Manteisiwch ar y gwasanaethau a'r gostyngiadau sydd ar gael i'n cyn-fyfyrwyr.
Gostyngiad astudiaeth bellach
Mae Met Caerdydd yn cynnig cynllun sy'n caniatáu gostyngiad o 20% mewn ffioedd dysgu ar gyfer graddedigion Met Caerdydd sy'n cofrestru ar raglenni ôl-raddedig o fis Medi 2024.
Os ydych chi'n un i raddedigion y Brifysgol, neu'n fyfyriwr yn astudio ar lefel ôl-raddedig neu israddedig ar hyn o bryd, fe allech chi elwa o'r Gostyngiad i Gyn-fyfyrwyr ar gyfer eich astudiaeth ôl-raddedig ym Met Caerdydd.
Cefnogaeth gyrfaoedd
Mae gan ein holl raddedigion hawl i ddefnyddio ein Gwasanaeth Gyrfaoedd. Gallwn eich helpu i ddod o hyd i'ch swydd gyntaf, symud ymlaen yn eich gyrfa, neu newid gyrfa.
Gall ein tîm ymroddedig helpu gyda chynllunio eich gyrfa, cyngor gydag ysgrifennu CV a gwneud cais am swydd, chwilio am swydd ac ymarfer cyfweliad.
Canolfan Entrepreneuriaeth
Mae ein digwyddiadau rhwydweithio yn aml yn agored i bawb, ac mae gennym gymuned gynyddol o entrepreneuriaid a gweithwyr llawrydd ar Facebook a LinkedIn.
Mae'r Ganolfan yn gwahodd Cyn-fyfyrwyr entrepreneuraidd yn ôl i siarad â myfyrwyr yn rheolaidd – naill ai i siarad am eu busnes a'u profiad fel sylfaenydd, neu i gyflwyno gweithdy neu i siarad am faes o angerdd neu arbenigedd.
Llyfrgelloedd
Gall cyn-fyfyrwyr barhau i ddefnyddio gofodau'r Ganolfan Ddysgu, casgliadau corfforol a rhai e-adnoddau.
Aelodaeth Gymunedol
Gall cyn-fyfyrwyr wneud cais am ‘Aelodaeth Benthyciwr Cymunedol’. Mae'n rhad ac am ddim i ymuno a gallwch fenthyg hyd at 5 eitem ar y tro.
E-adnoddau
Gall cyn-fyfyrwyr hefyd chwilio drwy gatalog [metsearch.cardiffmet.ac.uk] Met Caerdydd a gallant barhau i gael mynediad at gasgliad helaeth o gyfnodolion academaidd ac e-lyfrau ar y campws trwy’r cynllun ‘Mynediad Cerdded i Mewn’.
Aelodaeth Campfa MetHeini
Mae Aelodaeth Gymunedol MetHeini wedi dychwelyd!
Am gost o £80 am 3 mis, mae cyn-fyfyrwyr yn cael mynediad am ddim i Ganolfannau Ffitrwydd Cyncoed a Llandaf, yn ogystal â mynediad i bob dosbarth iechyd a ffitrwydd.
Gwestai
Gwesty'r Angel, Caerdydd
 lleoliad delfrydol yng nghanol Caerdydd, y gwesty Fictoraidd hwn yw’r lle perffaith i aros wrth ymweld.
Dyfynnwch Prifysgol Met Caerdydd wrth archebu i fanteisio ar y gyfradd ganol wythnos o £75.
*mae’r cyfraddau o ddydd Sul i ddydd Iau, Gwely a Brecwast deiliadaeth sengl (tâl atodol o £20 ar gyfer ystafell ddwbl/dau wely), yn amodol ar argaeledd ac mae’n eithrio digwyddiadau’r dref a chwaraeon. Neu defnyddiwch y cod ‘TEN’ ar ein gwefan i dderbyn 10% oddi ar ein cyfradd gorau sydd ar gael, 7 niwrnod yr wythnos- yn amodol ar argaeledd ar adeg archebu, telerau ac amodau’n berthnasol.
Gwesty Clayton
Wedi'i leoli yng nghanol y ddinas ar Heol Eglwys Fair, y gwesty 4 seren, Clayton Hotel Caerdydd yw un o'r gwestai mwyaf cyfleus yng Nghanol Dinas Caerdydd. Mae'r gwesty'n cynnwys 216 o ystafelloedd gwely, wi-fi am ddim, bwyty a bar gyda golygfeydd o'r ddinas.
Dyfynnwch Cyn-fyfyrwyr Met Caerdydd i gael y gyfradd arbennig o £79 ar Wely a Brecwast - yn amodol ar le wrth archebu.
Ffôn: 02920 668866
Gwesty Park Plaza
Mae’r gwesty llwyddiannus, y Park Plaza Hotel, yng nghanol dinas Caerdydd, gydag 129 o ystafelloedd gwesteion moethus wedi eu haerdymheru a Wi-Fi am ddim drwyddi draw.
Nodwch y Brifysgol i archebu cyfradd arbennig ar gyfer Cyn-fyfyrwyr Met Caerdydd yn y gwesty moethus hwn am ddim ond £99*.
I archebu ar gyfer grwpiau mwy o faint, penwythnosau a bargeinion sba, cysylltwch â Caroline, y Cyfarwyddwr Gwerthu a Marchnata ar csims@parkplazahotels.co.uk
*Y cyfraddau yw dydd Sul i ddydd Iau, Gwely a Brecwast i un person, sy'n cynnwys wi-fi am ddim a defnydd o gyfleusterau Premier Spa gan gynnwys pwll 20m, baddon sba ac ystafell stêm ynghyd â champfa 80 gorsaf..
Gwesty a Sba Voco St David’s
Gwesty a Sba Voco St David’s
Gwesty a sba arobryn yw Voco St David's Caerdydd sydd â golygfeydd trawiadol ar draws Bae Caerdydd a Marina Penarth.
Adeilad nodedig sydd â chyfleusterau arbennig i bob gwestai.
Defnyddiwch y cod Rhif Adnabod Corfforaethol: 787062756 wrth archebu ar-lein i dderbyn gostyngiad o 10% oddi ar y cyfraddau hyblyg.
Partneriaethau ymchwil a busnes
Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth
Mae'r rhaglen Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) ar waith ers dros 40 mlynedd ac mae'n un o brif raglenni'r DU sy'n helpu cwmnïau i gael gafael ar arbenigedd ac adnoddau sydd ar gael mewn prifysgolion.
Ariennir y rhaglen ledled y DU yn rhannol gan sawl sefydliad gan gynnwys y Llywodraeth a chynghorau ymchwil. Mae KTP yn bartneriaeth rhwng cwmni, prifysgol a pherson graddedig (Cydymaith) sy'n gweithio gyda'i gilydd i gyflawni prosiect strategol ar gyfer y busnes na fyddai'r cwmni'n gallu ei gyflawni heb y wybodaeth a'r arbenigedd a ddarperir gan y brifysgol.
Prosiectau Cydweithredol
Mae prosiectau cydweithredol fel Prosiect Sgiliau'r Diwydiant Bwyd (PSDB) a'r Rhaglen Mewnwelediad Strategol (RhMS), yn darparu datrysiadau cadarn ar gyfer sectorau busnes penodol.
Cydweithio â ni
Os ydych chi'n teimlo y gallai'ch busnes elwa o weithio'n agosach gyda ni, cysylltwch â'r Gwasanaethau Ymchwil a Menter trwy e-bostio
business@cardiffmet.ac.uk.