Nod y BA (Anrh) Busnes a Rheoli yw paratoi myfyrwyr gyda'r sgiliau a'r wybodaeth i weithredu fel rheolwyr llwyddiannus, yn y byd Busnes a Rheoli modern sy'n newid yn barhaus.
Mae'r adran yn ceisio rhoi profiad dysgu i fyfyrwyr sy'n cael ei ysgogi gan y newidiadau hyn ac sy'n eu hadlewyrchu. Rydym yn integreiddio theori ac ymarfer ac mae hyn yn cynnwys amrywiaeth o gyfleoedd lleoliad gwaith.
Dyfarniadau ymadael eraill yw BA (Cyffredin), Diploma mewn Addysg Uwch, Tystysgrif mewn Addysg Uwch.
Cynnwys y Cwrs
Blwyddyn Sylfaen (Blwyddyn 0):
Mae’r rhaglen yn cynnwys blwyddyn sylfaen ar gyfer myfyrwyr sydd eisiau ymrestru ar y radd anrhydedd tair blynedd ac sy’n perthyn i un o’r categorïau canlynol:
1. Myfyrwyr nad ydynt wedi cael y nifer gofynnol o bwyntiau Safon Uwch (neu gyfwerth) i ddechrau ar flwyddyn gyntaf y rhaglen radd.
2. Myfyrwyr hŷn sydd wedi bod allan o’r system addysg ffurfiol ers peth amser.
Gellir gweld rhagor o wybodaeth am y flwyddyn sylfaen drwy
glicio yma.
Gradd:
Mae strwythur y cwrs yn datblygu o flwyddyn gyntaf orfodol, sy’n cynnwys chwe modiwl, i ddau fodiwl gorfodol yn unig yn y flwyddyn astudio olaf. Bydd hyn yn eich galluogi i ganolbwyntio eich diddordebau ar lwybr arbenigol neu gyfres benodol o fodiwlau dewisol, gan sicrhau eich bod yn derbyn dealltwriaeth a gwerthfawrogiad cadarn o’r elfennau canolog sy’n ofynnol gan bob myfyriwr busnes a rheoli.
Mae’r radd yn caniatáu cryn hyblygrwydd hefyd i sicrhau eich bod yn cael eich tywys yn academaidd yn eich dewis i raddio yn y pen draw gyda naill ai gradd BA (Anrh) Busnes a Rheoli neu radd BA (Anrh) Busnes a Rheoli gydag un o’r llwybrau a enwir sydd ar gael.
Byddwch yn cyflawni lleoliad gwaith gorfodol yn yr ail flwyddyn oherwydd ystyrir hyn yn ofyniad hanfodol ar gyfer pob myfyriwr busnes a rheoli. I'r rhai sy'n dymuno, mae cyfle ychwanegol i gymryd blwyddyn ryngosod rhwng yr ail flwyddyn a'r flwyddyn olaf sy'n cyfrif tuag at ofyniad credydau'r radd anrhydedd lawn.
Addysgir yr holl fodiwlau yn Saesneg ac mae darpariaeth ar gyfer deunydd Cymraeg cyfatebol mewn nifer o fodiwlau yn Lefelau 4, 5 a 6. Nodir y rhain isod * ac er y gwneir pob ymdrech i sicrhau eu bod yn cael eu cynnal bob blwyddyn, nid oes modd gwarantu hyn yn anffodus.
Blwyddyn Un (Lefel 4)
Mae pob modiwl yn orfodol ac wedi'i gynllunio i roi sylfaen gadarn i chi mewn astudiaethau busnes a rheoli a'ch datblygiad personol.
Modiwlau gorfodol ar gyfer pob llwybr:
- Economeg Busnes
- Systemau Gwybodaeth Busnes
- Cyllid i Reolwyr *
- Cyflwyniad i Farchnata *
- Y Gyfraith a Byd Busnes
- Rheoli Pobl yn y Gwaith*
Blwyddyn Dau (Lefel 5)
Ar Lefel 5, mae myfyrwyr sy'n dilyn y radd generig (BA Busnes a Rheoli) yn astudio 100 credyd o fodiwlau gorfodol ac yn dewis modiwl dewisol 20 credyd. Y modiwl dewisol hwn yw cam cyntaf y dewis o lwybr.
Modiwlau gorfodol ar gyfer pob llwybr (* ar gael yn Gymraeg):
- Busnes ar Waith*
- Rheoli Gweithrediadau Cyfoes
- Arferion Busnes Moesegol a Chynaliadwy *
- Ymchwil Busnes ac Adrodd *
- Datblygu a Chymhwyso Sgiliau - naill ai: Profiad Gwaith* neu Brosiect Gwirfoddoli*
Modiwlau dewisol ar gyfer y radd Busnes a Rheoli (gwerth 20 credyd yr un):
- Rheoli Creadigrwydd ac Arloesedd (Entrepreneuriaeth / Cynaliadwyedd)
- Cyfraith Busnes ar gyfer yr Oes Ddigidol (Y Gyfraith)
- Cyfathrebiadau Marchnata i Reolwyr (Marchnata)
- Arian a Buddsoddi (Cyllid)
- Rheoli ac Ymgysylltu â Phobl (Rheoli Adnoddau Dynol)
- Ymwybyddiaeth Ryngddiwylliannol ar gyfer Busnes (Masnach Ryngwladol)
Blwyddyn Un (Lefel 6)
Ar Lefel 6, mae myfyrwyr sy'n astudio'r radd generig (BA Busnes a Rheoli) yn astudio 40 credyd o fodiwlau gorfodol ac yn dewis 80 credyd o fodiwlau dewisol. Mae myfyrwyr sy'n astudio llwybr ar Lefel 6 yn cyflawni o leiaf 40 credyd o fodiwlau gorfodol, 40 credyd yn eu harbenigedd pwnc a 40 credyd o fodiwlau dewisol (gall 20 ohonynt fod yn gysylltiedig â'r llwybr).
Modiwlau gorfodol ar gyfer pob llwybr:
- Rheoli Strategol*
- Arwain Newid*
Un o fanteision craidd y radd hon yw'r gallu i newid llwybrau. Mae hyn yn eich galluogi i benderfynu ar y modiwlau y byddwch yn eu hastudio yn y flwyddyn olaf ar ddiwedd yr ail flwyddyn yn hytrach na gorfod penderfynu arnynt nawr neu yn ystod eich misoedd cyntaf yn y Brifysgol. Bydd myfyrwyr ar y Llwybr Generig yn dewis o blith amrywiaeth o opsiynau o'r gwahanol lwybrau gan roi dewis eang iawn o bynciau i'r myfyrwyr hyn er nad yw'n bosibl gwarantu y bydd pob modiwl ar gael bob blwyddyn.
Mae myfyrwyr Lefel 6 sy'n parhau ar y llwybr o L5 yn cyflawni 2 o'r 3. Mae myfyrwyr sy'n newid llwybrau yn gwneud pob un o'r 3:
Entrepreneuriaeth:
- Entrepreneuriaeth Gymhwysol a Datblygu Busnes
- Entrepreneuriaeth, Strategaeth a Diwylliant
- Arloesi ac Entrepreneuriaeth
Cyllid:
- Rheoli Buddsoddi
- Marchnadoedd Cyfalaf a Deilliadau
- Cyllid Cyfoes
Rheoli Adnoddau Dynol:
- Cysylltiadau Gweithwyr Cyfoes
- Rheoli Pobl yn Rhyngwladol
- Canfod a Datblygu Talent
Masnach Ryngwladol:
- Cyfraith Masnach Ryngwladol
- Marchnata Rhyngwladol a Byd-eang
- Busnes Rhyngwladol ac Amrywiaeth Ddiwylliannol
Y Gyfraith:
- Busnes Cyfoes a Diogelu Defnyddwyr
- Cyfrifoldebau Rheoli Cyfreithiol mewn Cyflogaeth
- Rhwymedigaethau Busnes
Marchnata:
- Rheoli Brand
- Cyfathrebu Busnes Cyfoes
- Marchnata Rhyngwladol a Byd-eang
Cynaliadwyedd:
- Rheoli Cadwyni Cyflenwi'n Foesegol
- Arwain Newid ar gyfer Cynaliadwyedd
- Arloesi ac Entrepreneuriaeth
Mae myfyrwyr hefyd yn cael dewis o gwblhau un modiwl dewisol 40 credyd:
- BRM6004 Traethawd Hir
- BSP6008 Cynllun Marchnata
- BES6000 Lansio Menter
- BRM6005 Blwyddyn mewn Diwydiant
Os bydd myfyriwr yn newid llwybr ar lefel 6 i lwybr newydd AC yn dewis astudio BRM6004 TRAETHAWD HIR, RHAID i bwnc y prosiect ymchwil fod yn gysylltiedig â’u llwybr pwnc er mwyn gallu cyfrif tuag at y credydau llwybr.
Dysgu ac Addysgu
Darlithoedd
Mae darlithoedd yn rhan bwysig o'r strategaeth addysgu ar gyfer y rhaglen. Mae darlithoedd yn ffordd effeithiol o gyflwyno deunydd craidd a sefydlu fframwaith ar gyfer modiwl y gellir gosod deunydd arall yn ei erbyn.
Seminarau
Mewn seminarau mae myfyrwyr yn cyflwyno gwaith y maent wedi'i baratoi o flaen llaw i gyfoedion a darlithydd. Defnyddir y strategaeth hon i ymestyn cysyniadau damcaniaethol neu ymarferol penodol yn ogystal â chyflwyno ymarferion datrys problemau. Defnyddir seminarau yn y rhan fwyaf o fodiwlau ac maent yn rhoi profiad gwerthfawr i fyfyrwyr o sgiliau cyflwyno, blogiau, wicis neu bodlediadau, yn ogystal â rhoi dull i staff asesu dysgu sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr, tra bydd amgylcheddau dysgu rhithwir fel Moodle, gweminarau, darlithoedd wedi'u recordio, yn caniatáu i gynnwys cwrs gael ei lanlwytho, mewn achosion lle gallai hyn ddigwydd bydd myfyrwyr yn parhau i elwa ar gyswllt/arbenigedd staff.
Gweithdai Ymarferol
Defnyddir gweithdai ymarferol yn helaeth mewn nifer o fodiwlau drwy gydol y rhaglen. Yn y dosbarthiadau hyn gall myfyrwyr ymarfer a mireinio eu sgiliau mewn amgylchedd cefnogol lle gallant gael adborth gan aelod o'r staff academaidd. Mae gweithdai ymarferol yn ddull gwerthfawr o bontio rhwng theori ac ymarfer.
Astudiaethau Achos
Strategaeth addysgu a dysgu yw astudiaethau achos, a ddefnyddir mewn amrywiaeth o fodiwlau; Maent yn offeryn asesu defnyddiol hefyd. Cyflwynir problemau cymhleth go iawn neu ffug i fyfyrwyr neu gofynnir iddynt ddatblygu rhai eu hunain ac yna mae gofyn iddynt eu dadansoddi'n fanwl ac yna cyfosod/cyflwyno eu datrysiad eu hunain yn ysgrifenedig neu ar lafar.
Arbenigwyr Busnes
Elfen allweddol o'r profiad dysgu yw gwahodd arbenigwyr busnes, academaidd ac mewn ymarfer, i roi cipolwg ar eu gwaith ymchwil neu weithgarwch busnes. Mae rhwydwaith o arbenigwyr yn helpu i ddarparu gwybodaeth arbenigol yn ogystal ag atgyfnerthu a hyrwyddo cymwysterau'r rhaglen. Gellid gwahodd arbenigwyr o'r fath fel siaradwyr gwadd neu ofyn iddynt ddarparu profiad gweithdy mwy rhyngweithiol lle bo'n briodol.
Cymorth i fyfyrwyr wrth ddysgu:
Tiwtoriaid Personol
Mae'r holl fyfyrwyr sy'n astudio yn Ysgol Reoli Caerdydd yn elwa ar y tîm o diwtoriaid ymroddedig sy'n darparu pwynt cyswllt personol a rheolaidd i fyfyrwyr. Maent yn rhoi myfyrwyr ar ben ffordd gyda materion megis cyllid, lles, datblygu gyrfa yn ogystal â helpu gyda chynllunio patrymau astudio effeithiol, paratoi ar gyfer arholiadau ac amrywiaeth o faterion pwysig eraill lle bo angen. Mae'r Tiwtoriaid Personol yn gweithio'n agos gyda Chyfarwyddwr y Rhaglen a Thiwtoriaid Blwyddyn i sicrhau bod anghenion y myfyrwyr yn cael eu diwallu'n effeithiol a bod eu hamser ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yn brofiad dymunol a llwyddiannus.
Yn ogystal â'r Tiwtoriaid Personol, darperir y cymorth a'r arweiniad academaidd penodol ar gyfer y cwrs unigol gan Gyfarwyddwr y Rhaglen a'r Tiwtor Blwyddyn perthnasol. Mae hyn yn arbennig o bwysig o ran y dewis o opsiynau sydd ar gael ar lefel 5 a 6 a dewis llwybrau. Er mwyn sicrhau bod y myfyrwyr yn gwneud penderfyniad gwybodus, mae tudalen we arbennig ynghyd â phodlediadau ar gael. Cefnogir hyn ymhellach gan sesiwn lawn orfodol ar gyfer pob blwyddyn o'r rhaglen, ynghyd â Ffair Opsiynau i roi arweiniad unigol pellach.
Mae'r rhaglen yn cynnig cymorth cyffredinol pellach i'r myfyrwyr drwy'r canlynol:
- Rhaglen sefydlu ar gyfer myfyrwyr lefel 4, lefel 5 a lefel 6
- Llawlyfr myfyrwyr, llawlyfr rhaglen a llawlyfrau modiwlau unigol
- Amgylchedd Dysgu Rhithwir Moodle
- Llyfrgell a phecynnau sgiliau astudio
- Llyfrgell ac adnoddau dysgu ar ddau gampws Prifysgol Metropolitan Caerdydd
- Cyfleusterau cyfrifiadura arbenigol gan gynnwys labordai rhyngweithiol ac aml-gyfrwng
- Cyfleuster TG mynediad agored 24 awr ar gampysau Cyncoed a Llandaf
- Mynediad diderfyn i'r we fyd-eang
- Mynediad at wasanaethau myfyrwyr gan gynnwys y rhai a gynigir gan y gwasanaethau gyrfaoedd, lles, anabledd, cwnsela, caplaniaeth a'r ganolfan feddygol.
Mae'r Brifysgol yn gweithredu rhaglen symudedd allanol ac mae arian ar gael i annog ymweliadau diwylliannol â gwledydd eraill i helpu myfyrwyr i ddeall busnes yn ei gyd-destunau byd-eang a gwleidyddol.
Asesu
Mae'r strategaeth asesu'n cwmpasu sbectrwm eang o ddulliau. Mae gan bob modiwl ei nodau, ei amcanion, ei ddeilliannau dysgu a'i ddulliau cyflwyno ac asesu ei hun. Felly, gall asesiadau fod ar ffurf papurau/traethodau/adroddiadau ysgrifenedig, cyflwyniadau llafar, prosiectau ymchwil grŵp ac unigol, posteri, papurau myfyriol a all gynnwys llunio llyfrau lloffion, ac astudiaethau achos a asesir yn ogystal ag arholiadau ffurfiol llyfrau agored/caeedig.
Mae paratoadau a chymorth ar gael ar gyfer asesu drwy weithgareddau amrywiol wedi'u cynllunio gan arweinwyr modiwlau, tiwtoriaid personol a'r llyfrgell.
Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd
Mae gwybodaeth a dealltwriaeth o reoli busnes, ar y cyd â datblygu sgiliau cyflogadwyedd graddedigion sy'n ofynnol gan gyflogwyr, yn hollbwysig. O'r cychwyn cyntaf, hyd at gwblhau eich blwyddyn olaf, mae cyflogadwyedd yn agwedd bwysig ar eich rhaglen radd.
Yn ogystal â modiwl profiad gwaith gorfodol ym mlwyddyn dau, y gallwn eich helpu i'w drefnu, rydym yn cynnal ffeiriau gyrfaoedd a digwyddiadau rhwydweithio cymdeithasol gyda chyflogwyr. Fel arall, os ydych chi'n bwriadu dod yn Entrepreneur ifanc a dechrau eich busnes eich hun, bydd y Ganolfan Entrepreneuriaeth Myfyrwyr yn eich helpu gydag ymarfer busnes ac yn helpu i ddatblygu eich syniad busnes tra byddwch yn fyfyriwr prifysgol. Nod y modiwl profiad gwaith ym mlwyddyn 2 (lefel 5) yw cynnig profiad byd go iawn i chi. Mae modiwl ar gael hefyd rhwng blynyddoedd 2 a 3 lle gallwch gyflawni lleoliad mewn diwydiant am flwyddyn, y dyfernir 40 credyd iddo yn eich trydedd flwyddyn. Gall ein swyddogion lleoliad gwaith helpu i ddod o hyd i leoliadau blwyddyn o hyd.
Mae’r rhan fwyaf o’n myfyrwyr yn ymuno â byd busnes ar ôl graddio a byddant yn cael eu cyflogi mewn pob math o sefydliadau yn y sectorau cyhoeddus a phreifat. Er enghraifft, mae myfyrwyr wedi cael eu cyflogi fel swyddogion gwerthiannau busnes, gweithwyr cyswllt marchnata proffesiynol, rheolwyr cyfrifon ariannol, rheolwyr a chyfarwyddwyr ym maes manwerthu a chyfanwerthu, gwerthwyr eiddo ac arwerthwyr a swyddogion adnoddau dynol a chysylltiadau diwydiannol, i enwi dim ond rhai swyddi.
Mae cyfle i fyfyrwyr barhau i astudio ar lefel ôl-raddedig ar gyrsiau gydag Ysgol Reoli Caerdydd, fel yr MSc Rheoli Busnes Rhyngwladol, LLM Busnes Rhyngwladol, MSc Marchnata Strategol, MSc Rheoli Adnoddau Dynol, MSc Rheoli Entrepreneuriaeth ac Arloesi, MSc Rheoli Cadwyni Cyflenwi a Logisteg Rhyngwladol, MSc Bancio a Chyllid a'r MBA. Yn ogystal, bydd graddedigion wedi'u paratoi'n dda i ymgymryd â chymwysterau neu raglenni proffesiynol.
Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais
Cynigion Nodweddiadol
-
Pwyntiau tariff: 112
-
Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen
cynigion cyd-destunol.
-
TGAU: Pum TGAU ar Radd C / 4 neu uwch, gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg / Mathemateg – Rhifedd.
-
Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS Academaidd 6.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob elfen, neu gyfwerth.
-
Pynciau Safon Uwch: O leiaf tair Safon Uwch i gynnwys Graddau CCC. Does dim angen pynciau penodol. Bagloriaeth Cymru – Ystyrir Tystysgrif Her Sgiliau Uwch fel trydydd pwnc.
-
Diploma Cenedlaethol BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: DMM
-
Lefel T: Teilyngdod.
-
Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Does dim angen pynciau penodol.
-
Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (IB): 2 x H5. Does dim angen pynciau penodol.
-
Tystysgrif Gadael Iwerddon: 2 x gradd H2. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir pynciau lefel uwch yn unig gydag isafswm gradd H4.
-
Advanced Highers yr Alban: Graddau DD. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir Highers yr Alban hefyd, naill ai ar eu pennau eu hunain neu ar y cyd ag Advanced Highers.
Os nad ydych yn bodloni’r gofyniad mynediad uchod, rydym hefyd yn cynnig
Rhaglen Sylfaen sy’n caniatáu gwneud cynnydd i Flwyddyn 1.
Derbynnir cyfuniadau o’r cymwysterau uchod os ydyn nhw’n cwrdd â’n gofynion lleiaf. Os nad yw eich cymwysterau wedi’u rhestru, cysylltwch â
Derbyniadau neu cyfeiriwch at
Chwiliad Cwrs UCAS.
Mae rhagor o wybodaeth ar gymwysterau Tramor i’w gweld
yma.
Os ydych yn ymgeisydd hŷn, mae gennych brofiad perthnasol neu
RPL yr hoffech i ni ei ystyried, cysylltwch â Derbyniadau.
Sut i Ymgeisio
Mae rhagor o wybodaeth ar sut i ymgeisio i’w gweld
yma.
Cysylltu â Ni
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol ffoniwch y Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6010 neu e-bostiwch
askadmissions@cardiffmet.ac.uk.
Ar gyfer ymholiadau am y cwrs yn benodol, cysylltwch â Chyfarwyddwr y Rhaglen, Lisa Wright: lwright@cardiffmet.ac.uk
Ffôn: +44(0)29 2041 6318