Cynnwys y Cwrs
Blwyddyn Sylfaen (Blwyddyn 0):
Mae’r rhaglen hon yn cynnwys blwyddyn sylfaen ar gyfer myfyrwyr sydd eisiau ymrestru ar y radd anrhydedd tair blynedd ac sy’n perthyn i un o’r categorïau canlynol:
1. Myfyrwyr nad ydynt wedi cael y nifer gofynnol o bwyntiau Safon Uwch (neu gyfwerth) i ddechrau ar flwyddyn gyntaf y rhaglen radd.
2. Myfyrwyr hŷn sydd wedi bod allan o'r system addysg ffurfiol ers peth amser.
Mae rhagor o wybodaeth am y flwyddyn sylfaen ar gael
yma.
Gradd:
Blwyddyn Un:
- Cyfrifeg Ariannol a Digidol (20 credyd)
- Gwasanaethau Ariannol Byd-eang (20 credyd)
- Cyfrifeg Rheoli (20 credyd)
- Dulliau Meintiol (20 credyd)
- Yr Economi – Microeconomeg (20 credyd)
- Yr Economi – Macroeconomeg (20 credyd)
Blwyddyn Dau:
Gorfodol:
- Rheolaeth Ariannol (20 credyd)
- Marchnadoedd ac Egwyddorion Buddsoddi (20 credyd)
- Arian, Bancio a Risg (20 credyd)
- Rheoli Perfformiad (20 credyd)
- Profiad Gwaith NEU Brosiect Gwirfoddoli (20 credyd)
Opsiynau*:
- Archwilio a Sicrwydd (20 credyd)
- Rheoli Banc (20 credyd)
- Cyfraith Gorfforaethol a Busnes (20 credyd)
- Cyfrifeg Ariannol mewn Cyllid Islamaidd (20 credyd)
- Adroddiadau Ariannol (20 credyd)
- Cyllid Cyhoeddus (20 credyd)
- Trethiant (20 credyd)
Blwyddyn Tri:
Gorfodol:
- Rheolaeth Ariannol Uwch (20 credyd)
- Rheoli Perfformiad Uwch (20 credyd)
- Rheoli Buddsoddi (20 credyd)
Opsiynau*:
- Adroddiadau Ariannol Uwch (20 credyd)
- Trethiant Uwch (20 credyd)
- Archwilio a Llywodraethu Corfforaethol (20 credyd)
- Cyllid Ymddygiadol (20 credyd)
- Marchnadoedd Cyfalaf a Deilliadau (20 credyd)
- Offer Economaidd i'r Llywodraeth
- Cyfraith Busnes Ewrop (20 credyd)
- Cyfrifo Fforensig (20 credyd)
- Rheoleiddio Bancio Rhyngwladol (20 credyd)
- Marchnadoedd Cyfalaf Islamaidd (20 credyd)
- Rheolaeth Strategol (20 credyd)
- Grand Pursuit (20 credyd)
- Traethawd hir (40 credyd)
- Profiad Gwaith Diwydiannol (20 credyd)
*Bydd modiwlau dewisol yn cael eu cyflwyno yn amodol ar alw ac argaeledd.
Dysgu ac Addysgu
Yn y rhan fwyaf o fodiwlau mae'r addysgu’n cynnwys un ddarlith ac un seminar yr wythnos. Mae seminarau'n ymarferol ac fel arfer yn cael eu cynnal fel gweithdai sy'n rhoi cyfle i'r myfyrwyr ymarfer y deunydd a drafodir yn y darlithoedd. Cefnogir pob modiwl yn llawn gan Amgylchedd Dysgu Rhithwir (VLE) fel rhan o ddull dysgu cyfunol a gall myfyrwyr hefyd wneud apwyntiad gyda thiwtoriaid modiwl a thiwtoriaid personol ar adeg sy’n gyfleus i bawb.
Asesu
Mae’r gwaith cwrs yn ymarferol iawn ei natur, gan adlewyrchu’r sgiliau a’r technegau sydd eu hangen ar gyfrifydd proffesiynol. Mae asesiadau ar gyfer modiwlau wedi'u hachredu'n broffesiynol yn cynnwys arholiadau llyfr caeedig er mwyn bodloni gofynion eithrio.
Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd
Mae cryn alw gan gyflogwyr y DU am raddedigion cyfrifeg ac mae profiad blaenorol yn awgrymu y bydd cyfran sylweddol o raddedigion yn cael lleoedd hyfforddi graddedigion gyda'r 'pedwar enw mawr' (Deloitte, PwC, EY, KPMG), adrannau cyllid busnesau, practisau'r stryd fawr a'r sector cyhoeddus.
Bydd myfyrwyr yn ymwneud ag arbenigwyr cyflogadwyedd y brifysgol ochr yn ochr â'u cwricwlwm craidd gydol eu cwrs astudio ac yn cael gwahoddiad i fynychu gweithdai rheolaidd gyda'r cyrff cyfrifeg proffesiynol a gyflwynir yn benodol i fyfyrwyr Prifysgol Metropolitan Caerdydd.
Mae llawer o fodiwlau ar y cwrs wedi'u hachredu gan y prif gyrff cyfrifeg a byddwch yn gallu cael eithriadau o arholiadau ACCA, ICAEW a CIMA. Mae'n gwrs heriol felly, sy'n cyfuno'r ochr academaidd â datblygu'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i basio arholiadau terfynol y cyrff cyfrifeg.
Mae mynd ymlaen i astudio cwrs ôl-raddedig yn Ysgol Reoli Caerdydd yn opsiwn hefyd.
Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais
Dylai fod gan ymgeiswyr bum gradd TGAU gan gynnwys Iaith Saesneg, Mathemateg neu Fathemateg - Rhifedd gradd C/4 neu'n uwch ynghyd â 112 pwyntiau o 2 Safon Uwch o leiaf (neu gyfwerth).
Gall cynigion nodweddiadol gynnwys:
- 112 pwynt o ddwy Safon Uwch o leiaf i gynnwys graddau CC; Bagloriaeth Cymru - Tystysgrif Her Sgiliau Uwch yn cael ei hystyried fel y trydydd pwnc
- Diploma Estynedig Cenedlaethol RQF BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt DMM
- 112 pwynt o ‘Advanced Highers’ yr Alban i gynnwys graddau DD
- 112 pwynt o'r ‘Irish Leaving Certifiicate’ Lefel Uwch i gynnwys 2 radd H2. Dim ond gydag isafswm gradd H4 y caiff pynciau Lefel Uwch eu hystyried
- 112 pwynt o'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch
Os na fyddwch yn cwrdd â'r gofynion mynediad uchod, mae'r Rhaglen Sylfaen ar gael. Bydd yn caniatáu i chi symud ymlaen i'r radd hon ar ôl ei chwblhau.
Os ydych chi'n astudio cyfuniadau o'r uchod neu os nad yw'ch cymhwyster wedi'i restru, cysylltwch â Derbyniadau neu ewch i dudalen Chwilio am Gwrs UCAS i gael y gofynion mynediad. Amwybodaeth bellach am ein gofynion mynediad, gellir cynnwys cymwysterau o'r UE trwy glicio yma.
Mae ymgeiswyr nad oes ganddynt gymhwyster mynediad arferol yn cael eu cyfweld a'u hystyried yn unigol ar sail eu cefndir dysgu blaenorol neu waith.
Ymgeiswyr Rhyngwladol
Bydd angen i fyfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddarparu tystiolaeth o ruglder i safon IELTS 6.0 neu gyfwerth o leiaf. I gael manylion llawn am sut i wneud cais am gymwysterau Iaith Saesneg ewch i’r tudalennau Rhyngwladol ar y wefan.
Y Broses Ddethol:
Mae'r dewis fel arfer ar sail cais UCAS wedi'i gwblhau a chyfweliad lle bo hynny'n berthnasol.
Sut i Wneud Cais:
Dylid gwneud ceisiadau ar gyfer y cwrs hwn ar-lein i UCAS yn www.ucas.com. I gael rhagor o wybodaeth ewch i'n tudalennau Sut i Wneud Cais.
Cydnabod Dysgu Blaenorol (RPL) a Throsglwyddo Credydau i flwyddyn 2 a 3
Os oes gennych ddiddordeb mewn trosglwyddo credyd o sefydliad arall i astudio yn Met Caerdydd ar gyfer cwrs sy'n derbyn mynediad ar gyfer blwyddyn 2 a/neu 3, gallwch ddod o hyd i wybodaeth bellach am hyn a gwybodaeth ar sut i wneud cais ar y dudalen RPL. Cysylltwch â Derbyniadau gydag unrhyw ymholiadau sydd gennych am RPL.
Myfyrwyr hŷn
Mae unrhyw un dros 21 oed nad aeth i'r brifysgol ar ôl ysgol neu goleg yn ymgeisydd hŷn. Mae Met Caerdydd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn ac mae rhagor o gyngor a gwybodaeth ar gael yma.
Cysylltu â Ni