Skip to main content
Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd>Cyrsiau>Cyfathrebu a Dylunio Graffig – Gradd BA (Anrh)

Cyfathrebu a Dylunio Graffig – Gradd BA (Anrh)

Blwyddyn Mynediad

Bydd Cyfathrebu Graffig yn gwneud cyfraniad hanfodol i’r diwylliannau materol a gweledol sy’n ein hamgylchynu. Mae’n gatalydd cryf ar gyfer newid cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol, ac mae’r gallu ganddo i siapio ymddygiad, i oleuo canfyddiad ac i lywio’n sylw.

Ar radd BA (Anrh) Cyfathrebu a Dylunio Graffig ym Met Caerdydd, byddwch yn archwilio tirwedd a rôl newidiol dylunio graffig o fewn cyd-destun yr 21ain ganrif, yn delio â heriau globaleiddio, cynwysoldeb a chynaliadwyedd.

Byddwch yn ymgysylltu â’r arferion stiwdio o’r radd flaenaf, yn cydweithredu â disgyblaethau eraill, archwilio dulliau a theori, gweithio ar friffiau byw gyda chleientiaid go iawn ac ymgymryd â phrosiectau dylunio hunan-gyfeiriedig drwy deipograffeg, delweddau a naratif.

Rydym yn credu bod rôl y dylunydd yn un o fod hefyd lawn cymaint yn feirniad, yn guradur, awdur, crefftwr, athronydd, cyfathrebwr, cydweithredwr ac anogwr, a byddwn yn eich cefnogi i chi gael dod yn ymarferydd medrus a fydd yn barod i gael eich cyflogi’n genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Bydd y rhaglen hon yn ddarostyngedig ar adolygiad cyfnodol yn 2023/4 i sicrhau bod cynnwys y cwrs yn gyfredol ac yn parhau i fod. Os bydd unrhyw newidiadau i gynnwys y cwrs yn cael eu gwneud o ganlyniad i'r adolygiad, bydd pob ymgeisydd yn cael gwybod unwaith y bydd newidiadau'n cael eu cadarnhau.


Cynnwys y Cwrs

Ar hyd y cwrs byddwch yn archwilio pob math o iaith weledol ac yn arbrofi gyda chynifer o gyfryngau, deunyddiau a thechnolegau gwahanol ag y gallwch, gan gynnwys:

  • Teiprograffeg
  • Gwneud Delweddau
  • Meddwl Cysyniadol a Chynhyrchu Syniadau
  • Dylunio Golygyddol
  • Brandio
  • Hysbysebu
  • Dylunio Cymdeithasol a Chynaliadwyedd
  • Dylunio Gwybodaeth
  • Animeiddio a Graffigwaith Symud
  • Rhyngwyneb Defnyddwyr a Phrofiad Defnyddwyr / Dylunio Gwasanaeth
  • Naratif a Dilyniant
  • Ymarfer Proffesiynol

Ar hyd eich amser ar y cwrs, byddwch yn canolbwyntio ar feddwl yn feirniadol ac yn treulio amser yn datblygu syniadau cryf a dulliau unigryw.

Byddwch yn dysgu’r sgiliau a’r technegau y bydd eu hangen arnoch i gael dod yn gyflogadwy iawn. A byddwch yn adeiladu rhwydwaith o bobl yn y diwydiant – drwy siaradwyr gwadd, mentoriaid diwydiant a briffiau byw gyda sefydliadau go iawn – a fydd yn amhrisiadwy wedi i chi raddio. Cewch gyfleoedd i ddysgu oddi wrth ddisgyblaethau eraill, i deithio, cael ymwneud ag ymchwil ac ymgymryd â lleoliadau gwaith.

Yn eich trydedd flwyddyn gallwch ddewis cwblhau traethawd hir neu gynllun busnes a fydd yn eich helpu i baratoi ar gyfer eich cam nesaf – p’un ai y bydd hynny’n astudio ymhellach, sicrhau rôl yn y diwydiant neu lunio eich gyrfa lawrydd.

Blwyddyn Un

Pwnc: Elfennau Sylfaenol Cyfathrebu Graffig - 40 credyd
Beth mae bod yn gyfathrebwr graffig yn ei olygu? Bydd eich modiwl cyntaf yn herio unrhyw ragdybiaethau ynglŷn â’r proffesiwn wrth i chi ddechrau archwilio’r geiriau, y delweddau a’r naratif a fydd yn cyfleu eich negeseuon – ac yn datblygu’r sgiliau cyfryngau gweledol y bydd eu hangen arnoch i’w creu.

Pwnc: Cyfathrebu Graffig mewn Cyd-destun - 20 credyd
Bydd ail fodiwl eich pwnc yn archwilio cyd-destun o ran cyfleu cysyniad ac yn archwilio rhyngwyneb defnyddwyr a phrofiad defnyddwyr drwy ddylunio cymdeithasol.

Maes Un: Cydweithredu - 20 credyd*
Byddwch yn ehangu eich gorwelion drwy ymuno â myfyrwyr o gyrsiau eraill i gael cydweithio ar brosiect. Byddwch yn cael eich ysbrydoli gan ddisgyblaethau eraill i gael adeiladu ar eich profiad ac ehangu eich creadigrwydd – a defnyddio eich sgiliau a’ch mewnwelediad artistig i’w cymhwyso i’ch gwaith. 

Cytser: Cysyniad - 40 credyd
Bydd y modiwl hwn yn eich cyflwyno i fyd ehangach syniadau, theori ac astudiaethau cyd-destunol i’ch helpu i ddatblygu eich sgiliau ymchwil academaidd a’ch gallu i feddwl yn feirniadol. Byddwch yn canolbwyntio ar feysydd o ddiddordeb mewn grwpiau astudio a byddwch yn ymgyfarwyddo â’r ymchwil traws-ddisgyblaethol cyffrous a’r arbenigedd sydd yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd.

Blwyddyn Dau

Pwnc: Pwy yw’r Dylunydd? - 40 credyd
Bydd y modiwl hwn yn canolbwyntio ar eich datblygiad proffesiynol. Byddwch yn archwilio’ch cryfderau a’ch diddordebau yn ddylunydd wrth i chi barhau i ychwanegu at eich arbenigedd ac at ddatblygu eich ymarfer – gan osod y sylfeini ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol. Byddwch yn deall y berthynas hanfodol rhwng cleient, dylunydd a chynulleidfa drwy frandio, hysbysebu cymdeithasol, dylunio llyfrau ac ymarfer proffesiynol, gan gynnwys dysgu sut i gyflwyno eich hunan yn eang drwy eich portffolio digidol chi eich hunan a chyfle i saernïo eich hunaniaeth ddylunio.

Maes Dau: Archwilio - 40 credyd* 
Byddwch yn ehangu eich profiadau â phrosiectau heriol a fydd wedi’u dylunio i’ch annog i archwilio ac i arbrofi y tu allan i’ch disgyblaeth benodol. Bydd y cyfle gweddnewidiol hwn yn arwain at feddwl newydd ac at bethau newydd ac yn agor pob math o bosibiliadau yn y dyfodol. Byddwch yn ymgymryd â phrosiectau cyffrous a fydd yn eich herio mewn ffyrdd newydd. Hefyd gallwch ddewis teithio, cymryd lleoliad gwaith, dechrau eich busnes chi eich hunan neu roi cynnig ar rywbeth newydd.

Cytser: Bwrw golwg feirniadol - 40 credyd  
Drwy fwrw golwg feirniadol dros lenyddiaeth, cyfnodolion ac arddangosfeydd, byddwch yn hogi eich gallu i roi eich ymarfer dylunio o fewn cyd-destun. Cewch gyfleoedd hefyd i ryngweithio gyda myfyrwyr a staff ac i dreiddio mwy i’r meysydd a fydd o ddiddordeb i chi.

Blwyddyn Tri

Pwnc: Ymarfer Arbenigol  - 40 credyd
Dyma’r amser i ganolbwyntio mewn ffordd wirioneddol ar yr hyn y byddwch am ei wneud wedi i chi raddio. Byddwch yn gweithio gyda mentoriaid diwydiant ac yn delio â briffiau byw a fydd yn canolbwyntio ar heriau dylunio bywyd go iawn. Fe gewch y cyfle hefyd i gymryd rhan mewn cystadlaethau dylunio rhyngwladol, gan gynnwys D&AD, ISTD, RSA, Creative Conscience a YCN, wrth i chi adeiladu ar eich sgiliau a’ch diddordebau arbenigol a cheisio datblygu portffolio graddedig cryf.

Maes Tri: Arddangos  – 40 credyd
Bydd eich tymor olaf yn canolbwyntio ar brosiect mawr ac ar arddangosfa o’ch gwaith. Dyma’r lle y byddwch yn dod â phopeth y byddwch wedi’i ddysgu yn ystod y cwrs at ei gilydd a bydd yn fan cychwyn ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol. 

Cytser: Cyfraniad – 40 credyd
Bydd eich gwybodaeth yn sail i’ch ymarfer. Gallwch ddangos eich sgiliau ymchwil a dadansoddi yn eich cyflwyniad Cytser terfynol, lle y byddwch yn archwilio syniadau ar ffurfiau ysgrifenedig ac ymarferol.

*modiwlau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg

Dysgu ac Addysgu

O’r dechrau, byddwch yn magu profiad ymarferol mewn sesiynau stiwdio ac ar-lein a gweithdai ymarferol, gan ddatblygu eich sgiliau craidd. Bydd darlithoedd, y bydd aelodau o’r staff academaidd yn eu harwain, yn ehangu’r ddealltwriaeth ddamcaniaethol o’ch maes, a bydd seminarau targedig â mwy o ffocws wedi’u dylunio i roi arweiniad er mwyn boddhau mwy o alwadau deallusol ac ymarferol unigol.

Bydd y myfyrwyr yn gweithio hefyd gyda thiwtor personol ar hyd y tair blynedd y byddan nhw’n astudio. Bydd y tiwtoriaid personol yn cwrdd â’r myfyrwyr unwaith y tymor i gynnig cymorth ac arweiniad bugeiliol, ac i weld a yw’r myfyrwyr yn cymryd diddordeb ym mhob elfen o’r cwrs.

Bydd y tîm yn parhau i weithio yn ddylunwyr ac yn sicrhau y bydd y sgiliau ymarfer proffesiynol yn rhan annatod o’r cwricwlwm i gyd fel y bydd pob prosiect yn gam tuag at gael swydd yn berson graddedig. Rydym yn rhan o gymuned bywiol o ymarferwyr, y tu mewn i’r brifysgol a gyda’r diwydiant dylunio graffig yng Nghaerdydd a thu hwnt; a bydd hyn yn cyfoethogi’r cyfraniad y bydd ein myfyrwyr yn ei wneud, yn fyfyrwyr ac yn ddylunwyr graddedig, i’r byd go iawn.

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf yn astudio, gall pob myfyriwr ddisgwyl derbyn rhwng 14 a 22 awr o gyswllt bob wythnos drwy gyfrwng darlithoedd, seminarau, tiwtorialau, gweithdai ymarferol a gweithdai technegol, ar y campws ac ar-lein. Ar hyd y tair blynedd, cynigir amgylchedd dysgu llawn cyffro, yn y stiwdio ar ar-lein, a fydd yn meithrin uchelgais a thrywydd gyrfa’r myfyrwyr.

Asesu

Ar hyd eich cyfnod astudio, fe gewch eich gwerthuso ar dri phrif maen prawf a fydd yn greiddiol i bob un o’r disgyblaethau a fydd yn cael eu haddysgu yn yr Ysgol Gelf a Dylunio:

SGILIAU: Y sgiliau ymarferol, technegol a chysyniadol y byddwch yn eu caffael yn ystod eich cwrs.

CYD-DESTUN: Eich dealltwriaeth a’ch gwybodaeth o’r cyd-destun deallusol ehangach y mae eich pwnc a’ch gwaith wedi’i leoli ynddo. Bydd hyn yn cynnwys materion hanesyddol, amgylcheddol a moesegol y bydd eich modiwlau ‘Theori a Chyd-destun’ yn eu harchwilio.

SYNIADAU: Eich dealltwriaeth o syniadau deallusol a chreadigol o fewn eich disgyblaeth a thu hwnt, ynghyd â’ch gallu i gaffael cysyniadau newydd ac i ffurfio syniadau newydd. Caiff syniadau eu harchwilio yn eich gwaith ysgrifenedig yn ogystal â bod yn amlwg yn eich cynnydd ymarferol.

Rhoddir yr un pwysiad i bob un o’r meini prawf hyn yn ystod y broses asesu, hynny yw, ystyrir eu bod yr un mor bwysig ac allweddol i’ch datblygiad; pwyslais a fydd wedi’i ddylunio, er enghraifft, i alluogi myfyriwr a allai fod yn fedrus yn dechnegol ond a fydd yn wan yn cynhyrchu syniadau, neu fyfyriwr â llawer o ddawn greadigol a allai ei chael yn anodd troi cysyniad bras yn ddyluniad unigol cryf, i ddatblygu set o sgiliau fwy cyflawn.

Byddwn yn cynnig nifer o ffyrdd i chi gael tracio’ch cynnydd ar eich ffordd i gyflwyno’ch gwaith er mwyn ei farcio. Gan ddeall y bydd y pwyslais yn troi o gwmpas meysydd craidd sgiliau, cyd-destun a syniadau, byddwch yn ymgyfarwyddo hefyd â’r ffurflen asesu strwythuredig y bydd eich tiwtoriaid yn ei defnyddio ac yn dysgu i gysylltu’ch gwaith â chanlyniadau dysgu disgwyliedig pob briff.

Prif fathau asesu ffurfiannol yw: asesu academaidd (adborth oddi wrth eich tiwtoriaid); asesu cymheiriaid (oddi wrth y myfyrwyr ar eich cyrsiau neu’r partneriaid ar eich prosiect); a hunan-asesu (sef eich beirniadaeth chi eich hunan yng ngoleuni mathau eraill o adborth). Ond nid adborth fydd yr unig beth y byddwch yn ei dderbyn ar ddiwedd briff – yn aml bydd eich tiwtoriaid yn asesu’ch cynnydd wrth i’ch gwaith ddatblygu, gan roi adborth ffurfiannol ar brydiau allweddol lle y disgwylir y cewch eich annog i gymryd risgiau, cynnal eich cymhelliant neu ddatblygu eich syniadau cyn dyddiad cau.

Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

Er y bydd eich dysgu wedi’i ddylunio i’ch datblygu yn ddylunydd a pherson deallusol cytbwys, bydd eich cwricwlwm wedi’i strwythuro yn yr un modd â’ch potensial mewn golwg. Felly bydd y pwyslais a fydd wedi’i roi ar eich etheg gwaith, yn greadigol ac yn academaidd, wedi’i baru â ffocws sylweddol ar brofiad yn y byd go iawn: o adeiladu cysylltiadau ac ymgymryd â lleoliadau hyd at friffiau byw a chymorth i ffurfio’ch busnes chi eich hunan os dewiswch wneud hynny.

Mae perthynas wych gan y cwrs â chymunedau dylunio yng Nghymru ac yn Llundain yn ogystal â gyda phartneriaid ymchwil a diwylliannol. Mae ein graddedigion mewn swyddi dylunio amlwg ar draws y byd ac yn gyfrifol am allbwn dylunio graffig mewn ystod eang o gyd-destunau diwylliannol, cymdeithasol, technolegol, gwleidyddol ac amgylcheddol.

Gallwch ddewis dilyn trywydd penodol drwy ail a thrydedd flwyddyn eich astudiaethau lle y gallwch weithio’n agos gyda busnesau neu lansio’ch busnes eich hunan ar gyfer y foment y byddwch yn graddio. Yn eich blwyddyn olaf, yn hytrach na chyflwyno traethawd hir, gallwch ddewis llunio cynllun busnes manwl.

Ar hyd eich amser yn yr Ysgol Gelf a Dylunio byddwch yn cwrdd â gweithwyr proffesiynol o’r tu fewn i’ch diwydiant ac yn clywed oddi wrthyn nhw, ac yn hogi eich sgiliau a’ch syniadau ar gyfer mantais fasnachol a phroffesiynol. Bydd prosiectau traws-ddisgyblaethol yn eich paratoi ar gyfer gwaith tîm yn nes ymlaen a bydd briffiau byw yn eich paratoi ar gyfer dyddiadau cau a a galwadau manylebau tynn.

Mae graddedigion a fu ar y rhaglen mewn sefyllfa dda i gael ymuno â chwmnïau dylunio, i weithio yn ddylunwyr mewn sefydliadau mawr, neu i sefydlu eu busnes nhw eu hunain. Bydd rhai yn dewis astudio ymhellach drwy ddilyn cwrs Meistr yn yr Ysgol Gelf a Dylunio. Bydd cyfleoedd iddyn nhw fynd â hyn ymhellach drwy Ddoethuriaeth Broffesiynol mewn Dylunio.

Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais

Cynigion Nodweddiadol

  • Pwyntiau tariff: 96-120
  • Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen cynigion cyd-destunol.
  • TGAU: Yn ddelfrydol, pum TGAU ar Radd C / 4 neu uwch, gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg Iaith Gyntaf, Mathemateg / Mathemateg – Rhifedd.
  • Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS Academaidd 6.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob elfen, neu gyfwerth.
  • Safon Uwch: O leiaf tair Safon Uwch. Does dim angen pynciau penodol. Bagloriaeth Cymru – Ystyrir Tystysgrif Her Sgiliau Uwch fel trydydd pwnc.
  • Diploma Cenedlaethol BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: MMM-DDM
  • Lefel T: Does dim angen pynciau penodol.
  • Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Does dim angen pynciau penodol.
  • Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (IB): 24 pwynt. Does dim angen pynciau penodol.
  • Tystysgrif Gadael Iwerddon: Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir pynciau lefel uwch yn unig gydag isafswm gradd H4.
  • Advanced Highers yr Alban: Does dim angen pynciau penodol.
  • Gofynion eraill: Cyfweliad ac adolygiad portffolio llwyddiannus. Bydd gofyn i ymgeiswyr gyflwyno portffolio digidol.

Derbynnir cyfuniadau o’r cymwysterau uchod os ydyn nhw’n cwrdd â’n gofynion lleiaf. Os nad yw eich cymwysterau wedi’u rhestru, cysylltwch â Derbyniadau neu cyfeiriwch at Chwiliad Cwrs UCAS.

Mae rhagor o wybodaeth ar gymwysterau Tramor i’w gweld yma.

Os ydych yn ymgeisydd hŷn, mae gennych brofiad perthnasol neu RPL yr hoffech i ni ei ystyried, cysylltwch â Derbyniadau.


Sut i Ymgeisio

Mae rhagor o wybodaeth ar sut i ymgeisio i’w gweld yma.

Ffioedd Dysgu, Cyllid Myfyrwyr A Chostau Ychwanegol

I gael y wybodaeth ddiweddaraf ar ffioedd dysgu a’r cymorth ariannol a allai fod ar gael pan fyddwch yn y Brifysgol, ewch i www.cardiffmet.ac.uk/fees.

Costau astudio i israddedigion yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd

Deunyddiau

Bydd yr Ysgol Gelf a Dylunio yn darparu amrywiaeth o ddeunyddiau sylfaenol. Bydd y rhain yn galluogi’r myfyrwyr i ddatblygu eu cymhwysedd mewn ystod o sgiliau ac i ddangos eu gallu technegol. Y myfyrwyr fydd yn bwrw’r gost am ddeunyddiau y bydd angen meintiau anghyffredin ohonyn nhw neu’r rheiny a fydd yn rhai arbenigol, drud neu anghyffredin. Rhoddir cyngor ynglŷn â sut y caiff ‘anghyffredin’ ei ddiffinio, pa ddeunyddiau y tybir eu bod yn ‘ddrud’, a rhoddir enghreifftiau o’r pethau a gaiff eu hystyried yn ‘anghyffredin’. Yn aml bydd myfyrwyr yr Ysgol Gelf a Dylunio yn dewis gwario’u harian ar ddeunyddiau y bydd yn well ganddyn nhw weithio gyda nhw, gan gynnwys llyfrau braslunio ac ysgrifbinnau, yn ogystal ag offer arbenigol o’u dewis nhw eu hunain.

Fynychaf ni ofynnir am dâl am ddefnyddio cyfarpar ar wahân i rai peiriannau arbenigol o ben uchaf y farchnad megis argraffyddion Mimaki a 3D. Bydd mynediad i FabLab Carddyd yn amodol ar aelodaeth myfyrwyr; bydd yn gostwng ffioedd i fyfyrwyr.

I gael rhagor o wybodaeth am gostau ychwanegol cyrsiau, gan gynnwys ffioedd, gofynion cyfarpar a chostau eraill ar gyfer pob rhaglen israddedig, ewch i www.cardiffmet.ac.uk/costaucwrsychwanegol.

Teithiau maes ac ymweliadau

Bydd yr Ysgol yn talu am deithiau maes a fydd yn rhan o’r dysgu craidd. Ambell waith trefnir ymweliadau a fydd yn opsiynol ac mae’n bosib y gofynnir i’r myfyrwyr rannu’r costau. Y myfyriwr unigol fydd yn gyfrifol am gostau astudio dramor, gan gynnwys cyfnewid, lleoliadau a phrosiectau.

Cysylltu â Ni

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044 neu ebost askadmissions@cardiffmet.ac.uk.

Ar gyfer ymholiadau cwrs-benodol, cysylltwch â Thiwtor Derbyniadau BA (Anrh) Cyfathrebu a Dylunio Graffig​, David Wrenne:

Ebost: dwrenne@cardiffmet.ac.uk



Rydyn ni’n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â’r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu’r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i’r brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae’n cadw’r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o’r fath yn angenrheidiol. Darllenwch ein Telerau ac Amodau i gael y wybodaeth lawn.

Gwybodaeth Allweddol Am Y Cwrs

Cod UCAS:
W210 - gradd 3 blynedd

Man Astudio: 
Campws Llandaff 

Ysgol:
Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd

Hyd y Cwrs:
Tair blynedd amser llawn. Pedair blynedd amser llawn​ os yn ymgymryd â lleoliad rhyngosod blwyddyn o hyd.​​​​

Uchafbwyntiau Gradd

Mae'r Uwch Ddarlithydd David Wrenne yn esbonio'r hyn sydd gan y cwrs gradd BA (Anrh) Cyfathrebu a Dylunio Graffig yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd i'w gynnig.

Cwrdd â’r Tîm: David Wrenne

Mae Cyfarwyddwr y Rhaglen David Wrenne yn trafod ei gariad at ddylunio graffig, a sut mae ei brofiad yn y diwydiant yn helpu i baratoi ei fyfyrwyr ar gyfer eu gyrfaoedd eu hunain.

ASTUDIO CELF DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG
Cwrdd â’r Tîm: Huw Williams

Mae'r darlithydd cyfrwng Cymraeg yn yr Ysgol Gelf a Dylunio, Huw Williams yn sôn am y manteision o astudio Celf a Dylunio yn ddwyieithog.

ARCHWILIO EIN CYFLEUSTERAU | TAITH RHITHIOL
Taith Stiwdio Cyfathrebu a Dylunio Graffig

Ewch ar daith rithiol o'n Stiwdios Cyfathrebu a Dylunio Graffig.

Taith Gweithdy Gwneud Printiau

Ewch ar daith rithiol o'n Gweithdai Gwneud Printiau.

Profiad Myfyrwyr a Graddedigion
Clara - Graphic Communication
Bywyd ar ôl y Brifysgol: Sut gwnaeth astudio Cyfathrebu Graffig fy mharatoi ar gyfer y gweithle

Mae Maris Latham yn sôn am fywyd ar ôl y Brifysgol a sut mae'r sgiliau a ddysgodd ym Met Caerdydd wedi ei helpu yn ei gyrfa fel Dylunydd Graffeg.
Darllen Mwy

Carys - Graphic Communication
Gwneud gwahaniaeth gyda fy nghwrs Cyfathrebu Graffig

Mae myfyriwr graddedig Ben Griffiths yn blogio am ei brofiadau o weithio fel Cyfathrebwr Graffig i Aren Cymru a pam ei fod yn frwdfrydig i wneud gwahaniaeth.
Darllen Mwy

Kieran - Graphic Communication
Pam dewis astudio Cyfathrebu Graffig ym Met Caerdydd

Mae Ffion, myfyriwr graddedig ar y cwrs Cyfathrebu Graffig yn son pham ei fod wedi dewis astudio Cyftahrebu Graffig ym Met Caerdydd.
Darllen Mwy

YMGEISIO I YSGOL CELF A DYLUNIO CAERDYDD
Beth i'w Gynnwys yn Eich Portffolio

Mae Swyddog Recriwtio Myfyrwyr a myfyriwr graddedig o Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd, Abbie, yn rhannu ei chynghorion portffolio.