Skip to main content
Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd>Cyrsiau>Gradd Meistr Llenyddiaeth Saesneg - MA/Diploma Oôl-radd (PgD)/Tystysgrif Ôl-radd (PgC)

Gradd Meistr Llenyddiaeth Saesneg - MA/Diploma Ôl-radd (PgD)/Tystysgrif Ôl-radd (PgC)

Mae'r MA Llenyddiaeth Saesneg yn radd addysgiadol gwerth chweil sy'n mynd â chi ar daith lenyddol gyffrous gan ddefnyddio testunau o'r ddeunawfed ganrif hyd heddiw. 

Gan dynnu ar arbenigedd ymchwil staff o'r cyfnod Rhamantaidd i lenyddiaeth gyfoes rydym yn archwilio ystod o ffurfiau llenyddol ac yn ymchwilio i bynciau fel cynrychioliadau hanesyddol a chyfoes o le, gwleidyddiaeth ffuglen, a chynrychiolaeth rhyw a rhywioldeb. Mae'r traethawd hir yn rhoi'r hyblygrwydd i chi ddilyn eich diddordebau ymchwil eich hun gyda chefnogaeth ac anogaeth goruchwyliwr. Mae ein cymuned academaidd ehangach yn ddeinamig felly byddwch hefyd yn cael cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau ychwanegol a all gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, sesiynau meic agored, siaradwyr gwadd, ymweliadau i archifau ac amgueddfeydd, darlleniadau barddoniaeth a mwy. 

Addysgir yr MA gan ymchwilwyr blaenllaw ac awduron cyhoeddedig. Nod y cwrs yw eich cefnogi wrth i chi ddatblygu a mireinio’ch sgiliau ysgrifennu beirniadol ac ymchwil, y gellir trosglwyddo pob un ohonynt i ystod o ddiwydiannau. Gallwch chi gymryd ein MA at ddibenion datblygiad proffesiynol, er mwyn gwella eich gyrfa ac i gynyddu eich cyflogadwyedd yn y sectorau creadigol, celfyddydau, addysg a threftadaeth. Bydd y radd hon hefyd yn eich helpu i arbenigo mewn maes astudio llenyddol neu fel cam ar y ffordd i astudio doethuriaeth. 

Un o gryfderau mawr y rhaglen yw ei hyblygrwydd. Gellir astudio MA Llenyddiaeth Saesneg naill ai'n llawn amser neu'n rhan amser ac mae dosbarthiadau wedi'u trefnu gyda'r nos. Gellir cymryd modiwlau yn unigol, sy'n eich galluogi i reoli cyflymder a dyfnder eich astudiaeth ôl-raddedig. Mae cyflwyno rhaglenni yn cael ei wella gan ymrwymiad y brifysgol i e-ddysgu.

Efallai y bydd gennych ddiddordeb hefyd yn ein rhaglenni MA Ysgrifennu Creadigol neu MA Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol.

Bydd y rhaglen hon yn ddarostyngedig ar adolygiad cyfnodol yn 2023/4 i sicrhau bod cynnwys y cwrs yn gyfredol ac yn parhau i fod. Os bydd unrhyw newidiadau i gynnwys y cwrs yn cael eu gwneud o ganlyniad i'r adolygiad, bydd pob ymgeisydd yn cael gwybod unwaith y bydd newidiadau'n cael eu cadarnhau.

Rydyn ni’n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â’r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu’r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i’r brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae’n cadw’r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o’r fath yn angenrheidiol. Darllenwch ein Telerau ac Amodau i gael y wybodaeth lawn.

​Cynnwys y Cwrs

Cyflwynir ein modiwlau dros flwyddyn amser llawn neu ddwy flynedd yn rhan amser.  Mae'r cynnwys hwn yn ddangosol ac fe all newid. 

"Sbwriel yr Ifanc": Ailfeddwl Ffuglen Genre

Mae ffuglen genre yn aml yn cael ei ystyried yn wamal ac yn llai pwysig na ffuglen lenyddol 'ddifrifol'. Yn y modiwl hwn rydym yn 'ailfeddwl' ffuglen genre, gan gloddio'n ddyfnach i werthuso estheteg, gwleidyddiaeth a gwerth diymwad ffuglen genre. Yn ein seminarau, rydym yn archwilio ystod o genres, gan gynnwys ffantasi, ffuglen wyddonol, ffuglen hapfasnachol, ffuglen trosedd, ffuglen hanesyddol, rhamant, a llenyddiaeth plant. Rydym yn archwilio'r ffordd y mae testunau amrywiol - The Haunting of Hill House gan Shirley Jackson, Kindred gan Octavia Butler, Devil in a Blue Dress gan Walter Mosely, neu Fingermith gan Sarah Waters, er enghraifft - yn dangos y gall ffuglen genre ddifyrru a herio. 

Gofod, yr Amgylchedd a Moderniaeth

Yn 'Gofod, yr Amgylchedd a Moderniaeth' byddwch yn archwilio sut mae llenyddiaeth yn adlewyrchu ac yn llunio'r ffordd yr ydym yn gweld yr amgylchedd - nid yn unig y dirwedd werdd ond y ddinaswedd lwyd. Byddwch yn gwneud hyn trwy ystyried cyfrifoldeb llenyddiaeth am gynhyrchu cysyniadau o gefn gwlad a'r ddinas, o feirdd Rhamantaidd dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, i nofelwyr cyfoes. Bydd yr archwiliad hwn yn cynnwys ystyried cydberthynas arferion esthetig, diwylliannol a chymdeithasol mewn cynrychioliadau o'r amgylchedd, a dadansoddiad o bwysau deallusol, diwylliannol, hanesyddol a chymdeithasegol sy'n siapio ymatebion llenyddol i'r amgylchedd. Byddwch yn astudio ysgrifennu gan y Rhamantwyr William a Dorothy Wordsworth, Percy Bysshe Shelley, John Clare, Samuel Taylor Coleridge, a Felicia Hemans. Byddwch hefyd yn darllen nofelau gan y Modernwyr Joseph Conrad, James Joyce, a Djuna Barnes, a'r ôl-fodernwyr Sam Selvon, Clarice Lispector, a Guy Gunaratne.

Hunaniaethau sy'n cystadlu: Rhyw a Rhywioldeb mewn Llenyddiaeth

Yn y modiwl hwn rydym yn archwilio paradeimau cyfnewidiol hunaniaeth rhyw a rhywiol o ddiwedd y 19eg ganrif hyd heddiw, gan gyfeirio at newidiadau cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol, trwy ystod o destunau. Trwy ddetholiad o awduron hynod ddiddorol - er enghraifft, Nella Larsen, Virginia Woolf, Carson McCullers, Toni Morrison, Jeanette Winterson, ac Alison Bechdel - byddwch yn datblygu dealltwriaeth soffistigedig o ddadleuon, damcaniaethau a syniadau sy'n berthnasol i bynciau rhyw a hunaniaethau rhywiol.

Dulliau Ymchwil Celfyddydau Llenyddol a Beirniadol 

Mae'r modiwl hwn yn ceisio datblygu ymchwilwyr gweithredol ac arloesol sy'n sensitif i'r dewisiadau moesegol a diwylliannol a wnânt fel ysgrifenwyr a beirniaid cyfoes. Trwy gydol y modiwl hwn, gofynnir ichi ystyried yr hyn y mae'n ei olygu i ddysgu a'r dulliau sy'n angenrheidiol i ymgymryd ag ymchwil gadarn a diduedd. Fe'ch cyflwynir i amrywiaeth o ddulliau ymchwil a fydd yn helpu i ddatblygu eich sgiliau ymchwil ymarferol yn ogystal â'ch arferion llenyddol a beirniadol. 

Traethawd Hir (modiwl craidd)
Mae'r modiwl Traethawd Hir yn rhoi cyfle i chi gynnal ymchwiliad parhaus, trylwyr ac annibynnol i bwnc arbenigol mewn astudiaethau llenyddol.

Dysgu ac Addysgu

Addysgir y radd MA Llenyddiaeth Saesneg hon gan ymchwilwyr blaenllaw ac ysgrifenwyr gweithredol.

Addysgir mwyafrif y modiwlau trwy weithdai grŵp, seminarau a darparu ar-lein. Bydd rhai modiwlau hefyd yn cynnwys sesiynau tiwtorial unigol a chyflwynir modiwl y traethawd yn gyfan gwbl trwy diwtorialau un i un gyda'ch goruchwyliwr.

Mewn gweithdai a seminarau gwneir defnydd llawn o dechnoleg y Brifysgol a bydd deunyddiau cwrs yn cael eu cyflwyno a'u storio trwy ein hamgylchedd dysgu rhithwir. Bydd yn bosibl i chi gyrchu'r Amgylchedd Dysgu Rhithiol o bell a chewch eich annog i wneud hynny.

Mae pob modiwl yn 30 credyd ar wahân i'r traethawd hir sy'n werth 60 credyd.

Mewn modiwl 30-credyd byddwch yn derbyn 33 awr o addysgu ar yr amserlen a bydd disgwyl i chi gynnal 267 awr o astudio annibynnol. Cynhelir y traethawd hir 60 credyd yn bennaf gydag astudiaeth annibynnol. Byddwch yn derbyn 6 awr o oruchwyliaeth diwtorial (mae hyn yn cynnwys goruchwylwyr sy'n edrych dros eich gwaith) a bydd disgwyl i chi gynnal 594 awr o astudio annibynnol.

Penodir pob myfyriwr yn diwtor personol a fydd ar gael ar gyfer cyngor academaidd, cefnogaeth fugeiliol a chynllunio datblygiad personol. Mae gan diwtoriaid oriau swyddfa wythnosol hefyd.

Cyflawnir amgylchedd beirniadol ond cefnogol trwy gyfuniad o weithdai, seminarau ymchwil ac e-ddysgu. Fe'ch cyflwynir i ymarferoldeb paratoi a chyflwyno'ch gwaith i'w gyhoeddi o bosibl.

Asesu

Mae gennym amrywiaeth o ddulliau asesu ar draws y rhaglen yn dibynnu ar y modiwl.

Asesir mwyafrif eich modiwlau trwy draethawd ond mae dulliau asesu eraill yn cynnwys postiadau blog a chyflwyniadau poster. 

Mae modiwlau hefyd yn defnyddio Amgylcheddau Dysgu Rhithwir ar gyfer asesiadau ac efallai y gofynnir i chi edrych ar ddeunydd ar-lein ac yna ymateb iddo (Dulliau Ymchwil y Celfyddydau Llenyddol a Beirniadol).

Byddwch yn derbyn cefnogaeth tiwtor yn y dosbarth a thrwy ein Amgylchedd Ddysgu Rhithiol er mwyn eich paratoi ar gyfer pob pwynt asesu. Mae gennym hefyd gyfleusterau llyfrgell ar-lein ac ar y campws. 


Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd​

Mae'r MA hefyd yn ddewis gwych i'r rhai hynny sy'n dymuno gwella eu cyfleoedd cyflogaeth a phroffesiynol yn y sectorau celfyddydau neu dreftadaeth. Mae'r rhaglen yn addas ar gyfer y rhai sy'n athrawon Llenyddiaeth Saesneg Safon Uwch neu TGAU ac yr hoffent wella eu harbenigedd at ddibenion datblygiad proffesiynol.

Mae'r cwrs hefyd yn eich paratoi ar gyfer astudiaeth bellach ar lefel PhD ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd a thu hwnt.

Bydd y radd hon yn eich annog i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy gwerthfawr ymreolaeth, cydweithredu effeithiol, hunan-gyfeiriad, trefniadaeth, menter a gallu i addasu sy'n uchel eu parch yn y gweithle. Gall gradd Meistr mewn Llenyddiaeth Saesneg arwain at amrywiaeth o yrfaoedd sy'n cynnwys meysydd addysgu, ymchwil, newyddiaduraeth, cysylltiadau cyhoeddus, y Gwasanaeth Sifil, cyhoeddi, y cyfryngau a chyflogaeth yn y sectorau cyhoeddus neu wirfoddol.

Ychydig o lwyddiannau myfyrwyr:

Mae Kate Delaney yn farchnatwr digidol profiadol sy’n canolbwyntio ar reoli cyfryngau cymdeithasol ar gyfer busnesau bach a'r diwydiant llyfrau.

Mae Dan Mitchell yn ddigrifwr stand-yp arobryn, awdur comedi, actor teledu a radio, cyflwynydd a gwesteiwr digwyddiadau. Mae hefyd yn Hwylusydd ar gyfer arddangosfa Roald Dahl yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.

Keren Williams yw Cynorthwyydd Digidol Plant yng nghwmni cyhoeddi Candy Jar Limited (2018)

Mae Durre Shahwar yn Olygydd Cyswllt Adolygiad Celfyddydau Cymru.  Mae hi'n awdur yng Nghaerdydd. Mae ganddi BA mewn Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ac MA mewn Ysgrifennu Creadigol, y ddau o Brifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae hi'n Brentis Word Factory 2017, wedi'i mentora gan Alexei Sayle. Yn 2015, cafodd ei chymeradwyo am Wobr Robin Reeves i Awduron Ifanc.

Mae Barbara A Stensland (MA Ysgrifennu Creadigol) yn ysgrifennu blog am fyw gydag MS a gyhoeddwyd yn ddiweddar fel llyfr, Stumbling in Flats (2015). Mae wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Llyfr  Rhyngwladol Rubery 2015.

Roedd gan Alex Sambrook (MA Ysgrifennu Creadigol) stori fer ar y rhestr fer yng Nghystadleuaeth fawreddog Stori Fer Bridport (2012).


Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais

Fel rheol, dylai fod gan ymgeiswyr radd anrhydedd 2.2, mewn pwnc perthnasol.​ Gwahoddir myfyrwyr sy'n cwrdd â'r meini prawf am gyfweliadau.

Gweithdrefn Ddethol:
Cyflwyno ffurflen gais ar-lein, gwiriwch y Dogfennau Ategol Gorfodol yma. Bydd ymgeiswyr addas yn cael eu cyfweld trwy Teams neu dros y ffôn.

Ymgeiswyr Rhyngwladol:
Bydd angen i fyfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddarparu tystiolaeth o ruglder i safon IELTS 6.5 neu gyfwerth o leiaf. I gael manylion llawn am sut i wneud cais a chymwysterau Iaith Saesneg ewch i'r tudalennau Rhyngwladol ar y wefan.

Sut i Wneud Cais:
Dylai ceisiadau ar gyfer y cwrs hwn yn cael ei wneud yn uniongyrchol i’r Brifysgol trwy ein cyfleuster hunanwasanaeth. I gael rhagor o wybodaeth ewch i'n tudalennau Sut i Wneud Cais yn www.metcaerdydd.ac.uk/sutiwneudcais.

Os oes gennych ddiddordeb mewn defnyddio credyd gan sefydliad arall, neu os ydych wedi ennill cymwysterau a/neu brofiad i astudio ar gyfer cwrs ym Met Caerdydd, gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am hyn ynghyd â gwybodaeth ar sut i wneud cais ar y dudalen RPL.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gostyngiad i Weithwyr Partner

Mae gostyngiad ffioedd o 25% ar gael i fyfyrwyr rhan-amser sy’n cael eu cyflogi yn un o ysgolion partneriaeth Prifysgol Metropolitan Caerdydd ar gyfer Addysg a Hyfforddiant Cychwynnol i Athrawon neu gymuned bartneriaeth. Mae meini prawf a thelerau cymhwysedd yn berthnasol. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Derbyniadau.

Cysylltu â Ni

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â'r Tîm Derbyn ar 029 2041 6044 neu e-bostiwch directapplications@cardiffmet.ac.uk
Ar gyfer ymholiadau cwrs-benodol, cysylltwch â Dr Elizabeth English

E-bost: eenglish@cardiffmet.ac.uk

Gwybodaeth Allweddol Am Y Cwrs

Lleoliad Astudio:
Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd
Campws Cyncoed

Hyd y Mewn:
Blwyddyn llawn amser; 2 flynedd yn rhan-amser