Skip to main content
Ysgol Reoli Caerdydd>Cyrsiau>Rheoli Marchnata – BA (Anrh)

Rheoli Marchnata – BA (Anrh)

Blwyddyn Mynediad

Datblygwyd y BA (Anrh) Rheoli Marchnata ym Met Caerdydd ar y cyd â meysydd llafur y Sefydliad Marchnata Siartredig (CIM). Mae gan y cwrs enw da am ei bwyslais galwedigaethol - bydd dod yn 'Farchnatwr Met' yn eich galluogi i gael y wybodaeth academaidd a'r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i gael gwaith yn y diwydiant marchnata.

Mae'r Sefydliad Rheoli Siartredig (CIM) yn disgrifio marchnata fel y broses reoli sy'n gyfrifol am adnabod, rhagweld a bodloni gofynion cwsmeriaid yn broffidiol. Mae marchnata'n swyddogaeth fusnes hanfodol ac efallai mai dyma'r elfen bwysicaf wrth bennu proffidioldeb busnes.

Ar ôl graddio bydd gennych sylfaen eang o wybodaeth am farchnata a rheoli, ac yn ôl marchnatwyr dyma fydd y galluoedd gwybodaeth pwysicaf ymhen pum mlynedd: Marchnata Digidol, Brandio, Cyfathrebu Marchnata, Marchnata Byd-eang a Rhyngwladol, Cysylltiadau Cyhoeddus ac Enw Da Corfforaethol a gallu siarad Ffrangeg, Sbaeneg neu Tsieinëeg Mandarin. Hefyd, bydd gennych y galluoedd personol y mae uwch reolwyr yn eu disgwyl gan farchnatwr proffesiynol: creadigol, yn fasnachol graff, yn ysbrydoledig ac heb fod ofn risg.  

Dyfarnwyd statws 'Porth Graddedigion' CIM i'n gradd BA (Anrh) Rheoli Marchnata – mae'r achrediad hwn yn rhoi cyfle i'n myfyrwyr gael eu heithrio o'r cymwysterau CIM Tystysgrif mewn Marchnata Proffesiynol a Diploma mewn Marchnata Proffesiynol. Yn ogystal â hyn, byddwch yn gallu cymryd rhan yng nghymdeithas myfyrwyr y Sefydliad Marchnata Siartredig (CIM) a dilyn yn ôl traed ein myfyrwyr llwyddiannus drwy gymryd rhan yn y gweithgareddau entrepreneuraidd . gweithgareddau entrepreneuraidd a chreadigol y CIM. Bydd y gystadleuaeth yn eich galluogi i gael blas ar sut beth yw gweithio i asiantaeth farchnata drwy weithio ar ymgyrch ar gyfer brand adnabyddus yn y diwydiant, gyda'r 12 sy'n cyrraedd y brig yn cael eu gwahodd i gyflwyno eu syniadau i'r cleient wyneb yn wyneb.

Mae gan y Darlithwyr wybodaeth academaidd a phrofiadau diwydiant i addysgu'r sgiliau sydd eu hangen arnoch ar gyfer y gweithle ar ôl graddio. Byddwch yn cyflawni lleoliad gwaith gorfodol yn yr ail flwyddyn oherwydd ystyrir hyn yn ofyniad hanfodol ar gyfer pob myfyriwr marchnata. I'r rhai sy'n dymuno, mae cyfle ychwanegol i wneud gradd ryngosod lle gellid treulio'r drydedd flwyddyn yn gwneud lleoliad priodol yn y diwydiant marchnata. Mae gan Ysgol Reoli Caerdydd dîm lleoliadau gwaith pwrpasol i'ch helpu.

Bydd y rhaglen hon yn ddarostyngedig ar adolygiad cyfnodol yn 2023/4 i sicrhau bod cynnwys y cwrs yn gyfredol ac yn parhau i fod. Os bydd unrhyw newidiadau i gynnwys y cwrs yn cael eu gwneud o ganlyniad i'r adolygiad, bydd pob ymgeisydd yn cael gwybod unwaith y bydd newidiadau'n cael eu cadarnhau.

Mae 100% o raddedigion mewn gwaith neu astudiaethau pellach o fewn 15 mis ar ôl graddio (Arolwg Hynt Graddedigion ​2023)


Blwyddyn Sylfaen

​Gellir astudio’r radd hon fel gradd amser llawn tair blynedd neu radd pedair blynedd sy’n cynnwys blwyddyn o astudio sylfaenol. Bwriad ein blwyddyn sylfaen yw eich paratoi ar gyfer eich blynyddoedd dilynol o astudio, gan gynnig cyfle i chi gryfhau eich sgiliau, eich gwybodaeth a’ch hyder.

Bydd y flwyddyn sylfaen yn berthnasol i:

  1. Myfyrwyr nad ydynt wedi cael y nifer gofynnol o bwyntiau Safon Uwch (neu gyfwerth) i ddechrau ar flwyddyn gyntaf y rhaglen radd.
  2. Myfyrwyr hŷn sydd wedi bod allan o’r system addysg ffurfiol ers peth amser.


Darganfyddwch fwy am y flwyddyn sylfaen.

Nodwch: Bydd angen i chi wneud cais gan ddefnyddio cod UCAS penodol os ydych yn dymuno ymgymryd â’r 4 blynedd gan gynnwys sylfaen. Cyfeiriwch at Wybodaeth Gwrs Allweddol ar waelod y dudalen hon.

​Cynnwys y Cwrs

Gradd:

Mae'r cwrs yn integreiddio profiad 'byd go iawn' yn ein harferion addysgu er mwyn galluogi dealltwriaeth glir o'r broses rheoli marchnata. Mae aseiniadau'n seiliedig ar darddiad lleol ac mae darlithwyr gwadd hefyd o blith ymarferwyr o gwmnïau fel Cymdeithas Adeiladu'r Principality, Admiral Insurance, Confused.com, Lloyds Bank a Johnson and Johnson.

Byddwch yn cael cyfle hefyd i astudio iaith fel gweithgaredd allgyrsiol ac i astudio dramor am semester i ehangu eich profiad a'ch sgiliau; pob un yn fantais o ran sicrhau llwyddiant mewn Rheoli Marchnata.


Blwyddyn Un

Mae myfyrwyr yn dilyn 100 credyd o fodiwlau craidd a bydd yn rhaid iddynt ddewis 20 credyd o fodiwlau dewisol.

  • Cyflwyniad i Farchnata (20)
  • Cyfryngau Digidol i Farchnatwyr (20)
  • Sylfeini Cyllid i Reolwyr (20)
  • Pobl a Sefydliadau (20)
  • Y Gyfraith a’r Byd Busnes (20)

Dewis o blith:

  • Brandio a Chysyniadau Cysylltiadau Cyhoeddus (20)
  • Technegau Hysbysebu a Gwerthu (20)

Blwyddyn Dau

Mae myfyrwyr yn dilyn 100 credyd o fodiwlau craidd a bydd yn rhaid iddynt ddewis 20 credyd o fodiwlau dewisol.

  • Ymddygiad Defnyddwyr (20)
  • Cyfathrebu Marchnata Creadigol (20)
  • Rheoli Perfformiad Marchnata a'r Gyfraith (20)
  • Dulliau Ymchwil Marchnata (20)
  • Marchnata ar Waith gan gynnwys Lleoliad Gwaith (20)

Dewis opsiwn 20 credyd o blith*:

  • Marchnata Chwilio: Cynnwys, SEO + PPC (20)
  • Marchnata Symudol a Chyfryngau Cymdeithasol (20)
  • Marchnata Chwaraeon, Digwyddiadau a Nawdd (20)

Ym mlwyddyn dau yno cewch eich cynorthwyo i ddod o hyd i leoliad gwaith perthnasol a defnyddiol. Mae'r lleoliad gwaith yn cynnig y profiad o roi'r theori ar waith a gweld sut mae'r theori'n cael ei defnyddio mewn sefydliad, yn uniongyrchol. Mae hyn wedi cael derbyniad da iawn gan gyflogwyr a bydd yn rhoi mantais i chi wrth wneud cais am swyddi ar ôl graddio.

Blwyddyn mewn Diwydiant:
Mae'r opsiwn o dreulio blwyddyn mewn diwydiant rhwng yr 2il flwyddyn a'r flwyddyn olaf wedi'i gynnwys i'ch galluogi i gwblhau'r radd gyda lefel o brofiad ymarferol. Gellir ymgorffori'r opsiwn hwn o brofiad ymarferol yn y cwrs gradd tair blynedd drwy wneud gwaith ymarferol mewn diwydiant yn ystod y tymor neu adeg gwyliau yn ystod y cwrs.


Blwyddyn Tri/ Blwyddyn Pedwar

Blwyddyn tri i fyfyrwyr nad ydynt yn dewis yr opsiwn blwyddyn o brofiad, neu Flwyddyn Pedwar i'r myfyrwyr hynny sy'n dewis yr opsiwn profiad ymarferol.

Mae myfyrwyr yn dilyn 60 credyd o fodiwlau craidd ac yna'n dewis 60 credyd o fodiwlau dewisol.

Modiwlau craidd:

  • Marchnata Rhyngwladol a Byd-eang (20)
  • Materion Cyfoes ym maes Marchnata (20)
  • Rheoli Cyfrifon ar gyfer Marchnatwyr (20)

Modiwlau dewisol*:

  • Traethawd hir(40)
  • Cynllun Marchnata (40)
  • Lansio Menter (40)
  • Rheoli Hysbysebu Strategol (20)
  • Rheoli Hysbysebu Strategol (20)
  • Rheoli Cysylltiadau Cyhoeddus Strategol (20)
  • Rheoli Gwerthu Strategol (20)
  • Digwyddiadau Chwaraeon Byd-eang (20)
  • Arloesi ac Entrepreneuriaeth (20)
  • Profiad Gwaith mewn Diwydiant (20)

*Sylwer bod modiwlau dewisol yn cael eu cyflwyno yn dibynnu ar y galw ac argaeledd

Bydd blwyddyn tri/pedwar yn rhoi dewis i chi ymchwilio, ysgrifennu a chyflwyno Cynllun Marchnata hefyd. Mae ein myfyrwyr wedi gweld hyn yn ddefnyddiol iawn, gan ddefnyddio eu sgiliau a'u gwybodaeth i fynd i'r afael â gofynion sefydliadau. Byddwch yn gweithio gyda sefydliadau i fynd i'r afael â materion marchnata penodol ac ennill lefel uchel o brofiad, yn ogystal â ffurfio perthynas waith dda gyda'r sefydliadau. Bydd hyn o fudd mawr i'ch gyrfa.


Dysgu ac Addysgu

Bydd y dull dysgu ac addysgu sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr yn cael ei annog drwy ddefnyddio strategaethau addysgu penodol; astudiaethau achos; prosiectau; tiwtorialau; ymarferion ymarferol, a ategir gan y defnydd o ddeunyddiau cymorth priodol; darlithoedd gan arbenigwyr busnes; fideos; meddalwedd gyfrifiadurol. Mae ymgysylltu'n weithredol â'r deunydd pwnc yn gwella dysgu ac mae llawer o'r strategaethau dysgu a ddefnyddir yn ceisio hyrwyddo hyn.

Darlithoedd
Mae darlithoedd yn rhan bwysig o'r strategaeth addysgu ar gyfer y rhaglen. Mae darlithoedd yn ffordd effeithiol o gyflwyno deunydd craidd a sefydlu fframwaith ar gyfer modiwl y gellir gosod deunydd arall yn ei erbyn.


Tiwtorialau Pwnc Modiwlaidd
Cyfarfodydd rhwng myfyriwr neu grŵp o fyfyrwyr a darlithydd neu ddarlithwyr yw tiwtorialau ac fe'u defnyddir mewn dwy ffordd yn y rhaglen:

  • Ehangu ar ddeunydd a drafodir mewn darlithoedd drwy ddull datrys problemau a gaiff ei lywio gan ymholi
  • Gwaith adfer i oresgyn unrhyw ddiffygion yng ngwybodaeth gefndir myfyriwr.

Seminarau
Mewn seminarau mae myfyriwr neu fyfyrwyr yn cyflwyno gwaith y maent wedi'i baratoi o flaen llaw i gyfoedion a darlithydd. Defnyddir y strategaeth hon i ymestyn cysyniadau damcaniaethol neu ymarferol penodol yn ogystal â chyflwyno ymarferion datrys problemau. Defnyddir seminarau yn y rhan fwyaf o fodiwlau ac maent yn rhoi profiad gwerthfawr i fyfyrwyr o sgiliau cyflwyno yn ogystal â rhoi dull i staff asesu dysgu sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr.


Gweithdai Ymarferol
Defnyddir gweithdai ymarferol yn helaeth mewn nifer o fodiwlau drwy gydol y rhaglen. Yn y dosbarthiadau hyn gall myfyrwyr ymarfer a mireinio eu sgiliau mewn amgylchedd cefnogol lle gallant gael adborth gan aelod o'r staff academaidd. Mae gweithdai ymarferol yn ddull gwerthfawr o bontio rhwng theori ac ymarfer.


Astudiaethau Achos
Strategaeth addysgu a dysgu yw astudiaethau achos, a ddefnyddir mewn amrywiaeth o fodiwlau; maent yn offeryn asesu defnyddiol hefyd. Cyflwynir problemau cymhleth go iawn neu ffug i fyfyrwyr neu gofynnir iddynt ddatblygu rhai eu hunain ac yna mae gofyn iddynt eu dadansoddi'n fanwl ac yna cyfosod/cyflwyno eu datrysiad eu hunain yn ysgrifenedig neu ar lafar.


Arbenigwyr Busnes
Elfen allweddol o'r profiad dysgu yw'r bwriad i wahodd arbenigwyr busnes, academaidd ac mewn ymarfer, i roi cipolwg ar eu gwaith ymchwil neu weithgarwch busnes. Bydd rhwydwaith o arbenigwyr o'r fath yn helpu i ddarparu gwybodaeth arbenigol yn ogystal ag atgyfnerthu a hyrwyddo cymwysterau'r rhaglen. Gellid gwahodd arbenigwyr o'r fath fel siaradwyr gwadd neu ofyn iddynt ddarparu profiad gweithdy mwy rhyngweithiol lle bo'n briodol.

Bydd pob myfyriwr yn elwa o'r tîm o diwtoriaid personol ymroddedig sy'n darparu pwynt cyswllt personol a rheolaidd. Mae'r Tiwtoriaid Personol yn gweithio'n agos gyda Chyfarwyddwyr y Rhaglen a Thiwtoriaid Blwyddyn i sicrhau bod anghenion myfyrwyr yn cael eu diwallu'n effeithiol a bod eu hamser ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yn brofiad dymunol a llwyddiannus.

Yn ogystal â'r Tiwtoriaid Personol, darperir y cymorth a'r arweiniad academaidd penodol ar gyfer y cwrs unigol gan Gyfarwyddwr y Rhaglen a'r Tiwtor Blwyddyn perthnasol. Mae hyn yn arbennig o bwysig o ran y dewis o opsiynau sydd ar gael ym mlwyddyn dau a thri a dewis llwybrau.


Asesu

Cewch eich asesu'n barhaus drwy gydol y cwrs ar sail gwaith cwrs, cyflwyniadau ac arholiadau. Bydd asesiadau ar ffurf arholiadau (a welir/nas gwelir, llyfr agored, traethodau/atebion byr), traethodau, asesiad ymarferol, cyflwyniadau, adroddiadau unigol a grŵp, a thraethawd hir, gyda llawer ohonynt yn canolbwyntio ar astudiaethau achos bywyd go iawn.


Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

Yn ystod y cwrs byddwch yn datblygu'r sgiliau a'r ddealltwriaeth allweddol sydd eu hangen ar gyfer busnes gydag arbenigedd mewn rheoli marchnata sy'n ganolog i bob swyddogaeth fusnes. Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus bydd y sgiliau gennych i gael swydd ym maes rheoli marchnata, gan roi eich sgiliau ar waith mewn swyddi hysbysebu, ymchwil marchnata, rheoli gwerthu, rheoli cynnyrch, gwasanaeth cwsmeriaid, cysylltiadau cyhoeddus a rheoli busnes.

Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio ar y cyd â'r Sefydliad Marchnata Siartredig (CIM), er mwyn rhoi cyfle i chi gael eich eithrio o Dystysgrif mewn Marchnata Proffesiynol a Diploma mewn Marchnata Proffesiynol y CIM. Byddwch hefyd yn gallu ymuno â'n grŵp myfyrwyr CIM sy'n annog pob myfyriwr i gymryd rhan yn ein cymuned dysgu marchnata drwy drefnu siaradwyr gwadd a rheoli digwyddiadau sy'n canolbwyntio ar farchnata. Bydd cynnwys siaradwyr deinamig a digwyddiadau rhwydweithio defnyddiol yn gwella eich profiad dysgu. Yn olaf, byddwch yn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau entrepreneuraidd fel cystadlu yn y CIM Pitch/Brolio.​

Mae'r opsiwn o gynnwys blwyddyn o brofiad mewn diwydiant ym mlwyddyn tri wedi'i gynnwys i'ch galluogi i gwblhau'r radd gyda lefel o brofiad ymarferol. Gellir ymgorffori'r opsiwn hwn o brofiad ymarferol yn y cwrs gradd tair blynedd drwy wneud gwaith ymarferol mewn diwydiant yn ystod y tymor neu adeg gwyliau yn ystod y cwrs.

Nod y cwrs yw bod astudio a phrofiad ymarferol yn rhoi'r gobaith gorau o gyflogadwyedd ar ddiwedd y cwrs gradd. O'r herwydd, cewch gyfle i raddio gyda sylfaen eang o wybodaeth farchnata a'r potensial i fod yn arbenigwr ar ddefnydd strategol o farchnata, marchnata digidol, cyfathrebu marchnata integredig, brandio a marchnata byd-eang. At hynny, byddwch wedi cael profiad o'r 'byd go iawn', cyfle i gymryd rhan yn ein cymuned ddysgu CIM ac yn gallu siarad iaith arall. Dylai myfyrwyr Marchnata Met Caerdydd fod yn eithriadol oherwydd eu gallu i gymhwyso gwybodaeth ddamcaniaethol mewn amgylchedd ymarferol.


Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais

Cynigion Nodweddiadol

​Mae’r gofynion canlynol yn seiliedig ar gynigion nodweddiadol sy’n berthnasol i ddechrau ar flwyddyn 1 y radd.

Os nad ydych yn bodloni’r gofyniad mynediad uchod, rydym hefyd yn cynnig Flwyddyn Sylfaen sy’n caniatáu gwneud cynnydd i Flwyddyn 1.​

  • Pwyntiau tariff: 112
  • Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen cynigion cyd-destunol.
  • TGAU: Pum TGAU ar Radd C / 4 neu uwch, gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg / Mathemateg – Rhifedd.
  • Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS Academaidd 6.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob elfen, neu gyfwerth.
  • Pynciau Safon Uwch: O leiaf tair Safon Uwch i gynnwys Graddau CCC. Does dim angen pynciau penodol. Bagloriaeth Cymru – Ystyrir Tystysgrif Her Sgiliau Uwch fel trydydd pwnc.
  • Diploma Cenedlaethol BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: DMM
  • Lefel T: Teilyngdod.
  • Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Does dim angen pynciau penodol.
  • Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (IB): 2 x H5. Does dim angen pynciau penodol.
  • Tystysgrif Gadael Iwerddon: 2 x gradd H2. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir pynciau lefel uwch yn unig gydag isafswm gradd H4.
  • Advanced Highers yr Alban: Graddau DD. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir Highers yr Alban hefyd, naill ai ar eu pennau eu hunain neu ar y cyd ag Advanced Highers.

Derbynnir cyfuniadau o’r cymwysterau uchod os ydyn nhw’n cwrdd â’n gofynion lleiaf. Os nad yw eich cymwysterau wedi’u rhestru, cysylltwch â Derbyniadau neu cyfeiriwch at Chwiliad Cwrs UCAS.

Mae rhagor o wybodaeth ar gymwysterau Tramor i’w gweld yma.

Os ydych yn ymgeisydd hŷn, mae gennych brofiad perthnasol neu RPL yr hoffech i ni ei ystyried, cysylltwch â Derbyniadau.


Sut i Ymgeisio

Mae rhagor o wybodaeth ar sut i ymgeisio i’w gweld yma.

Cysylltu â Ni

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol ffoniwch y Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044 neu e-bostiwch askadmissions@cardiffmet.ac.uk.

Ar gyfer ymholiadau am y cwrs benodol, cysylltwch â Dr Nicola Williams-Burnett, arweinydd y rhaglen:
E-bost: nwilliams-burnett@cardiffmet.ac.uk



Rydyn ni’n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â’r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu’r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i’r brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae’n cadw’r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o’r fath yn angenrheidiol. Darllenwch ein Telerau ac Amodau i gael y wybodaeth lawn.

Gwybodaeth Allweddol Am Y Cwrs

Codau UCAS:
​N500 - Gradd 3 blynedd
N50F - Gradd 4 blynedd (yn cynnwys flwyddyn sylfaen)

Lleoliad Astudio:
Campws Llandaf

Ysgol:
Ysgol Reoli Caerdydd

Hyd y Cwrs:
Tair blynedd yn llawn amser.
Pedair blynedd yn llawn amser os byddwch yn gwneud lleoliad diwydiant blwyddyn o hyd.
Pedair blynedd yn llawn amser os byddwch yn gwneud blwyddyn sylfaen.
Pum mlynedd yn llawn amser os byddwch yn gwneud blwyddyn sylfaen a lleoliad diwydiant blwyddyn o hyd.​

Cymeradwywyd gan
Achrediad CIM

Rhaglen Cyflogadwyedd CIM

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd wedi partneru â’r Sefydliad Marchnata Siartredig (CIM) i fapio cynnwys ein rhaglen BA (Anrh) Rheoli Marchnata yn erbyn Meini Prawf Rhaglen Cyflogadwyedd Proffesiynol unigryw – fframwaith o ymddygiadau, gwybodaeth a sgiliau sydd eu hangen ar raddedigion heddiw.


CIM yw’r corff marchnata proffesiynol mwyaf blaenllaw yn y byd a thrwy gydnabod bod ein rhaglen BA (Anrh) Rheoli Marchnata yn cyd-fynd â’r meini prawf a argymhellir gan y corff, mae’n sicrhau bod ein myfyrwyr yn y sefyllfa orau i ddatblygu eu gwybodaeth a’u gyrfa.

TROSOLWG O'R CWRS | UCHAFBWYNTIAU GRADD
Uchafbwyntiau Gradd

Mae'r Uwch Ddarlithydd Dr Kelly Young yn esbonio'r hyn sydd gan astudio Busnes drwy gyfrwng y Gymraeg yn Ysgol Reoli Caerdydd i'w gynnig.

DEWCH I GWRDD Â’R TÎM
Dewch i Gwrdd a’r Tîm: Gareth Williams

Dewch i gwrdd â Gareth Williams, Darlithydd Cyfrwng Cymraeg Busnes ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Dewch i Gwrdd a’r Tîm: Dr Kelly Young

Dewch i gwrdd â Dr Kelly Young, Darlithydd Cyfrwng Cymraeg Busnes ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.