Mae Ysgol Reoli Caerdydd wedi'i threfnu'n Adrannau o amgylch ein prif feysydd pwnc. Rydyn ni’n ddigon mawr i allu cynnig yr ystod lawn o ddarpariaeth busnes ond rydyn ni hefyd yn agos at ein dysgwyr ac yn meithrin yr amgylchedd dysgu cyfeillgar a hygyrch y mae cymaint o'n myfyrwyr yn ei werthfawrogi.
Mae'r Ysgol Reoli yn perfformio'n gyson dda yn yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr blynyddol lle gofynnir i fyfyrwyr raddio eu profiad prifysgol. Maen nhw’n canmol ein hasesiad, adborth, adnoddau dysgu a’r profiad cyffredinol a gynigir i fyfyrwyr.