Skip to main content
Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd>Cyrsiau>Arlunydd Dylunydd: Gwneuthurwr – Gradd BA (Anrh)

Arlunydd Dylunydd: Gwneuthurwr – Gradd BA (Anrh)

Blwyddyn Mynediad

Mae gwneuthurwyr yn artistiaid, yn ddylunwyr, crefftwyr, arloeswyr, pobl greadigol, technolegwyr a llawer o bethau eraill hefyd. Byddan nhw’n gweithio â dwylo deallus a meddyliau creadigol i gael creu’r gwrthrychau a fydd yn siapio’n byd ni.

Mae gradd BA Artist Dylunydd Gwneuthurwr ym Met Caerdydd yn gwrs sydd â gwneud yn ganolog i’r cwrs. Byddwch yn magu profiad ymarferol gyda deunyddiau o fetel, gwydr a chlai hyd at bren a thecstilau. Byddwch yn dysgu i lenwi’r bwlch rhwng sgiliau sy’n hen gyfarwydd a’r dechnoleg ddiweddaraf a chreu ffyrdd newydd a gwreiddiol ar gyfer ein byd sy’n fythol newid.

Byddwch yn datblygu eich arddull unigryw chi eich hunan ac yn ystyried ymhle y bydd eich gwaith wedi’i leoli o fewn ymarfer creadigol. Byddwch yn dysgu oddi wrth artistiaid, dylunwyr a gwneuthurwyr gweithredol proffesiynol, gan rannu eu brwdfrydedd a chaffael eu sgiliau.

Erbyn i chi raddio byddwch yn gallu archwilio a datblygu syniad bob cam hyd at ei wireddu – p’un ai y bydd yn gynnyrch y gellid ei ddefnyddio, yn wrthrych addurniadol, yn gerflun neu’n osodiad. Byddwch yn wneuthurwr – a bydd y dyfodol yn eich dwylo.

Bydd y rhaglen hon yn ddarostyngedig ar adolygiad cyfnodol yn 2023/4 i sicrhau bod cynnwys y cwrs yn gyfredol ac yn parhau i fod. Os bydd unrhyw newidiadau i gynnwys y cwrs yn cael eu gwneud o ganlyniad i'r adolygiad, bydd pob ymgeisydd yn cael gwybod unwaith y bydd newidiadau'n cael eu cadarnhau.


Cynnwys y Cwrs

Yr hyn sy’n gwneud i’r cwrs hwn fod mor unigryw yw’r cyfuniad o sgiliau traddodiadol a’r technolegau diweddaraf. Bydd cyfleoedd gennych i weithio gyda deunyddiau, sgiliau a phrosesau a fydd yn cynnwys:

  • Metal - Castio mewn efydd, alwminiwm a phiwter, weldio, sodro, gofannu a gwaith metel bach gan gynnwys enamlo
  • Clai - Modelu, taflu, gwneud mowldiau, castio, tanio a gwydro
  • Pren - Gwaith asiedydd, turnio, argaenwaith
  • Gwydr - Castio, ymdoddi, slympio a pheintio
  • Tecstilau - Pwytho, printio ac adeiladu
  • Argraffu 3D, torri â laser, modelu digidol 3D (Rhino), sganio, pwytho digidol, tecstilau print digidol, Arduino/electroneg a realaeth estynedig


Wrth ochr y broses caffael sgiliau yma, byddwch yn dysgu am gyd-destun arferion gwneud. Byddwch yn dod i ddeall ymhle y bydd eich gwaith wedi’i leoli o fewn paramedrau ehangach ymarfer creadigol: ydych chi’n ddylunydd, yn artist neu’n grefftwr neu a ydych yn gweithio ar draws nifer o ddisgyblaethau? Byddwch yn dysgu sut i ymchwilio i syniad a’i ddatblygu yn gynnyrch cyflawn, p’un ai y bydd hwn yn gynnyrch defnyddiol, yn arteffact addurniadol, yn osodiad neu’n wrthrych ystyrlon.

Beth bynnag fydd eich diddordebau yn wneuthurwr, bydd y cwrs hwn wedi’i strwythuro i’ch helpu i’w harchwilio. Gallwch ddewis fagu profiad busnes neu fynd ar leoliad gwaith mewn diwydiant, dewis llwybr academaidd â phrosiect ymchwil – neu deithio ac astudio dramor. Felly cewch bob cyfle i ddod i feddu ar y gallu a’r wybodaeth y bydd eu hangen arnoch i gyflawni’ch dyheadau yn wneuthurwr.


Blwyddyn Un

Pwnc: Hyfforddiant sylfaenol – 40 credyd
Pwnc: Prosiect unigol – 20 credyd

Byddwch yn dechrau eich blwyddyn gyntaf â gweithdai a fydd yn eich cyflwyno i’r deunyddiau, y prosesau a’r cyfarpar y bydd eu hangen arnoch ar gyfer ymarfer creadigol – o glai, tecstilau, pren, metel a gwydr hyd at raglenni CAD a gwneuthuriad digidol. Yn ogystal, byddwch yn archwilio’r cysyniadau allweddol sydd yn ymarfer celf a dylunio drwy wneud.

Maes Un: Cydweithredu – 20 credyd*

Byddwch yn ehangu eich gorwelion drwy ymuno â myfyrwyr o gyrsiau eraill i gael cydweithio ar brosiect. Byddwch yn cael eich ysbrydoli gan ddisgyblaethau eraill i gael adeiladu ar eich profiad ac ehangu eich creadigrwydd – a defnyddio eich sgiliau a’ch mewnwelediad artistig i’w cymhwyso i’ch gwaith.

Cytser: Cysyniad – 40 credyd

Bydd y modiwl hwn yn eich cyflwyno i fyd ehangach syniadau, theori ac astudiaethau cyd-destunol i’ch helpu i ddatblygu eich sgiliau ymchwil academaidd a’ch gallu i feddwl yn feirniadol. Byddwch yn canolbwyntio ar feysydd o ddiddordeb penodol mewn grwpiau astudio a byddwch yn ymgyfarwyddo â’r ymchwil traws-ddisgyblaethol cyffrous a’r arbenigedd sydd yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd.


Blwyddyn Dau

Pwnc: Creu – 40 credyd

Yn y modiwl hwn byddwch yn dechrau troedio tir newydd, llai cyffyrddus – yn cymryd risgiau ac yn arbrofi gyda phrosesau deunyddiol a thechnolegau newydd. Byddwch yn datblygu eich sgiliau mewn meysydd allweddol – o glai, tecstilau, pren a metel hyd at argraffu 3D, torri â laser ac Arduino. Drwy feirniadaeth eich cydfyfyrwyr, seminarau a thiwtorialau penodol, byddwch yn adfyfyrio ar eich cryfderau a’ch diddordebau artistig, ac yn cyflwyno’ch ymchwil nôl i’r grŵp.

Maes Dau: Archwilio – 40 credyd*

Byddwch yn ehangu eich profiadau â phrosiectau heriol a fydd wedi’u dylunio i’ch annog i archwilio ac i arbrofi y tu allan i’ch disgyblaeth benodol. Bydd y cyfle gweddnewidiol hwn yn arwain at feddwl newydd ac at bethau newydd ac yn agor pob math o bosibiliadau yn y dyfodol. Byddwch yn ymgymryd â phrosiectau cyffrous a fydd yn eich herio mewn ffyrdd newydd. Hefyd gallwch ddewis teithio, cymryd lleoliad gwaith, dechrau eich busnes chi eich hunan neu roi cynnig ar rywbeth newydd.

Cytser: Bwrw golwg feirniadol – 40 credyd

Drwy fwrw golwg feirniadol dros lenyddiaeth, cyfnodolion ac arddangosfeydd, byddwch yn hogi eich gallu i roi eich ymarfer dylunio o fewn cyd-destun. Cewch gyfleoedd hefyd i ryngweithio gyda myfyrwyr a staff a threiddio mwy i’r meysydd a fydd o ddiddordeb i chi.


Blwyddyn Tri

Pwnc: Ymchwil a Datblygiad - 40 credyd

Mae’r modiwl hwn wedi’i ddylunio i’ch helpu i symud eich ymarfer creadigol ymlaen. Yn dibynnu ar ble y byddwch am fynd ag ef, gallech seilio’ch gwaith o gylch eich datblygiad proffesiynol neu ddewis ei roi mewn cystadlaethau. Gallech benderfynu fireinio eich ymarfer stiwdio – defnyddio briff hunan-gyfeiriedig i gael gosod sylfeini corff mawr o waith, i’w gwblhau yn ystod eich blwyddyn olaf.

Maes Tri: Arddangos – 40 credyd

Bydd eich tymor olaf yn canolbwyntio ar brosiect mawr ac ar arddangosfa o’ch gwaith. Dyma’r lle y byddwch yn dod â phopeth y byddwch wedi’i ddysgu yn ystod y cwrs at ei gilydd a bydd yn fan cychwyn ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol.

Cytser: Cyfraniad – 40 credyd

Bydd eich gwybodaeth yn sail i’ch ymarfer. Gallwch ddangos eich sgiliau ymchwil a dadansoddi yn eich cyflwyniad Cytser terfynol, lle y byddwch yn archwilio syniadau ar ffurfiau ysgrifenedig ac ymarferol.

*modiwlau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg

Dysgu ac Addysgu

O’r dechrau, byddwch yn magu profiad ymarferol mewn sesiynau stiwdio a gweithdai ymarferol, gan ddatblygu eich sgiliau craidd. Bydd darlithoedd, y bydd aelodau o’r staff academaidd yn eu harwain, yn ehangu’r ddealltwriaeth ddamcaniaethol o’ch maes, a bydd seminarau llai, targedig wedi’u dylunio i roi arweiniad er mwyn boddhau mwy o alwadau deallusol ac ymarferol unigol.

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf yn astudio, gall pob myfyriwr ddisgwyl derbyn rhwng 14 a 22 awr o gyswllt bob wythnos drwy gyfrwng darlithoedd, seminarau, tiwtorialau a gweithdai ymarferol.

Asesu

Ar hyd eich cyfnod astudio, fe gewch eich gwerthuso ar dri phrif maen prawf a fydd yn greiddiol i bob un o’r disgyblaethau a fydd yn cael eu haddysgu yn yr Ysgol Gelf a Dylunio:

SGILIAU: Y sgiliau ymarferol, technegol a chysyniadol y byddwch yn eu caffael yn ystod eich cwrs.

CYD-DESTUN: Eich dealltwriaeth a’ch gwybodaeth o’r cyd-destun deallusol ehangach y mae eich pwnc a’ch gwaith wedi’u lleoli ynddo. Bydd hyn yn cynnwys materion hanesyddol, amgylcheddol a moesegol y bydd eich modiwlau ‘Theori a Chyd-destun’ yn eu harchwilio.

SYNIADAU Eich dealltwriaeth o syniadau deallusol a chreadigol o fewn eich disgyblaeth a thu hwnt, ynghyd â’ch gallu i gaffael cysyniadau newydd ac i ffurfio syniadau newydd. Caiff syniadau eu harchwilio yn eich gwaith ysgrifenedig yn ogystal â bod yn amlwg yn eich cynnydd ymarferol.

Rhoddir yr un pwysiad i bob un o’r meini prawf hyn yn ystod y broses asesu, hynny yw, ystyrir eu bod yr un mor bwysig ac allweddol i’ch datblygiad; pwyslais a fydd wedi’i ddylunio, er enghraifft, i alluogi myfyriwr a allai fod yn fedrus yn dechnegol ond a fydd yn wan yn cynhyrchu syniadau, neu fyfyriwr â llawer o ddawn greadigol a allai ei chael yn anodd troi cysyniad bras yn ddyluniad unigol cryf, i ddatblygu set o sgiliau fwy cyflawn.

Byddwn yn cynnig nifer o ffyrdd i chi gael tracio’ch cynnydd ar eich ffordd i gyflwyno’ch gwaith er mwyn ei farcio. Gan ddeall y bydd y pwyslais yn troi o gwmpas meysydd craidd sgiliau, cyd-destun a syniadau, byddwch yn ymgyfarwyddo hefyd â’r ffurflen asesu strwythuredig y bydd eich tiwtoriaid yn ei defnyddio ac yn dysgu i gysylltu’ch gwaith â chanlyniadau dysgu disgwyliedig pob briff.

Prif fathau asesu ffurfiannol yw: asesu academaidd (adborth oddi wrth eich tiwtoriaid); asesu cymheiriaid (oddi wrth y myfyrwyr ar eich cyrsiau neu’r partneriaid ar eich prosiect); a hunan-asesu (sef eich beirniadaeth chi eich hunan yng ngoleuni mathau eraill o adborth). Ond nid adborth fydd yr unig beth y byddwch yn ei dderbyn ar ddiwedd briff – yn aml bydd eich tiwtoriaid yn asesu’ch cynnydd wrth i’ch gwaith ddatblygu, gan roi adborth ffurfiannol ar brydiau allweddol lle y disgwylir y cewch eich annog i gymryd risgiau, cynnal eich cymhelliant neu ddatblygu eich syniadau cyn dyddiad cau.

Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

Er y bydd eich dysgu wedi’i ddylunio i’ch datblygu yn artist, dylunydd a pherson deallusol cytbwys, bydd eich cwricwlwm wedi’i strwythuro yn yr un modd â’ch potensial mewn golwg.

Felly bydd y pwyslais a fydd wedi’i roi ar eich etheg gwaith, yn greadigol ac yn academaidd, wedi’i baru â ffocws sylweddol ar brofiad yn y byd go iawn: o adeiladu cysylltiadau ac ymgymryd â lleoliadau hyd at friffiau byw a chymorth i ffurfio’ch busnes chi eich hunan os dewiswch wneud hynny.

Gallwch ddewis dilyn trywydd penodol drwy ail a thrydedd flwyddyn eich astudiaethau lle y gallwch weithio’n agos gyda busnesau neu lansio’ch busnes eich hunan ar gyfer y foment y byddwch yn graddio. Yn eich blwyddyn olaf, yn hytrach na chyflwyno traethawd hir, gallwch ddewis llunio cynllun busnes manwl.

Ar hyd eich amser yn yr Ysgol Gelf a Dylunio byddwch yn cwrdd â gweithwyr proffesiynol o’r tu fewn i’ch diwydiant ac yn clywed oddi wrthyn nhw, ac yn hogi eich sgiliau a’ch syniadau ar gyfer mantais fasnachol a phroffesiynol. Bydd prosiectau traws-ddisgyblaethol yn eich paratoi ar gyfer gwaith tîm yn nes ymlaen a bydd briffiau byw yn eich paratoi ar gyfer dyddiadau cau a galwadau manylebau tynn.

Gofynion Mynediad a Sut i Wneud Cais

Cynigion Nodweddiadol

  • Pwyntiau tariff: 96-120
  • Cynnig cyd-destunol: Gweler ein tudalen cynigion cyd-destunol.
  • TGAU: Yn ddelfrydol, pum TGAU ar Radd C / 4 neu uwch, gan gynnwys Saesneg Iaith / Cymraeg Iaith Gyntaf, Mathemateg / Mathemateg – Rhifedd.
  • Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS Academaidd 6.0 yn gyffredinol gydag o leiaf 5.5 ym mhob elfen, neu gyfwerth.
  • Safon Uwch: O leiaf tair Safon Uwch. Does dim angen pynciau penodol. Bagloriaeth Cymru – Ystyrir Tystysgrif Her Sgiliau Uwch fel trydydd pwnc.
  • Diploma Cenedlaethol BTEC / Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: MMM-DDM
  • Lefel T: Does dim angen pynciau penodol.
  • Diploma Mynediad i Addysg Uwch: Does dim angen pynciau penodol.
  • Diploma Bagloriaeth Ryngwladol (IB): 24 pwynt. Does dim angen pynciau penodol.
  • Tystysgrif Gadael Iwerddon: Does dim angen pynciau penodol. Ystyrir pynciau lefel uwch yn unig gydag isafswm gradd H4.
  • Advanced Highers yr Alban: Does dim angen pynciau penodol.
  • Gofynion eraill: Cyfweliad ac adolygiad portffolio llwyddiannus. Bydd gofyn i ymgeiswyr gyflwyno portffolio digidol.

Derbynnir cyfuniadau o’r cymwysterau uchod os ydyn nhw’n cwrdd â’n gofynion lleiaf. Os nad yw eich cymwysterau wedi’u rhestru, cysylltwch â Derbyniadau neu cyfeiriwch at Chwiliad Cwrs UCAS.

Mae rhagor o wybodaeth ar gymwysterau Tramor i’w gweld yma.

Os ydych yn ymgeisydd hŷn, mae gennych brofiad perthnasol neu RPL yr hoffech i ni ei ystyried, cysylltwch â Derbyniadau.


Sut i Ymgeisio

Mae rhagor o wybodaeth ar sut i ymgeisio i’w gweld yma.

Ffioedd Dysgu, Cyllid Myfyrwyr a Chostau Ychwanegol

I gael y wybodaeth ddiweddaraf ar ffioedd dysgu a’r cymorth ariannol a allai fod ar gael pan fyddwch yn y Brifysgol, ewch i 

Costau astudio i israddedigion yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd

Deunyddiau

Bydd yr Ysgol Gelf a Dylunio yn darparu amrywiaeth o ddeunyddiau sylfaenol. Bydd y rhain yn galluogi’r myfyrwyr i ddatblygu eu cymhwysedd mewn ystod o sgiliau ac i ddangos eu gallu technegol. Y myfyrwyr fydd yn bwrw’r gost am ddeunyddiau y bydd angen meintiau anghyffredin ohonyn nhw neu’r rheiny a fydd yn rhai arbenigol, drud neu anghyffredin. Rhoddir cyngor ynglŷn â sut y caiff ‘anghyffredin’ ei ddiffinio, pa ddeunyddiau y tybir eu bod yn ‘ddrud’, a rhoddir enghreifftiau o’r pethau a gaiff eu hystyried yn ‘anghyffredin’. Yn aml bydd myfyrwyr yr Ysgol Gelf a Dylunio yn dewis gwario’u harian ar ddeunyddiau y bydd yn well ganddyn nhw weithio gyda nhw, gan gynnwys llyfrau braslunio ac ysgrifbinnau, yn ogystal ag offer arbenigol o’u dewis nhw eu hunain.

Fynychaf ni ofynnir am dâl am ddefnyddio cyfarpar ar wahân i rai peiriannau arbenigol o ben uchaf y farchnad megis argraffyddion Mimaki a 3D. Bydd mynediad i Cardiff FabLab yn amodol ar aelodaeth myfyrwyr; bydd yn gostwng ffioedd i fyfyrwyr.

I gael rhagor o wybodaeth am gostau ychwanegol cyrsiau, gan gynnwys ffioedd, gofynion cyfarpar a chostau eraill ar gyfer pob rhaglen israddedig, ewch i 

Teithiau maes ac ymweliadau

Bydd yr Ysgol yn talu am deithiau maes a fydd yn rhan o’r dysgu craidd. Ambell waith trefnir ymweliadau a fydd yn opsiynol ac mae’n bosib y gofynnir i’r myfyrwyr rannu’r costau. Y myfyriwr unigol fydd yn gyfrifol am gostau astudio dramor, gan gynnwys cyfnewid, lleoliadau a phrosiectau.

Cysylltu â Ni

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau ar 029 2041 6044 neu ebost askadmissions@cardiffmet.ac.uk.

Ar gyfer ymholiadau cwrs-benodol, cysylltwch â Thiwtor Derbyniadau BA (Anrh) Artist Dylunydd Gwneuthurwr, Jon Pigott:

Ebost: jpigott@cardiffmet.ac.uk


Rydyn ni’n ymdrechu i gyflwyno cyrsiau yn unol â’r disgrifiad ac ni fyddwn fel arfer yn gwneud newidiadau i gyrsiau, fel teitl, cynnwys, dull cyflwyno a darpariaeth addysgu’r cwrs. Fodd bynnag, gall fod yn angenrheidiol i’r brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs cyn neu ar ôl cofrestru. Mae’n cadw’r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu gyfuno cyrsiau os ystyrir bod camau gweithredu o’r fath yn angenrheidiol. Darllenwch ein Telerau ac Amodau i gael y wybodaeth lawn.

Gwybodaeth Allweddol Am Y Cwrs

​​​​​​​Cod UCAS:
W291 - gradd 3 blynedd

Man Astudio:
Campws Llandaf

Ysgol:
Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd

Hyd y Cwrs:
Tair blynedd amser llawn. ​Pedair blynedd amser llawn​ os yn ymgymryd â lleoliad rhyngosod blwyddyn o hyd.​​​

CWRDD Â’R TÎM
Cwrdd â’r Tîm: John Pigott

Mae'r uwch ddarlithydd Dr Jon Pigott yn trafod sut mae'n defnyddio ei brofiad ei hun wrth ddysgu, ac yn esbonio'r 'Maker Mindset'.

ASTUDIO CELF DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG
Cwrdd â’r Tîm: Huw Williams

Mae'r darlithydd cyfrwng Cymraeg yn yr Ysgol Gelf a Dylunio, Huw Williams yn sôn am y manteision o astudio Celf a Dylunio yn ddwyieithog.

ARCHWILIWCH EIN CYFLEUSTERAU
Ffowndri

Mae tywallt efydd yn dangos rhai o alluoedd cyfleusterau'r ffowndri yn ein Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd.

Taith Gweithdy Cerameg

Ewch am dro rhithiol o'n Gweithdai Cerameg.

PROFIADAU MYFYRWYR A GRADDEDIGION
Josh - Maker
Sut mae'r cwrs Arlunydd Ddylunydd wedi fy mharatoi ar gyfer y byd gwaith fel arlunydd

Mae Rhiannon yn blogio am ei phrofiadau ar y cwrs ac ennill prif wobr celf yn Eisteddfod T yr Urdd 2021.
Darllen Mwy

Chloe - Maker
Fy mhrofiad yn astudio'r cwrs Arlunydd Ddylunydd:Gwneuthurwr

Dewch i ddarllen mwy am brofiadau Llio ar y cwrs Arlunydd Ddylunydd a pham ei fod wedi dewis Caerdydd fel lleoliad i astudio.
Darllen Mwy

Sophie and Natasha - Maker
Bywyd ar ôl y Brifysgol: Creu Cadair Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019.

Mae Gwenan yn blogio am ei phrofiad o greu Cadair i'r Eisteddfod Genedlaethol a sut mae'r cwrs wedi ei pharatoi i gael gyrfa fel dylunydd.
Darllen Mwy

YMGEISIO I YSGOL CELF A DYLUNIO CAERDYDD
Beth i'w Gynnwys yn Eich Portffolio

Mae Swyddog Recriwtio Myfyrwyr a myfyriwr graddedig o Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd, Abbie, yn rhannu ei chynghorion portffolio.