Nod y cwrs BA (Anrh) Busnes a Rheolaeth yw paratoi myfyrwyr sydd â'r sgiliau a'r wybodaeth i weithredu fel rheolwyr llwyddiannus, ym myd newidiol Busnes a Rheolaeth.
Mae'r adran yn ymdrechu i ddarparu profiad dysgu i fyfyrwyr sy'n cael ei ysgogi gan y newidiadau hyn ac sy'n eu hadlewyrchu. Rydym yn ceisio integreiddio theori ac ymarfer ac mae hyn yn cynnwys amrywiaeth o gyfleoedd gwaith ar leoliad.
Cyrsiau Busnes a Rheolaeth
Cyrsiau Israddedig
Cyrsiau Ôl-raddedig
Ieithoedd Tramor ac Astudiaethau Rhyngddiwylliannol
Staff
Ieithoedd Tramor ac Astudiaethau Rhyngddiwylliannol
Rydym yn byw mewn byd sydd wedi'i globaleiddio lle mae cael iaith arall yn rhoi mantais fawr i chi yn y farchnad swyddi. Yn Ysgol Reoli Caerdydd, rydyn ni am ddarparu cymaint o gyfleoedd â phosib i'n myfyrwyr felly mae gennym ni dîm iaith ymroddedig sy'n gweithio gyda llawer o fyfyrwyr o lawer o wahanol raglenni. Os ydych chi'n astudio Rheoli Busnes Rhyngwladol, cewch gyfle i ddatblygu eich sgiliau iaith Mandarin Tsieineaidd, Ffrangeg a / neu Sbaeneg fel rhan o'ch rhaglen radd. Os ydych chi'n dilyn rhaglen radd arall yn Ysgol Reoli Caerdydd nad oes iddi elfen iaith dramor, fe allech chi hefyd astudio Ffrangeg, Sbaeneg neu Tsieinëeg Mandarin os oes lleoedd ar gael yn y dosbarthiadau. Yn ogystal â'r elfen iaith, rydyn ni'n dysgu myfyrwyr am amrywiaeth rhyngddiwylliannol a sut i reoli hyn mewn cyd-destun busnes. Mae modiwlau arbenigol yn paratoi myfyrwyr i fynd i mewn i'r byd fusnes rhyngwladol ynghyd â'r cyfleoedd anhygoel sydd eisoes yn cael eu cynnig yn yr ysgol trwy'r amrywiaeth gyfoethog o fyfyrwyr o bob cwr o'r byd sy'n astudio yma. Os hoffech wybod mwy am ieithoedd yn Ysgol Reoli Caerdydd, anfonwch e-bost at:
etevar@cardiffmet.ac.uk