Cynnwys y Cwrs
Blwyddyn Sylfaen (Blwyddyn 0):
Mae’r rhaglen hon yn cynnwys blwyddyn sylfaen ar gyfer myfyrwyr sydd eisiau ymrestru ar y radd anrhydedd tair blynedd ac sy’n perthyn i un o’r categorïau canlynol:
1. Myfyrwyr nad ydynt wedi cael y nifer gofynnol o bwyntiau Safon Uwch (neu gyfwerth) i ddechrau ar flwyddyn gyntaf y rhaglen radd.
2. Myfyrwyr hŷn sydd wedi bod allan o'r system addysg ffurfiol ers peth amser.
Gellir gweld rhagor o wybodaeth am y flwyddyn sylfaen drwy glicio yma.
Blwyddyn Un:
- Cyfrifeg Ariannol a Digidol
- Gwasanaethau Ariannol Byd-eang
- Cyfrifeg Rheoli
- Dulliau Meintiol
- Yr Economi – Microeconomeg
- Yr Economi - Macroeconomeg
Blwyddyn Dau:
- Archwilio a Sicrwydd
- Cyfraith Gorfforaethol a Busnes
- Rheolaeth Ariannol
- Adroddiadau Ariannol
- Rheoli Perfformiad
- Trethiant
Blwyddyn Tri:
- Rheolaeth Ariannol Uwch
- Adroddiadau Ariannol Uwch
- Rheoli Perfformiad Uwch
- Archwilio a Llywodraethu Corfforaethol
- Trethi Uwch neu Drethi Uwch (Singapôr)*
Opsiynau**:
- Offer Economaidd i'r Llywodraeth
- Cyfraith Busnes Ewrop
- Cyfrifeg Fforensig
- Rheoli Buddsoddi
*Opsiwn gorfodol. Bydd myfyrwyr sy'n astudio yng Nghaerdydd yn dilyn Fersiwn y DU. Fersiwn Singapôr i’w chyflwyno gan Bartneriaid Cydweithredol yn unig
**Bydd modiwlau dewisol yn cael eu cyflwyno yn amodol ar alw ac argaeledd
Dysgu ac Addysgu
Yn y rhan fwyaf o fodiwlau, mae'r dull addysgu yn cynnwys cyfres o ddarlithoedd byr bob wythnos, ynghyd â dwy awr o seminarau yr wythnos. Mae seminarau'n rhai ymarferol ac fel arfer yn cael eu cynnal fel gweithdai sy'n rhoi cyfle i'r myfyrwyr ymarfer y deunydd a drafodir yn y darlithoedd. Cefnogir pob modiwl yn llawn gan Amgylchedd Dysgu Rhithwir (VLE) y brifysgol fel rhan o ddull dysgu cyfunol a gall myfyrwyr hefyd wneud apwyntiad gyda thiwtoriaid modiwlau a thiwtoriaid personol ar adeg sy’n gyfleus i bawb.
Anogir myfyrwyr i gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol gan gynnwys cyrsiau byr mewn rhaglenni cyfrifiadurol gwahanol ac entrepreneuriaeth.
Mae'r tîm addysgu yn cynnwys gweithwyr proffesiynol brwdfrydig sydd â phrofiad o'r diwydiant fel cyfrifwyr cymwysedig a gweithgarwch ymchwil perthnasol.
Asesu
Mae’r gwaith cwrs yn ymarferol iawn ei natur, gan adlewyrchu’r sgiliau a’r technegau sydd eu hangen ar gyfrifydd proffesiynol. Mae asesiadau ar gyfer modiwlau wedi'u hachredu'n broffesiynol yn cynnwys arholiadau llyfr caeedig er mwyn bodloni gofynion eithrio.
Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd
Mae cryn alw gan gyflogwyr y DU am raddedigion cyfrifeg ac mae profiad blaenorol yn awgrymu y bydd cyfran sylweddol o raddedigion yn cael lleoedd hyfforddi graddedigion gyda'r 'pedwar enw mawr' (Deloitte, PwC, EY, KPMG), adrannau cyllid busnesau, practisau'r stryd fawr a'r sector cyhoeddus.
Bydd myfyrwyr yn ymwneud ag arbenigwyr cyflogadwyedd y brifysgol ochr yn ochr â'u cwricwlwm craidd gydol eu cwrs astudio ac yn cael gwahoddiad i fynychu gweithdai rheolaidd gyda'r cyrff cyfrifeg proffesiynol a gyflwynir yn benodol i fyfyrwyr Prifysgol Metropolitan Caerdydd.
Mae'r cwrs wedi'i achredu'n llawn gan y prif gyrff cyfrifeg a byddwch yn gallu cael yr eithriadau mwyaf posibl o arholiadau ACCA, ICAEW a CIMA. Mae'n gwrs heriol felly, sy'n cyfuno'r ochr academaidd â datblygu'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i basio arholiadau terfynol y cyrff cyfrifeg.
Mae mynd ymlaen i astudio cwrs ôl-raddedig Ysgol Reoli Caerdydd yn opsiwn hefyd.
Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais
Dylai fod gan ymgeiswyr bum gradd TGAU gan gynnwys Iaith Saesneg, Mathemateg neu Fathemateg - Rhifedd gradd C/4 neu'n uwch ynghyd â 112 pwyntiau o 2 Safon Uwch o leiaf (neu gyfwerth).
Gall cynigion nodweddiadol gynnwys:
- 112 pwynt o ddwy Safon Uwch o leiaf i gynnwys graddau CC; Bagloriaeth Cymru - Tystysgrif Her Sgiliau Uwch yn cael ei hystyried fel y trydydd pwnc
- Diploma Estynedig Cenedlaethol RQF BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt DMM
- 112 pwynt o ‘Advanced Highers’ yr Alban i gynnwys graddau DD
- 112 pwynt o'r ‘Irish Leaving Certifiicate’ Lefel Uwch i gynnwys 2 radd H2. Dim ond gydag isafswm gradd H4 y caiff pynciau Lefel Uwch eu hystyried
- 112 pwynt o'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch
Os na fyddwch yn cwrdd â'r gofynion mynediad uchod, mae'r Rhaglen Sylfaen ar gael. Bydd yn caniatáu i chi symud ymlaen i'r radd hon ar ôl ei chwblhau.
Os ydych chi'n astudio cyfuniadau o'r uchod neu os nad yw'ch cymhwyster wedi'i restru, cysylltwch â Derbyniadau neu ewch i dudalen Chwilio am Gwrs UCAS i gael y gofynion mynediad. Amwybodaeth bellach am ein gofynion mynediad, gellir cynnwys cymwysterau o'r UE trwy glicio yma.
Mae ymgeiswyr nad oes ganddynt gymhwyster mynediad arferol yn cael eu cyfweld a'u hystyried yn unigol ar sail eu cefndir dysgu blaenorol neu waith.
Ymgeiswyr Rhyngwladol
Bydd angen i fyfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddarparu tystiolaeth o ruglder i safon IELTS 6.0 neu gyfwerth o leiaf. I gael manylion llawn am sut i wneud cais a chymwysterau Saesneg Iaith ewch i’r tudalennau Rhyngwladol ar y wefan.
Y Broses Ddethol:
Mae'r dewis fel arfer ar sail cais UCAS wedi'i gwblhau a chyfweliad lle bo hynny'n berthnasol.
Sut i Wneud Cais:
Dylid gwneud ceisiadau ar gyfer y cwrs hwn ar-lein i UCAS yn www.ucas.com. I gael rhagor o wybodaeth ewch i'n tudalennau Sut i Wneud Cais.
Cydnabod Dysgu Blaenorol (RPL) a Throsglwyddo Credydau i flwyddyn 2 a 3
Os oes gennych ddiddordeb mewn trosglwyddo credyd o sefydliad arall i astudio yn Met Caerdydd ar gyfer cwrs sy'n derbyn mynediad ar gyfer blwyddyn 2 a/neu 3, gallwch ddod o hyd i wybodaeth bellach am hyn a gwybodaeth ar sut i wneud cais ar y dudalen RPL. Cysylltwch â Derbyniadau gydag unrhyw ymholiadau sydd gennych am RPL.
Myfyrwyr hŷn
Mae unrhyw un dros 21 oed nad aeth i'r brifysgol ar ôl ysgol neu goleg yn ymgeisydd hŷn. Mae Met Caerdydd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn ac mae rhagor o gyngor a gwybodaeth ar gael yma.
Cysylltu â Ni