Cynnwys y Cwrs
Blwyddyn Sylfaen (Blwyddyn 0):
Mae’r rhaglen yn cynnwys blwyddyn sylfaen ar gyfer myfyrwyr sydd eisiau ymrestru ar y radd anrhydedd tair blynedd ac sy’n perthyn i un o’r categorïau canlynol:
1. Myfyrwyr nad ydynt wedi cael y nifer gofynnol o bwyntiau Safon Uwch (neu gyfwerth) i ddechrau ar flwyddyn gyntaf y rhaglen radd.
2. Myfyrwyr hŷn sydd wedi bod allan o’r system addysg ffurfiol ers peth amser.
Gellir gweld rhagor o wybodaeth am y flwyddyn sylfaen drwy glicio yma.
Gradd:
Blwyddyn Un:
Yn y flwyddyn gyntaf byddwch yn cael cyflwyniad i ficro-a macroeconomeg, yn ogystal â chael y sgiliau meintiol ac academaidd angenrheidiol i lwyddo nid yn unig yn eich astudiaethau, ond yn bwysicach yn eich gyrfaoedd yn y dyfodol. At hynny, byddwch yn cael persbectif ehangach gyda chyflwyniad i bynciau cysylltiedig, fel cyfrifeg, cyllid, systemau gwybodaeth a'r gyfraith.
Bydd myfyrwyr yn cwblhau 120 credyd o fodiwlau gorfodol ym Mlwyddyn 1.
Modiwlau (Gorfodol):
- Yr Economi: Microeconomeg (20 credyd)
- Yr Economi: Macroeconomeg (20 credyd)
- Dulliau Meintiol (20 credyd)
- Gwasanaethau Ariannol Byd-eang (20 credyd)
- Cyllid i Reolwyr (20 credyd)
- Y Gyfraith a Byd Busnes (20 credyd)
Blwyddyn Dau:
Mae'r ail flwyddyn yn canolbwyntio ar astudiaeth fwy datblygedig o ficro- a macroeconomeg. Mae hyn yn cynnwys theori gemau (Lle rydych chi'n dysgu sut i weithredu'n strategol, gan ystyried gweithredoedd posibl pobl eraill.). Byddwch hefyd yn dysgu sut i ddefnyddio dadansoddi ystadegol a sut i ymchwilio. Fel gyda phob cwrs yn Ysgol Reoli Caerdydd caiff modiwl gweithle ei gynnwys yn yr ail flwyddyn astudio hefyd i baratoi myfyrwyr ar gyfer eu gyrfaoedd ar ôl cwblhau eu hastudiaethau.
Bydd myfyrwyr yn cwblhau 100 credyd o fodiwlau gorfodol a byddant yn gallu dewis 20 credyd o'r casgliad o fodiwlau dewisol sydd ar gael.
Modiwlau (Gorfodol):
- Microeconomeg Canolradd (20 credyd)
- Macroeconomeg Canolradd (20 credyd)
- Dulliau Meintiol II (20 credyd)
- Hanes Meddwl Economaidd (20 credyd)
- Profiad Gwaith NEU Brosiect Gwirfoddoli (20 credyd)
Modiwlau (Dewisol):
- Materion Cyfoes yn yr Economi Wleidyddol Ryngwladol (20 credyd)
- Gemau ac Economeg Gwybodaeth (20 credyd)
- Cyllid Cyhoeddus (20 credyd)
Blwyddyn Tri:
Mae'r drydedd flwyddyn yn canolbwyntio ar gymhwyso economeg, ond mae hefyd yn archwilio meysydd pwysig pellach o economeg, sef economeg iechyd ac ariannol (pam mae arian yn bwysig, sut mae gwasgfa gredyd yn digwydd), yn ogystal ag economeg gyhoeddus, sy'n ymwneud â'r offer economaidd sy'n bwysig i lywodraethau. Bydd y traethawd hir yn gyfle i gymhwyso'r wybodaeth a'r sgiliau rydych wedi'u meithrin. Bydd hyn yn eich paratoi ymhellach ar gyfer eich gyrfa broffesiynol neu academaidd yn y dyfodol.
Bydd myfyrwyr yn cwblhau 80 credyd o fodiwlau gorfodol, gan gynnwys Traethawd Hir a byddant yn gallu dewis 40 credyd o'r casgliad o fodiwlau dewisol sydd ar gael.
Modiwlau (Gorfodol):
- Microeconomeg Gymhwysol (20 credyd)
- Macroeconomeg: Theori a Chymhwyso (20 credyd)
Modiwlau (Dewisol):
- Econometreg (20 credyd)
- Traethawd hir (40 credyd)
- Economeg Ddiwydiannol (20 credyd)
- Economi Wleidyddol Ryngwladol (20 credyd)
- Arian a Chredyd (20 credyd)
- Adnoddau Economaidd ar gyfer y Llywodraeth (Economeg Polisi Cyhoeddus) (20 credyd)
- Cyllid Ymddygiadol (20 credyd)
Rhaglen Radd Ryngosod: Mae myfyrwyr ar y moddau rhyngosod yn cwblhau modiwl lefel 6 20 credyd sy'n cynnwys secondiad blwyddyn lawn gyda chyflogwr yn yr ardal leol neu'r ardal sy'n lleol i gartref y myfyriwr.
Dysgu ac Addysgu
Rydym wedi ymrwymo i roi'r cymorth angenrheidiol i'ch helpu i wireddu eich llawn botensial. Mae ein dulliau addysgu arloesol yn cynnwys arbrofion a'r deunyddiau addysgu diweddaraf oll. Fel arfer, caiff modiwlau eu haddysgu drwy gymysgedd o ddarlithoedd dwy awr yr wythnos a seminarau/gweithdai dwy awr yr wythnos. Cefnogir pob modiwl drwy Moodle a Leganto, yr amgylchedd dysgu rhithwir.
Asesu
Defnyddir amrywiaeth eang o ddulliau gan gynnwys profion dosbarth, cyflwyniadau unigol a grŵp, adroddiadau, traethodau, ac arholiadau llyfr agored a llyfr caeedig.
Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd
Mae galw mawr am economegwyr yn y sector preifat a'r sector cyhoeddus. Gallant fod yn rheolwyr, ymchwilwyr, dadansoddwyr a strategwyr medrus. Mae ymchwil yn dangos bod gan fyfyrwyr Economeg enillion cyfartalog uwch na'r rhan fwyaf o raddedigion eraill, gan gynnwys y rhai sy'n astudio gradd gyffredinol mewn busnes.
Lleoliadau gwaith:
Mae darparu lleoliadau gwaith fel rhan asesedig o'ch rhaglen ddysgu academaidd mor bwysig fel ein bod yn rhoi cyfle i chi gyflawni lleoliad fel rhan o'ch astudiaethau ail flwyddyn. Mae gennym gysylltiadau cryf â'r gymuned fusnes ac mae'r rhaglen lleoliadau gwaith wedi'i chynllunio i wella eich rhagolygon cyflogadwyedd yn y dyfodol.
Mae symud ymlaen i astudio ôl-raddedig yn yr Ysgol Reoli yn opsiwn.
Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais
Pum pwnc TGAU gan gynnwys Saesneg Iaith a Mathemateg neu Fathemateg- Rhifedd ar ar radd C/gradd 4 neu'n uwch, ynghyd â 112 pwynt o 2 Lefel A o leiaf (neu gyfwerth).
Gall cynigion nodweddiadol gynnwys:
- 112 pwynt o ddwy Safon Uwch o leiaf yn cynnwys graddau CC; ystyrir Bagloriaeth Cymru – Tystysgrif Her Sgiliau Uwch fel y trydydd pwnc
- Diploma Estynedig Cenedlaethol RQF BTEC/Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt DMM
- 112 pwynt o ddau gymhwyster Scottish Advanced Highers o leiaf yn cynnwys graddau DD. Caiff cymwysterau Scottish Highers eu hystyried hefyd, naill ai ar eu pennau eu hunain neu ar y cyd ag Advanced Highers
- 112 pwynt o'r Irish Leaving Certificate ar lefel Higher yn cynnwys 2 x gradd H2. H4 yw'r gradd isaf a ystyrir yn achos pynciau ar y lefel uwch
- 112 pwynt o'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch
Os na fyddwch yn cwrdd â'r gofynion mynediad uchod, mae'r Rhaglen Sylfaen ar gael. Bydd yn caniatáu i chi symud ymlaen i'r radd hon ar ôl ei chwblhau.
Os ydych chi'n astudio cyfuniadau o'r uchod neu os nad yw'ch cymhwyster wedi'i restru, cysylltwch â Derbyniadau neu ewch i dudalen Chwilio am Gwrs UCAS i gael y gofynion mynediad. Amwybodaeth bellach am ein gofynion mynediad, gellir cynnwys cymwysterau o'r UE trwy glicio yma.
Mae ymgeiswyr nad oes ganddynt gymhwyster mynediad arferol yn cael eu cyfweld a'u hystyried yn unigol ar sail eu cefndir dysgu blaenorol neu waith.
Ymgeiswyr Rhyngwladol
Bydd angen i fyfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddarparu tystiolaeth o ruglder i safon IELTS 6.0 neu gyfwerth o leiaf. I gael manylion llawn am sut i wneud cais am gymwysterau Iaith Saesneg ewch i’r tudalennau Rhyngwladol ar y wefan.
Y Broses Ddethol:
Mae'r dewis fel arfer ar sail cais UCAS wedi'i gwblhau a chyfweliad lle bo hynny'n berthnasol.
Sut i Wneud Cais:
Dylid gwneud ceisiadau ar gyfer y cwrs hwn ar-lein i UCAS yn www.ucas.com. I gael rhagor o wybodaeth ewch i'n tudalennau Sut i Wneud Cais.
Cydnabod Dysgu Blaenorol (RPL) a Throsglwyddo Credydau i flwyddyn 2 a 3
Os oes gennych ddiddordeb mewn trosglwyddo credyd o sefydliad arall i astudio yn Met Caerdydd ar gyfer cwrs sy'n derbyn mynediad ar gyfer blwyddyn 2 a/neu 3, gallwch ddod o hyd i wybodaeth bellach am hyn a gwybodaeth ar sut i wneud cais ar y dudalen RPL. Cysylltwch â Derbyniadau gydag unrhyw ymholiadau sydd gennych am RPL.
Myfyrwyr hŷn
Mae unrhyw un dros 21 oed nad aeth i'r brifysgol ar ôl ysgol neu goleg yn ymgeisydd hŷn. Mae Met Caerdydd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn ac mae rhagor o gyngor a gwybodaeth ar gael yma.
Cysylltu â Ni