Cynnwys y Cwrs
Blwyddyn Sylfaen (Blwyddyn 0):
Mae’r rhaglen hon yn cynnwys blwyddyn sylfaen ar gyfer myfyrwyr sydd eisiau ymrestru ar y radd anrhydedd tair blynedd ac sy’n perthyn i un o’r categorïau canlynol:
1. Myfyrwyr nad ydynt wedi cael y nifer gofynnol o bwyntiau Safon Uwch (neu gyfwerth) i ddechrau ar flwyddyn gyntaf y rhaglen radd.
2. Myfyrwyr hŷn sydd wedi bod allan o'r system addysg ffurfiol ers peth amser.
Gellir gweld rhagor o wybodaeth am y flwyddyn sylfaen drwy glicio yma.
Gradd:
Blwyddyn Un:
- Cyfrifeg Ariannol a Digidol
- Cyfrifeg Rheoli
- Yr Economi - Microeconomeg
- Yr Economi - Macroeconomeg
- Dulliau Meintiol
- Gwasanaethau Ariannol Byd-eang
Blwyddyn Dau:
Gorfodol:
- Rheoli Perfformiad
- Rheolaeth Ariannol
- Microeconomeg Canolradd
- Macroeconomeg Canolradd
- Prosiect Profiad Gwaith NEU Wirfoddoli
Opsiynau*:
- Adroddiadau Ariannol
- Archwilio a Sicrwydd
- Trethiant
- Cyfrifeg Ariannol mewn Cyllid Islamaidd
- Cyllid Cyhoeddus
- Gemau a Gwybodaeth
- Hanes Meddwl Economaidd
- Dulliau Meintiol 2
Blwyddyn Tri:
Gorfodol:
- Rheoli Perfformiad Uwch
- Rheolaeth Ariannol Uwch
- Microeconomeg Gymhwysol
- Macroeconomeg: Theori a Chymhwyso
Opsiynau*:
- Adroddiadau Ariannol Uwch
- Archwilio a Llywodraethu Corfforaethol
- Trethi Uwch
-
Cyllid Ymddygiad
- Offer Economaidd i'r Llywodraeth
- Econometrig
- Economeg Ddiwydiannol
- Economi Wleidyddol Ryngwladol
- Cyfrifeg Fforensig
- Marchnadoedd Cyfalaf Islamaidd
- Traethawd hir
- Profiad Gwaith Diwydiannol
*Bydd modiwlau dewisol ar gael yn amodol ar alw ac argaeledd.
Dysgu ac Addysgu
Yn y rhan fwyaf o fodiwlau, mae'r dull addysgu yn cynnwys cyfres o ddarlithoedd byr bob wythnos, ynghyd â dwy awr o seminarau yr wythnos. Mae seminarau'n rhai ymarferol ac fel arfer yn cael eu cynnal fel gweithdai sy'n rhoi cyfle i'r myfyrwyr ymarfer y deunydd a drafodir yn y darlithoedd. Cefnogir pob modiwl yn llawn gan Amgylchedd Dysgu Rhithwir (VLE) fel rhan o ddull dysgu cyfunol a gall myfyrwyr hefyd wneud apwyntiad gyda thiwtoriaid modiwl a thiwtoriaid personol ar adeg sy’n gyfleus i bawb.
Anogir myfyrwyr i gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol gan gynnwys cyrsiau byr mewn rhaglenni cyfrifiadurol gwahanol ac entrepreneuriaeth.
Mae'r tîm addysgu yn cynnwys gweithwyr proffesiynol brwdfrydig sydd â phrofiad o'r diwydiant fel cyfrifwyr cymwysedig a gweithgarwch ymchwil perthnasol.
Asesu
Mae’r gwaith cwrs yn ymarferol iawn ei natur, gan adlewyrchu’r sgiliau a’r technegau sydd eu hangen ar gyfrifydd proffesiynol. Mae asesiadau ar gyfer modiwlau sydd wedi'u hachredu'n broffesiynol yn cynnwys arholiadau llyfr caeedig er mwyn bodloni gofynion eithrio.
Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd
Mae cryn alw gan gyflogwyr y DU am raddedigion cyfrifeg ac mae profiad blaenorol yn awgrymu y bydd cyfran sylweddol o raddedigion yn cael lleoedd hyfforddi graddedigion mewn adrannau cyllid busnesau, practisau'r stryd fawr a'r sector cyhoeddus.
Mae'r cwrs wedi'i achredu gan brif gyrff cyfrifeg y DU a byddwch yn gallu cael eithriadau o arholiadau ACCA, ICAEW a CIMA. Mae'n gwrs heriol felly, sy'n cyfuno'r ochr academaidd â datblygu'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i basio arholiadau terfynol y cyrff cyfrifeg.
Mae galw mawr am economegwyr yn y sector preifat a'r sector cyhoeddus. Gallant fod yn rheolwyr, ymchwilwyr, dadansoddwyr a strategwyr medrus. Mae ymchwil yn dangos bod myfyrwyr Economeg yn ennill cyflog cyfartalog uwch na'r rhan fwyaf o raddedigion eraill, gan gynnwys rhai sy'n astudio gradd busnes gyffredinol. Mae ffigurau a gyhoeddwyd gan
Complete University Guide in 2016 , yn 2016 yn dangos mai £28,000 yw cyflog cychwynnol cyfartalog graddedigion Economeg.
Lleoliadau Gwaith:
Mae darparu lleoliadau gwaith fel rhan asesedig o'ch rhaglen ddysgu academaidd mor bwysig fel ein bod yn cynnig cyfle i chi gwblhau lleoliad fel rhan o'ch astudiaethau ail flwyddyn. Mae gennym gysylltiadau cryf â byd busnes ac mae'r rhaglen lleoliadau gwaith wedi'i chynllunio i wella eich rhagolygon gwaith yn y dyfodol.
Mae mynd ymlaen i astudio cwrs ôl-raddedig yn Ysgol Reoli Caerdydd yn opsiwn hefyd.
Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais
Dylai fod gan ymgeiswyr bum gradd TGAU gan gynnwys Iaith Saesneg, Mathemateg neu Fathemateg - Rhifedd gradd C/4 neu'n uwch ynghyd â 112 pwyntiau o 2 Safon Uwch o leiaf (neu gyfwerth).
Gall cynigion nodweddiadol gynnwys:
- 112 pwynt o ddwy Safon Uwch o leiaf i gynnwys graddau CC; Bagloriaeth Cymru - Tystysgrif Her Sgiliau Uwch yn cael ei hystyried fel y trydydd pwnc
- Diploma Estynedig Cenedlaethol RQF BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt DMM
- 112 pwynt o ‘Advanced Highers’ yr Alban i gynnwys graddau DD
- 112 pwynt o'r ‘Irish Leaving Certifiicate’ Lefel Uwch i gynnwys 2 radd H2. Dim ond gydag isafswm gradd H4 y caiff pynciau Lefel Uwch eu hystyried
- 112 pwynt o'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch
Os na fyddwch yn cwrdd â'r gofynion mynediad uchod, mae'r Rhaglen Sylfaen ar gael. Bydd yn caniatáu i chi symud ymlaen i'r radd hon ar ôl ei chwblhau.
Os ydych chi'n astudio cyfuniadau o'r uchod neu os nad yw'ch cymhwyster wedi'i restru, cysylltwch â Derbyniadau neu ewch i dudalen Chwilio am Gwrs UCAS i gael y gofynion mynediad. Amwybodaeth bellach am ein gofynion mynediad, gellir cynnwys cymwysterau o'r UE trwy glicio yma.
Mae ymgeiswyr nad oes ganddynt gymhwyster mynediad arferol yn cael eu cyfweld a'u hystyried yn unigol ar sail eu cefndir dysgu blaenorol neu waith.
Ymgeiswyr Rhyngwladol
Bydd angen i fyfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddarparu tystiolaeth o ruglder i safon IELTS 6.0 neu gyfwerth o leiaf. I gael manylion llawn am sut i wneud cais am gymwysterau Iaith Saesneg ewch i’r tudalennau Rhyngwladol ar y wefan.
Gweithdrefn Ddethol:
Mae'r dewis fel arfer ar sail cais UCAS wedi'i gwblhau a chyfweliad lle bo hynny'n berthnasol.
Sut i Wneud Cais:
Dylid gwneud ceisiadau ar gyfer y cwrs hwn ar-lein i UCAS yn www.ucas.com. I gael rhagor o wybodaeth ewch i'n tudalennau Sut i Wneud Cais.
Cydnabod Dysgu Blaenorol (RPL) a Throsglwyddo Credydau i flwyddyn 2 a 3
Os oes gennych ddiddordeb mewn trosglwyddo credyd o sefydliad arall i astudio yn Met Caerdydd ar gyfer cwrs sy'n derbyn mynediad ar gyfer blwyddyn 2 a/neu 3, gallwch ddod o hyd i wybodaeth bellach am hyn a gwybodaeth ar sut i wneud cais ar y dudalen RPL. Cysylltwch â Derbyniadau gydag unrhyw ymholiadau sydd gennych am RPL.
Myfyrwyr hŷn
Mae unrhyw un dros 21 oed nad aeth i'r brifysgol ar ôl ysgol neu goleg yn ymgeisydd hŷn. Mae Met Caerdydd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn ac mae rhagor o gyngor a gwybodaeth ar gael yma.
Cysylltu  Ni