Mae'r BA (Anrh) Hysbysebu a Rheoli Marchnata ym Met Caerdydd yn radd arbenigol mewn marchnata ac wedi'i datblygu ar y cyd â maes llafur
Sefydliad yr Ymarferwyr Hysbysebu (IPA) er mwyn sicrhau bod y cynnwys addysgu’n cyd-fynd yn dda â disgwyliadau’r diwydiant. Mae gan y cwrs enw da am ei gyfeiriadedd galwedigaethol - bydd dod yn 'Farchnatwr Met’ yn eich galluogi i ennill yr wybodaeth academaidd a'r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i gael gwaith yn y diwydiant hysbysebu a marchnata.
Bydd y radd newydd yn ceisio sicrhau achrediad gan yr IPA a bydd yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu'r sgiliau a'r gallu i feddwl yn greadigol a defnyddio'r offer diweddaraf mewn ymgyrchoedd hysbysebu integredig modern. Mae hysbysebu'n parhau i fod â phroffil uchel yn y sector cyfathrebu marchnata, yn enwedig o ran gweithgareddau datblygu brand.
Mae'r cwrs hwn yn cynnig cyfle i fyfyrwyr ddatblygu eu gwybodaeth a'u sgiliau i ddod yn wybodus iawn am bob agwedd ar hysbysebu. Mae hyn yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu a chynllunio ymgyrchoedd hysbysebu ar y cyd â gweithgareddau marchnata eraill, hyrwyddo, cyfryngau uniongyrchol a digidol. Mae'r radd hon hefyd yn cynnwys elfennau pwysig o'r maes marchnata ehangach er mwyn sicrhau y gall myfyrwyr ymuno â'r farchnad graddedigion gyda’r gallu i gyfrannu'n effeithiol at bob elfen o farchnata. Byddwch yn meddu ar ystod o sgiliau ymarferol gan y byddwch yn cael eich addysgu i ddefnyddio meddalwedd safonol y diwydiant sy'n rhoi sgiliau gweledol i chi, ochr yn ochr â datblygu sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig.
Yn ogystal â hyn, fel Marchnatwr Met, byddwch yn gallu cymryd rhan yn ein grŵp myfyrwyr CIM a dilyn yn ôl troed ein myfyrwyr arobryn
trwy gymryd rhan yng ngweithgareddau creadigol ac entrepreneuraidd CIM. Bydd y gystadleuaeth yn eich galluogi i brofi sut beth yw gweithio i asiantaeth farchnata drwy weithio ar ymgyrch ar gyfer brand diwydiant adnabyddus, gyda'r 12 gorau’n cael eu gwahodd i gyflwyno’u syniadau i'r cleient wyneb yn wyneb.
Mae gan ddarlithwyr y cwrs wybodaeth academaidd a phrofiad mewn diwydiant er mwyn datblygu'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ddod yn raddedigion marchnata cyflogadwy iawn. Byddwch yn ymuno â 'melin drafod' hysbysebu a marchnata, gan roi eich gwybodaeth a'ch sgiliau ar waith yn ystod eich asesiadau a chyfleoedd lleoliad gwaith. Bydd blwyddyn lleoliad gwaith ddewisol rhwng eich ail flwyddyn a'ch blwyddyn olaf yn gwella cyflogadwyedd ac yn cynnig profiad gwerthfawr a chyfleoedd rhwydweithio o fewn y diwydiant i fyfyrwyr.
Blwyddyn Sylfaen
Gellir astudio’r radd hon fel gradd amser llawn tair blynedd neu radd pedair blynedd sy’n cynnwys blwyddyn o astudio sylfaenol. Bwriad ein blwyddyn sylfaen yw eich paratoi ar gyfer eich blynyddoedd dilynol o astudio, gan gynnig cyfle i chi gryfhau eich sgiliau, eich gwybodaeth a’ch hyder.
Bydd y flwyddyn sylfaen yn berthnasol i:
- Myfyrwyr nad ydynt wedi cael y nifer gofynnol o bwyntiau Safon Uwch (neu gyfwerth) i ddechrau ar flwyddyn gyntaf y rhaglen radd.
- Myfyrwyr hŷn sydd wedi bod allan o’r system addysg ffurfiol ers peth amser.
Darganfyddwch fwy am y
flwyddyn sylfaen.
Nodwch: Bydd angen i chi wneud cais gan ddefnyddio cod UCAS penodol os ydych yn dymuno ymgymryd â’r 4 blynedd gan gynnwys sylfaen. Cyfeiriwch at Wybodaeth Gwrs Allweddol ar waelod y dudalen hon.
Cynnwys y Cwrs
Gradd
Mae'r cwrs yn cynnwys profiad 'byd go iawn' yn ein harferion addysgu er mwyn hwyluso dealltwriaeth glir o'r broses Rheoli Marchnata. Mae aseiniadau'n seiliedig ar enghreifftiau o’r diwydiant a bydd yna ddarlithwyr gwadd hefyd o blith ymarferwyr o wahanol gwmnïau.
Byddwch hefyd yn cael dewis dysgu iaith fel gweithgaredd allgyrsiol ac yn cael astudio dramor am semester i ehangu eich profiad a'ch sgiliau; y cyfan yn fantais o ran sicrhau llwyddiant mewn gyrfa Hysbysebu a Marchnata.
Blwyddyn Un
Byddwch yn dilyn 120 credyd o fodiwlau craidd:
- Cyflwyniad i Farchnata* (20)
- Cyfryngau Digidol ar gyfer Marchnatwyr (20)
- Cyllid i Reolwyr* (20)
- Rheoli Pobl a Sefydliadau* (20)
- Y Gyfraith a Byd Busnes (20)
- Technegau Hysbysebu a Gwerthu (20)
*Modiwl ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg
Blwyddyn Dau
Byddwch yn dilyn 100 credyd o fodiwlau craidd a gallwch ddewis 20 credyd o fodiwlau dewisol:
Modiwlau craidd:
- Ymddygiad Defnyddwyr (20)
- Cyfathrebu Marchnata Creadigol ar gyfer Hysbysebu (20)
- Dadansoddeg Ddigidol (20)
- Dulliau Ymchwil Marchnata (20)
- Hysbysebu ar Waith gan gynnwys Lleoliad Gwaith (20)
Dewis modiwl 20 credyd dewisol o blith y canlynol**:
- Marchnata Chwilio: Cynnwys, SEO + PPC (20 credyd)
- Marchnata Symudol a’r Cyfryngau Cymdeithasol (20 credyd)
- Marchnata Chwaraeon, Digwyddiadau a Nawdd (20 credyd)
Ym mlwyddyn dau cewch eich cefnogi i ddod o hyd i leoliad gwaith perthnasol a defnyddiol. Mae'r lleoliad gwaith yn cynnig profiad uniongyrchol o roi theori ar waith a gweld sut mae'r theori’n cael ei defnyddio mewn sefydliad. Mae hyn wedi cael derbyniad da iawn gan gyflogwyr a bydd yn rhoi mantais i chi wrth wneud cais am swyddi ar ôl graddio.
Blwyddyn mewn Diwydiant: Mae'r opsiwn o dreulio blwyddyn mewn diwydiant rhwng yr 2il flwyddyn a'r flwyddyn olaf wedi'i gynnwys i'ch galluogi i gwblhau'r radd gyda lefel o brofiad ymarferol. Gellir cynnwys yr opsiwn hwn o brofiad ymarferol yn y cwrs gradd tair blynedd, drwy wneud gwaith ymarferol mewn diwydiant yn ystod y tymor neu adeg cyfnodau o wyliau yn ystod y cwrs.
Blwyddyn Tri/Blwyddyn Pedwar
Blwyddyn tri i fyfyrwyr nad ydynt yn dewis y flwyddyn o brofiad, neu Flwyddyn Pedwar i'r myfyrwyr hynny sy'n dilyn yr opsiwn profiad ymarferol.
Mae myfyrwyr yn dilyn 100 credyd o fodiwlau craidd ac yna'n dewis 20 credyd o fodiwlau dewisol.
Modiwlau craidd:
- Marchnata Rhyngwladol a Byd-eang (20)
- Rheoli Cyfrifon ar gyfer Marchnatwyr (20)
- Rheoli Hysbysebu Strategol (20)
- Cynllun Marchnata NEU Traethawd Hir(40)
Modiwlau dewisol**:
- Cynnwys, Hawlfraint a Chreadigrwydd (20)
- Rheoli Gwerthiannau Strategol (20)
- Digwyddiadau Chwaraeon Byd-eang (20)
- Arloesi ac Entrepreneuriaeth (20)
- Profiad gwaith diwydiannol (20)
**Sylwer bod modiwlau dewisol yn cael eu cyflwyno yn dibynnu ar y galw ac argaeledd
Dysgu ac Addysgu
Bydd y dull dysgu ac addysgu sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr yn cael ei annog drwy ddefnyddio strategaethau addysgu penodol, astudiaethau achos, prosiectau, tiwtorialau, ymarferion ymarferol, wedi'u cefnogi drwy ddefnyddio deunyddiau cymorth priodol, darlithoedd gan arbenigwyr busnes, fideos a meddalwedd gyfrifiadurol. Mae ymgysylltu'n weithredol â'r deunydd pwnc yn gwella dysgu ac mae llawer o'r strategaethau dysgu a ddefnyddir yn hyrwyddo hyn.
Darlithoedd
Mae darlithoedd yn rhan bwysig o'r strategaeth addysgu ar gyfer y rhaglen. Mae darlithoedd yn ffordd effeithiol o gyflwyno deunydd craidd a sefydlu fframwaith ar gyfer modiwl y gellir gosod deunydd arall yn ei erbyn.
Tiwtorialau Pwnc Modiwlaidd
Cyfarfodydd rhwng myfyriwr neu grŵp o fyfyrwyr a darlithydd neu ddarlithwyr yw tiwtorialau ac fe'u defnyddir mewn dwy ffordd o fewn y rhaglen:
- Ehangu ar ddeunydd a gyflwynir mewn darlithoedd drwy ddull datrys problemau sy’n cael ei lywio gan ymholi
- Gwaith adfer i oresgyn unrhyw ddiffygion yng ngwybodaeth gefndir myfyriwr.
Seminarau
Mewn seminarau mae myfyriwr neu fyfyrwyr yn cyflwyno gwaith sydd wedi’i baratoi ymlaen llaw i gyfoedion a darlithydd. Defnyddir y strategaeth hon i ymestyn cysyniadau damcaniaethol neu ymarferol penodol yn ogystal â chyflwyno ymarferion datrys problemau. Defnyddir seminarau yn y rhan fwyaf o fodiwlau ac maent yn rhoi profiad gwerthfawr i fyfyrwyr o sgiliau cyflwyno yn ogystal â rhoi dull i staff asesu dysgu sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr.
Gweithdai Ymarferol
Defnyddir gweithdai ymarferol yn helaeth mewn nifer o fodiwlau drwy gydol y rhaglen. Yn y dosbarthiadau hyn gall myfyrwyr ymarfer a mireinio eu sgiliau mewn amgylchedd cefnogol ble gallant gael adborth gan aelod o staff academaidd. Mae gweithdai ymarferol yn dull gwerthfawr o bontio rhwng theori ac ymarfer.
Astudiaethau Achos
Strategaeth addysgu a dysgu yw astudiaethau achos, a ddefnyddir mewn amrywiaeth o fodiwlau; maent yn offeryn asesu defnyddiol hefyd. Cyflwynir problemau cymhleth go iawn neu ffug i fyfyrwyr neu gofynnir iddynt ddatblygu rhai eu hunain ac yna mae gofyn iddynt eu dadansoddi'n fanwl ac yna cyfosod/cyflwyno eu datrysiad eu hunain yn ysgrifenedig neu ar lafar.
Arbenigwyr Busnes
Elfen allweddol o'r profiad dysgu yw'r bwriad i wahodd arbenigwyr busnes, academaidd ac mewn ymarfer, i roi cipolwg ar eu gwaith ymchwil neu weithgarwch busnes. Bydd rhwydwaith o arbenigwyr o'r fath yn helpu i ddarparu gwybodaeth arbenigol yn ogystal ag atgyfnerthu a hyrwyddo cymwysterau'r rhaglen. Gellid gwahodd arbenigwyr o'r fath fel siaradwyr gwadd neu ofyn iddynt ddarparu profiad gweithdy mwy rhyngweithiol lle bo'n briodol.
Bydd pob myfyriwr yn elwa ar y tîm o diwtoriaid personol ymroddedig sy'n darparu pwynt cyswllt personol a rheolaidd. Mae'r Tiwtoriaid Personol yn gweithio'n agos gyda Chyfarwyddwyr y Rhaglen a Thiwtoriaid Blwyddyn i sicrhau bod anghenion myfyrwyr yn cael eu diwallu'n effeithiol a bod eu hamser ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yn brofiad dymunol a llwyddiannus.
Yn ogystal â'r Tiwtoriaid Personol, darperir y cymorth a'r arweiniad academaidd penodol ar gyfer y cyrsiau unigol gan Gyfarwyddwr y Rhaglen a'r Tiwtor Blwyddyn perthnasol. Mae hyn yn arbennig o bwysig o ran y dewis o opsiynau sydd ar gael ym mlwyddyn dau a thri a dewis llwybrau.
Asesu
Cewch eich asesu'n barhaus drwy gydol y cwrs ar sail gwaith cwrs, cyflwyniadau ac arholiadau. Bydd asesiadau ar ffurf arholiadau (a welir/nas gwelir, llyfr agored, traethodau/atebion byr), traethodau, asesiad ymarferol, gwaith gweledol, cyflwyniadau, adroddiadau unigol a grŵp, y mae'r rhan fwyaf ohonynt yn canolbwyntio ar astudiaethau achosion bywyd go iawn.
Rhoddir adborth drwy gydol y cwrs, yn ffurfiannol a thrwy asesiad ffurfiol. Bydd eich perthynas gyda’ch tiwtor personol hefyd yn eich helpu i weithio gydag adborth, gan nodi cryfderau a gwendidau yn eich gwaith a'ch dull astudio.
Gall myfyrwyr gael gafael ar ystod eang o gymorth ar gyfer ysgrifennu ac ymchwil academaidd drwy nifer o adnoddau amrywiol yn y brifysgol fel y llyfrgell a'r tîm addysgu academaidd.
Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd
Mae hysbysebu'n parhau i fod â phroffil uchel o fewn y sector cyfathrebu marchnata. Bydd y cwrs hwn yn paratoi myfyrwyr ar gyfer amrywiaeth o swyddi gan gynnwys rolau asiantaeth megis swyddog gweithredol cyfrifon, cynllunydd a phrynwr digidol a'r wasg, a swyddog creadigol cysyniadol, neu swyddi mewnol fel cynorthwyydd y wasg, dadansoddwr cyfryngau cymdeithasol a gweithredwr arddangosiadau digidol.
Yn ystod y cwrs hwn byddwch yn datblygu'r sgiliau a'r ddealltwriaeth allweddol sydd eu hangen ar gyfer busnes gydag arbenigedd mewn rheoli marchnata sydd yn ganolog i bob swyddogaeth fusnes. Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus bydd y sgiliau gennych i gael swydd mewn rheoli marchnata, gan roi eich sgiliau ar waith mewn swyddi hysbysebu, ymchwil marchnata, rheoli gwerthiant, rheoli cynnyrch, gwasanaeth cwsmeriaid, cysylltiadau cyhoeddus a rheoli busnes.
Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio ar y cyd â Sefydliad yr Ymarferwyr Hysbysebu (IPA), er mwyn rhoi cyfle i chi gael eich eithrio o'i gymwysterau proffesiynol. Byddwch hefyd yn gallu ymuno â'n grŵp myfyrwyr CIM sy'n annog pob myfyriwr i gymryd rhan yn ein cymuned dysgu marchnata drwy drefnu siaradwyr gwadd a rheoli digwyddiadau sy'n canolbwyntio ar farchnata. Bydd cynnwys siaradwyr deinamig a digwyddiadau rhwydweithio defnyddiol yn gwella’ch profiad dysgu. Yn olaf, byddwch yn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau entrepreneuraidd fel cymryd rhan yng nghystadleuaeth
CIM Pitch.
Mae'r opsiwn o gynnwys blwyddyn o brofiad mewn diwydiant ym mlwyddyn tri wedi'i gynnwys i'ch galluogi i gwblhau'r radd gyda lefel o brofiad ymarferol. Gellir cynnwys yr opsiwn hwn o brofiad ymarferol yn y cwrs gradd tair blynedd drwy wneud gwaith ymarferol mewn diwydiant yn ystod y tymor neu adeg cyfnodau o wyliau yn ystod y cwrs.
Nod y cwrs yw bod astudio a phrofiad ymarferol yn rhoi'r gobaith gorau o gael swydd ar ddiwedd y cwrs gradd. O'r herwydd, cewch gyfle i raddio gyda sylfaen eang o wybodaeth farchnata a'r potensial i fod yn arbenigwr ar ddefnydd strategol o gysylltiadau cyhoeddus, marchnata, marchnata digidol, cyfathrebu marchnata integredig, brandio a marchnata byd-eang. Yn ychwanegol, byddwch wedi cael profiad 'byd go iawn', cyfle i gymryd rhan yn ein cymuned ddysgu CIM. Dylai myfyrwyr Marchnata Met Caerdydd sefyll allan oherwydd eu gallu i gymhwyso gwybodaeth ddamcaniaethol mewn amgylchedd ymarferol.
Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais
Cynigion Nodweddiadol
Mae’r gofynion canlynol yn seiliedig ar gynigion nodweddiadol sy’n berthnasol i ddechrau ar flwyddyn 1 y radd.
Os nad ydych yn bodloni’r gofyniad mynediad uchod, rydym hefyd yn cynnig
Flwyddyn Sylfaen sy’n caniatáu gwneud cynnydd i Flwyddyn 1.
-
Pwyntiau tariff: 112
-
Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen
cynigion cyd-destunol.
-
TGAU: Pum TGAU ar Radd C / 4 neu uwch, gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg / Mathemateg – Rhifedd.
-
Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS Academaidd 6.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob elfen, neu gyfwerth.
-
Pynciau Safon Uwch: O leiaf tair Safon Uwch i gynnwys Graddau CCC. Does dim angen pynciau penodol. Bagloriaeth Cymru – Ystyrir Tystysgrif Her Sgiliau Uwch fel trydydd pwnc.
-
Diploma Cenedlaethol BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: DMM
-
Lefel T: Teilyngdod.
-
Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Does dim angen pynciau penodol.
-
Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (IB): 2 x H5. Does dim angen pynciau penodol.
-
Tystysgrif Gadael Iwerddon: 2 x gradd H2. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir pynciau lefel uwch yn unig gydag isafswm gradd H4.
-
Advanced Highers yr Alban: Graddau DD. Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir Highers yr Alban hefyd, naill ai ar eu pennau eu hunain neu ar y cyd ag Advanced Highers.
Derbynnir cyfuniadau o’r cymwysterau uchod os ydyn nhw’n cwrdd â’n gofynion lleiaf. Os nad yw eich cymwysterau wedi’u rhestru, cysylltwch â
Derbyniadau neu cyfeiriwch at
Chwiliad Cwrs UCAS.
Mae rhagor o wybodaeth ar gymwysterau Tramor i’w gweld
yma.
Os ydych yn ymgeisydd hŷn, mae gennych brofiad perthnasol neu
RPL yr hoffech i ni ei ystyried, cysylltwch â Derbyniadau.
Sut i Ymgeisio
Mae rhagor o wybodaeth ar sut i ymgeisio i’w gweld
yma.
Cysylltu â Ni