Skip to main content
Cardiff Partnership for ITE
       
 

Ymunwch â Phartneriaeth Caerdydd

Ymunwch â Phartneriaeth Caerdydd ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon er mwyn arfogi athrawon y dyfodol i wireddu eu gallu. Dewch yn Ysgol Bartneriaeth Arweiniol naill ai ar eich pen eich hun neu mewn cynghrair ag ysgolion eraill, neu Ysgol Ymarfer Clinigol.

DEWCH YN YSGOL BARTNERIAETH ARWEINIOL 
DEWCH YN YSGOL YMARFER CLINIGOL 

Beth yw Partneriaeth Caerdydd ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon?

Mae Partneriaeth Caerdydd ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA) yn gydweithrediad rhwng Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Ysgolion, dwy o Brifysgolion Grŵp Russell, dau Gonsortiwm Rhanbarthol a Chyngor Dinas Caerdydd.

Bydd Partneriaeth Caerdydd yn cynnig model ymarfer clinigol ar sail ymchwil ar gyfer AGA ag egwyddorion allweddol Cynllun Interniaeth Rhydychen, sy’n uchel iawn ei barch, yn greiddiol iddo. Ar yr un pryd byddwn yn datblygu partneriaethau ymchwil a datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) gyda Phrifysgol Rhydychen, Prifysgol Caerdydd a darparwyr eraill yng Nghymru, drwy Uscet (Cyngor Prifysgolion ac Ysgolion ar gyfer Addysg Athrawon yng Nghymru). Mae Partneriaeth Caerdydd yn ymrwymedig i gynllunio holl gynnwys, strwythur a strategaethau pedagogaidd AGA gydag Ysgolion/ Cynghreiriau Arweiniol y Bartneriaeth er mwyn datblygu athrawon ar gyfer y dyfodol yng Nghymru a fydd â’r sgiliau, y wybodaeth a’r uchelgais i arwain y newidiadau a amlinellwyd yn ‘Dyfodol llwyddiannus.

Ein Cyrsiau

Mae Partneriaeth Caerdydd wedi’i hachredu gan Gyngor Gweithlu Addysg Cymru i gyflawni’r rhaglenni Addysg Gychwynnol i Athrawon canlynol:

BA (Anrh) Addysg Gynradd gyda SAC (3-11)

TAR Cynradd (3-11)

TAR Uwchradd (11-18)
Sy’n cynnig Celf a Dylunio; Bioleg gyda Gwyddoniaeth; Cemeg gyda Gwyddoniaeth; Dylunio a Thechnoleg; Drama;Saesneg; Daearyddiaeth; Hanes; TGCh a Chyfrifiadura; Mathemateg; Ieithoedd Tramor Modern; Cerddoriaeth; Ffiseg gyda Gwyddoniaeth; Addysg Gorfforol; Addysg Grefyddol; Cymraeg.

Ein Gweledigaeth a’n Gwerthoedd

Mae ein gwerthoedd yn greiddiol i’n gweledigaeth: ‘Gweithio gydag athrawon, ar gyfer athrawon, yn athrawon, i ysbrydoli meddyliau Cymru yn y dyfodol

Fe wnawn:

  • Rhoi grym i athrawon yfory i gael gwireddu eu potensial
  • Creu diwylliant o gydweithredu ar draws pob elfen o’n gwaith
  • Bod yn ymrwymedig i greu athrawon hyderus, annibynnol sy’n ymroi i ddysgu gydol oes
  • Gwreiddio ymchwil i arloesi a llywio addysgu
  • Sicrhau bod lles ac addysg dysgwyr wrth graidd popeth a wnawn
  • Bod yn ymroddedig i gynwysoldeb a dwyieithrwydd
Ymunwch â Phartneriaeth Caerdydd
Graduate Profile
Dewch yn Ysgol Bartneriaeth Arweiniol

Darganfyddwch fwy am ymuno â Phartneriaeth Caerdydd ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon fel Ysgol/Cynghrair Bartneriaeth Arweiniol.

Darganfyddwch fwy

Graduate Profile
Dewch yn Ysgol Ymarfer Clinigol

Darganfyddwch fwy am ymuno â Phartneriaeth Caerdydd ar gyfer Addysg Gychwynnol Athrawon fel Ysgol Ymarfer Clinigol.

Darganfyddwch fwy

Julia Longville
Cyfarfod â’r Tîm

"Mae Partneriaeth Caerdydd ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon yn rhoi cyfle i’n myfyrwyr weithio yn rhai o’n hysgolion cryfaf. Mae ein myfyrwyr yn cael cefnogaeth eithriadol o dda, gan ein staff ym Met Caerdydd ac yn ein hysgolion partner. Nawr mae’n gyfle gwych i ymuno â’r Partneriaeth Caerdydd fel Ysgol Partneriaeth Arweiniol neu Ysgol Ymarfer Clinigol ac yn gwneud gwahaniaeth i ddatblygiad athrawon y dyfodol yng Nghymru."

Julia Longville, Deon Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd.

Emma - Student Mentor
Mentor Myfyriwr

"Rwy’n caru fy rôl fel mentor myfyrwyr ac yn gweithio mewn partneriaeth â Met Caerdydd a myfyrwyr trwy gydol eu TAR. Fel mentor pwnc rwy’n ymdrechu i fod yn model rôl gorau y gallaf. Mae’r rôl hon yn rhoi cyfle i mi ddatblygu, cefnogi a herio’r AGAu wrth iddynt gychwyn ar eu gyrfa yn y proffesiwn addysgu yn y dyfodol."

Emma Cavender-Morris, Uwch Fentor, Ysgol Gyfun Tredegar.