Ma'r gradd Cyfraith Met Caerdydd LLB (Anrh) yn radd gymhwyso yn y gyfraith (QLD) sy'n cyfuno dysgu athrawiaethol â hyfforddiant sgiliau cymhwysol. Mae ein gradd QLD yn bodloni cam academaidd hyfforddiant proffesiynol i'r rheini sydd am ddod yn gyfreithwyr neu'n fargyfreithwyr. I gael mwy o wybodaeth am newidiadau diweddar a wnaed i'r hyfforddiant proffesiynol ar gyfer dod yn gyfreithwyr neu'n fargyfreithwyr, ewch i wefannau'r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr (SRA) a Bwrdd Safonau'r Bar (BSB).
Mae astudio cyfraith yn brofiad cyffrous ac ysgogol yn ddeallusol; mae'r gyfraith yn effeithio ar bob rhan o'n bywydau beunyddiol ac mae'r radd yn eich annog i ddatblygu dull chwilfrydig a beirniadol, dysgu meddwl yn rhesymol, cyfathrebu'n gryno a gallu llunio dadleuon perswadiol ac effeithiol.
Byddwch yn gallu rhoi theori gyfreithiol i ymarfer yn ein ffug ystafell llys bwrpasol a'ch cefnogi, trwy ddulliau myfyriwr-ganolog, i ddatblygu ymhellach eich sgiliau mewn cydweithredu, cyfathrebu effeithiol, ymchwil gyfreithiol a siarad cyhoeddus.
Mae cyflwyno ein gradd yn gyson â strategaeth raddedigion EDGE Caerdydd Met sy'n cynorthwyo ein myfyrwyr i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy mewn moeseg, cymhwysedd digidol, canfyddiad byd-eang ac entrepreneuriaeth.
Mae dull EDGE yn dod â dysgu cyfreithiol yn fyw trwy amgylchedd dysgu sy’n arddangos y ‘gyfraith ar waith’. Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau trosglwyddadwy mewn ystod o weithgareddau ‘arbrofol’ y labordy cyfraith gan gynnwys cyfweld â chleientiaid, drafftio llythyrau, ffug dreialon, trafod, cyfryngu, atal a datrys anghydfodau, hyfforddiant technoleg gwybodaeth, interniaethau digidol ac ymarferion cydweithredu tîm.
Ein nod yw cael ein myfyrwyr i feddwl ac ymddwyn fel cyfreithwyr a'u paratoi i weithio'n effeithlon ac yn arloesol mewn amrywiaeth o yrfaoedd. Mae'r dull hwn o ddysgu ac addysgu yn paratoi ein graddedigion ar gyfer yr amgylchedd gwaith cyfoes sy'n cael ei yrru'n bennaf gan dechnoleg, globaleiddio, ymwybyddiaeth fasnachol, cynaliadwyedd, ymgysylltu cymdeithasol a chyfrifoldeb moesegol.
Cynnwys y Cwrs
Mae'r radd LLB (Anrh) yn y Gyfraith yn cynnig yr holl fodiwlau sylfaen gwybodaeth gyfreithiol sydd eu hangen ar gyfer gradd gymhwyso yn y gyfraith (QLD) yn ogystal â chasgliad o fodiwlau dewisol mewn meysydd cyfoes o'r gyfraith.
Blwyddyn 1:
Modiwlau Craidd:
-
System Gyfreithiol Lloegr a Sgiliau Cyfreithiol
- Cyfraith Gyfansoddiadol
- Cyfraith Cytundeb
- Cyfraith Droseddol
- Cyfraith Weinyddol a Hawliau Dynol
- Ymarfer Cyfreithiol a Rheoli Cleientiaid
Blwyddyn 2:
Modiwlau Craidd:
- Cyfraith Camweddau
- Sgiliau Cymhwysol mewn Eiriolaeth
- Cyfraith Tir
- Y Gyfraith ar Waith ac Arloesi Digidol (Clinig Cyfreithiol a Lleoli Gwaith Digidol)
Modiwlau Dewisol*:
- Cyfraith Amgylcheddol a Rheoliad Newid Hinsawdd
- Cyfraith Seiber a Diogelu Data
- Cyfraith Masnachol a Diogelu Defnyddwyr
- Cyfraith Chwaraeon
- Cyfraith Tystiolaeth
Blwyddyn 3:
Modiwlau Craidd:
- Ecwiti ac Ymddiriedolaethau
- Cyfraith Ewropeaidd
- Cyflogadwyedd Cyfreithiol (Modiwl Lleoliad Gwaith)
Modiwlau Dewisol*:
- Ymchwil, Menter ac Arloesi Cyfreithiol (Prosiect Traethawd Hir Annibynnol a Menter)
- Cyfraith Eiddo Deallusol
- Cyfraith Iechyd a Lles
- Cyfraith Ynni Ryngwladol
- Busnes, Menter a Chyfraith Cwmnïau
- Cyfraith Teulu
- Newid Arweinyddiaeth
*Sylwer bod modiwlau dewisol yn cael eu cyflwyno yn dibynnu ar y galw ac argaeledd
Dysgu ac Addysgu
Rydym yn cyflwyno dysgu ac addysgu trwy hunan-ddysgu dan arweiniad, darlithoedd esboniadol a seminarau. Mae strwythur y cwrs a'r strategaethau addysgu wedi'u cynllunio i gefnogi dysgu annibynnol. Anogir ymagwedd myfyriwr-ganolog trwy ddysgu trwy brofiad a ddefnyddir trwy ymarferion chwarae rôl, ymryson, eiriolaeth a thrafod, a ategir gan ddefnydd o fideos, meddalwedd cyfrifiadurol ac adnoddau llyfrgell priodol.Mae oriau cyswllt y semester yn cynnwys 48 awr o ddysgu ac addysgu ar yr amserlen fesul modiwl a 152 awr o ddysgu annibynnol dan arweiniad.
Tiwtoriaid Personol
Mae'r holl fyfyrwyr sy'n astudio yn Ysgol Reoli Caerdydd yn elwa ar y tîm o diwtoriaid ymroddedig sy'n darparu pwynt cyswllt personol a rheolaidd i fyfyrwyr. Maent yn rhoi myfyrwyr ar ben ffordd gyda materion megis cyllid, lles, datblygu gyrfa yn ogystal â helpu gyda chynllunio patrymau astudio effeithiol, paratoi ar gyfer arholiadau ac amrywiaeth o faterion pwysig eraill lle bo angen. Mae'r Tiwtoriaid Personol yn gweithio'n agos gyda Chyfarwyddwr y Rhaglen a Thiwtoriaid Blwyddyn i sicrhau bod anghenion y myfyrwyr yn cael eu diwallu'n effeithiol a bod eu hamser ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yn brofiad dymunol a llwyddiannus.
Mae'r rhaglen yn cynnig cymorth cyffredinol pellach i'r myfyrwyr drwy'r canlynol:
- Rhaglen sefydlu ar gyfer myfyrwyr lefel 4, lefel 5 a lefel 6
- Llawlyfr myfyrwyr, llawlyfr rhaglen a llawlyfrau modiwlau unigol
-
Defnydd o’r Llys-Ffug aml-swyddogethol
- Amgylchedd Dysgu Rhithwir Moodle
- Llyfrgell a phecynnau sgiliau astudio
- Llyfrgell (ar y campws a mynediad o bell), sgiliau astudio ac adnoddau dysgu ar ddau gampws Prifysgol Metropolitan Caerdydd.
- Cyfleusterau cyfrifiadura arbenigol gan gynnwys labordai rhyngweithiol ac aml-gyfrwng
- Cyfleuster TG mynediad agored 24 awr ar gampysau Cyncoed a Llandaf
- Mynediad i gronfeydd data arbenigol gan gynnwys Lexis a Westlw Edge UK
- Mynediad at wasanaethau myfyrwyr gan gynnwys y rhai a gynigir gan y gwasanaethau gyrfaoedd, lles, anabledd, cwnsela, caplaniaeth a'r ganolfan feddygol.
Mae'r Brifysgol yn gweithredu rhaglen symudedd allanol ac mae cyllid ar gael i annog ymweliadau diwylliannol â gwledydd eraill i gefnogi mandad EDGE dinasyddiaeth fyd-eang.
Cwrdd â Thîm y Rhaglen:
Dr Hephzibah Egede-Cyfarwyddwr Rhaglen
Angela Joseph-Cadeirydd Maes, Y Gyfraith
Dr Richard Lang-Uwch Ddarlithydd
Kallie Noble-Uwch Ddarlithydd
Dr Mani Nartey-Darlithydd
Dr Dimitri Xenos- Darlithydd
Felix Oweka- Darlithydd
Mae ein tîm addysgu yn addysgu ac yn ymchwilio mewn ystod o ddisgyblaethau’r gyfraith. Maent yn cynnal polisi drws agored ac yn cynnig cefnogaeth ac adborth cyson i fyfyrwyr
Asesu
Mae'r strategaeth asesu'n cynnwys sbectrwm eang o ddulliau. Mae gan bob modiwl ei nodau, ei amcanion, ei ddeilliannau dysgu a'i ddulliau cyflwyno ac asesu ei hun. Felly, gall asesiadau fod ar ffurf papurau/traethodau/adroddiadau ysgrifenedig, cyflwyniadau llafar, prosiectau ymchwil grŵp ac unigol, ac astudiaethau achos a asesir yn ogystal ag arholiadau ffurfiol llyfrau agored/caeedig.
Cynigir paratoad a chefnogaeth ar gyfer pob asesiad trwy weithgareddau ffurfiannol amrywiol a gynlluniwyd gan arweinwyr modiwl, tiwtoriaid personol a staff y llyfrgell. Mae adborth ffurfiannol a chrynodol yn adeiladol. Rhoddir adborth i fyfyrwyr er mwyn hwyluso ymgysylltiad myfyriol â’u gwaith ac i gynorthwyo perfformiad gwell mewn asesiadau myfyrwyr.
Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd
Mae’r radd hon yn ddelfrydol os oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn gyfreithiwr neu’n fargyfreithiwr. Mae'n datblygu cymwyseddau a sgiliau trosglwyddadwy hefyd sy’n addas ar gyfer y rhai sydd eisiau dilyn gyrfaoedd amrywiol mewn meysydd polisi megis sefydliadau rhyngwladol, adrannau’r llywodraeth, y sector elusennol a byd busnes.
Rydym yn cynnal cysylltiadau â’r diwydiant cyfreithiol ac wedi cynnwys sgyrsiau ac ymgysylltu ag ymarferwyr i wella profiad y myfyriwr. Mae arweinwyr diwydiant gan gynnwys Shoosmith LLP a Radcliffe Chambers wedi cyflwyno'r sesiynau dosbarth meistr hyn. Mae’r rhaglen hefyd yn cefnogi gweithgareddau myfyrwyr trwy Gymdeithas y Gyfraith myfyrwyr sy’n darparu amgylchedd galluogi lle gall myfyrwyr ymgymryd â gweithgareddau allgyrsiol a datblygu sgiliau gwaith trosglwyddadwy fel cyfweld cleientiaid, siarad cyhoeddus, pendantrwydd, rhwydweithio a gweithio mewn tîm.
Mae tîm gyrfaoedd a chyflogadwyedd ymroddedig yn Gwasanaethau Myfyrwyr yn cefnogi ein myfyrwyr ymhellach i ddod o hyd i leoliadau gwaith, interniaethau neu swyddi. Maent yn cynnig gwybodaeth, cyngor ac adnoddau ar gyfer ceisiadau am swyddi neu astudio.
Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais
Cynigion Nodweddiadol
-
Pwyntiau tariff: 112-120
-
Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen
cynigion cyd-destunol.
-
TGAU: Pum TGAU ar Radd C / 4 neu uwch, gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg / Mathemateg – Rhifedd.
-
Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS Academaidd 6.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob elfen, neu gyfwerth.
-
Pynciau Safon Uwch: O leiaf tair Safon Uwch i gynnwys Graddau CCC. Does dim angen pynciau penodol. Bagloriaeth Cymru – Ystyrir Tystysgrif Her Sgiliau Uwch fel trydydd pwnc.
-
Diploma Cenedlaethol BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: DMM
-
Lefel T: Teilyngdod.
-
Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Does dim angen pynciau penodol.
-
Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (IB): 2 x H5. Does dim angen pynciau penodol.
-
Tystysgrif Gadael Iwerddon: 2 x gradd H2. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir pynciau lefel uwch yn unig gydag isafswm gradd H4.
-
Advanced Highers yr Alban: Graddau DD. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir Highers yr Alban hefyd, naill ai ar eu pennau eu hunain neu ar y cyd ag Advanced Highers.
Os nad ydych yn bodloni’r gofyniad mynediad uchod, rydym hefyd yn cynnig
Rhaglen Sylfaen sy’n caniatáu gwneud cynnydd i Flwyddyn 1.
Derbynnir cyfuniadau o’r cymwysterau uchod os ydyn nhw’n cwrdd â’n gofynion lleiaf. Os nad yw eich cymwysterau wedi’u rhestru, cysylltwch â
Derbyniadau neu cyfeiriwch at
Chwiliad Cwrs UCAS.
Mae rhagor o wybodaeth ar gymwysterau Tramor i’w gweld
yma.
Os ydych yn ymgeisydd hŷn, mae gennych brofiad perthnasol neu
RPL yr hoffech i ni ei ystyried, cysylltwch â Derbyniadau.
Sut i Ymgeisio
Mae rhagor o wybodaeth ar sut i ymgeisio i’w gweld
yma.
Cysylltu â Ni