Mae'r radd BSc Bancio a Chyllid ym Met Caerdydd yn ymdrin â chysyniadau allweddol bancio a chyllid ac yn rhoi dealltwriaeth i fyfyrwyr o bwysigrwydd y maes hwn mewn cyd-destun ymarferol a damcaniaethol.
Bydd y cwrs yn rhoi’r adnoddau a’r medrau dadansoddol sydd eu hangen ar fyfyrwyr i adnabod a datrys problemau cymhleth mewn ffordd ddeinamig a strategol. Yn ogystal, bydd y rhaglen yn darparu sgiliau hynod drosglwyddadwy i fyfyrwyr, ynghyd â gwybodaeth drylwyr am amrywiaeth eang o feddalwedd ariannol.
Mae bancio a chyllid yn hollbwysig i economi’r byd gan ei fod yn sicrhau y gall cwmnïau newydd a rhai sy’n bodoli’n barod godi’r arian sydd ei angen i roi cynnig ar syniadau buddsoddi proffidiol. Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol os nad oes gennych chi unrhyw brofiad blaenorol o fancio a chyllid ond eich bod eisiau dysgu mwy am y diwydiant.
Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn dysgu sut mae sefydliadau ariannol yn rhan o economi’r byd ac yn dysgu am y dulliau a’r technegau meintiol sydd eu hangen ar gyfer gyrfa yn y diwydiant hwn. Byddwch yn gallu dewis iaith hefyd, naill ai Tsieinëeg Mandarin, Sbaeneg neu Ffrangeg, fel rhan o'ch rhaglen. Gellir parhau â'r iaith ddewisol drwy gydol eich gradd tair blynedd a byddai'n gwella eich sgiliau cyflogadwyedd ymhellach.
Yn yr ail flwyddyn, byddwch yn ehangu eich gwybodaeth trwy astudio effaith gwahanol fathau o risg ar gwmnïau a gwledydd. Bydd y flwyddyn olaf yn gwella eich dealltwriaeth o bwysigrwydd sicrhau bod y wybodaeth ddiweddaraf gennych am faterion cyfoes yn y cyd-destun busnes ehangach trwy gynnal ymchwil annibynnol.
Bydd y dulliau addysgu’n cynnwys darlithoedd, gweithdai a seminarau, a fydd yn cynnwys gwybodaeth academaidd a phrofiad ymarferol. Bydd y profiad ymarferol yn cynnwys defnyddio meddalwedd ariannol, er mwyn i chi ddysgu’r sgiliau sydd eu hangen arnoch ar gyfer y gweithle ar ôl graddio.
Bydd y rhaglen hon yn ddarostyngedig ar adolygiad cyfnodol yn 2023/4 i sicrhau bod cynnwys y cwrs yn gyfredol ac yn parhau i fod. Os bydd unrhyw newidiadau i gynnwys y cwrs yn cael eu gwneud o ganlyniad i'r adolygiad, bydd pob ymgeisydd yn cael gwybod unwaith y bydd newidiadau'n cael eu cadarnhau.
Cynnwys y Cwrs
Blwyddyn Sylfaen (Blwyddyn 0):
Mae’r rhaglen yn cynnwys blwyddyn sylfaen ar gyfer myfyrwyr sydd eisiau ymrestru ar y radd anrhydedd tair blynedd ac sy’n perthyn i un o’r categorïau canlynol:
1. Myfyrwyr nad ydynt wedi cael y nifer gofynnol o bwyntiau Safon Uwch (neu gyfwerth) i ddechrau ar flwyddyn gyntaf y rhaglen radd.
2. Myfyrwyr hŷn sydd wedi bod allan o’r system addysg ffurfiol ers peth amser.
Gellir gweld rhagor o wybodaeth am y flwyddyn sylfaen drwy
glicio yma.
Gradd:
Mae'r radd hon mewn Bancio a Chyllid yn cynnwys nifer o fodiwlau craidd, gydag amrywiaeth o opsiynau, sy'n gyfanswm o 360 o gredydau ar draws pob blwyddyn i ddatblygu eich diddordebau a'ch arbenigedd penodol:
Blwyddyn 1
Bydd myfyrwyr yn astudio 100 credyd o fodiwlau gorfodol a byddant yn gallu dewis 20 credyd o fodiwlau dewisol.
Modiwlau gorfodol:
- Dulliau Meintiol I (20 credyd)
- Gwasanaethau Ariannol Byd-eang (20 credyd)
- Yr Economi: Microeconomeg (20 credyd)
- Yr Economi: Macroeconomeg (20 credyd)
- Cyfrifeg Ariannol a Digidol (20 credyd)
- Cyfrifeg Rheoli (20 credyd)
Blwyddyn 2
Bydd myfyrwyr yn astudio 100 credyd o fodiwlau gorfodol a byddant yn gallu dewis 20 credyd o'r casgliad o fodiwlau dewisol sydd ar gael.
Modiwlau gorfodol:
- Dulliau Meintiol II (20 credyd)
- Arian, Bancio a Risg (20 credyd)
- Marchnadoedd ac Egwyddorion Buddsoddi (20 credyd)
- Rheoli Banc (20 credyd)
- Profiad Gwaith NEU Brosiect Gwirfoddoli (20 credyd)
Modiwlau dewisol:
- Cyfraith Gorfforaethol a Busnes (20 credyd)
- Adroddiadau Ariannol (20 credyd)
- Macroeconomeg Canolradd (20 credyd)
- Microeconomeg Canolradd (20 credyd)
Blwyddyn 3
Bydd myfyrwyr yn astudio 60 credyd o fodiwlau gorfodol a byddant yn gallu dewis 60 credyd o'r casgliad o fodiwlau dewisol sydd ar gael.
Modiwlau gorfodol:
- Rheoleiddio Bancio Rhyngwladol (20 credyd)
- Rheoli Buddsoddi (20 credyd)
- Marchnadoedd Cyfalaf a Deilliadau (20 credyd)
- Cyllid Cyfoes (20 credyd)
Modiwlau dewisol*:
- Traethawd hir (40 credyd)
- Econometreg (20 credyd)
- Busnes Cyfoes a Diogelu Defnyddwyr (20 credits)
- Adroddiadau Ariannol Uwch (20 credyd)
- Rheolaeth Ariannol i Reolwyr (20 credyd)
- Adnoddau Economaidd ar gyfer Llywodraeth (20 credyd)
- Microeconomeg Gymhwysol (20 credyd)
- Macroeconomeg: Theori a Chymhwyso (20 credyd)
- Gemau a Chymwysiadau Uwch (20 credyd)
- Profiad Gwaith Diwydiannol (20 credyd)
*Sylwch fod modiwlau dewisol yn cael eu cyflwyno yn amodol ar alw ac argaeleddDysgu ac Addysgu
Anogir dull dysgu ac addysgu sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr drwy ddefnyddio strategaethau addysgu penodol, astudiaethau achos, prosiectau, tiwtorialau, ymarferion ymarferol, wedi'u hategu gan y defnydd o ddeunyddiau cymorth priodol, darlithoedd gan arbenigwyr busnes, fideos a meddalwedd gyfrifiadurol. Mae ymgysylltu'n weithredol â'r deunydd pwnc yn gwella dysgu ac mae llawer o'r strategaethau dysgu a ddefnyddir yn ceisio hyrwyddo hyn.
Darlithoedd
Mae darlithoedd yn rhan bwysig o'r strategaeth addysgu ar gyfer y rhaglen. Mae darlithoedd yn ffordd effeithiol o gyflwyno deunydd craidd a sefydlu fframwaith ar gyfer modiwl y gellir gosod deunydd arall yn ei erbyn.
Seminarau
Mewn seminarau mae myfyriwr neu fyfyrwyr yn cyflwyno gwaith y maent wedi'i baratoi o flaen llaw i gyfoedion a darlithydd. Defnyddir y strategaeth hon i ymestyn cysyniadau damcaniaethol neu ymarferol penodol yn ogystal â chyflwyno ymarferion datrys problemau. Defnyddir seminarau yn y rhan fwyaf o fodiwlau ac maent yn rhoi profiad gwerthfawr i fyfyrwyr o sgiliau cyflwyno yn ogystal â rhoi dull i staff asesu dysgu sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr.
Gweithdai Ymarferol
Defnyddir gweithdai ymarferol yn helaeth mewn nifer o fodiwlau drwy gydol y rhaglen. Yn y dosbarthiadau hyn gall myfyrwyr ymarfer a mireinio eu sgiliau mewn amgylchedd cefnogol lle gallant gael adborth gan aelod o'r staff academaidd. Mae gweithdai ymarferol yn ddull gwerthfawr o bontio rhwng theori ac ymarfer.
Astudiaethau Achos
Strategaeth addysgu a dysgu yw astudiaethau achos, a ddefnyddir mewn amrywiaeth o fodiwlau; maent yn offeryn asesu defnyddiol hefyd. Cyflwynir problemau cymhleth go iawn neu ffug i fyfyrwyr neu gofynnir iddynt ddatblygu rhai eu hunain ac yna mae gofyn iddynt eu dadansoddi'n fanwl ac yna cyfosod/cyflwyno eu datrysiad eu hunain yn ysgrifenedig neu ar lafar.
Arbenigwyr Busnes
Elfen allweddol o'r profiad dysgu yw'r bwriad i wahodd arbenigwyr busnes, academaidd ac mewn ymarfer, i roi cipolwg ar eu gwaith ymchwil neu weithgarwch busnes. Bydd rhwydwaith o arbenigwyr o'r fath yn helpu i ddarparu gwybodaeth arbenigol yn ogystal ag atgyfnerthu a hyrwyddo cymwysterau'r rhaglen. Gellid gwahodd arbenigwyr o'r fath fel siaradwyr gwadd neu ofyn iddynt ddarparu profiad gweithdy mwy rhyngweithiol lle bo'n briodol.
Tiwtorialau Pwnc Modiwlaidd
Cyfarfodydd rhwng myfyriwr neu grŵp o fyfyrwyr a darlithydd neu ddarlithwyr yw tiwtorialau ac fe'u defnyddir mewn dwy ffordd yn y rhaglen:
- Ehangu ar ddeunydd a drafodir mewn darlithoedd drwy ddull datrys problemau a gaiff ei lywio gan ymholi
- Cynnig cymorth ychwanegol i wella gwybodaeth gefndir.
Asesu
Mae'r strategaeth asesu ar gyfer y rhaglen yn amrywio er mwyn sicrhau'r dull mwyaf priodol ar gyfer pob modiwl a maes pwnc penodol. Bydd hyn yn gyfuniad o arholiadau ffurfiol, aseiniadau ymarferol, aseiniadau ysgrifenedig, adroddiadau technegol, cyflwyniadau, profion yn y dosbarth, asesiadau gan gymheiriaid a lleoliadau seiliedig ar waith. Felly, yn ogystal ag arholiadau ac asesiadau ffurfiol ar ddiwedd y flwyddyn academaidd, byddwch yn cael eich asesu'n barhaus ac yn cael adborth ar eich cynnydd a'ch datblygiad drwy gydol y flwyddyn h.y. drwy asesiad ffurfiannol a chrynodol. Asesir llawer o fodiwlau drwy gyfuniad o aseiniadau gwaith cwrs ymarferol ac arholiadau ysgrifenedig nas gwelir ar ddiwedd y tymor neu'r flwyddyn.
Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd
Prif nod y rhaglen radd hon yw datblygu dealltwriaeth ddamcaniaethol o gysyniadau allweddol bancio a chyllid. Bydd yn arddangos effaith a phwysigrwydd ehangach y sector bancio i economi'r byd.
Bydd graddedigion yn gweld bod ganddynt bob math o gyfleoedd gyrfa yn y sector bancio a chyllid, yn ogystal â'r rhan fwyaf o sectorau diwydiannol eraill (cyhoeddus a phreifat), gan gynnwys y sector dadansoddi credyd, gwasanaethau ariannol a phroffesiynol, dadansoddi risg a chyfleoedd buddsoddi sefydliadol.
Byddwch yn cael profiad byd go iawn fel rhan o’ch astudiaeth trwy brofiad gwaith gorfodol, ynghyd â lleoliad blwyddyn rhyngosod ac interniaethau diwydiannol dewisol.
Ar ôl cwblhau'r rhaglen radd hon yn llwyddiannus, mae rhagor o opsiynau astudio ôl-raddedig a addysgir ym meysydd Cyfrifeg, Bancio, Economeg a Chyllid yma ym Met Caerdydd hefyd, yn ogystal â rhaglenni ymchwil a PhD.
Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais
Cynigion Nodweddiadol
-
Pwyntiau tariff: 112
-
Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen
cynigion cyd-destunol.
-
TGAU: Pum TGAU ar Radd C / 4 neu uwch, gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg / Mathemateg – Rhifedd.
-
Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS Academaidd 6.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob elfen, neu gyfwerth.
-
Pynciau Safon Uwch: O leiaf tair Safon Uwch i gynnwys Graddau CCC. Does dim angen pynciau penodol. Bagloriaeth Cymru – Ystyrir Tystysgrif Her Sgiliau Uwch fel trydydd pwnc.
-
Diploma Cenedlaethol BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: DMM
-
Lefel T: Teilyngdod.
-
Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Does dim angen pynciau penodol.
-
Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (IB): 2 x H5. Does dim angen pynciau penodol.
-
Tystysgrif Gadael Iwerddon: 2 x gradd H2. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir pynciau lefel uwch yn unig gydag isafswm gradd H4.
-
Advanced Highers yr Alban: Graddau DD. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir Highers yr Alban hefyd, naill ai ar eu pennau eu hunain neu ar y cyd ag Advanced Highers.
Os nad ydych yn bodloni’r gofyniad mynediad uchod, rydym hefyd yn cynnig
Rhaglen Sylfaen sy’n caniatáu gwneud cynnydd i Flwyddyn 1.
Derbynnir cyfuniadau o’r cymwysterau uchod os ydyn nhw’n cwrdd â’n gofynion lleiaf. Os nad yw eich cymwysterau wedi’u rhestru, cysylltwch â
Derbyniadau neu cyfeiriwch at
Chwiliad Cwrs UCAS.
Mae rhagor o wybodaeth ar gymwysterau Tramor i’w gweld
yma.
Os ydych yn ymgeisydd hŷn, mae gennych brofiad perthnasol neu
RPL yr hoffech i ni ei ystyried, cysylltwch â Derbyniadau.
Sut i Ymgeisio
Mae rhagor o wybodaeth ar sut i ymgeisio i’w gweld
yma.
Cysylltu â Ni
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol ffoniwch y Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044 neu e-bostiwch
askadmissions@cardiffmet.ac.uk.
Ar gyfer ymholiadau am y cwrs yn benodol, cysylltwch â Dr Surraya Rowe, arweinydd y rhaglen:
E-bost:
srowe@cardiffmet.ac.uk
Ffôn: 029 20 205705