Skip to main content

Dewch yn Ysgol Partner Arweiniol

Gwneud gwahaniaeth i ddatblgiad athrawon y dyfodol yng Nghymru ac ymuno â Phartneriaeth Caerdydd ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon fel Ysgol/Cynghrair Partneriaeth Arweiniol.

Beth yw Ysgol/Cynghrair Arweiniol y Bartneriaeth?
Ysgolion/Cynghreiriau Arweiniol y Bartneriaeth yw’r mannau lle y bydd grwpiau o 30 athro dan hyfforddiant yn derbyn hyfforddiant mewn ysgol i ddatblygu arferion addysgol rhagorol. Caiff clystyrau o ‘Ysgolion Ymarfer Clinigol’ eu cysylltu â phob Ysgol/Cynghrair Arweiniol y Bartneriaeth, gan alluogi pob athro dan hyfforddiant i ymgymryd â’u hymarfer clinigol – ffurf newydd ar y profiad ysgol – yn y ddau fath o ysgol. Lleolir 15 athro dan hyfforddiant ym mhob Ysgol/Cynghrair Arweiniol y Bartneriaeth a chaiff y 15 arall eu dosbarthu rhwng yr Ysgolion Ymarfer Clinigol ar gyfer Ymarfer Clinigol 1 (YC1), gan newid wedyn i Ymarfer Clinigol 2 (YC2).

Manteision dod yn Ysgol/Cynghrair Arweiniol y Bartneriaeth

  • Dylanwadu’n sylweddol ar ddatblygiad athrawon y dyfodol yng Nghymru
  • Derbyn £45,000 am ddarparu 15 diwrnod hyfforddiant yn yr ysgol ar gyfer 30 athro dan hyfforddiant
  • Cydweithredu gydag un o’r prif ddarparwyr AGA yng Nghymru yn ogystal â gyda dwy o brifysgolion grŵp Russell: Prifysgol Rhydychen a Phrifysgol Caerdydd ar ymchwil yn yr ystafell ddosbarth
  • Gweithio gyda rhwydwaith deinamig o Ysgolion/Cynghreiriau Arweiniol eraill y Bartneriaeth
  • Derbyn achrediad gradd Meistr yn ddi-dâl am hyfforddiant mentor Ysgol/Cynghrair Arweiniol y Bartneriaeth
  • Cael mynediad breintiedig i’r canfyddiadau ymchwil diweddaraf a DPP achrededig oddi wrth y tair prifysgol
  • Cael mynediad i lyfrgell Met Caerdydd i hyrwyddwr Ymchwil eich ysgol a hyfforddiant am ddim ar sut i archwilio cronfeydd data ymchwil ar-lein
  • Cael cymorth arbenigol er mwyn cyhoeddi astudiaethau ymchwil gweithredol.

Gofynion Ysgolion/Cynghreiriau Arweiniol y Bartneriaeth

  • Darparu 15 diwrnod o hyfforddiant yn yr ysgol ar gyfer 30 athro dan Hyfforddiant
  • Darparu lleoliadau ymarfer clinigol – o fewn yr Ysgol Bartneriaeth Arweiniol neu ar draws y Gynghrair Bartneriaeth Arweiniol – ar gyfer 15 o’r 30 athro dan hyfforddiant yn ystod YC1 (52 diwrnod) a’r 15 arall yn ystod YC2 (53 diwrnod) Enwebu Cydlynydd Addysg gychwynnol i Athrawon i oruchwylio’r hyfforddiant yn yr ysgol a’r ymarfer clinigol
  • Enwebu hyrwyddwr ymchwil i fod yn bwynt cyswllt ar gyfer cydweithio â’r tair prifysgol ar waith ymchwil
  • Cyfrannu i gyd-gynllunio rhaglenni AGA
  • Ymrwymo i sicrhau ansawdd ac atebolrwydd ar y cyd
  • Gwneud ymrwymiad tair blynedd i Bartneriaeth Caerdydd ar gyfer AGA o’r dyddiad dewis.

Y Meini Prawf i ddod yn Ysgol/Cynghrair Arweiniol y Bartneriaeth

Y meini prawf ar gyfer Ysgolion/Cynghreiriau Arweiniol y Bartneriaeth yw:

  • Record lwyddiannus o ymrwymiad i addysg gychwynnol i athrawon ac i ddarpariaeth uchel ei safon
  • Record lwyddiannus o gymorth uchel ei safon ar gyfer athrawon dan hyfforddiant
  • Canlyniadau Estyn priodol
  • Cryfderau a gallu i ysgogi gwelliant, cefnogi eraill i wella, ac i sefydlu AGA fel cyfrifoldeb craidd
  • Ymrwymiad i gyfrannu at ymchwil yn yr ysgol
  • Yn cynnig cwricwlwm a fydd yn darparu profiadau i athrawon dan hyfforddiant addysgu ar draws y chwe Maes Dysgu a Phrofiadau o fewn Cwricwlwm Cymru
  • Yn cynnig cwricwlwm a fydd yn darparu profiadau i athrawon dan hyfforddiant ddysgu’r pwnc arbenigol o’u dewis hyd at TGAU o leiaf (ar gyfer rhaglen AGA Uwchradd)
  • Llofnodi Memorandwm Dealltwriaeth Partneriaeth Caerdydd ar gyfer AGA

Bydd cyfuniad o’r meini prawf uchod yn goleuo penderfyniadau panel dewis fydd wedi’i ffurfio o arweinyddiaeth AGA Met Caerdydd a chynrychiolwyr o’r consortia rhanbarthol. Ein nod fydd llunio cymuned o Ysgolion/Cynghreiriau Arweiniol y Bartneriaeth a fydd yn dangos rhagoriaeth ac yn cynrychioli amrywiaeth rhanbarthol o ran math o ysgol, iaith a lleoliad.


Ymgeisiwch Ar-lein



Dylid anfon unrhyw ymholiadau pellach at: ccplacements@cardiffmet.ac.uk

Mae cyfarfodydd panel o Fwrdd Strategol Partneriaeth Caerdydd ar gyfer AGA i drafod ceisiadau ysgolion partner yn cael eu cynnal unwaith y tymor yn ystod y flwyddyn academaidd. Felly, yn dibynnu ar amseriad eich dyddiad cyflwyno cais, byddwn yn rhoi gwybod i chi am ganlyniad statws y cais cyn gynted ag y bydd penderfyniad wedi’i wneud gan y panel.

Sylwch, caiff y wybodaeth yn eich cais ei rhannu gydag aelodau’r panel er mwyn dod i benderfyniad. Mae’r panel yn cynnwys aelodau o Uwch staff academaidd AGA Metropolitan Caerdydd, cynrychiolwyr Penaethiaid o ysgolion Arweiniol y bartneriaeth a chynrychiolwyr o’r consortia rhanbarthol. Mae’r rhan fwyaf o’r wybodaeth a ofynnir amdani yn y cais ar gael yn gyhoeddus ac mae gofyn i holl aelodau’r panel gydymffurfio â rheoliadau GDPR mewn perthynas â’r broses ddethol a recriwtio hon.