Mae’r radd BA (Anrh) Prynu Ffasiwn a Rheoli Brand ym Met Caerdydd ar gyfer myfyrwyr sydd eisiau datblygu gyrfa ym meysydd prynu, rhagweld tueddiadau, masnacheiddio a rheoli brand y diwydiant ffasiwn deinamig. Mae’r radd yn cyfuno arbenigeddau Ysgol Reoli Caerdydd, gydag elfennau creadigol rhaglen ffasiwn.
Amcan y radd yw galluogi myfyrwyr i ddatblygu’r sgiliau a’r gallu i feddwl yn greadigol ac yn strategol – gan ganolbwyntio ar feysydd pwnc hanfodol fel ymchwil i’r farchnad, rhagweld tueddiadau, datblygu cynnyrch, cyrchu dillad, cyllid, rheoli cyfrifon, datblygu brand a rheoli’r gadwyn gyflenwi. Mae ffocws cryf hefyd ar arloesi a materion sy’n wynebu’r diwydiant ffasiwn byd-eang yn y dyfodol.
Mae’r cwrs hwn yn cynnig pwyslais ar reoli brandiau’n broffesiynol ar bob lefel, yn cynnwys ffasiwn rhad, labeli annibynnol, brandiau cynaliadwy, brandiau moethus rhyngwladol, ynghyd â chreu brandiau mewn marchnad ffasiwn fyd-eang. Mae creadigrwydd yn briodoledd gwerthfawr iawn yn y diwydiant ffasiwn a chaiff aseiniadau eu cynllunio i ddatblygu syniadau, annog cymryd risgiau a chefnogi’r gwaith o greu deunyddiau brandio a chynlluniau casgliadau cofiadwy.
Mae cael brand cryf yn amhrisiadwy yn y farchnad ffasiwn fodern gan ei fod yn llywio dealltwriaeth cwsmeriaid o’r busnes ac yn cynnig pwynt o ddilysrwydd a phersonoliaeth. Bydd ffocws allweddol ar ddatblygu sgiliau cyfathrebu, cyflwyno a datrys problemau ynghyd â sgiliau rheoli creadigol.
Cynnwys y Cwrs
Blwyddyn Sylfaen (Blwyddyn 0)
Mae’r cwrs hwn yn elwa ar allu cynnig mynediad i’r flwyddyn sylfaen Busnes a Rheoli, a fwriedir ar gyfer myfyrwyr sydd eisiau cofrestru ar radd anrhydedd tair blynedd yn yr Ysgol Reoli, sy’n perthyn i un o’r categorïau canlynol:
1. Myfyrwyr nad ydynt wedi cael y nifer gofynnol o bwyntiau Safon Uwch (neu gyfwerth) i ddechrau ar flwyddyn gyntaf y rhaglen radd.
2. Myfyrwyr hŷn sydd wedi bod allan o’r system addysg ffurfiol ers peth amser.
Gellir gweld rhagor o wybodaeth am y Flwyddyn Sylfaen drwy
glicio yma.
Gradd
Mae’r cwrs yn integreiddio profiad ’byd go iawn’ yn ein harferion addysgu er mwyn galluogi dealltwriaeth glir o’r broses Prynu Ffasiwn a Rheoli Brand. Mae aseiniadau’n seiliedig ar enghreifftiau o’r diwydiant ac mae darlithwyr gwadd o blith ymarferwyr o gwmnïau hefyd.
Byddwch yn cael cyfle hefyd i astudio iaith fel gweithgaredd allgyrsiol ac i astudio dramor am semester i ehangu eich profiad a’ch sgiliau; pob un yn fantais o ran sicrhau llwyddiant mewn gyrfa Prynu Ffasiwn neu Reoli Brand.
Blwyddyn Un
Byddwch yn cyflawni 120 credyd o fodiwlau craidd:
- Cyflwyniad i Farchnata Ffasiwn (20 credyd)
- Egwyddorion Astudiaethau Ffasiwn (30 credyd)
- Delweddu Ffasiwn (30 credyd)
- Cyfryngau Digidol i Farchnatwyr (20 credyd)
- Cyllid i Reolwyr (20 credyd)
Blwyddyn Dau
Byddwch yn cyflawni 100 credyd o fodiwlau craidd a gallwch ddewis 20 credyd o fodiwlau dewisol:
Modiwlau craidd:
- Prynu Ffasiwn a Masnacheiddio (20 credyd)
- Ymddygiad Defnyddwyr Ffasiwn (20 credyd)
- Cyfathrebu Marchnata Creadigol ar gyfer Ffasiwn (20 credyd)
- Prynu Ffasiwn Ar Waith (20 credyd)
- Dulliau Ymchwil Marchnata (20 credyd)
Modiwlau dewisol*:
- Marchnata Chwilio: Cynnwys, SEO + PPC (20 credyd)
- Dadansoddeg Digidol (20 credyd)
- Strategaethau Ffasiwn drwy Brofiadau (20 credyd)
- Marchnata Symudol a Chymdeithasol (20 credyd)
- Marchnata Chwaraeon, Digwyddiadau a Nawdd (20 credyd)
- Rheoli Perfformiad Marchnata a’r Gyfraith (20 credyd)
Ym mlwyddyn dau yno cewch eich cynorthwyo i ddod o hyd i leoliad gwaith perthnasol a defnyddiol sy’n gysylltiedig â ffasiwn. Mae’r lleoliad gwaith yn cynnig y profiad o roi’r theori ar waith a gweld sut mae’r theori’n cael ei defnyddio mewn sefydliad, yn uniongyrchol. Mae hyn wedi cael derbyniad da iawn gan gyflogwyr a bydd yn rhoi mantais i chi wrth wneud cais am swyddi ar ôl graddio.
Blwyddyn mewn Diwydiant: Mae’r opsiwn o dreulio blwyddyn mewn diwydiant rhwng yr 2il flwyddyn a’r flwyddyn olaf wedi’i gynnwys i’ch galluogi i gwblhau’r radd gyda lefel o brofiad ymarferol. Gellir ymgorffori’r opsiwn hwn o brofiad ymarferol yn y cwrs gradd tair blynedd drwy wneud gwaith ymarferol mewn diwydiant yn ystod y tymor neu adeg gwyliau yn ystod y cwrs.
Blwyddyn Tri/Blwyddyn Pedwar
Blwyddyn tri i fyfyrwyr nad ydynt yn dewis yr opsiwn blwyddyn o brofiad, neu Flwyddyn Pedwar i’r myfyrwyr hynny sy’n dewis yr opsiwn profiad ymarferol.
Mae myfyrwyr yn dilyn 60 credyd o fodiwlau craidd ac yna’n dewis 60 credyd o fodiwlau dewisol.
Modiwlau craidd:
- Rheoli Brand Ffasiwn Strategol (20 credyd)
- Cynaliadwyedd a Chyfrifoldeb mewn Ffasiwn (20 credyd)
- Rheoli Cadwyn Gyflenwi Ffasiwn Ryngwladol (20 credyd)
- Prosiect Prynu Ffasiwn a Rheoli Brand NEU Draethawd Hir Ffasiwn (40 credyd)
Modiwlau dewisol*:
- Dyfodol Ffasiwn ac Arloesi (20 credyd)
- Marchnata Ffasiwn Rhyngwladol a Byd-eang (20 credyd)
- Marchnata Cyfrifon i Farchnatwyr (20 credyd)
- Materion Cyfoes ym maes Marchnata (20 credyd)
- Cynnwys, Hawlfraint a Chreadigrwydd (20 credyd)
- Rheoli Ffasiwn Cysylltiadau Cyhoeddus ac Enw (20 credyd)
- Digwyddiadau Chwaraeon Byd-eang (20 credyd)
- Profiad Gwaith mewn Diwydiant (20 credyd)
*Sylwer bod modiwlau dewisol yn cael eu cyflwyno yn dibynnu ar y galw ac argaeledd.
Dysgu ac Addysgu
Bydd y dull dysgu ac addysgu sy’n canolbwyntio ar y myfyriwr yn cael ei annog drwy ddefnyddio strategaethau addysgu penodol, astudiaethau achos, prosiectau, tiwtorialau, ymarferion ymarferol, wedi’u hategu gan y defnydd o ddeunyddiau cymorth priodol, darlithoedd gan arbenigwyr busnes, fideos a meddalwedd gyfrifiadurol. Mae ymgysylltu’n weithredol â’r deunydd pwnc yn gwella dysgu ac mae llawer o’r strategaethau dysgu a ddefnyddir yn hyrwyddo hyn.
Darlithoedd
Mae darlithoedd yn rhan bwysig o’r strategaeth addysgu ar gyfer y rhaglen. Mae darlithoedd yn ffordd effeithiol o gyflwyno deunydd craidd a sefydlu fframwaith ar gyfer modiwl y gellir gosod deunydd arall yn ei erbyn.
Tiwtorialau Pwnc Modiwlaidd
Cyfarfodydd rhwng myfyriwr neu grŵp o fyfyrwyr a darlithydd neu ddarlithwyr yw tiwtorialau ac fe’u defnyddir mewn dwy ffordd yn y rhaglen:
- Ehangu ar ddeunydd a drafodir mewn darlithoedd drwy ddull datrys problemau a gaiff ei lywio gan ymholi
- Gwaith adfer i oresgyn unrhyw ddiffygion yng ngwybodaeth gefndir myfyriwr.
Seminarau
Mewn seminarau mae myfyriwr neu fyfyrwyr yn cyflwyno gwaith y maent wedi’i baratoi o flaen llaw i gyfoedion a darlithydd. Defnyddir y strategaeth hon i ymestyn cysyniadau damcaniaethol neu ymarferol penodol yn ogystal â chyflwyno ymarferion datrys problemau. Defnyddir seminarau yn y rhan fwyaf o fodiwlau ac maent yn rhoi profiad gwerthfawr i fyfyrwyr o sgiliau cyflwyno yn ogystal â rhoi dull i staff asesu dysgu sy’n canolbwyntio ar y myfyriwr.
Gweithdai Ymarferol
Defnyddir gweithdai ymarferol yn helaeth mewn nifer o fodiwlau drwy gydol y rhaglen. Yn y dosbarthiadau hyn gall myfyrwyr ymarfer a mireinio eu sgiliau mewn amgylchedd cefnogol lle gallant gael adborth gan aelod o’r staff academaidd. Mae gweithdai ymarferol yn ddull gwerthfawr o bontio rhwng theori ac ymarfer.
Astudiaethau Achos
Strategaeth addysgu a dysgu yw astudiaethau achos, a ddefnyddir mewn amrywiaeth o fodiwlau; maent yn offeryn asesu defnyddiol hefyd. Cyflwynir problemau cymhleth go iawn neu ffug i fyfyrwyr neu gofynnir iddynt ddatblygu rhai eu hunain ac yna mae gofyn iddynt eu dadansoddi’n fanwl ac yna cyfosod/cyflwyno eu datrysiad eu hunain yn ysgrifenedig neu ar lafar.
Arbenigwyr Busnes
Elfen allweddol o’r profiad dysgu yw’r bwriad i wahodd arbenigwyr busnes, academaidd ac mewn ymarfer, i roi cipolwg ar eu gwaith ymchwil neu weithgarwch busnes. Bydd rhwydwaith o arbenigwyr o’r fath yn helpu i ddarparu gwybodaeth arbenigol yn ogystal ag atgyfnerthu a hyrwyddo cymwysterau’r rhaglen. Gellid gwahodd arbenigwyr o’r fath fel siaradwyr gwadd neu ofyn iddynt ddarparu profiad gweithdy mwy rhyngweithiol lle bo’n briodol.
Bydd pob myfyriwr yn elwa o’r tîm o diwtoriaid personol ymroddedig sy’n darparu pwynt cyswllt personol a rheolaidd. Mae’r Tiwtoriaid Personol yn gweithio’n agos gyda Chyfarwyddwyr y Rhaglen a Thiwtoriaid Blwyddyn i sicrhau bod anghenion myfyrwyr yn cael eu diwallu’n effeithiol a bod eu hamser ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yn brofiad dymunol a llwyddiannus.
Yn ogystal â’r Tiwtoriaid Personol, darperir y cymorth a’r arweiniad academaidd penodol ar gyfer y cwrs unigol gan Gyfarwyddwr y Rhaglen a’r Tiwtor Blwyddyn perthnasol. Mae hyn yn arbennig o bwysig o ran y dewis o opsiynau sydd ar gael ym mlwyddyn dau a thri a dewis llwybrau.
Asesu
Cewch eich asesu’n barhaus drwy gydol y cwrs ar sail gwaith cwrs, cyflwyniadau ac arholiadau. Bydd asesiadau ar ffurf arholiadau (a welir/nas gwelir, llyfr agored, traethodau/atebion byr), traethodau, asesiad ymarferol, gwaith gweledol, cyflwyniadau, adroddiadau unigol a grŵp, gyda’r rhan fwyaf ohonynt yn canolbwyntio ar astudiaethau achosion bywyd go iawn.
Rhoddir adborth drwy gydol y cwrs yn ffurfiannol a thrwy asesiadau ffurfiol. Hefyd, bydd eich perthynas â’ch tiwtor personol yn eich helpu i weithio gydag adborth a nodi cryfderau a gwendidau yn eich gwaith a’ch dull astudio.
Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd
Mae Prynu Ffasiwn a Rheoli Brand yn ddewis gyrfa deinamig sy’n symud yn gyflym. Gyda thechnolegau newydd a chyfryngau cyfathrebu cymdeithasol ar gynnydd, mae mwy o alw nag erioed am y sgiliau sy’n cael sylw yn y rhaglen hon. Yn ystod y cwrs byddwch yn datblygu’r sgiliau a’r ddealltwriaeth allweddol sydd eu hangen ar gyfer y busnes ffasiwn. Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus bydd y sgiliau gennych i gael swydd ym maes prynu ffasiwn a rheoli brand, gan roi eich sgiliau ar waith mewn swyddi prynu, masnacheiddio, cyrchu, datblygu cynnyrch, ymchwil tueddiadau, rheoli cynnyrch, marchnata, datblygu a rheoli brand a mwy.
Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio ar y cyd â’r CIM er mwyn rhoi cyfle i chi gael eich eithrio o’i gymhwyster proffesiynol. Byddwch hefyd yn gallu ymuno â’n grŵp myfyrwyr CIM sy’n annog pob myfyriwr i gymryd rhan yn ein cymuned dysgu marchnata drwy drefnu siaradwyr gwadd a rheoli digwyddiadau sy’n canolbwyntio ar farchnata. Bydd cynnwys siaradwyr deinamig a digwyddiadau rhwydweithio defnyddiol yn gwella eich profiad dysgu. Yn olaf, byddwch yn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau entrepreneuraidd fel cystadlu yn y
CIM Pitch.
Mae’r opsiwn o gynnwys blwyddyn o brofiad mewn diwydiant ym mlwyddyn tri wedi’i gynnwys i’ch galluogi i gwblhau’r radd gyda lefel o brofiad ymarferol. Gellir ymgorffori’r opsiwn hwn o brofiad ymarferol yn y cwrs gradd tair blynedd drwy wneud gwaith ymarferol mewn diwydiant yn ystod y tymor neu adeg gwyliau yn ystod y cwrs.
Nod y cwrs yw bod astudio a phrofiad ymarferol yn rhoi’r gobaith gorau o gyflogadwyedd ar ddiwedd y cwrs gradd. O’r herwydd, cewch gyfle i raddio gyda sylfaen eang o wybodaeth farchnata a’r potensial i fod yn arbenigwr ar ddefnydd strategol o gysylltiadau cyhoeddus, marchnata, marchnata digidol, cyfathrebu marchnata integredig, brandio a marchnata byd-eang. At hynny, byddwch wedi cael profiad ’byd go iawn’, y cyfle i gymryd rhan yn ein cymuned ddysgu CIM. Dylai myfyrwyr Marchnata Met Caerdydd fod yn eithriadol oherwydd eu gallu i gymhwyso gwybodaeth ddamcaniaethol mewn amgylchedd ymarferol.
Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais
Cynigion Nodweddiadol
-
Pwyntiau tariff: 112
-
Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen
cynigion cyd-destunol.
-
TGAU: Pum TGAU ar Radd C / 4 neu uwch, gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg / Mathemateg – Rhifedd.
-
Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS Academaidd 6.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob elfen, neu gyfwerth.
-
Pynciau Safon Uwch: O leiaf tair Safon Uwch i gynnwys Graddau CCC. Does dim angen pynciau penodol. Bagloriaeth Cymru – Ystyrir Tystysgrif Her Sgiliau Uwch fel trydydd pwnc.
-
Diploma Cenedlaethol BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: DMM
-
Lefel T: Teilyngdod.
-
Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Does dim angen pynciau penodol.
-
Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (IB): 2 x H5. Does dim angen pynciau penodol.
-
Tystysgrif Gadael Iwerddon: 2 x gradd H2. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir pynciau lefel uwch yn unig gydag isafswm gradd H4.
-
Advanced Highers yr Alban: Graddau DD. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir Highers yr Alban hefyd, naill ai ar eu pennau eu hunain neu ar y cyd ag Advanced Highers.
Os nad ydych yn bodloni’r gofyniad mynediad uchod, rydym hefyd yn cynnig
Rhaglen Sylfaen sy’n caniatáu gwneud cynnydd i Flwyddyn 1.
Derbynnir cyfuniadau o’r cymwysterau uchod os ydyn nhw’n cwrdd â’n gofynion lleiaf. Os nad yw eich cymwysterau wedi’u rhestru, cysylltwch â
Derbyniadau neu cyfeiriwch at
Chwiliad Cwrs UCAS.
Mae rhagor o wybodaeth ar gymwysterau Tramor i’w gweld
yma.
Os ydych yn ymgeisydd hŷn, mae gennych brofiad perthnasol neu
RPL yr hoffech i ni ei ystyried, cysylltwch â Derbyniadau.
Sut i Ymgeisio
Mae rhagor o wybodaeth ar sut i ymgeisio i’w gweld
yma.
Cysylltu â Ni