Ni waeth ble mae bywyd yn mynd â chi ar ôl y brifysgol, rydyn ni yma i'ch cefnogi chi ar eich taith a'ch helpu i ymgysylltu â chymuned Met Caerdydd.
Fel cyn-fyfyrwyr, byddwch chi'n elwa o fod yn rhan o gymuned Met Caerdydd am weddill eich oes.
Byddwn yn eich helpu i:
- cadw mewn cysylltiad â'r Brifysgol
- cyrchu adnoddau a chyngor gyrfaoedd
- cyrchu buddion fel ein Gostyngiad Astudio Pellach a chefnogaeth gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd.
Hynt Graddedigion
Mae'r Arolwg Hynt Graddedigion yn arolwg cenedlaethol a anfonir at holl raddedigion y DU. Mae eich ymateb gwerthfawr yn ychwanegu at lais cyfunol graddedigion ledled y DU a bydd yn ysbrydoli ac yn hysbysu myfyrwyr y dyfodol.
Cofrestrwch ar gyfer eich cyfrif cyn-fyfyrwyr
Mae cyfrif cyn-fyfyrwyr yn eich galluogi i gadw'ch manylion cyswllt a'ch dewisiadau cyfathrebu yn gyfredol.
Gallwch hefyd gofrestru ar gyfer ein Cylchlythyrau Cyn-fyfyrwyr chwarterol, sy’n rhoi gwybod i chi am y gefnogaeth yrfa ddiweddaraf, adnoddau graddedigion a newyddion Met Caerdydd!
Cefnogaeth Gyrfaoedd i Raddedigion
Am hyd at 3 blynedd ar ôl i chi raddio, gallwch gyrchu cymorth gan ein Gwasanaeth Gyrfaoedd. Gall ein Cynghorwyr Cyflogadwyedd a'n Ymgynghorwyr Gyrfaoedd roi cyngor ar ysgrifennu CV, awgrymiadau cyfweliad, neu helpu chi i chwilio am swydd.
Darganfyddwch fwy am gefnogaeth gyrfaoedd
Tystysgrifau a thrawsgrifiadau
Angen copi o'ch tystysgrif neu drawsgrifiadau, neu am ddysgu am Wirio Dyfarniadau?
Buddion a gwasanaethau
Gall graddedigion Met Caerdydd manteisio ar fuddion, gwasanaethau a gostyngiadau gwych, fel Gostyngiad Astudio Pellach 20% ar gyfer rhaglenni ôl-raddedig a addysgir!
Darganfyddwch fwy am yr holl fanteision rydych chi'n eu derbyn fel cyn-fyfyriwr Met Caerdydd.