Skip to main content
Hafan>Ysgol Reoli Caerdydd>Lleoliadau Gwaith

Lleoliadau Gwaith

​​Gwybodaeth i Gyflogwyr

Rydym yn rhedeg un o'r cynlluniau lleoliadau gwaith prifysgol mwyaf a hirsefydledig yng Nghymru ac rydym yn ymroddedig i wella cyflogadwyedd ein myfyrwyr trwy leoliadau gwaith. 

I wneud hyn mae angen cefnogaeth weithredol a pharhaus cyflogwyr i weithio mewn partneriaeth â'r Brifysgol a chynnig lleoliadau profiad gwaith i'n myfyrwyr. 

Credwn y gall ein myfyrwyr ychwanegu gwerth at eich sefydliad gan eu bod yn llawn cymhelliant, bod ganddynt wybodaeth arbenigol sy'n addas ar gyfer eich gofynion busnes, a gallant ddod â syniadau ffres a safbwynt allanol.


Cynnig lleoliad gwaith

Mae gennym Dîm Lleoliadau pwrpasol yn Ysgol Reoli Caerdydd i'ch helpu i ddod o hyd i'r dalent gywir i weddu i'ch anghenion busnes, p'un a yw'ch sefydliad yn fusnes bach, yn gorfforaeth fawr neu'n sefydliad gwirfoddol.

A ydych chi'n gallu cynnig lleoliad gwaith (di-dâl fel arfer) er mwyn i fyfyriwr gael profiad yn y byd gwaith? Cysylltwch a ni yma​.

Hyd y Lleoliad 

Gall amseriad ein lleoliadau amrywio ond bydd mwyafrif ein myfyrwyr yn cwblhau 15 diwrnod yn ystod y tymor a does dim darlithoedd ar ddydd Gwener er mwyn iddyn nhw allu gwneud hyn. Os nad yw hyn yn addas ar gyfer y lleoliad sydd gennych mewn golwg, cysylltwch â ni oherwydd gallwn fod yn hyblyg.

Gall myfyrwyr hefyd gwblhau lleoliadau hirach 10 wythnos yn ystod gwyliau'r haf ac rydym yn annog ein myfyrwyr i chwilio am interniaeth 12 mis rhwng eu hail a’u trydedd flwyddyn astudio.

Cost i'r Cyflogwr

Mae lleoliad 15 diwrnod yn ddi-dâl ac mae'r myfyrwyr ar gael i gwblhau prosiectau byr sydd o ddefnydd i chi'r cyflogwr, neu i wneud gwaith arferol ym maes arbenigedd y cwmni.

Goruchwylio a Chefnogaeth

Gofynnwn i gyflogwyr fonitro a chefnogi myfyrwyr yn ystod y lleoliad.  Gofynnwn ichi enwi rheolwr llinell i gadw llygad ar gynnydd y myfyriwr a hefyd i gynnig arweiniad a chefnogaeth trwy gydol y lleoliad. Byddwch yn gweithio mewn partneriaeth ag un o gynghorwyr cymorth lleoliad a'u cyfrifoldeb nhw yw sicrhau eich bod chi a'n myfyriwr yn cael y gorau o'r lleoliad.

Byddwn yn gwneud ein gorau i weithio gyda chi i recriwtio'r myfyriwr iawn a fydd yn gwneud cyfraniad gwirioneddol i'ch sefydliad wrth ddatblygu ei sgiliau personol a phroffesiynol ei hun. Bydd ein myfyrwyr yn cynrychioli eich sefydliad pan fyddant gyda chi ac rydym yn sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r cyfrifoldeb hwn.

Cyrsiau Myfyrwyr

 
 

Hysbysebu'ch lleoliad ar Met Hub

Mae Met Hub yn wasanaeth hysbysebu AM DDIM lle gallwch hysbysebu swyddi rhan-amser neu dros y gwyliau, lleoliadau ac interniaethau i fyfyrwyr a graddedigion, gwaith prosiect i fyfyrwyr, cynlluniau hyfforddi graddedigion a nawdd a chyfleoedd i raddedigion, yn uniongyrchol i fyfyrwyr Metropolitan Caerdydd a'n graddedigion diweddar:

https://employers.methub.cardiffmet.ac.uk/​

Mae pob un o'n myfyrwyr cofrestredig yn cael mynediad awtomatig at MetHub Met Caerdydd a gallant bori trwy’r swyddi gwag trwy gydol y flwyddyn. Gall graddedigion gofrestru a phori drwy’r swyddi gwag am hyd at dair blynedd ar ôl graddio.

Bydd pob eitem a ychwanegwch at MetHub yn amodol ar gymeradwyaeth Prifysgol Metropolitan Caerdydd.

Mae rhagor o gymorth ar gael gan careers@cardiffmet.ac.uk


Tystebau

"Dim ond nodyn cyflym i ddweud pa mor falch oedden ni gydag Eliot a'i gyfraniad. Llanc disglair ag agwedd gadarn o ddatrys problemau, rwy'n credu y bydd yn mynd yn bell. Diolch yn fawr am eich holl help."
David Beese MD Dectek

"Roedd Laura yn hyderus, yn fyrlymus ac yn awyddus i ddysgu. Yn fuan, fe wnaeth feithrin perthynas dda gyda'r tîm rheoli a oedd yn caniatáu iddi gael y gorau o bob darn o waith a dilyn hynny gydag unrhyw gwestiynau a oedd ganddi. Roedd ei brwdfrydedd a'i hangerdd yn amlwg bob amser"
Allison Jenkins, Rheolwr Siop Marks and Spencer, Caerdydd

"Roedd yn bleser pur gweithio gyda Josh; mae'n ymroddedig, yn gweithio'n galed ac yn rhagorol gyda phobl. Mae'n dangos cryfder mawr ym maes hyrwyddo ac mae’n uchelgeisiol. Fyddwn i ddim yn petruso cyn cynnig rhagor o waith iddo yn fy holl ymdrechion busnes."
Richard Dyke, Rheolwr y Ddinas, Original Sin, Caerdydd

"Mae eich myfyrwyr wedi bod yn amhrisiadwy i ni yma yn Macmillan ac yn help mawr iawn gyda'n digwyddiadau. Byddwn yn falch o'u croesawu yn ôl yn y dyfodol." 
Debbie Jones, Rheolwr Codi Arian, Gofal Canser Macmillan

"Nodyn i ddweud bod Sam wedi gweithio'n dda gyda'r holl dasgau a roddwyd iddo i'w cyflawni, mae wedi bod yn berson prydlon a dymunol i weithio gydag ef." 
Rae-Ann Harris, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cyllid, Gwesty’r Marriott, Caerdydd

"Roedd yn hyfryd cael gweithio gyda Carly. Roedd hi’n ddibynadwy, prydlon, gweithgar a chyfeillgar iawn, roedd yn bleser ei chael hi am yr ychydig fisoedd y bu gyda ni. Buon ni’n gweithio gyda'n gilydd i ddatblygu llawlyfr i'n gwirfoddolwyr ac roedd ei chyfraniad i'm helpu gyda'r darn hwn o waith yn sylweddol. Fyddwn i ddim wedi cyflawni hanner cymaint heb ei chymorth hi."
Sian Layton, Cydlynydd Gwirfoddolwyr, Amgueddfa Genedlaethol Cymru

"Roedden ni’n hapus iawn i gael Hannah ac roedd hi'n gaffaeliad gwych i'r tîm gan wneud darn o waith a oedd wedi bod yn aros i’w wneud ers tro. Roedd hi hefyd yn ffitio'n dda, yn dangos hunan-gymhelliant da ac yn gallu gweithio'n dda heb fawr o oruchwyliaeth."

Tracy Williams, Pennaeth TG, Cymdeithas Tai Cymru Unedig

"Mae Sam wedi bod yn dod draw am y pythefnos diwethaf gyda Dylan. Unwaith eto, mae'n rhaid i mi ddweud, maen nhw'n glod i'r brifysgol - mae'r ddau'n gweithio'n galed ac mae ganddyn nhw agwedd gadarnhaol iawn at ein gweithle."

George Grigg, Cyfarwyddwr, Shareproperty Limited

"Diolch am eich holl help Elaine. Rydyn ni'n edrych ymlaen yn fawr at feithrin y berthynas ymhellach. Rydyn ni mewn cam hanfodol a bydd symud tuag at lansio'r platfform ………………………………. . Byddwn ni’n falch o gael llawer mwy o interniaid. Maen nhw wedi bod yn wych hyd yn hyn, yn frwdfrydig iawn ac yn bwrw ymlaen gyda'r tasgau gyda diddordeb brwd!"

Gareth Tucker, Cyfarwyddwr, ClubR


Cysylltu â Ni

Lleoliadau Gwaith CSM 
Prifysgol Metropolitan Caerdydd 
Campws Llandaf 
Rhodfa’r Gorllewin 
Caerdydd 
CF5 2YB

E-bost: ​csmworkplacements@cardiffmet.ac.uk
Ffôn: 02920 205671


​​​