Cryfder a Chyflyru

​Mae'r tîm Cryfder a Chyflyru yn Chwaraeon Met Caerdydd yn gweithredu rhaglen hyfforddi ar gyfer pob tîm ac unigolyn sy'n rhan o'r cynllun Ffocws Chwaraeon.  Mae gan bob tîm fynediad at drefn hyfforddi sy'n cynnwys codi pwysau, hyblygrwydd, ystwythder cyflymder, SAQ, cylchedau a sesiynau adfer.  Nod y rhaglen yw gwella perfformiad athletwyr trwy ddarparu'r hyfforddiant, y wybodaeth a'r arbenigedd i'w gwneud yn gryfach, yn gyflymach, yn fwy ffit ac yn fwy abl i ymdopi ag anafiadau.  Bydd y priodoleddau corfforol hyn yn helpu i wella eu sgiliau a'u galluoedd sy’n benodol i chwaraeon.

Mae sesiynau codi pwysau yn cael eu cynnal yn ein campfa cryfder a chyflyru pwrpasol lle mae gennym set lawn o offer codi pwysau Olympaidd gan gynnwys 4 platfform.  Cynhelir sesiynau cylchedau a SAQ yn y Ganolfan Athletau Dan Do Genedlaethol.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r Rheolwr Cryfder a Chyflyru – Dai Watts dwatts@cardiffmet.ac.uk