Cynnwys y Cwrs
Blwyddyn Sylfaen (Blwyddyn 0)
Mae'r cwrs hwn yn elwa ar allu cynnig mynediad i'r flwyddyn sylfaen Busnes a Rheoli, a fwriedir ar gyfer myfyrwyr sydd eisiau cofrestru ar radd anrhydedd tair blynedd yn yr Ysgol Reoli, sy'n perthyn i un o'r categorïau canlynol:
1. Myfyrwyr nad ydynt wedi cael y nifer gofynnol o bwyntiau Safon Uwch (neu gyfwerth) i ddechrau ar flwyddyn gyntaf y rhaglen radd.
2. Myfyrwyr hŷn sydd wedi bod allan o’r system addysg ffurfiol ers peth amser.
Gellir gweld rhagor o wybodaeth am y flwyddyn sylfaen drwy glicio yma.
Gradd
Mae'r cwrs yn integreiddio profiad 'byd go iawn' yn ein harferion addysgu er mwyn galluogi dealltwriaeth glir o'r broses Rheoli Marchnata Ffasiwn. Mae aseiniadau'n seiliedig ar enghreifftiau o'r diwydiant ac mae darlithwyr gwadd o blith ymarferwyr o gwmnïau hefyd.
Byddwch yn cael cyfle hefyd i astudio iaith fel gweithgaredd allgyrsiol ac i astudio dramor am semester i ehangu eich profiad a'ch sgiliau; pob un yn fantais o ran sicrhau llwyddiant mewn gyrfa Marchnata Ffasiwn.
Blwyddyn Un
Byddwch yn cyflawni 120 credyd o fodiwlau craidd:
- Cyflwyniad i Farchnata Ffasiwn (20 credyd)
- Egwyddorion Astudiaethau Ffasiwn (30 credyd)
- Delweddu Ffasiwn (30 credyd)
- Cyfryngau Digidol i Farchnatwyr (20 credyd)
- Cyllid i Reolwyr (20 credyd)
Blwyddyn Dau
Byddwch yn cyflawni 100 credyd o fodiwlau craidd a gallwch ddewis 20 credyd o fodiwlau dewisol:
- Newyddiaduraeth Ffasiwn a Chyfeiriad Creadigol (20 credyd)
- Ymddygiad Defnyddwyr Ffasiwn (20 credyd)
- Cyfathrebu Marchnata Creadigol ar gyfer Ffasiwn (20 credyd)
- Marchnata Ffasiwn Ar Waith (20 credyd)
- Dulliau Ymchwil Marchnata (20 credyd)
Modiwlau dewisol:
- Strategaethau Ffasiwn Drwy Brofiad (20 credyd)
- Marchnata Chwilio: Cynnwys, SEO + PPC (20 credyd)
- Marchnata Symudol a Chyfryngau Cymdeithasol (20 credyd)
- Rheoli Perfformiad Marchnata a'r Gyfraith (20 credyd)
Ym mlwyddyn dau yno cewch eich cynorthwyo i ddod o hyd i leoliad gwaith perthnasol a defnyddiol sy'n gysylltiedig â ffasiwn. Mae'r lleoliad gwaith yn cynnig y profiad o roi'r theori ar waith a gweld sut mae'r theori'n cael ei defnyddio mewn sefydliad, yn uniongyrchol. Mae hyn wedi cael derbyniad da iawn gan gyflogwyr a bydd yn rhoi mantais i chi wrth wneud cais am swyddi ar ôl graddio.
Blwyddyn mewn Diwydiant (Profiad Gwaith Diwydiannol):
Mae'r opsiwn o dreulio blwyddyn mewn diwydiant rhwng yr 2il flwyddyn a'r flwyddyn olaf wedi'i gynnwys i'ch galluogi i gwblhau'r radd gyda lefel o brofiad ymarferol. Gellir ymgorffori'r opsiwn hwn o brofiad ymarferol yn y cwrs gradd tair blynedd drwy wneud gwaith ymarferol mewn diwydiant yn ystod y tymor neu adeg gwyliau yn ystod y cwrs.
Blwyddyn Tri/Blwyddyn Pedwar
Blwyddyn tri i fyfyrwyr nad ydynt yn dewis yr opsiwn blwyddyn o brofiad, neu Flwyddyn Pedwar i'r myfyrwyr hynny sy'n dewis yr opsiwn profiad ymarferol.
Mae myfyrwyr yn dilyn 60 credyd o fodiwlau craidd ac yna'n dewis 60 credyd o fodiwlau dewisol.
Modiwlau craidd:
- Creadigrwydd ac Entrepreneuriaeth mewn Ffasiwn (20 credyd)
- Marchnata Ffasiwn Rhyngwladol a Byd-eang (20 credyd)
- Rheoli Brand Ffasiwn Strategol (20 credyd)
Modiwlau dewisol:
- Traethawd Hir Ffasiwn (40 credyd)
- Cynllun Marchnata Ffasiwn (40 credyd)
- Prosiect Marchnata Ffasiwn (40 credyd)
- Rheoli Cysylltiadau Cyhoeddus a Rhanddeiliaid Ffasiwn (20 credyd)
- Dylunio Gwyrdd - Cynaliadwyedd a Chyfrifoldeb mewn Ffasiwn (20 credyd)
Nodir bod modiwlau dewisol yn rhedeg yn amodol ar alw ac argaeledd digonol.
Dysgu ac Addysgu
Anogir dull dysgu ac addysgu sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr drwy ddefnyddio strategaethau addysgu penodol, astudiaethau achos, prosiectau, tiwtorialau, ymarferion ymarferol, wedi'u hategu gan y defnydd o ddeunyddiau cymorth priodol, darlithoedd gan arbenigwyr busnes, brandiau, fideos a meddalwedd gyfrifiadurol. Mae ymgysylltu'n weithredol â'r deunydd pwnc yn gwella dysgu ac mae llawer o'r strategaethau dysgu a ddefnyddir yn ceisio hyrwyddo hyn.
Darlithoedd
Mae darlithoedd yn rhan bwysig o'r strategaeth addysgu ar gyfer y rhaglen. Mae darlithoedd yn ffordd effeithiol o gyflwyno deunydd craidd a sefydlu fframwaith ar gyfer modiwl y gellir gosod deunydd arall yn ei erbyn.
Seminarau
Mewn seminarau mae myfyriwr neu fyfyrwyr yn cyflwyno gwaith y maent wedi'i baratoi o flaen llaw i gyfoedion a darlithydd. Defnyddir y strategaeth hon i ymestyn cysyniadau damcaniaethol neu ymarferol penodol yn ogystal â chyflwyno ymarferion datrys problemau. Defnyddir seminarau yn y rhan fwyaf o fodiwlau ac maent yn rhoi profiad gwerthfawr i fyfyrwyr o sgiliau cyflwyno yn ogystal â rhoi dull i staff asesu dysgu sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr.
Gweithdai Ymarferol
Defnyddir gweithdai ymarferol yn helaeth mewn nifer o fodiwlau drwy gydol y rhaglen. Yn y dosbarthiadau hyn gall myfyrwyr ymarfer a mireinio eu sgiliau mewn amgylchedd cefnogol lle gallant gael adborth gan aelod o'r staff academaidd. Mae gweithdai ymarferol yn ddull gwerthfawr o bontio rhwng theori ac ymarfer.
Arbenigwyr Ffasiwn
Elfen allweddol o'r profiad dysgu yw'r bwriad i wahodd arbenigwyr busnes, academaidd ac mewn ymarfer, i roi cipolwg ar eu gwaith ymchwil neu weithgarwch busnes. Gellid gwahodd arbenigwyr o'r fath fel siaradwyr gwadd neu ofyn iddynt ddarparu profiad gweithdy mwy rhyngweithiol lle bo'n briodol.
Asesu
Cewch eich asesu'n barhaus drwy gydol y cwrs ar sail gwaith cwrs, cyflwyniadau ac arholiadau. Bydd asesiadau ar ffurf arholiadau (a welir/nas gwelir, llyfr agored, traethodau/atebion byr), traethodau, asesiad ymarferol, gwaith gweledol, cyflwyniadau, adroddiadau unigol a grŵp, gyda'r rhan fwyaf ohonynt yn canolbwyntio ar astudiaethau achosion bywyd go iawn.
Rhoddir adborth drwy gydol y cwrs yn ffurfiannol a thrwy asesiadau ffurfiol. Hefyd, bydd eich perthynas â'ch tiwtor personol yn eich helpu i weithio gydag adborth a nodi cryfderau a gwendidau yn eich gwaith a'ch dull astudio.
Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd
Bydd myfyrwyr Marchnata Ffasiwn Met Caerdydd yn eithriadol oherwydd eu gallu i gymhwyso gwybodaeth ddamcaniaethol mewn amgylchedd ymarferol. Yn ystod y cwrs byddwch yn datblygu'r sgiliau a'r ddealltwriaeth allweddol sydd eu hangen i fod yn farchnatwr ffasiwn. Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus bydd y sgiliau i gennych i gael swydd ym maes marchnata ffasiwn, gan roi eich sgiliau ar waith mewn swyddi hysbysebu, cysylltiadau cyhoeddus, prynu a masnacheiddio, marchnata digidol ac e-fasnach, ysgrifennu ffasiwn, marchnata ac ymchwil defnyddwyr, gwerthiant a datblygu brand, rheoli cynnyrch, cynllunio profiad defnyddwyr, cysylltiadau cyhoeddus a rheoli busnes.
Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio ar y cyd â'r Sefydliad Marchnata Siartredig (CIM), er mwyn rhoi cyfle i chi gael eich eithrio o Dystysgrif mewn Marchnata Proffesiynol a Diploma mewn Marchnata Proffesiynol y CIM. Byddwch hefyd yn gallu ymuno â'n grŵp myfyrwyr CIM sy'n annog pob myfyriwr i gymryd rhan yn ein cymuned dysgu marchnata drwy drefnu siaradwyr gwadd a rheoli digwyddiadau sy'n canolbwyntio ar farchnata. Bydd cynnwys siaradwyr deinamig a digwyddiadau rhwydweithio defnyddiol yn gwella eich profiad dysgu.
Yn olaf, byddwch yn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau entrepreneuraidd fel cystadlu yn y CIM Pitch a chystadlaethau drwy Gyngor Ffasiwn Prydain. Mae'r opsiwn o gynnwys blwyddyn o brofiad mewn diwydiant ym mlwyddyn tri wedi'i gynnwys i'ch galluogi i gwblhau'r radd gyda lefel o brofiad ymarferol. Gellir ymgorffori'r opsiwn hwn o brofiad ymarferol yn y cwrs gradd tair blynedd drwy wneud gwaith ymarferol mewn diwydiant yn ystod y tymor neu adeg gwyliau yn ystod y cwrs.
Nod y cwrs yw bod astudio a phrofiad ymarferol yn rhoi'r gobaith gorau o gyflogadwyedd ar ddiwedd y cwrs gradd. O'r herwydd, cewch gyfle i raddio gyda sylfaen eang o wybodaeth farchnata ffasiwn a'r potensial i fod yn arbenigwr ar ddefnydd strategol o farchnata, marchnata digidol, cyfathrebu marchnata integredig, brandio a marchnata byd-eang. At hynny, byddwch wedi cael profiad 'byd go iawn' a'r cyfle i gymryd rhan yn ein cymuned ddysgu CIM.
Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais
Dylai fod gan ymgeiswyr bum gradd TGAU gan gynnwys Iaith Saesneg, Mathemateg neu Fathemateg - Rhifedd gradd C/4 neu'n uwch ynghyd â 112 pwyntiau o 2 Safon Uwch o leiaf (neu gyfwerth).
Gall cynigion nodweddiadol gynnwys:
- 112 pwynt o ddwy Safon Uwch o leiaf i gynnwys graddau CC; Bagloriaeth Cymru - Tystysgrif Her Sgiliau Uwch yn cael ei hystyried fel y trydydd pwnc
- Diploma Estynedig Cenedlaethol RQF BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt DMM
- 112 pwynt o ‘Advanced Highers’ yr Alban i gynnwys graddau DD
- 112 pwynt o'r ‘Irish Leaving Certifiicate’ Lefel Uwch i gynnwys 2 radd H2. Dim ond gydag isafswm gradd H4 y caiff pynciau Lefel Uwch eu hystyried
- 112 pwynt o'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch
Os na fyddwch yn cwrdd â'r gofynion mynediad uchod, mae'r Rhaglen Sylfaen ar gael. Bydd yn caniatáu i chi symud ymlaen i'r radd hon ar ôl ei chwblhau.
Os ydych chi'n astudio cyfuniadau o'r uchod neu os nad yw'ch cymhwyster wedi'i restru, cysylltwch â Derbyniadau neu ewch i dudalen Chwilio am Gwrs UCAS i gael y gofynion mynediad. Amwybodaeth bellach am ein gofynion mynediad, gellir cynnwys cymwysterau o'r UE trwy glicio yma.
Mae ymgeiswyr nad oes ganddynt gymhwyster mynediad arferol yn cael eu cyfweld a'u hystyried yn unigol ar sail eu cefndir dysgu blaenorol neu waith.
Ymgeiswyr Rhyngwladol
Bydd angen i fyfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddarparu tystiolaeth o ruglder i safon IELTS 6.0 neu gyfwerth o leiaf. I gael manylion llawn am sut i wneud cais am gymwysterau Iaith Saesneg ewch i’r tudalennau Rhyngwladol ar y wefan.
Y Broses Ddethol:
Mae'r dewis fel arfer ar sail cais UCAS wedi'i gwblhau a chyfweliad lle bo hynny'n berthnasol.
Sut i Wneud Cais:
Dylid gwneud ceisiadau ar gyfer y cwrs hwn ar-lein i UCAS yn www.ucas.com. I gael rhagor o wybodaeth ewch i'n tudalennau Sut i Wneud Cais.
Cydnabod Dysgu Blaenorol (RPL) a Throsglwyddo Credydau i flwyddyn 2 a 3
Os oes gennych ddiddordeb mewn trosglwyddo credyd o sefydliad arall i astudio yn Met Caerdydd ar gyfer cwrs sy'n derbyn mynediad ar gyfer blwyddyn 2 a/neu 3, gallwch ddod o hyd i wybodaeth bellach am hyn a gwybodaeth ar sut i wneud cais ar y dudalen RPL. Cysylltwch â Derbyniadau gydag unrhyw ymholiadau sydd gennych am RPL.
Myfyrwyr hŷn
Mae unrhyw un dros 21 oed nad aeth i'r brifysgol ar ôl ysgol neu goleg yn ymgeisydd hŷn. Mae Met Caerdydd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn ac mae rhagor o gyngor a gwybodaeth ar gael yma.
Cysylltu â Ni