Mae'r cynllun yn cefnogi Chwaraeon Met Caerdydd a chlybiau UM Sport, lle mae myfyrwyr yn darparu cymorth Dadansoddi Perfformiad i hyfforddwyr, timau ac athletwyr mewn sefyllfaoedd hyfforddi a chystadleuol. Anelir at ddarparu gwybodaeth i dimau ac athletwyr wella, yn ogystal ag amgylchedd proffesiynol i'n dadansoddwyr weithredu. Mae labordy WBL pwrpasol yn darparu amgylchedd i ddadansoddwyr weithio, defnyddio offer/meddalwedd, cymorth gan staff a lle i roi adborth i hyfforddwyr ac athletwyr.