Skip to main content
Ysgol Reoli Caerdydd>Cyrsiau>Rheoli Marchnata Digidol – Gradd BA (Anrh)

Rheoli Marchnata Digidol – Gradd BA (Anrh)

Blwyddyn Mynediad

Mae'r radd BA (Anrh) Rheoli Marchnata Digidol ym Met Caerdydd wedi'i hachredu a'i datblygu ar y cyd â meysydd llafur y Sefydliad Marchnata Digidol ac anghenion y diwydiant digidol. Mae sianeli marchnata digidol wedi chwyldroi'r modd y mae pob busnes - boed yn fentrau annibynnol domestig neu fyd-eang, mawr neu fach - yn gweithredu ac yn marchnata eu gweithgareddau busnes. Mae nifer cynyddol o sefydliadau'n manteisio ar blatfformau marchnata digidol er mwyn gwella a chefnogi eu hamcanion cyfathrebu marchnata craidd. O'r herwydd, mae rheoli marchnata digidol wedi esblygu o fod yn elfen ymylol o farchnata sefydliadol i weithgaredd allweddol y mae'n 'rhaid ei wneud'. Mae cyflogwyr o bob sector busnes yn chwilio am raddedigion sydd â sgiliau marchnata digidol er mwyn hwyluso'r sylfaen wybodaeth hon yn eu sefydliadau. Byddwch yn dysgu ystod eang o offer a thechnegau marchnata digidol allweddol gan gynnwys Dadansoddeg Ddigidol, Marchnata Chwilio: Cynnwys a SEO a PPC a Marchnata Symudol a Chymdeithasol.

Bydd dod yn 'Farchnatwr Met' yn eich galluogi i ennill y wybodaeth academaidd a'r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i gael gwaith yn y diwydiant marchnata ac mae ganddo enw da am ei bwyslais galwedigaethol. Ar ôl graddio bydd gennych sylfaen eang o wybodaeth am ddigidol, marchnata a rheoli, ac yn ôl marchnatwyr dyma fydd y galluoedd gwybodaeth pwysicaf ymhen pum mlynedd: Marchnata Digidol, Brandio, Cyfathrebu Marchnata, Marchnata Byd-eang a Rhyngwladol, Cysylltiadau Cyhoeddus ac Enw Da Corfforaethol. Bydd y radd BA (Anrh) Rheoli Marchnata Digidol yn eich galluogi i ddefnyddio'r wybodaeth hon i greu cynllun marchnata digidol cydgysylltiedig hefyd.

Mae gan y Darlithwyr wybodaeth academaidd a phrofiadau diwydiant i addysgu'r sgiliau sydd eu hangen arnoch ar gyfer y gweithle ar ôl graddio.

Byddwch yn gwella eich arbenigedd a'ch galluoedd mewn Rheoli Marchnata Digidol ac yn rhoi theori ar waith o fewn lleoliad gwaith diwydiant ar gyfer eich modiwl Marchnata Digidol yn Ymarferol. Mae gennych hefyd yr opsiwn i dreulio blwyddyn mewn diwydiant ar leoliad gwaith ar ôl cwblhau eich ail flwyddyn o astudio yn llwyddiannus.​

Mae 100% o raddedigion mewn gwaith neu astudiaethau pellach o fewn 15 mis ar ôl graddio (Arolwg Hynt Graddedigion ​2023)


Blwyddyn Sylfaen

Gellir astudio’r radd hon fel gradd amser llawn tair blynedd neu radd pedair blynedd sy’n cynnwys blwyddyn o astudio sylfaenol. Bwriad ein blwyddyn sylfaen yw eich paratoi ar gyfer eich blynyddoedd dilynol o astudio, gan gynnig cyfle i chi gryfhau eich sgiliau, eich gwybodaeth a’ch hyder.

Bydd y flwyddyn sylfaen yn berthnasol i:

  1. Myfyrwyr nad ydynt wedi cael y nifer gofynnol o bwyntiau Safon Uwch (neu gyfwerth) i ddechrau ar flwyddyn gyntaf y rhaglen radd.
  2. Myfyrwyr hŷn sydd wedi bod allan o’r system addysg ffurfiol ers peth amser.


Darganfyddwch fwy am y flwyddyn sylfaen.

Nodwch: Bydd angen i chi wneud cais gan ddefnyddio cod UCAS penodol os ydych yn dymuno ymgymryd â’r 4 blynedd gan gynnwys sylfaen. Cyfeiriwch at Wybodaeth Gwrs Allweddol ar waelod y dudalen hon.

Cynnwys y Cwrs

Mae ein gradd yn dod â phrofiadau byd go iawn i'n harferion addysgu, gan ddarparu dull 'dysgu trwy wneud' sy'n gwarantu dealltwriaeth fanwl o'r broses rheoli marchnata.


Blwyddyn Un (Lefel 4)


Yn eich blwyddyn gyntaf, mae pob un o'r chwe modiwl (120 credyd) yn orfodol ac wedi'u cynllunio i roi cyflwyniad cadarn i chi i fyd Rheoli Marchnata Digidol.

Addysgir pob modiwl yn Saesneg ac mae darpariaeth cyfrwng Gymraeg sy'n cyfateb i un modiwl ar Lefel 4 a 5. Nodir hyn isod gyda seren (*).

Modiwlau gorfodol (20 credyd yr un)

  • Cyflwyniad i Farchnata Digidol*
  • Cyfryngau Digidol i Farchnatwyr
  • Y Marchnatwr Digidol
  • Marchnata Chwilio
  • Marchnata a yrrir gan Ddata
  • Y Diwydiant Digidol


Blwyddyn Dau (Lefel 5)


Yn eich ail flwyddyn, mae pum modiwl yn orfodol (100 credyd), a byddwch yn dewis un modiwl dewisol (20 credyd).

Byddwch yn gwella eich arbenigedd a'ch galluoedd mewn Rheoli Marchnata Digidol ac yn rhoi theori ar waith o fewn lleoliad gwaith diwydiant ar gyfer eich modiwl Marchnata Digidol yn Ymarferol. Byddwch yn cael eich cefnogi i sicrhau lleoliad gwaith perthnasol i ennill profiad ymarferol a dyfnhau eich dealltwriaeth o farchnata yn y byd go iawn i hybu eich cyflogadwyedd.

Modiwlau gorfodol (20 credyd yr un)

  • Cyfathrebu Marchnata Digidol Creadigol
  • Dadansoddeg Digidol a Delweddu
  • Y Defnyddiwr Digidol
  • Dulliau Ymchwil Marchnata Digidol
  • Marchnata Digidol wrth Ymarfer


Dewiswch UN modiwl dewisol (20 credyd yr un)

  • Marchnata Cyfryngau Cymdeithasol
  • Marchnata Chwaraeon, Digwyddiadau a Nawdd


Blwyddyn mewn diwydiant

Mae gennych yr opsiwn i dreulio blwyddyn mewn diwydiant ar leoliad gwaith ar ôl cwblhau eich ail flwyddyn o astudio yn llwyddiannus. Mae gennym dîm lleoliad gwaith pwrpasol i'ch cefnogi i sicrhau lleoliad. Gall y profiad hwn roi hwb i'ch rhagolygon gyrfa a rhoi mantais i chi wrth wneud cais am swyddi ar ôl graddio.


Blwyddyn Tri (Lefel 6)


Yn eich blwyddyn olaf, mae pedwar modiwl (100 credyd) yn orfodol, a byddwch yn dewis un modiwl dewisol (20 credyd).

Mae creu cynnwys digidol a deall y datblygiadau technolegol diweddaraf mewn Marchnata Digidol wrth wraidd modiwlau'r 3edd flwyddyn.

Bydd gennych hefyd yr opsiwn o ymchwilio i draethawd hir Digidol neu ysgrifennu a chyflwyno cynllun Marchnata Digidol. Mae ein myfyrwyr wedi mwynhau hyn, a wedi ddefnyddio eu sgiliau a'u gwybodaeth i fynd i'r afael â thueddiadau sy'n dod i'r amlwg a gofynion sefydliadau.

Modiwlau gorfodol

  • Cynllun Marchnata Digidol NEU Draethawd Hir (40 credyd)
  • Marchnata Digidol Rhyngwladol a Byd-eang (20 credyd)
  • Marchnata Cynnwys (20 credyd)
  • Awtomatiaeth a Marchnata AI (20 credyd)


Dewiswch UN modiwl dewisol (20 credyd yr un)

  • Arloesi mewn Marchnata Digidol
  • Rheoli Brand Strategol
  • Profiad gwaith diwydiannol^


Cyflwynir modiwlau dewisol yn dibynnu ar y galw ac argaeledd.

^ Os ydych chi'n cymryd lleoliad gwaith diwydiant blwyddyn o hyd rhwng blwyddyn dau a thri, mae gennych chi'r opsiwn i ddewis 'Profiad Gwaith Diwydiannol' fel eich modiwl dewisol. Os na, dewiswch fodiwl dewisol arall.

Dysgu ac Addysgu

Bydd y dull dysgu ac addysgu sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr yn cael ei annog drwy ddefnyddio strategaethau addysgu penodol; astudiaethau achos; prosiectau; tiwtorialau; ymarferion ymarferol, a ategir gan y defnydd o ddeunyddiau cymorth priodol; darlithoedd gan arbenigwyr busnes; fideos; meddalwedd gyfrifiadurol; ac ati Mae ymgysylltu'n weithredol â'r deunydd pwnc yn gwella dysgu ac mae llawer o'r strategaethau dysgu a ddefnyddir yn ceisio hyrwyddo hyn.

Darlithoedd
Mae darlithoedd yn rhan bwysig o'r strategaeth addysgu ar gyfer y rhaglen. Mae darlithoedd yn ffordd effeithiol o gyflwyno deunydd craidd a sefydlu fframwaith ar gyfer modiwl y gellir gosod deunydd arall yn ei erbyn.

Tiwtorialau Pwnc Modiwlaidd
Cyfarfodydd rhwng myfyriwr neu grŵp o fyfyrwyr a darlithydd neu ddarlithwyr yw tiwtorialau ac fe'u defnyddir mewn dwy ffordd yn y rhaglen:

  • Ehangu ar ddeunydd a drafodir mewn darlithoedd drwy ddull datrys problemau a gaiff ei lywio gan ymholi
  • Gwaith adfer i oresgyn unrhyw ddiffygion yng ngwybodaeth gefndir myfyriwr.

Seminarau
Mewn seminarau mae myfyriwr neu fyfyrwyr yn cyflwyno gwaith y maent wedi'i baratoi o flaen llaw i gyfoedion a darlithydd. Defnyddir y strategaeth hon i ymestyn cysyniadau damcaniaethol neu ymarferol penodol yn ogystal â chyflwyno ymarferion datrys problemau. Defnyddir seminarau yn y rhan fwyaf o fodiwlau ac maent yn rhoi profiad gwerthfawr i fyfyrwyr o sgiliau cyflwyno yn ogystal â rhoi dull i staff asesu dysgu sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr.

Gweithdai Ymarferol
Defnyddir gweithdai ymarferol yn helaeth mewn nifer o fodiwlau drwy gydol y rhaglen. Yn y dosbarthiadau hyn gall myfyrwyr ymarfer a mireinio eu sgiliau mewn amgylchedd cefnogol lle gallant gael adborth gan aelod o'r staff academaidd. Mae gweithdai ymarferol yn ddull gwerthfawr o bontio rhwng theori ac ymarfer.

Astudiaethau Achos
Strategaeth addysgu a dysgu yw astudiaethau achos, a ddefnyddir mewn amrywiaeth o fodiwlau; maent yn offeryn asesu defnyddiol hefyd. Cyflwynir problemau cymhleth go iawn neu ffug i fyfyrwyr neu gofynnir iddynt ddatblygu rhai eu hunain ac yna mae gofyn iddynt eu dadansoddi'n fanwl ac yna cyfosod/cyflwyno eu datrysiad eu hunain yn ysgrifenedig neu ar lafar.

Arbenigwyr Busnes
Elfen allweddol o'r profiad dysgu yw'r bwriad i wahodd arbenigwyr busnes, academaidd ac mewn ymarfer, i roi cipolwg ar eu gwaith ymchwil neu weithgarwch busnes. Bydd rhwydwaith o arbenigwyr o'r fath yn helpu i ddarparu gwybodaeth arbenigol yn ogystal ag atgyfnerthu a hyrwyddo cymwysterau'r rhaglen. Gellid gwahodd arbenigwyr o'r fath fel siaradwyr gwadd neu ofyn iddynt ddarparu profiad gweithdy mwy rhyngweithiol lle bo'n briodol.

Bydd pob myfyriwr yn elwa o'r tîm o diwtoriaid personol ymroddedig sy'n darparu pwynt cyswllt personol a rheolaidd. Mae'r Tiwtoriaid Personol yn gweithio'n agos gyda Chyfarwyddwyr y Rhaglen a Thiwtoriaid Blwyddyn i sicrhau bod anghenion myfyrwyr yn cael eu diwallu'n effeithiol a bod eu hamser ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yn brofiad dymunol a llwyddiannus.

Yn ogystal â'r Tiwtoriaid Personol, darperir y cymorth a'r arweiniad academaidd penodol ar gyfer y cwrs unigol gan Gyfarwyddwr y Rhaglen a'r Tiwtor Blwyddyn perthnasol. Mae hyn yn arbennig o bwysig o ran y dewis o opsiynau sydd ar gael ym mlwyddyn dau a thri a dewis llwybrau.


Asesu

Cewch eich asesu'n barhaus drwy gydol y cwrs ar sail gwaith cwrs, cyflwyniadau ac arholiadau. Bydd asesiadau ar ffurf arholiadau (a welir/nas gwelir, llyfr agored, traethodau/atebion byr), traethodau, asesiad ymarferol, cyflwyniadau, adroddiadau unigol a grŵp, a thraethawd hir, gyda llawer ohonynt yn canolbwyntio ar astudiaethau achosion bywyd go iawn.


Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

Yn ystod y cwrs byddwch yn datblygu'r sgiliau a'r ddealltwriaeth allweddol sydd eu hangen ar gyfer busnes gydag arbenigedd mewn rheoli marchnata sy'n ganolog i bob swyddogaeth fusnes. Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus bydd y sgiliau gennych i gael swydd mewn:

  • Marchnata Digidol
  • Marchnata Symudol
  • Rheoli Cyfrifon Uwch Swyddog Gweithredol
  • Dadansoddeg y We
  • Chwilio a'r Cyfryngau Cymdeithasol
  • Rheoli Cynnwys y We
  • Datblygiad Creadigol Digidol
  • Cyfathrebiadau Marchnata

Mae'r radd BA (Anrh) Rheoli Marchnata Ddigidol ym Met Caerdydd wedi'i ddatblygu ar y cyd â meysydd llafur y Sefydliad Marchnata Digidol (IDM) ac anghenion y diwydiant digidol. Byddwch hefyd yn gallu ymuno â'n grŵp myfyrwyr CIM sy'n annog pob myfyriwr i gymryd rhan yn ein cymuned dysgu marchnata drwy drefnu siaradwyr gwadd a rheoli digwyddiadau sy'n canolbwyntio ar farchnata. Bydd cynnwys siaradwyr deinamig a digwyddiadau rhwydweithio defnyddiol yn gwella eich profiad dysgu. Yn olaf, byddwch yn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau entrepreneuraidd fel cystadlu yn y CIM Pitch/Brolio.​

Mae'r opsiwn o gynnwys blwyddyn o brofiad mewn diwydiant ym mlwyddyn tri wedi'i gynnwys i'ch galluogi i gwblhau'r radd gyda lefel o brofiad ymarferol. Gellir ymgorffori'r opsiwn hwn o brofiad ymarferol yn y cwrs gradd tair blynedd drwy wneud gwaith ymarferol mewn diwydiant yn ystod y tymor neu adeg gwyliau yn ystod y cwrs.

Nod y cwrs yw bod astudio a phrofiad ymarferol yn rhoi'r gobaith gorau o gyflogadwyedd ar ddiwedd y cwrs gradd. O'r herwydd, cewch gyfle i raddio gyda sylfaen eang o wybodaeth farchnata a'r potensial i fod yn arbenigwr ar ddefnydd strategol o farchnata, marchnata digidol, cyfathrebu marchnata integredig, brandio a marchnata byd-eang. At hynny, byddwch wedi cael profiad 'byd go iawn' a'r cyfle i gymryd rhan yn ein cymuned ddysgu CIM ac IDM. Dylai myfyrwyr Marchnata Met Caerdydd fod yn eithriadol oherwydd eu gallu i gymhwyso gwybodaeth ddamcaniaethol mewn amgylchedd ymarferol.

Ymholiadau Mynediad a Sut i Wneud Cais

Cynigion Nodweddiadol

​Mae’r gofynion canlynol yn seiliedig ar gynigion nodweddiadol sy’n berthnasol i ddechrau ar flwyddyn 1 y radd.

Os nad ydych yn bodloni’r gofyniad mynediad uchod, rydym hefyd yn cynnig Flwyddyn Sylfaen sy’n caniatáu gwneud cynnydd i Flwyddyn 1.​

  • Pwyntiau tariff: 112
  • Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen cynigion cyd-destunol.
  • TGAU: Pum TGAU ar Radd C / 4 neu uwch, gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg / Mathemateg – Rhifedd.
  • Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS Academaidd 6.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob elfen, neu gyfwerth.
  • Pynciau Safon Uwch: O leiaf tair Safon Uwch i gynnwys Graddau CCC. Does dim angen pynciau penodol. Bagloriaeth Cymru – Ystyrir Tystysgrif Her Sgiliau Uwch fel trydydd pwnc.
  • Diploma Cenedlaethol BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: DMM
  • Lefel T: Teilyngdod.
  • Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Does dim angen pynciau penodol.
  • Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (IB): 2 x H5. Does dim angen pynciau penodol.
  • Tystysgrif Gadael Iwerddon: 2 x gradd H2. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir pynciau lefel uwch yn unig gydag isafswm gradd H4.
  • Advanced Highers yr Alban: Graddau DD. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir Highers yr Alban hefyd, naill ai ar eu pennau eu hunain neu ar y cyd ag Advanced Highers.

Derbynnir cyfuniadau o’r cymwysterau uchod os ydyn nhw’n cwrdd â’n gofynion lleiaf. Os nad yw eich cymwysterau wedi’u rhestru, cysylltwch â Derbyniadau neu cyfeiriwch at Chwiliad Cwrs UCAS.

Mae rhagor o wybodaeth ar gymwysterau Tramor i’w gweld yma.

Os ydych yn ymgeisydd hŷn, mae gennych brofiad perthnasol neu RPL yr hoffech i ni ei ystyried, cysylltwch â Derbyniadau.


Sut i Ymgeisio

Mae rhagor o wybodaeth ar sut i ymgeisio i’w gweld yma.

Cysylltu â Ni

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol ffoniwch y Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044 neu e-bostiwch askadmissions@cardiffmet.ac.uk.

Ar gyfer ymholiadau am y cwrs yn benodol, cysylltwch a Dr Paula Kearns

E-bost: PKearns@cardiffmet.ac.uk

Rydyn ni’n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â’r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu’r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i’r brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae’n cadw’r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o’r fath yn angenrheidiol. Darllenwch ein Telerau ac Amodau i gael y wybodaeth lawn.

Gwybodaeth Allweddol Am Y Cwrs

Codau UCAS:
N501 - Gradd 3 blynedd
N51F - Gradd 4 blynedd (yn cynnwys flwyddyn sylfaen)

Lleoliad Astudio:
Campws Llandaf

Ysgol:
Ysgol Reoli Caerdydd

Hyd y Cwrs:
Tair blynedd yn llawn amser.
Pedair blynedd yn llawn amser os byddwch yn gwneud lleoliad diwydiant blwyddyn o hyd.
Pedair blynedd yn llawn amser os byddwch yn gwneud blwyddyn sylfaen.
Pum mlynedd yn llawn amser os byddwch yn gwneud blwyddyn sylfaen a lleoliad diwydiant blwyddyn o hyd.​