni eu nodau a’u dyheadau.

“Bydd y ffocws i ddechrau ar chwaraeon perfformio a’n tîm gwasanaethau perfformiad a’n hyfforddwyr, gan eu harfogi â dealltwriaeth ddyfnach o gorff y fenyw a pha mor ymarferol y gallwn ddatblygu ein harferion presennol i gefnogi ein myfyrwyr-athletwyr benywaidd.”

Cynhaliwyd lansiad ArcHER ym Met Caerdydd ar y cyd â digwyddiad Arweinyddiaeth Chwaraeon Merched Tîm Cymru. Daeth merched ysbrydoledig a sefydliadau sy’n arwain y sector sydd ar flaen y gad ym maes chwaraeon merched at ei gilydd ar gampws Cyncoed Met Caerdydd i gynnig cymorth a gwybodaeth i athletwyr benywaidd, gan gynnwys Nixi Body, brand dillad isaf amsugnol ar gyfer mislif; peBe, brand bra chwaraeon effaith uchel; Unicorn Cup, cwmni cwpan mislif; a sgyrsiau gan sefydliad iechyd meddwl mewn chwaraeon elitaidd, Guardian Ballers​.

Ymunodd Met Caerdydd, sy’n brif bartner gyda Thîm Cymru, ar gyfer digwyddiad panel Clwb Busnes Tim Cymru yn ystod rhaglen y dydd, a oedd yn cynnwys Rebecca Edwards-Symmons, Prif Weithredwr Tîm Cymru; Dr Emma Ross o Well HQ; Suzy Drane, cyn gapten pêl-rwyd Cymru; Sarah Jones, chwaraewr Hoci Cymru a Phrydain Fawr a Llywydd Undeb Myfyrwyr Met Caerdydd Natalia-Mia Roach.

Dywedodd Dr Emma Ross, Cyd-sylfaenydd a Phrif Swyddog Gwyddonol The Well HQ: “Rydym yn falch iawn o fod yn bartner gyda rhaglen ArcHER. Mae Met Caerdydd wedi gwneud ymrwymiad hirdymor i wella profiad merched mewn chwaraeon drwy fuddsoddi mewn addysg a datblygiad hyfforddwyr, athletwyr a staff chwaraeon. Mae’r digwyddiad lansio hwn yn nodi dechrau ail-ddyluniad pwysig o ecosystem chwaraeon merched mewn Prifysgolion, ac mae Met Caerdydd yn arloesi gyda’r newid hwnnw.”

Dywedodd Rebecca Edwards-Symmons, Prif Weithredwr Tîm Cymru: “Mae’r digwyddiad hwn yn hynod bwysig i ferched o bob cefndir, mewn chwaraeon cystadleuol neu weithgareddau hamdden. Mae cael llais a chlywed gan gymaint o ferched ysbrydoledig yn allweddol i barhau i wthio’r ffiniau ac addysgu merched ifanc mewn chwaraeon. Mae’n fraint cynnwys ein Clwb Busnes Tîm Cymru diweddaraf mewn rhaglen mor allweddol.”