Skip to main content

Dewch yn Ysgol Partner Clinigol

Ymunwch â Phartneriaeth Caerdydd ac arfogi athrawon yfory i wireddu eu potensial fel Ysgol Partner Clinigol.

Beth yw Ysgol Ymarfer Clinigol?
Bydd Ysgolion Ymarfer Clinigol yn rhoi cyfleoedd i athrawon dan hyfforddiant ddatblygu ymarfer pedagogaidd ardderchog drwy gyfrwng model ymarfer clinigol o AGA. Mae Ymarfer Clinigol yn wahanol i ‘brofiad ysgol’ o ran mai dyma’r man lle y bydd athrawon dan hyfforddiant yn defnyddio canlyniadau ymchwil, gwybodaeth a ffynonellau gwahanol o arbenigedd o’u hyfforddiant yn y brifysgol ac yn yr ysgol, gan gwestiynu’r rhain yn erbyn ei gilydd wrth ddatblygu eu damcaniaethau dysgu ac addysgu personol nhw eu hunain:

Bydd Ysgolion Ymarfer Clinigol yn hwyluso addysg a hyfforddiant athrawon dan hyfforddiant drwy roi cyfleoedd iddyn nhw:

  • gymryd rhan mewn addysgu annibynnol ac addysgu mewn tîm

  • derbyn cymorth ac adborth

  • cael cyfleoedd i arsylwi

  • cael mynediad i fannau gwaith ac adnoddau TGCh priodol (yn ddelfrydol ar yr un lefel ag aelodau amser llawn o’r staff)

  • cael amser a lle ar gyfer mentora, gwaith ymholi mewn grwpiau bach a seminarau.

Bydd lleoliadau Ymarfer Clinigol ar gyfer o leiaf 3 athro dan hyfforddiant (Cynradd) / 6 athro dan hyfforddiant (Uwchradd) o'r un rhaglen AGA ar unrhyw un cyfnod. Ar gyfer ysgolion AAA arbenigol, lleiafswm fyddai 3 myfyriwr dan hyfforddiant o raglenni TAR. Bydd pob lleoliad Ymarfer Clinigol yn para tua 52 diwrnod, ar wahân i athrawon danhyfforddiant BA Cynradd Blwyddyn 1 y bydd angen ond 15 diwrnod arnyn nhw yn eu blwyddyn gyntaf. Bydd Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn rhoi £10 y dydd am bob athro dan hyfforddiant i’r Ysgol Ymarfer Clinigol.

Gofynion Ysgolion Ymarfer Clinigol

  • Penodi uwch-fentor a fydd ag amser wedi’i neilltuo ar gyfer y rôl
  • Sicrhau ymrwymiad i’r profiad mentora llawn gan gynnwys hwyluso gweithgareddau ymchwil ac ymholi athrawon dan hyfforddiant
  • Cefnogi egwyddorion ymarfer clinigol a fydd yn ategu’r gwaith a wneir gan yr athrawon dan hyfforddiant yn ystod hyfforddiant
  • Cynghreiriau/Ysgolion Arweiniol y Bartneriaeth yn yr ysgolion
  • Sicrhau dull cydweithredol o weithio ar gyfer cynllunio a chyflawni’r rhaglen
  • Rhyddhau staff allweddol sydd â rolau AGA (uwch-fentoriaid a mentoriaid) i ymgymryd â DPP a fydd yn gysylltiedig â’u rolau
  • Gwneud ymrwymiad ysgol-gyfan i ymarfer wedi’i oleuo gan ymchwil
  • Cynnig lleoliadau ymarfer clinigol ar gyfer 3 (Cynradd)/6 (Uwchradd) athro dan hyfforddiant o leiaf o’r un rhaglen yn ymarfer clinigol 1 (tua 52 diwrnod) a 3 athro dan hyfforddiant yn ymarfer clinigol 2 (tua 53 diwrnod). Ar gyfer ysgolion AAA arbenigol, lleiafswm fyddai 3 myfyriwr dan hyfforddiant o raglenni TAR. 
  • Lle bydd yn berthnasol, cynnig lleoliadau ymarfer clinigol i 3 athro dan hyfforddiant yn ystod Blwyddyn 1 o’r rhaglen BA (Anrh) Addysg Gynradd gyda SAC (15 diwrnod)
  • Ymrwymo i gyd-atebolrwydd a sicrwydd ansawdd

Meini Prawf i gael dod yn Ysgol Ymarfer Clinigol

Y meini prawf ar gyfer Ysgolion Ymarfer Clinigol yw:

  • Record lwyddiannus o ymrwymiad i addysg gychwynnol i athrawon ac i ddarpariaeth uchel ei safon
  • Record lwyddiannus o gymorth uchel ei safon ar gyfer athrawon dan hyfforddiant
  • Canlyniadau Estyn priodol
  • Y gallu a’r gwytnwch i ysgogi gwelliant o fewn yr ysgol
  • Ymrwymiad i gyfrannu at ymchwil yn yr ysgol
  • Yn cynnig cwricwlwm a fydd yn darparu profiadau i athrawon dan hyfforddiant addysgu ar draws y chwe Maes Dysgu a Phrofiadau o fewn Cwricwlwm Cymru
  • Yn cynnig cwricwlwm a fydd yn darparu profiadau i athrawon dan hyfforddiant ddysgu’r pwnc arbenigol o’u dewis hyd at TGAU o leiaf (ar gyfer rhaglen AGA Uwchradd)
  • Llofnodi Memorandwm Dealltwriaeth Partneriaeth Caerdydd ar gyfer AGA

Caiff ceisiadau i gael dod yn Ysgol Ymarfer Clinigol eu hystyried gan banel dewis ymgeiswyr a fydd wedi’i ffurfio o blith Bwrdd Strategol Partneriaeth Caerdydd, gan gynnwys cynrychiolwyr o ysgolion, consortia lleol a’r brifysgol. Ein nod yw adeiladu cymuned o Ysgolion Ymarfer Clinigol a fydd yn dangos yr arferion gorau ac a fydd yn cynrychioli amrywiaeth ranbarthol o ran math, iaith a lleoliad yr ysgolion.


Ymgeisiwch Ar-lein



Dylid anfon unrhyw ymholiadau pellach: ccplacements@cardiffmet.ac.uk

Mae cyfarfodydd panel o Fwrdd Strategol Partneriaeth Caerdydd ar gyfer AGA i drafod ceisiadau ysgolion partner yn cael eu cynnal unwaith y tymor yn ystod y flwyddyn academaidd. Felly, yn dibynnu ar amseriad eich dyddiad cyflwyno cais, byddwn yn rhoi gwybod i chi am ganlyniad statws y cais cyn gynted ag y bydd penderfyniad wedi’i wneud gan y panel.

Sylwch, caiff y wybodaeth yn eich cais ei rhannu gydag aelodau’r panel er mwyn dod i benderfyniad. Mae’r panel yn cynnwys aelodau o Uwch staff academaidd AGA Metropolitan Caerdydd, cynrychiolwyr Penaethiaid o ysgolion Arweiniol y bartneriaeth a chynrychiolwyr o’r consortia rhanbarthol. Mae’r rhan fwyaf o’r wybodaeth a ofynnir amdani yn y cais ar gael yn gyhoeddus ac mae gofyn i holl aelodau’r panel gydymffurfio â rheoliadau GDPR mewn perthynas â’r broses ddethol a recriwtio hon.