Cynnwys y Cwrs
O’r dechrau byddwch yn gweithio ar eich portffolio – eich ffordd i mewn i fyd ffasiwn. Byddwch yn ychwanegu ato’n rheolaidd, yn ei adolygu ac yn ei fireinio – felly pan fyddwch yn graddio bydd yn gallu dangos eich talent a’ch corff o waith mewn ffordd wirioneddol.
Byddwch yn treulio amser yn y stiwdio, yn datblygu sgiliau hanfodol mewn ystod o dechnegau, gan gynnwys:
- Ymchwil Creadigol Eang
- Prosesau Dylunio, Arbrofi a Datblygiadau
- Lluniadu, Cyfathrebu a Darlunio Ffasiwn
- Torri Creadigol
- Dylunio a Drafftio Patrymau Fflat
- Modelu a Gwisgo ar Stand
- Dylunio a Theilwra
- Cynhyrchu Gwisgoedd a Gweithgynhyrchu gan Ddiwydiant
- Defnyddio Dylunio, Technoleg a Theori
- Photoshop, Illustrator a Meddalwedd CAD
- Ffabrig, Lliw, Tueddiadau, Ymchwil i'r Farchnad a Rhagfynegi
- Dylunio a Llunio Cyfresi
- Cyflwyno Portffolio Proffesiynol Dylunwyr
Wrth i chi ddechrau meistroli’r sgiliau hyn, byddwch yn dechrau creu gwisgoedd ac yn dod â’ch dyluniadau’n fyw.
Bydd cyfleoedd hefyd i gymryd rhan mewn briffiau byw, lleoliadau mewn diwydiant, a theithiau i astudio dramor – a phob un wedi’i gynllunio i ehangu eich gorwelion ac i roi mewnwelediad hanfodol i chi i’r diwydiant dynamig hwn.
Blwyddyn Un
Pwnc: Elfennau Sylfaenol Ffasiwn - 40 Credyd*
Byddwch yn plymio i fyd cyffrous dylunio ffasiwn ac yn dysgu am y cyfnodau allweddol a fydd yn gysylltiedig â’r broses greadigol, o’r syniad dylunio gwreiddiol hyd at y cynnyrch terfynol. Bydd y modiwl hwn yn dod â gwybodaeth o ddiwydiant, ymchwil tueddiadau a rhagfynegi ffasiwn at ei gilydd ac yn eich arwain drwy’r dylunio a’r datblygu gan eich herio i gyrraedd eich potensial creadigol. Yn ogystal â’r sgiliau creadigol a thechnegol a gaiff eu cyflwyno, byddwch yn dysgu sgiliau cyfathrebu ffasiwn proffesiynol wedi’u cefnogi gan CAD (Dylunio drwy Gymorth Cyfrifiadur).
Pwnc: Delweddu Ffasiwn - 20 Credyd
Byddwch yn treulio eich tymor cyntaf yn archwilio’r dirwedd dylunio ffasiwn gyfoes – a sut y gallwch ddod i wybod ble mae eich lle chi ynddi. Wrth i chi ddechrau datblygu eich dull gweithio unigol, byddwch yn dysgu am ffurf, silwét a ffabrig. Byddwch yn cofnodi eich arbrofion a’ch technegau mewn llyfrau braslunio – gyda lluniadau a syniadau dylunio. A byddwch yn ymgymryd â briffiau creadigol a fydd yn herio unrhyw syniad o ran yr hyn yw ffasiwn – neu yr hyn y gallai ffasiwn fod.
Maes Un: Cydweithredu - 20 Credyd*
Byddwch yn ehangu eich gorwelion drwy ymuno â myfyrwyr o gyrsiau eraill i gael cydweithio ar brosiect. Byddwch yn cael eich ysbrydoli gan ddisgyblaethau eraill i gael adeiladu ar eich profiad ac ehangu eich creadigrwydd – a defnyddio eich sgiliau a’ch mewnwelediad artistig i’w cymhwyso i’ch gwaith.
Cytser: Cysyniad - 40 Credyd
Bydd y modiwl hwn yn eich cyflwyno i fyd ehangach syniadau, theori ac astudiaethau cyd-destunol i’ch helpu i ddatblygu eich sgiliau ymchwil academaidd a’ch gallu i feddwl yn feirniadol. Byddwch yn canolbwyntio ar feysydd o ddiddordeb mewn grwpiau astudio a byddwch yn ymgyfarwyddo â’r ymchwil traws-ddisgyblaethol cyffrous a’r arbenigedd sydd yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd.
Blwyddyn Dau
Pwnc: Y Diwydiant Ffasiwn - 40 Credyd
Bydd eich astudiaethau’n dod yn fwy diwydiant-ganolog wrth i chi ddechrau eich ail flwyddyn. Ceir ffocws proffesiynol cynyddol wrth i chi ehangu’r sgiliau a’r wybodaeth y bydd eu hangen arnoch i ddylunio ac i gynhyrchu dillad trawiadol. Cewch ddod i gysylltiad â meysydd gwahanol y diwydiant drwy friffiau byw a briffiau ffug – yn ogystal â phersbectifau newydd oddi wrth amrywiaeth o frandiau a dylunwyr. Ac fe roddwch gynnig ar brosiectau heriol drwy ddefnyddio technegau traddodiadol a thechnolegau newydd.
Maes Dau: Archwilio - 40 credyd*
Byddwch yn ehangu eich profiadau â phrosiectau heriol a fydd wedi’u dylunio i’ch annog i archwilio ac i arbrofi y tu allan i’ch disgyblaeth benodol. Bydd y cyfle gweddnewidiol hwn yn arwain at feddwl newydd ac at bethau newydd ac yn agor pob math o bosibiliadau yn y dyfodol. Byddwch yn ymgymryd â phrosiectau cyffrous a fydd yn eich herio mewn ffyrdd newydd. Hefyd gallwch ddewis teithio, cymryd lleoliad gwaith, dechrau eich busnes chi eich hunan neu roi cynnig ar rywbeth newydd.
Cytser: Bwrw golwg feirniadol - 40 credyd
Drwy fwrw golwg feirniadol dros lenyddiaeth, cyfnodolion ac arddangosfeydd, byddwch yn hogi eich gallu i roi eich ymarfer dylunio o fewn cyd-destun. Cewch gyfleoedd hefyd i ryngweithio gyda myfyrwyr a staff a threiddio mwy i’r meysydd a fydd o ddiddordeb i chi.
Blwyddyn Tri
Pwnc: Prosiect Ffasiwn Mawr - 40 Credyd
Byddwch yn paratoi ar gyfer eich nodau yn y dyfodol â phrosiect ymchwil a dylunio mawr – wedi’i gynllunio i’ch helpu i adnabod cyfeiriad eich portffolio. Byddwch yn ymchwilio siâp a silwét gwisgoedd yn ogystal â ffurf a gorffeniad – ac yn symud eich dyluniad ymlaen drwy’r broses o dorri patrymau a gwneud toile. Ac fe fyddwch yn dod â’ch gweledigaeth greadigol yn fyw – yn cynhyrchu gwaith a fydd yn herio creadigrwydd drwy ymchwil, datblygu dyluniad a chyfieithu.
Maes Tri: Arddangos - 40 credyd
Bydd eich tymor olaf yn canolbwyntio ar brosiect mawr ac ar arddangosfa o’ch gwaith. Dyma’r lle y byddwch yn dod â phopeth y byddwch wedi’i ddysgu yn ystod y cwrs at ei gilydd a bydd yn fan cychwyn ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol.
Cytser: Cyfraniad - 40 credyd
Bydd eich gwybodaeth yn sail i’ch ymarfer. Gallwch ddangos eich sgiliau ymchwil a dadansoddi yn eich cyflwyniad Cytser terfynol, lle y byddwch yn archwilio syniadau ar ffurfiau ysgrifenedig ac ymarferol.
* modiwlau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg
Dysgu ac Addysgu
Caiff ffocws sylweddol ar addysgu yn y Stiwdio ei gynnal, wedi’i gefnogi gan Brif Ddarlithoedd a seminarau cefnogol. Caiff myfyrwyr unigol eu cefnogi gan ‘adborth’ sylweddol yn ystod Beirniadaethau Grŵp a thiwtorialau unigol a grŵp.
Yn ystod eich blwyddyn gyntaf yn astudio, gall pob myfyriwr ddisgwyl derbyn rhwng 14 a 22 awr o gyswllt bob wythnos drwy gyfrwng darlithoedd, seminarau, tiwtorialau a gweithdai ymarferol.
Bydd y myfyrwyr â rhan sylweddol yn arwain eu hastudiaethau, yn datblygu ffocws eu hymchwil a chronfa eu harbenigedd nhw eu hunain ac yn ymgysylltu’n weithredol â’r broses asesu a’r ffordd y gellir mynegi a phrofi eu harbenigedd unigol nhw eu hunain.
Caiff y myfyrwyr eu cefnogi wrth iddyn nhw weithio’n annibynnol i’w galluogi i gynhyrchu dysgu sylweddol ac unigryw drwy ymarfer trylwyr, hunan-gyfeiriedig a chydweithredol.
Asesu
Ar hyd eich cyfnod astudio, fe gewch eich gwerthuso ar dri phrif maen prawf a fydd yn greiddiol i bob un o’r disgyblaethau a fydd yn cael eu haddysgu yn yr Ysgol Gelf a Dylunio:
SGILIAU:
Y sgiliau ymarferol, technegol a chysyniadol y byddwch yn eu caffael yn ystod eich cwrs.
CYD-DESTUN:
Eich dealltwriaeth a’ch gwybodaeth o’r cyd-destun deallusol ehangach y mae eich pwnc a’ch gwaith wedi’u lleoli ynddo. Bydd hyn yn cynnwys materion hanesyddol, amgylcheddol a moesegol y bydd eich modiwlau ‘Theori a Chyd-destun’ yn eu harchwilio.
SYNIADAU:
Eich dealltwriaeth o syniadau deallusol a chreadigol o fewn eich disgyblaeth a thu hwnt, ynghyd â’ch gallu i gaffael cysyniadau newydd ac i ffurfio syniadau newydd. Caiff syniadau eu harchwilio yn eich gwaith ysgrifenedig yn ogystal â bod yn amlwg yn eich cynnydd ymarferol.
Rhoddir yr un pwysiad i bob un o’r meini prawf hyn yn ystod y broses asesu, hynny yw, ystyrir eu bod yr un mor bwysig ac allweddol i’ch datblygiad; pwyslais a fydd wedi’i ddylunio, er enghraifft, i alluogi myfyriwr a allai fod yn fedrus yn dechnegol ond a fydd yn wan yn cynhyrchu syniadau, neu fyfyriwr â llawer o ddawn greadigol a allai ei chael yn anodd troi cysyniad bras yn ddyluniad unigol cryf, i ddatblygu set o sgiliau fwy cyflawn.
Byddwn yn cynnig nifer o ffyrdd i chi gael tracio’ch cynnydd ar eich ffordd i gyflwyno’ch gwaith er mwyn ei farcio. Gan ddeall y bydd y pwyslais yn troi o gwmpas meysydd craidd sgiliau, cyd-destun a syniadau, byddwch yn ymgyfarwyddo hefyd â’r ffurflen asesu strwythuredig y bydd eich tiwtoriaid yn ei defnyddio ac yn dysgu i gysylltu’ch gwaith â chanlyniadau dysgu disgwyliedig pob briff.
Prif fathau asesu ffurfiannol yw: asesu academaidd (adborth oddi wrth eich tiwtoriaid); asesu cymheiriaid (oddi wrth y myfyrwyr ar eich cyrsiau neu’r partneriaid ar eich prosiect); a hunan-asesu (sef eich beirniadaeth chi eich hunan yng ngoleuni mathau eraill o adborth). Ond nid adborth fydd yr unig beth y byddwch yn ei dderbyn ar ddiwedd briff – yn aml bydd eich tiwtoriaid yn asesu’ch cynnydd wrth i’ch gwaith ddatblygu, gan roi adborth ffurfiannol ar brydiau allweddol lle y disgwylir y cewch eich annog i gymryd risgiau, cynnal eich cymhelliant neu ddatblygu eich syniadau cyn dyddiad cau.
Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd
Yn ystod y cwrs caiff pwyslais ei roi ar eich etheg gwaith, yn greadigol ac yn academaidd, wedi’i baru â ffocws sylweddol ar brofiad go iawn mewn diwydiant ac â’r problemau presennol ym myd dylunio Ffasiwn. Cryfder y cwrs hwn yw y bydd eich astudiaethau, yn ogystal ag yn rhoi mewnwelediad i chi i swyn a chyffro’r diwydiant, yn cynnwys datblygu sgiliau byd go iawn a bydd yn gofyn cwestiynau heriol sy’n gysylltiedig ag ymarfer moesegol ac ecolegol mewn cyd-destun rhyngwladol.
Mae myfyrwyr a graddedigion Dylunio Ffasiwn Met Caerdydd wedi manteisio ar gyfleoedd gydag ystod eang o frandiau adnabyddus gan gynnwys Givenchy Paris, Renli Su, Julien McDonald, Tu yn Sainsburys, SeaSalt a George yn Asda.
Yn ogystal â rôl y dylunydd, dyma’r arbenigeddau cysylltiedig a allai fod o ddiddordeb i chi yn ddewis gyrfa a fydd yn deillio o’ch astudiaethau: Technoleg Gwisgoedd, Dylunio Ategolion, Prynu ar gyfer Manwerthu, Darlunio Ffasiwn, Marsiandïaeth, Steilio Ffasiwn, Dylunio Tecstilau, Cysylltiadau Cyhoeddus Ffasiwn, Ysgrifennu/Blogio Ffasiwn.
O ran cyfleoedd astudio ôl-raddedig, rydym yn cynnig cwrs MA Dylunio Ffasiwn. Nod y cwrs yw cynhyrchu ymatebion unigryw i dueddiadau yn y farchnad a galwadau technolegol, gan feithrin dealltwriaeth o ddylunio cyfoes o fewn cyd-destunau byd eang.
Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais
Dylai fod portffolio celf a/neu ddylunio cryf gan ymgeiswyr a byddan nhw’n dangos ymrwymiad i gelf a/neu ddylunio, ac yn ddelfrydol 5 TGAU gan gynnwys Saesneg Iaith a Mathemateg* ar radd C neu’n uwch / gradd 4 neu’n uwch (ar gyfer ymgeiswyr a fydd â chanlyniadau TGAU ddiwygiedig newydd yn Lloegr).
Yn dilyn cyfweliad ac asesiad portffolio, bydd ein cynigion nodweddiadol yn amrywio rhwng:
- 96 - 120 pwynt wedi cwblhau Diploma Sylfaen Celf a Dylunio yn llwyddiannus a/neu
- 96 - 120 pwynt o 2 Safon U o leiaf: Caiff Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru Uwch ei hystyried yn drydydd pwnc
- RQF BTEC National Extended Diploma / Cambridge Technical Extended Diploma: MMM - DDM
- 96 - 120 pwynt o’r Irish Leaving Certificate (Highers) i gynnwys 2 x H2 radd mewn unrhyw bwnc (H4 yw’r radd leiaf a gaiff ei hystyried)
- 96 - 120 pwynt o gyfuniad o Scottish Highers and Advanced Highers
- 96 - 120 pwynt o Ddiploma Mynediad i AU mewn pwnc perthnasol
*Ar gyfer ymgeiswyr o Gymru a fydd yn sefyll Mathemateg TGAU ddiwygiedig, byddwn yn derbyn
Mathemateg neu Mathemateg – Rhifedd.
Ar gyfer ymgeiswyr na fydd ond yn cymryd 2 Safon U neu gyfwerth, neu’n gwneud cais gyda phrofiadau bywyd eraill, caiff cymwysterau a/neu gyflawniadau celf a dylunio eraill eu hystyried ynghyd â gweddill y proffil academaidd, ac efallai y gwnawn roi cynnig graddedig yn lle cynnig a fydd yn defnyddio Tariff UCAS.
Os byddwch yn astudio cyfuniad o’r uchod neu os bydd eich cymhwyster heb ei restru, a wnewch chi gysylltu â Derbyniadau neu edrych
yma chwilio cyrsiau UCAS ar gyfer y gofynion mynediad. Bydd modd cael rhagor o wybodaeth ar ein gofynion mynediad ni, gan gynnwys cymwysterau oddi wrth yr UE drwy glicio
yma.
Ymgeiswyr Rhyngwladol
Bydd angen i fyfyrwyr nad yw’r Saesneg yn iaith gyntaf iddyn nhw roi tystiolaeth eu bod yn rhugl i safon IELTS 6.0 neu gyfwerth. I gael manylion llawn ar sut i wneud cais a chymwysterau Saesneg Iaith, ewch i’r
tudalennau rhyngwladolar y wefan.
Y Broses Ddewis a Diwrnodau Cyfweld:
Mae’r dewis yn seiliedig ar dderbyn cais UCAS cyflawn a bod yn bresennol mewn cyfweliad yr Ysgol Gelf a Dylunio.
Bydd cael eich derbyn yn y cyfweliad yn seiliedig ar dri maen prawf:
Brwdfrydedd personol dros Gelf a Dylunio ac i gael eich trochi’n llwyr yn eu hymarfer a’u theori
Gallu a chyrhaeddiad academaidd
Ansawdd y gwaith, yr uchelgais a’r sgiliau a fydd wedi’u dangos mewn portffolio
I gael rhagor o wybodaeth am Ddiwrnodau Cyfweld Celf a Dylunio: cliciwch yma.
Sut i wneud cais:
Dylid gwneud ceisiadau ar gyfer y cwrs hwn ar-lein i UCAS yma: www.ucas.com/apply. Dylid gwneud ceisiadau rhan-amser yn uniongyrchol i’r Brifysgol yma: www.cardiffmet.ac.uk/selfservice
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n tudalennau Sut i Wneud Cais yma:
Cydnabod Dysgu Blaenorol a Throsglwyddo Credydau i Flwyddyn 2 a 3
Os bydd diddordeb gennych i drosglwyddo credydau o sefydliad arall er mwyn astudio ym Met Caerdydd ar gyfer cwrs a fydd yn derbyn mynediad i flwyddyn 2 a/neu 3, gallwch gael rhagor o wybodaeth ar hyn a gwybodaeth ar sut i wneud cais yma: tudalen cydnabod dysgu blaenorol. Cysylltwch â Derbyniadau os bydd unrhyw ymholiadau gennych ar Gydnabod Dysgu Blaenorol.
Myfyrwyr hŷn
Ymgeisydd hŷn fydd unrhyw un a fydd dros 21 na fuodd mewn prifysgol wedi gadael yr ysgol neu goleg. Bydd Met Caerdydd yn croesawu ceisiadau oddi wrth ymgeiswyr hŷn a gellir cael rhagor o gyngor a gwybodaeth yma.
Ffioedd Dysgu, Cyllid Myfyrwyr a Chostau Ychwanegol
I gael y wybodaeth ddiweddaraf ar ffioedd dysgu a’r cymorth ariannol a allai fod ar gael pan fyddwch yn y Brifysgol, ewch i
www.cardiffmet.ac.uk/fees.
Costau astudio i israddedigion yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd
Deunyddiau
Bydd yr Ysgol Gelf a Dylunio yn darparu amrywiaeth o ddeunyddiau sylfaenol. Bydd y rhain yn galluogi’r myfyrwyr i ddatblygu eu cymhwysedd mewn ystod o sgiliau ac i ddangos eu gallu technegol. Y myfyrwyr fydd yn bwrw’r gost am ddeunyddiau y bydd angen meintiau anghyffredin ohonyn nhw neu’r rheiny a fydd yn rhai arbenigol, drud neu anghyffredin. Rhoddir cyngor ynglŷn â sut y caiff ‘anghyffredin’ ei ddiffinio, pa ddeunyddiau y tybir eu bod yn ‘ddrud’, a rhoddir enghreifftiau o’r pethau a gaiff eu hystyried yn ‘anghyffredin’. Yn aml bydd myfyrwyr yr Ysgol Gelf a Dylunio yn dewis gwario’u harian ar ddeunyddiau y bydd yn well ganddyn nhw weithio gyda nhw, gan gynnwys llyfrau braslunio ac ysgrifbinnau, yn ogystal ag offer arbenigol o’u dewis nhw eu hunain.
Fynychaf ni ofynnir am dâl am ddefnyddio cyfarpar ar wahân i rai peiriannau arbenigol o ben uchaf y farchnad megis argraffyddion Mimaki a 3D. Bydd mynediad i
FabLab Caerdydd yn amodol ar aelodaeth myfyrwyr; bydd yn gostwng ffioedd i fyfyrwyr.
I gael rhagor o wybodaeth am gostau ychwanegol cyrsiau, gan gynnwys ffioedd, gofynion cyfarpar a chostau eraill ar gyfer pob rhaglen israddedig, ewch i
www.cardiffmet.ac.uk/costaucwrsychwanegol.
Teithiau maes ac ymweliadau
Bydd yr Ysgol yn talu am deithiau maes a fydd yn rhan o’r dysgu craidd. Ambell waith trefnir ymweliadau a fydd yn opsiynol ac mae’n bosib y gofynnir i’r myfyrwyr rannu’r costau. Y myfyriwr unigol fydd yn gyfrifol am gostau astudio dramor, gan gynnwys cyfnewid, lleoliadau a phrosiectau.
Cysylltu â Ni