Skip to main content
Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd>Cyrsiau>Cerameg – Gradd BA (Anrh)

Cerameg – Gradd BA (Anrh)

Blwyddyn Mynediad

Teimlwch y byd trwy eich dwylo ac ymgysylltwch â grym trawsnewidiol deunyddiau.

Mae gan glai iaith weledol a gwirioneddol sydd ar gael ym mhob diwylliant. Mae’n rhan annatod o fywydau pobl, eu hanghenion a’u cof. Mae ceramegydd yn fedrus wrth weithio gyda’r deunydd mwyaf amlbwrpas hwn. Byddan nhw’n teimlo’r byd drwy eu dwylo ac yn ymgysylltu â gallu gweddnewidiol deunyddiau.

Bydd gradd BA (Anrh) Cerameg ym Met Caerdydd yn rhoi’r sgiliau i chi gael cyfrannu i’r maes hwn sy’n tyfu. Byddwch yn archwilio agwedd anthropolegol tuag at wneud, mapio daearyddol-gymdeithasol deunyddiau ac arferion, a gallu cymdeithasol sgiliau drwy weithio gyda mentrau lleol, megis orielau, marchnadoedd, casgliadau, ac yn rhan o’n ‘stiwdio byd-eang’. Byddwch yn archwilio strategaethau creadigol er mwyn adnabod eich tueddiadau a phatrymau sy’n rhan o ddatblygu syniadau, gan astudio technoleg deunyddiau a gwydro er mwyn troi’r syniadau hynny yn ffurf. Byddwch yn dysgu am darddiad ac alcemi, o brosesau traddodiadol i dechnolegau newydd.

Byddwch yn meddu ar y sgiliau i ymateb i gyd-destunau cysyniadol a masnachol, i werthfawrogi ehangder y maes, o’r swyddogaethol i’r ffigurol, o osodwaith i arloesi technolegol​. Â chyfleoedd i weithio mewn cyd-destunau yn y byd go iawn ar friffiau byw, cystadlaethau creadigol a phrosiectau rhyngddisgyblaethol, cewch eich annog i adnabod ac i adeiladu eich ymarfer annibynnol chi eich hunan ac i weithio tuag at eich gyrfa yn y dyfodol.

Cynnwys y Cwrs

Rydym yn ymgorffori deunydd cerameg o’r haearn sydd yn ein gwaed hyd at y calsiwm sydd yn ein hesgyrn; o’r brics sy’n ffurfio’n cartrefi hyd at y cwpan a ddefnyddiwn er mwyn yfed. Mae’n hawdd cydnabod bod clai yn un deunydd y byddwn yn ei rannu â bron pob person yn y byd.

Mae hydeimledd y deunydd wedi galluogi Cerameg yn yr Ysgol Gelf a Dylunio i gymryd risgiau’n barhaus ac ymateb yn bositif i heriau creadigol. Bydd hyn yn deillio o feithrin cymuned o a fydd yn gweithredu ar lefelau israddedig, ôl-raddedig a Doethuriaeth, a fydd yn cynhyrchu cyfoeth o ymholi beirniadol.

Ein stiwdios dynodedig fydd eich cartref ar hyd y cwrs. Byddwch yn gweithio ar draws ystod eang o brosesau, yn archwilio holl bosibiliadau cerameg ac yn magu sgiliau uwch. Byddwch yn dysgu oddi wrth dîm o geramegyddion gweithredol a chewch gyfle i brofi amrywiaeth o arferion a addysgir gan gynnwys:

  • Alcemeg – Cerameg a Gwyddor Deunyddiau, technoleg gwydro, a fydd yn cynnwys dadleuon daearyddol a hanesyddol-gymdeithasol
  • Taflu – technegau crochenwaith traddodiadol o lestri cartref hyd at ffurfiau cerfluniol cyfansawdd
  • Modelu â'r llaw – y ffurf dynol mewn clai, o waith addurniadol a cherfluniol hyd at gerfwedd isel gain
  • Gwneud mowldiau – castio mewn plastr, mowldiau cyfrwng-cymysg (ffabrig/ hylosg), mowldiau cyfansawdd, turnio
  • Patrymau ar arwynebau – technegau printio – gan gynnwys trosglwyddynnau, sgrin-brint a throswydro
  • Tanio – trydan, nwy, rakw, soda, saggar, adeiladu odynnau allanol i archwilio swyddogaeth a pherfformiad
  • Gwneuthuriad digidol – gan gynnwys meddalwedd dysgu a defnyddio argraffu 3D, torri â laser, modelu CNC

Mae'r cwrs wedi'i strwythuro i roi mewnwelediad gwerthfawr i chi i'r diwydiant cerameg wrth i chi gynllunio ar gyfer eich dyfodol – p'un ai y byddwch am sefydlu eich stiwdio chi eich hunan, astudio ymhellach neu ymuno â phractis proffesiynol. Mae cyfleoedd ar gael i gael lleoliadau gwaith mewn diwydiant, i astudio dramor neu i gydweithio ar brosiect ymchwil.

Yn eich trydedd flwyddyn gallwch gwblhau traethawd hir neu gynllun busnes a fydd yn paratoi'r ffordd ar gyfer eich gyrfa wedi i chi raddio.


Blwyddyn Un

Pwnc: Dechrau - 40 credyd
Pwnc: Prosiect Unigol - 20 credyd

Byddwch yn dechrau archwilio grym iaith deunydd. Bydd eich tymor cyntaf yn eich cyflwyno i ystod amrywiol o arferion clai – a’r sgiliau craidd megis taflu a gwaith plastr, nifer o brosesau adeiladu â’r llaw a dulliau tanio gwahanol.

Hanfodion Ymchwil - 20 credyd*

Nod y modiwl hwn yw datblygu sgiliau ymchwil academaidd craidd myfyrwyr gan gynnwys dod o hyd i ffynonellau, gwerthuso hygrededd, a dadansoddi gwybodaeth. Bydd yn darparu'r sylfeini a fydd yn galluogi myfyrwyr i feithrin eu hyder i gymryd rhan mewn disgwrs damcaniaethol a deialogau sy'n seiliedig ar syniadau a fydd yn ofynnol trwy gydol eu hastudiaethau israddedig.

Dealltwriaeth Ryngddisgyblaethol - 40 credyd

Nod y modiwl hwn yw eich cyflwyno i egwyddorion gweithio Rhyngddisgyblaethol: gweithio ar y cyd, meddwl a myfyrio'n feirniadol. Bydd prosiectau o fewn y modiwl yn eich herio i weithio gyda disgyblaeth arall i archwilio thema neu her gymdeithasol a diwylliannol.

Blwyddyn Dau

Pwnc: Creu - 40 credyd

Dyma’ch cyfle i arbrofi gyda dulliau a thechnegau gwahanol wrth i chi ddechrau diffinio eich ymarfer. Byddwch yn archwilio’r dewisiadau amrywiol y gall clai eu cynnig – a phenderfynu ar arbenigedd. Er enghraifft, gallech ganolbwyntio ar lestri bord ar gyfer y cartref, cerflunio’r ffurf dynol, patrymau ar arwynebau neu osodiadau amgylcheddol amser-seiliedig.

Heriau'r 21ain Ganrif - 40 credyd

Mae'r modiwl Heriau'r 21ain Ganrif yn adeiladu ar y cyflwyniad i ddatrys problemau rhyngddisgyblaethol a ddatblygwyd ar lefel 4 i barhau i fireinio, a dechrau cymhwyso, eich setiau sgiliau trwy brosiectau byd go iawn a briffiau byw. Bydd prosiectau'n mynd i'r afael â Heriau'r 21ain Ganrif i ddatblygu eich sgiliau arwain, cydweithio, llythrennedd/meddwl beirniadol yn y dyfodol.

Cyd-destunau Byd Go Iawn - 20 credyd

Mae'r modiwl Cyd-destunau Byd Go Iawn yn eich herio i gymhwyso'r ymwybyddiaeth leol a'r sgiliau meddwl am y dyfodol i ddefnyddio'ch ymarfer eich hun wrth greu neu hyrwyddo gwerth ar gyfer amrywiaeth o randdeiliaid a chymunedau allanol.

Cynnig Ymchwil - 20 credyd*

Mae'r Cynnig Ymchwil yn cynnig cyfle i chi gryfhau eich sgiliau ymchwil, atgyfnerthu eich profiad ymchwil a chyfeirio eich cyfraniad lefel 6 o amgylch ymholiad o'ch dewis sydd wedi'i ysbrydoli gan eich dysgu ar draws yr holl fodiwlau ar lefel 4 a 5. Defnyddir y cynnig ymchwil hwn i barhau â'ch datblygiad personol a phroffesiynol ar lefel 6 lle byddwch yn nodi llwybr ar gyfer eich ymholiad eich hun.

Blwyddyn Tri

Pwnc: Ymchwil a Datblygu - 60 credyd

Bydd eich blwyddyn olaf yn canolbwyntio ar ymarfer proffesiynol a chynllunio gyrfa wrth i chi barhau i drawsnewid yn geramegydd â set cryf o sgiliau a llais unigryw. Byddwch yn gwneud cynlluniau ar gyfer eich dyfodol – p’un ai y byddwch am ymuno â stiwdio, dechrau eich practis eich hunan, mynd i addysgu, dod yn guradur amgueddfa neu ddewis astudio ymhellach.

Profiad Ymarferol - 20 credyd

Nod y modiwl yw cefnogi eich parodrwydd i ddatblygu eich gyrfa broffesiynol unigryw. Bydd yn ymgorffori priodoleddau sy'n adlewyrchu gofynion ymarfer yn y byd go iawn sy'n cyd-fynd â'ch disgyblaeth arbenigol.

Cewch gyfle i fyfyrio ar sut mae eich profiadau dros y 3 blynedd diwethaf wedi caniatáu ichi ddatblygu'n weithiwr proffesiynol wrth baratoi ar gyfer gwaith lefel graddedig, astudio parhaus, ymchwil, a mentrau entrepreneuraidd.

Cyfraniad - 40 credyd*

Mae eich ymarfer yn seiliedig ar eich gwybodaeth. Cewch gyfleu i arddangos eich sgiliau ymchwil a dadansoddi yn eich cyflwyniad ymchwil terfynol, lle byddwch yn archwilio syniadau ar ffurf ysgrifenedig ac ymarferol.​

*modiwlau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg

Dysgu ac Addysgu

O’r dechrau, byddwch yn magu profiad ymarferol mewn sesiynau stiwdio a gweithdai ymarferol, gan ddatblygu eich sgiliau cerameg craidd. Bydd darlithoedd, y bydd aelodau o’r staff academaidd yn eu harwain, yn ehangu’r ddealltwriaeth ddamcaniaethol o’ch maes, a bydd seminarau llai, targedig wedi’u dylunio i roi arweiniad er mwyn boddhau mwy o alwadau deallusol ac ymarferol unigol.

A chithau’n fyfyriwr cerameg israddedig, bydd mynediad gennych i stiwdios dynodedig ac i weithdai arbenigol a, thros amser, y cyfle i ddysgu sut i ddefnyddio’r adnoddau a’r cyfarpar yn ddiogel. Yn ogystal ag addysgu a fydd yn benodol i’ch pwnc a mynediad i weithdai, bydd gan bob myfyriwr israddedig yr Ysgol Gelf a Dylunio gyfle i ymgysylltu â dysgu ac addysgu o fewn yr Ysgol gyfan, drwy fodiwlau addysgu dewisol yn yr ail flwyddyn a thrwy sesiynau cynefino â’r gweithdai y gellir eu harchebu.

Yn ogystal â’r amgylchedd gwaith ffisegol, bydd mynediad gennych i Moodle, ein hamgylchedd dysgu rhithiol dynamig, lle y caiff yr addysgu ei ledaenu a’i gyfathrebu i garfannau’r myfyrwyr.

Â’r amrywiaeth a’r cyfleoedd a fydd ar gael i’r myfyrwyr, ceir cyfle enfawr i unigolion gael bod yn bersonol annibynnol mewn ffordd sylweddol, ni fydd siwrnai unrhyw ddau fyfyriwr yr un peth.

Mae ein holl staff academaidd mor frwd o safbwynt addysgu ymarfer creadigol ag y maen nhw am eu cyfraniadau ehangach i’r maes astudio drwy eu gwaith yn artistiaid cerameg.

Yn ogystal â’r staff academaidd, mae tîm gwych o staff sy’n arbenigo mewn cerameg gan yr Ysgol Gelf a Dylunion a fydd yn gweithio yn arddangoswyr technegol sydd â’r rôl allweddol o gefnogi myfyrwyr ar ryngwyneb eu huchelgais creadigol a’i wireddu’n ffisegol. Bydd cymorth oddi wrth y staff arbenigol hyn ar gael i’r myfyrwyr rhwng 9am a 9pm o Ddydd Llun i Ddydd Iau a rhwng 9am a 5pm ar Ddydd Gwener.

Caiff teithiau astudio i bob rhan o Brydain eu cynllunio’n rheolaidd bob blwyddyn o fewn y rhaglen yn ogystal ag ambell daith astudio breswyl ryngwladol.

Mae cefnogaeth fugeiliol yn gydran allweddol o gefnogi siwrnai’r myfyrwyr drwy’r rhaglen a bydd tiwtor personol yn cael ei neilltuo i bob myfyriwr a fydd yn eu helpu i fynd drwy eu hastudiaethau, yn eu cefnogi â materion yn ymwneud â’u lles ac yn eu harwain tuag at eu trywydd proffesiynol o fewn y rhaglen.

Asesu

Ar hyd eich cyfnod astudio, fe gewch eich gwerthuso ar dri phrif maen prawf a fydd yn greiddiol i bob un o’r disgyblaethau a fydd yn cael eu haddysgu yn yr Ysgol Gelf a Dylunio:

SGILIAU:Y sgiliau ymarferol, technegol a chysyniadol y byddwch yn eu caffael yn ystod eich cwrs.

CYD-DESTUN:Eich dealltwriaeth a’ch gwybodaeth o’r cyd-destun deallusol ehangach y mae eich pwnc a’ch gwaith wedi’u lleoli ynddo. Bydd hyn yn cynnwys materion hanesyddol, amgylcheddol a moesegol y bydd eich modiwlau ‘Theori a Chyd-destun’ yn eu harchwilio.

SYNIADAU: Eich dealltwriaeth o syniadau deallusol a chreadigol o fewn eich disgyblaeth a thu hwnt, ynghyd â’ch gallu i gaffael cysyniadau newydd ac i ffurfio syniadau newydd. Caiff syniadau eu harchwilio yn eich gwaith ysgrifenedig yn ogystal â bod yn amlwg yn eich cynnydd ymarferol.

Rhoddir yr un pwysiad i bob un o’r meini prawf hyn yn ystod y broses asesu, hynny yw, ystyrir eu bod yr un mor bwysig ac allweddol i’ch datblygiad; pwyslais a fydd wedi’i ddylunio, er enghraifft, i alluogi myfyriwr a allai fod yn fedrus yn dechnegol ond a fydd yn wan yn cynhyrchu syniadau, neu fyfyriwr â llawer o ddawn greadigol a allai ei chael yn anodd troi cysyniad bras yn ddyluniad unigol cryf, i ddatblygu set o sgiliau fwy cyflawn.

Byddwn yn cynnig nifer o ffyrdd i chi gael tracio’ch cynnydd ar eich ffordd i gyflwyno’ch gwaith er mwyn ei farcio. Gan ddeall y bydd y pwyslais yn troi o gwmpas meysydd craidd sgiliau, cyd-destun a syniadau, byddwch yn ymgyfarwyddo hefyd â’r ffurflen asesu strwythuredig y bydd eich tiwtoriaid yn ei defnyddio ac yn dysgu i gysylltu’ch gwaith â chanlyniadau dysgu disgwyliedig pob briff.

Prif fathau asesu ffurfiannol yw: asesu academaidd (adborth oddi wrth eich tiwtoriaid); asesu cymheiriaid (oddi wrth y myfyrwyr ar eich cyrsiau neu’r partneriaid ar eich prosiect); a hunan-asesu (sef eich beirniadaeth chi eich hunan yng ngoleuni mathau eraill o adborth). Ond nid adborth fydd yr unig beth y byddwch yn ei dderbyn ar ddiwedd briff – yn aml bydd eich tiwtoriaid yn asesu’ch cynnydd wrth i’ch gwaith ddatblygu, gan roi adborth ffurfiannol ar brydiau allweddol lle y disgwylir y cewch eich annog i gymryd risgiau, cynnal eich cymhelliant neu ddatblygu eich syniadau cyn dyddiad cau.

Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd​

Er y bydd eich dysgu wedi’i ddylunio i’ch datblygu yn artist, dylunydd a pherson deallusol cytbwys, bydd eich cwricwlwm wedi’i strwythuro yn yr un modd â’ch potensial mewn golwg.

Felly bydd y pwyslais a fydd wedi’i roi ar eich etheg gwaith, yn greadigol ac yn academaidd, wedi’i baru â ffocws sylweddol ar brofiad yn y byd go iawn: o adeiladu cysylltiadau ac ymgymryd â lleoliadau hyd at friffiau byw a chymorth i ffurfio’ch busnes chi eich hunan os dewiswch wneud hynny.

Gallwch ddewis dilyn trywydd penodol drwy ail a thrydedd flwyddyn eich astudiaethau lle y gallwch weithio’n agos gyda busnesau neu lansio’ch busnes eich hunan ar gyfer y foment y byddwch yn graddio. Yn eich blwyddyn olaf, yn hytrach na chyflwyno traethawd hir, gallwch ddewis llunio cynllun busnes manwl.

Ar hyd eich amser yn yr Ysgol Gelf a Dylunio byddwch yn cwrdd â gweithwyr proffesiynol o’r tu fewn i’ch diwydiant ac yn clywed oddi wrthyn nhw, ac yn hogi eich sgiliau a’ch syniadau ar gyfer mantais fasnachol a phroffesiynol. Bydd prosiectau traws-ddisgyblaethol yn eich paratoi ar gyfer gwaith tîm yn nes ymlaen a bydd briffiau byw yn eich paratoi ar gyfer dyddiadau cau a a galwadau manylebau tynn.

Mae gan yr Ysgol Gelf a Dylunio enw da yn rhyngwladol am astudiaethau ôl-raddedig a PhD mewn Cerameg ac, wedi i’r myfyrwyr gwblhau eu hastudiaethau israddedig, bydd cyfle ganddyn nhw i ddatblygu eu huchelgais academaidd a chreadigol ymhellach drwy’r llwybrau hyn.

Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais

Cynigion Nodweddiadol

  • Pwyntiau tariff: 96-120
  • Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen cynigion cyd-destunol.
  • TGAU: Yn ddelfrydol, pum TGAU ar Radd C / 4 neu uwch, gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg Iaith Gyntaf, Mathemateg / Mathemateg – Rhifedd.
  • Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS Academaidd 6.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob elfen, neu gyfwerth.
  • Safon Uwch: O leiaf tair Safon Uwch. Does dim angen pynciau penodol. Bagloriaeth Cymru – Ystyrir Tystysgrif Her Sgiliau Uwch fel trydydd pwnc.
  • Diploma Cenedlaethol BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: MMM-DDM
  • Lefel T: Does dim angen pynciau penodol.
  • Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Does dim angen pynciau penodol.
  • Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (IB): 24 pwynt. Does dim angen pynciau penodol.
  • Tystysgrif Gadael Iwerddon: Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir pynciau lefel uwch yn unig gydag isafswm gradd H4.
  • Advanced Highers yr Alban: Does dim angen pynciau penodol.
  • Gofynion eraill:Cyfweliad ac adolygiad portffolio llwyddiannus. Bydd gofyn i ymgeiswyr gyflwyno portffolio digidol.

Derbynnir cyfuniadau o’r cymwysterau uchod os ydyn nhw’n cwrdd â’n gofynion lleiaf. Os nad yw eich cymwysterau wedi’u rhestru, cysylltwch â Derbyniadau neu cyfeiriwch at Chwiliad Cwrs UCAS.

Mae rhagor o wybodaeth ar gymwysterau Tramor i’w gweld yma.

Os ydych yn ymgeisydd hŷn, mae gennych brofiad perthnasol neu RPL yr hoffech i ni ei ystyried, cysylltwch â Derbyniadau.


Sut i Ymgeisio

Mae rhagor o wybodaeth ar sut i ymgeisio i’w gweld yma.

FFioedd Dysgu, Cyllid Myfyrwyr a Chostau Ychwanegol

I gael y wybodaeth ddiweddaraf ar ffioedd dysgu a’r cymorth ariannol a allai fod ar gael pan fyddwch yn y Brifysgol, ewch i www.metcaerdydd.ac.uk/study/finance/Pages/default.aspx.

Costau astudio i israddedigion yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd

Deunyddiau

Bydd yr Ysgol Gelf a Dylunio yn darparu amrywiaeth o ddeunyddiau sylfaenol. Bydd y rhain yn galluogi’r myfyrwyr i ddatblygu eu cymhwysedd mewn ystod o sgiliau ac i ddangos eu gallu technegol. Y myfyrwyr fydd yn bwrw’r gost am ddeunyddiau y bydd angen meintiau anghyffredin ohonyn nhw neu’r rheiny a fydd yn rhai arbenigol, drud neu anghyffredin. Rhoddir cyngor ynglŷn â sut y caiff ‘anghyffredin’ ei ddiffinio, pa ddeunyddiau y tybir eu bod yn ‘ddrud’, a rhoddir enghreifftiau o’r pethau a gaiff eu hystyried yn ‘anghyffredin’. Yn aml bydd myfyrwyr yr Ysgol Gelf a Dylunio yn dewis gwario’u harian ar ddeunyddiau y bydd yn well ganddyn nhw weithio gyda nhw, gan gynnwys llyfrau braslunio ac ysgrifbinnau, yn ogystal ag offer arbenigol o’u dewis nhw eu hunain.

Fynychaf ni ofynnir am dâl am ddefnyddio cyfarpar ar wahân i rai peiriannau arbenigol o ben uchaf y farchnad megis argraffyddion Mimaki a 3D. Bydd mynediad i FabLab Caerdydd yn amodol ar aelodaeth myfyrwyr; bydd yn gostwng ffioedd i fyfyrwyr.

I gael rhagor o wybodaeth am gostau ychwanegol cyrsiau, gan gynnwys ffioedd, gofynion cyfarpar a chostau eraill ar gyfer pob rhaglen israddedig, ewch i www.cardiffmet.ac.uk/costaucwrsychwanegol.

Teithiau maes ac ymweliadau

Bydd yr Ysgol yn talu am deithiau maes a fydd yn rhan o’r dysgu craidd. Ambell waith trefnir ymweliadau a fydd yn opsiynol ac mae’n bosib y gofynnir i’r myfyrwyr rannu’r costau. Y myfyriwr unigol fydd yn gyfrifol am gostau astudio dramor, gan gynnwys cyfnewid, lleoliadau a phrosiectau.

Cysylltu â Ni

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044 neu ebost askadmissions@cardiffmet.ac.uk.

Ar gyfer ymholiadau cwrs-benodol, cysylltwch â Thiwtor Derbyniadau BA (Anrh) Cerameg, Duncan Ayscough:

Ebost: dayscough@cardiffmet.ac.uk
Ffôn: 02920 416343



Rydyn ni’n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â’r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu’r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i’r brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae’n cadw’r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o’r fath yn angenrheidiol. Darllenwch ein Telerau ac Amodau i gael y wybodaeth lawn.

Gwybodaeth Allweddol Am Y Cwrs

Cod UCAS:
W232 - gradd 3 blynedd

Man Astudio:
Campws Llandaff

Ysgol:
Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd

Hyd y Cwrs:
Tair blynedd amser llawn. Pedair blynedd amser llawn​ os yn ymgymryd â lleoliad rhyngosod blwyddyn o hyd.​​​​

CWRDD Â’R TÎM
Cwrdd â’r Tîm: Duncan Ayscough

Mae'r Uwch Ddarlithydd Duncan Ayscough yn trafod ei yrfa fel arlunydd cerameg, a sut mae'n rhannu'r cyfoeth hwn o brofiad gyda'i fyfyrwyr ar y cwrs Cerameg ym Met Caerdydd

ASTUDIO CELF DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG
Cwrdd â’r Tîm: Huw Williams

Mae'r darlithydd cyfrwng Cymraeg yn yr Ysgol Gelf a Dylunio, Huw Williams yn sôn am y manteision o astudio Celf a Dylunio yn ddwyieithog.

ARCHWILIWCH EIN CYFLEUSTERAU | TAITH RHITHIOL
Taith Gweithdy Cerameg

Ewch am dro rhithiol o'n Gweithdai Cerameg.

PROFIAD MYFYRWYR A GRADDEDIGION
Bea making a model
Sut gwnaeth Cerameg ym Met Caerdydd fy helpu i osod sylfeini ar gyfer fy ngyrfa fel Arlunydd

Mae Elin yn blogio ar sut y gwnaeth Cerameg ym Met Caerdydd ei helpu i ddatblygu'r sgiliau, y cysylltiadau a'r hyder yr oedd eu hangen arni i gychwyn ei gyrfa gelf.
Darllen mwy.

Josh drawing
Fy mhrofiad yn dysgu sgil Cermaeg newydd

Mae Elin yn myfyrio ar ei amser yn astudio Cerameg ym Met Caerdydd ac yn rhannu ei phrofiadau o ddysgu sgil Cerameg newydd.
Darllen mwy.

YMGEISIO I YSGOL CELF A DYLUNIO CAERDYDD
Beth i'w Gynnwys yn Eich Portffolio

Mae Swyddog Recriwtio Myfyrwyr a myfyriwr graddedig o Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd, Abbie, yn rhannu ei chynghorion portffolio.