Mae ein hanes yn olrhain yn ôl i 1865 pan agorodd yr Ysgol Gelf gyntaf yn yr Hen Lyfrgell
Rydd yng Nghaerdydd.
Ers i ni ddatblygu i fod yn brifysgol, mae ein gwreiddiau wedi parhau i fod yng Nghymru,
gan ddarparu addysg broffesiynol sy'n canolbwyntio ar ymarfer ar gyfer myfyrwyr o bob
cwr o'r byd.
Buddion a gwasanaethau
Fel cyn-fyfyriwr, mae gennych fynediad at wasanaethau a gostyngiadau.
Rhannwch eich atgofion
Rydym yn casglu atgofion i'w rhannu ar ein gwefan.
Dywedwch wrthym beth rydych wedi'i wneud ers graddio, eich cyflawniadau allweddol, a
rhai ffeithiau diddorol am eich amser yn y Brifysgol.
Os oes gennych unrhyw luniau, pethau cofiadwy neu atgofion o'ch amser yma, byddem
wrth ein bodd pe byddech chi'n rhannu'r rheini gyda ni.
E-bostiwch eich stori:
alumni@cardiffmet.ac.uk
Ein hanes
Mae'r sefydliad wedi newid ei enw nifer o weithiau dros y blynyddoedd, cyn cael yr enw
sy’n adnabyddus i ni heddiw, sef Prifysgol Metropolitan Caerdydd:
- Athrofa Addysg Uwch Caerdydd (1988 - 1996)
- Athrofa Addysg Uwch De Morgannwg (1976 - 1988)
- Coleg Technoleg Bwyd a Masnach Caerdydd (1971 - 1976)
- Coleg Addysg Caerdydd (1970 - 1976)
- Coleg Technoleg Llandaf (1970 - 1976)
- Coleg Masnach (1968 - 1971)
- Coleg Morwrol Reardon Smith (1956 - 1970)
- Coleg Technoleg Bwyd a Masnach Caerdydd (1957 - 1971)
- Coleg Technegol Llandaf (1954 - 1970)
- Coleg Celf Caerdydd (1949 - 1976)
- Coleg Hyfforddi Athrawon Caerdydd (1945 - 1970)
- Ysgol Coginio Morwrol (1911 - 1973)
- Coleg Technoleg Bwyd a Masnach Caerdydd (1949 - 1961)
- Coleg Technegol Caerdydd (1916 - 1949)
- Ysgol Dechnegol Caerdydd (1889 - 1916) · Ysgol Gwyddoniaeth a Chelf Caerdydd (1865 - 1916)
Cysylltu â Ni
Swyddfa Datblygu a Chyn-fyfyrwyr Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Campws Llandaf
Rhodfa’r Gorllewin
Caerdydd
CF5 2YB