Hafan>Gyn-fyfyrwyr>Canlyniadau Graddedigion

Canlyniadau Graddedigion

Graduate Outcomes logo

​​​

Mae'r Arolwg Hynt Graddedigion yn arolwg cenedlaethol a anfonir at ein holl raddedigion 15 mis ar ôl iddynt orffen cwrs Addysg Uwch.

Dyma'r arolwg cymdeithasol blynyddol mwyaf yn y DU ac mae'n casglu gwybodaeth am farn, profiadau a gweithgareddau cyfredol graddedigion.​

Ddim eisiau colli allan? Diweddarwch eich manylion.

Sut mae'n gweithio

Cyflwynir yr arolwg Hynt Graddedigion gan HESA ar ran Met Caerdydd. Dim ond tua 10 munud y mae'n ei gymryd i'w gwblhau, a gallwch ei gwblhau ar y mwyafrif o ddyfeisiau.

15 mis ar ôl cwblhau eich astudiaethau, anfonir dolen arolwg unigryw atoch trwy e-bost a/neu neges destun, felly mae'n bwysig iawn eich bod yn diweddaru'ch manylion cyswllt.

Efallai y byddwch hefyd yn derbyn negeseuon testun neu alwadau ffôn gan IFF Research (ar ran Met Caerdydd) i'ch helpu i gwblhau'r arolwg.​

Diweddarwch eich manylion

Byddwn yn cadw mewn cysylltiad ar ôl i chi raddio, gan anfon nodiadau atgoffa amserol i roi gwybod i ni a yw'ch manylion wedi newid at ddibenion yr arolwg Hynt Graddedigion. 

Bydd yr holl gyfathrebu Hynt Graddedigion gan Met Caerdydd yn dod i ben unwaith y bydd eich carfan wedi dechrau’r arolwg.

Diweddarwch eich manylion.​

Cwestiynau'r arolwg

Mae'r arolwg yn cynnwys cwestiynau dewisol a gorfodol, sy'n canolbwyntio ar: 

  • cyflogaeth, cyrchfannau, ac astudiaeth bellach 

  • mesurau llais graddedigion (er enghraifft sut mae'ch gwaith neu'ch astudiaeth yn cyd-fynd â'ch cynlluniau ar gyfer y dyfodol ac a ydych chi'n defnyddio'r sgiliau i chi eu hennill yn ystod eich astudiaeth) 

  • mesurau lles goddrychol (cwestiynau lles dewisol yn seiliedig ar sut rydych chi'n teimlo). 

Ewch i wefan HESA i gael mwy o wybodaeth am yr arolwg, gan gynnwys Cwestiynau Cyffredinol ar gyfer graddedigion.​

Buddion

Mae eich ymateb gwerthfawr yn ychwanegu at lais cyfunol graddedigion ledled y DU a bydd yn ysbrydoli ac yn hysbysu myfyrwyr y dyfodol. 

Fel un o raddedigion Met Caerdydd, mae eich ymateb i'r arolwg yn bwysig i ni. Bydd rhannu eich profiadau yn ein helpu i:

  • rhoi cipolwg i fyfyrwyr presennol a myfyrwyr y dyfodol i gyrchfannau gyrfa posib

  • galluogi ein Tîm Gyrfaoedd i gynnig cyngor wedi'i deilwra ar gyfer graddedigion Met Caerdydd, fel chi

  • darparu data i helpu i ddeall tueddiadau cyfredol yn y farchnad swyddi graddedigion

  • cyfrannu at safle bwrdd y gynghrair genedlaethol ac enw da'r Brifysgol

  • gwerthuso ein cyrsiau a helpu i lunio dyfodol Met Caerdydd.

Mae eich llais yn cyfrif, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw'ch manylion cyswllt yn gyfredol ac yn edrych allan am eich gwahoddiad i'r arolwg er mwyn lleisio’ch barn! 

Cefnogaeth gyrfaoedd

Peidiwch ag anghofio bod ein tîm Gyrfaoedd yma i'ch cefnogi am hyd at 3 blynedd ar ôl i chi raddio. ​

Gallwch barhau i gyrchu MetHub, gan roi mynediad ichi at gefnogaeth bellach gan gynnwys digwyddiadau, help gyda'ch CV, sgiliau paratoi ar gyfer cyfweliad a'n gwasanaeth 'gofyn cwestiwn'.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau yn ymwneud â'r arolwg Hynt Graddedigion, anfonwch e-bost at alumni@cardiffmet.ac.uk neu siaradwch â'n tîm Gyrfaoedd.