Research
Aelodaeth:
Cyd-Gadeirydd - Modernist Network Cymru
Bwrdd golygyddol Gold SF, argraffnod ffuglen wyddonol ffeministaidd trawstoriadol Goldsmiths Press
Bwrdd golygyddol – Journal of Historical Fictions
Cymrawd – Academi Addysg Uwch
British Association for Modernist Studies
Open Library of Humanities Early Career Researchers’ Forum
Diddordebau Ymchwil:
Moderniaeth lesbaidd
Ysgrifennu modernwyr, yn enwedig menywod
Sensoriaeth lenyddol
Genre ffuglen a’r canol-ael
Hanes addysg menywod a gwaith menywod
Ffuglen ddamcaniaethol, yn enwedig gwaith Katharine Burdekin
Moderniaeth, newyddiaduraeth a rhywedd
Rhywoleg
Theosoffi ac ysbrydolrwydd dechrau’r ugeinfed ganrif
Publications
Llyfrau
Lesbian Modernism: Censorship, Sexuality and Genre Fiction (Caeredin: Edinburgh University Press, 2015).
Penodau Llyfrau
‘Women Against the World: Margaret Goldsmith, Vita Sackville-West, and Queer Biography’, Interrogating Lesbian Modernism: Histories, Forms, Genres, gol. Elizabeth English, Jana Funke, a Sarah Parker, (Caeredin: Edinburgh University Press, forthcoming).
'"To find my real friends I have to travel a long way": Queer Time Travel yn Katharine Burdekin’s Speculative Fiction', yn The Female Fantastic: Gendering the Supernatural in the 1890s and 1920s, gol. Lizzie Harris McCormick et al. (Efrog Newydd: Routledge, 2018).
‘Tired of London, Tired of Life: The Queer Pastoral in Alan Hollinghurst’sThe Spell’, in Sex and Sensibility in the Novels of Alan Hollinghurst, gol. Mark Mathuray (Basingstoke: Palgrave, 2017).
‘Lesbian Modernism and Utopia: Models of Sexual Inversion in Katharine Burdekin’s Speculative Fiction’, yn Utopianism, Modernism, and Literature in the Twentieth Century, gol. Alice Reeve-Tucker a Nathan Waddell. (Basingstoke: Palgrave Macmillan, 2013).
Cyfnodolion a Thraethodau
"Much learning hath made thee mad": Academic Communities, Women’s Education and Crime in Golden Age Detective Fiction, Women: A Cultural Review, 31 (2020), tt. 23-51.
‘Student Journals in Literary Theory’, yn English in Education, 47.1 (2013). (Cyd-awdur gyda’r Athro Robert Eaglestone).
Papurau Cynadleddau
‘Women Against the World: Margaret Goldsmith, Vita Sackville-West, and Queer Historical Biography’, The European Society for the Study of English, Medi 2020 (gohiriwyd).
‘"Much learning hath made thee mad": Academic Communities, Women’s Education and Crime in Golden Age Detective Fiction’, Women's History Network Annual Conference, Medi 2019.
‘Early Career Academics and Class’, English Shared Futures, Gorffennaf 2017.
‘'‘she worships H.E.’: The Sacred and the Secular in the Utopian Writing of Katharine Burdekin’, British Association of Modernist Studies: 'Modernist Life', Mehefin 2017.
‘'‘she worships H.E.’: The Sacred and the Secular in the Utopian Writing of Katharine Burdekin’, London Modernism Seminar (prif araith trwy wahoddiad), Chwefror 2017.
‘To find my real friends I have to travel a long way’: The Queer Time Traveller in Katharine Burdekin’s Speculative Fiction’, 7th International Conference of the Utopian Studies Society Europe’, Universidade Nova de Lisboa, Gorffennaf 2016.
‘"Much learning hath made thee mad": Academic Communities, Women’s Education and Crime in Golden Age Detective Fiction’, Captivating Criminality: Crime Fiction, Traditions and Transgressions, Bath Spa University, Mehefin 2015.
‘Foul Minds and Foul Mouths: Censorship, Lesbian Sexuality and a Turn to Genre Fiction’, Forbidden Access: Censoring Books and Archives, Tachwedd 2014.
‘Tired of London, Tired of Life: The Queer Pastoral in Alan Hollinghurst’sThe Spell’, Literary London Conference 2014: Ages of London, Gorffennaf 2014.
‘‘she worships H.E.’ Sexology and Katharine Burdekin: Spiritualised Sexual Utopia’, Women Modernists and Spirituality: A Symposium, Mai 2014.
‘Student Journals in Literary Theory’, Royal Holloway Annual Teaching and Learning Symposium: Valuing Teaching and Sharing Approaches, Royal Holloway, Prifysgol Llundain, Ebrill 2013.
‘Student Journals in Literary Theory’, The Higher Education Academy Arts and Humanities Annual Conference 2012: Pedagogies of hope and Opportunity, Glasgow, Mai 2012.
‘Katharine Burdekin, “Murray Constantine”, and the Intermodernist Invert’, Inaugural London Intermodernism Seminar, Brunel University, Mai 2011. (Papur trwy wahoddiad).
‘“The book is a sort of touch-stone to other people”: Models of Inversion and Desire in Katharine Burdekin’s Utopian Fiction’, Modernism and Utopia: Convergences in the Arts, The University of Birmingham and The Paul Mellon Centre for Studies in British Art, Ebrill 2010.
‘‘Murder is a queer crime’: Lesbian Criminality and Violence in Golden Age Detective Fiction’, Gender, Agency and Violence: European Perspectives from Early Modern Times to the Present Day, Institute of Germanic and Romance Studies and the Centre for the Interdisciplinary Study of Sexuality and Gender in Europe at the University of Exeter, Mawrth 2010.
‘The Lesbian Utopian Vision of Katharine Burdekin’s Fiction’, ‘Far Worlds and Other Seas’: The 10th International Conference of the Utopian Studies Society, University of Porto, Portiwgal, Gorffennaf 2009.
‘Lizzie Borden and Criminal Heterosexuality in Gertrude Stein’s Detective Fiction’, Rethinking Genre: The Politics of Cultural Form, Royal Holloway, Prifysgol Llundain, Mehefin 2008.
Projects
Mae fy monograff cyntaf, Lesbian Modernism: Censorship, Sexuality and Genre Fiction (Edinburgh University Press, 2015) yn ymchwiliad rhyngddisgyblaethol i effeithiau sensoriaeth llywodraethau ar gynhyrchu llenyddiaeth, gan dynnu ar hanes diwylliannol a chymdeithasol, dyniaethau meddygol, ac astudiaethau cwiar a rhywedd. Mae fy monograff nesaf, Labouring Women: Professionals, Mothers, and Scholars in Twentieth Century Literature yn ymchwilio i agweddau cymdeithasol a llenyddol ar waith ac addysg menywod. Rwyf hefyd wedi cyhoeddi gwaith ar ffuglen teithio drwy amser a damcaniaethol, rhywoleg a ffuglen wtopaidd, addysg menywod a ffuglen droseddol Oes Aur. Ar hyn o bryd, rwy’n gweithio ar gasgliad wedi’i olygu o’r enw Interrogating Lesbian Modernism: Histories, Forms, Genres, sydd o dan gontract gydag Edinburgh University Press. Mae’r gyfrol hon wedi’i golygu yn cyflwyno tair pennod ar ddeg o benodau wedi’u comisiynu o’r newydd sy’n ailasesu ac ymchwilio i ystyron, defnyddiau a chyfyngiadau moderniaeth lesbaidd drwy archwilio amrywiaeth eang o awduron, genres a hanesion.
Profile
Ymunais â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd yn 2014, ar ôl gweithio fel Darlithydd Ymweld yn Royal Holloway a Goldsmiths, Prifysgol Llundain. Derbyniais radd BA mewn Llenyddiaeth Saesneg, MA mewn Moderniaeth ac Awduron Modern, a doethuriaeth mewn Llenyddiaeth Saesneg yn Royal Holloway, Prifysgol Llundain. Derbyniais gyllid gan AHRB ac AHRC i astudio fy ngraddau ôl-raddedig. Fe wnes i gwblhau fy ymchwil ddoethurol yn 2011 ac roedd yn canolbwyntio ar y berthynas rhwng ffurfiau diwylliannol poblogaidd a llenyddiaeth lesbaidd mewn perthynas â sensoriaeth lenyddol Brydeinig ar ddechrau’r ugeinfed ganrif. Mae fy monograff cyntaf, Lesbian Modernism: Censorship, Sexuality and Genre Fiction, yn adeiladu ar y gwaith ymchwil hwn ac yn ymchwiliad rhyngddisgyblaethol i effeithiau sensoriaeth llywodraethau ar gynhyrchu llenyddiaeth, gan dynnu ar hanes diwylliannol a chymdeithasol, dyniaethau meddygol, ac astudiaethau cwiar a rhywedd.
Mae’r awydd i ddathlu hanes ysgrifennu gan fenywod a’i berthnasedd i ni heddiw yn ganolog i’m gwaith ymchwil. Mae’n canolbwyntio’n bennaf ar ysgrifennu gan fenywod yr ugeinfed ganrif a’r defnydd o lenyddiaeth i lywio’r cyflyrau gwleidyddol a chymdeithasol cymhleth sy’n gysylltiedig â rhywedd. Mae’n tynnu ar amrywiaeth o ddisgyblaethau i wneud hyn, yn cynnwys dyniaethau meddygol, hanes cymdeithasol a diwylliannol, ac astudiaethau cwiar a rhywedd. Rwyf wedi cyhoeddi nifer o draethodau ac erthyglau ar ddiwylliant a llenyddiaeth yr ugeinfed ganrif a’r unfed ganrif ar hugain, yn cynnwys pynciau fel addysg menywod a ffuglen drosedd, teithio drwy amser cwiar, rhywoleg mewn ffuglen wtopaidd, a bywgraffiadau hanesyddol cwiar menywod. Ar hyn o bryd, rwy’n gweithio ar gasgliad wedi’i olygu o’r enw Interrogating Lesbian Modernism: Histories, Forms, Genres, sydd o dan gontract gydag Edinburgh University Press. Mae’r gyfrol hon yn cyflwyno tair pennod ar ddeg o benodau wedi’u comisiynu o’r newydd sy’n ailasesu ac ymchwilio i ystyron, defnyddiau a chyfyngiadau moderniaeth lesbaidd drwy archwilio amrywiaeth eang o awduron, genres a hanesion. Rwy’n Gyd-Gadeirydd Modernist Network Cymru (https://modernistnetworkcymru.org); rwy’n aelod o fyrddau y Journal of Historical Fictions ac argraffnod ffuglen wyddonol Goldsmiths Press, Gold SF; ac rwyf wedi bod yn adolygydd i Pennsylvania State University Press, University of Florida Press, Journal of the Midwest Modern Language Association, a Journal of Homosexuality. Rwyf wedi trefnu sawl cynhadledd ryngddisgyblaethol ryngwladol a digwyddiadau ymgysylltu â’r cyhoedd.
Rwy’n croesawu datganiadau o ddiddordeb am ymchwil PhD yn y meysydd uchod.
Am ragor o wybodaeth, dilynwch fi ar Twitter @E_C_English neu ar Academia.edu.
Cardiff